Author Archives: rhysllwyd

Faint mae’n ei gymerid i ti sgwennu pregeth?

Cwestiwn fydda i’n ei gael yn aml a chwestiwn fydda i’n holi Gweinidogion eraill yw faint o amser mae’n ei gymerid i sgwennu pregeth? Cwestiwn anodd iawn i’w ateb. A siarad mewn termau amser pur mae’n cymryd tua un diwrnod gwaith – 6 i 8 awr efallai. Ond dydy e ddim cweit mor syml â hynny oherwydd yn ei hanfod gweithred o ffydd ydy paratoi pregeth nid gweithred fecanyddol fel prosesau cynhyrchu na hyd yn oed prosiectau “creadigol” eraill fel ysgrifennu erthygl i gylchgrawn.

sermons-2

Y cwestiwn cyntaf i gnoi cil arno yw beth yn union yw pregeth? Nid rhannu eich syniadau eich hun yw pregeth. Ond nid esbonio’r Beibl yw pregeth chwaith (fel mae rhai yn meddwl), astudiaeth Feiblaidd yw hynny, neu ddarlith hyd yn oed. Mae pregeth yn wahanol. Hanfod pregeth yw esbonio Gair Duw wrth gwrs, ond mae a wnelo hefyd a dod a Gair Duw yn fyw drwy nerth yr Ysbryd Glân. Rhaid dechrau gydag esbonio beth mae Gair Duw yn dweud, ond wedyn drwy arweiniad yr Ysbryd Glân rhaid mynd ymlaen i herio a chalonogi drwy ddangos beth mae’r Gair yma gan Dduw yn ei olygu i TI, i NI ac i BAWB heddiw. A dyna le mae hi’n dod yn anodd mesur amser pan mae’n dod i ysgrifennu pregeth oherwydd fydd y bregeth ddim wedi gorffen cael ei ysgrifennu tan ei bod hi wedi gorffen cael ei thraddodi oherwydd bydd yr Ysbryd Glân yn dotio’r i’s ac yn croesi’r t’s wrth i chi fynd. Dyna’r ochr ysbrydol i’r peth felly – rhaid paratoi a thraddodi pregeth mewn gweddi ac yng ngrym yr Ysbryd Glân.

Ond a siarad yn fwy ymarferol dyma’r camau dwi yn bersonol yn mynd trwyddyn nhw. Yn gyntaf dwi’n edrych ar y testun Beiblaidd sydd wrth law, yna yn troi at wahanol lyfrau a meddalwedd esboniadol (h.y. Bible Commenteries a Study Bibles) er mwyn ceisio deall beth sy’n mynd ymlaen. Ar ryw wedd y rhan cyntaf yma, a’r rhan fwyaf pwysig, yw’r hawsaf gan fod pregethwyr heddiw yn gallu troi at ganrifoedd o gyfoeth cyhoeddedig er mwyn ein helpu ni i ddeall y Beibl a’i esbonio i eraill. Ond wedyn daw’r elfen fwy proffwydol sef, gyda chymorth yr Ysbryd Glân eto, holi beth mae’r darn yma o’r Beibl yn dysgu i ni heddiw yng Nghaernarfon yn 2013. Gall y rhan yma ddod atoch chi fel mellten mewn pum munud. Ond gall y rhan yma hefyd fod yn frwydr ysbrydol all gymryd rhai oriau – weithiau diwrnodau – i ddod trwyddi nes gweld yn glir: ‘A ie! Dyna yw pwynt y gwirionedd yna i ni yma heddiw!’

Yn olaf, mae’n bwysig mynd yn ôl dros y cyfan ac edrych lle y gellir cynnwys hanesion difyr ac ychydig o hiwmor sy’n gymorth i gario’r neges. Dwi’n gredwr cryf mewn cynnwys cynifer o ddelweddau, hanesion a hiwmor ac sy’n bosib mewn pregeth. Yn bersonol mae gen i attention span byr iawn felly mi fydd pregethwyr eraill sydd ddim yn plethu’r elfennau hyn mewn i’w pregeth yn fy ngholli i yn sydyn. O brofiad personol felly dwi’n gwybod am bwysigrwydd cynnwys y technegau dal sylw yma! Ond wrth gwrs mae angen doethineb a chynildeb, ar rai adegau dwi wedi rhoi mwy o sylw i’r gaffs nag i’r sylwedd ac wedi dysgu o fy nghamgymeriadau. Wedi dweud hynny dwi hefyd wedi pregethu ambell i bregeth oedd a digon o sylwedd ond fod y sylwedd yna heb ddod yn fyw i bobl oherwydd nad oedd y neges wedi cael digon o ddelweddau ac ati i’w chario hi.

emotional-movements-of-a-sermon

Wrth baratoi pregeth mi fydda i’n cadw nodiadau blêr a brysiog mewn llyfr nodiadau. Yna mi fydda i’n defnyddio’r nodiadau yna i sgwennu’r bregeth. I gychwyn mi fydda i’n ysgrifennu’r bregeth fel pe tasai hi’n draethawd neu’n bennod mewn llyfr. Yna bydda i’n mynd trwyddi eto a’i thorri hi fyny mewn i brif bwyntiau. Dros frecwast ar fore traddodi’r bregeth mi fydda i’n edrych trwy’r pwyntiau yma gyda highlighter pen ac yn dwyn sylw fy hun at brif ergyd pob pwynt trwy’r bregeth. Yna wrth draddodi bydda i’n ceisio bod mor rhydd o’r nodiadau a medra i. Yn sicr ni ddylai pregethwyr fod yn darllen sgript gair am air. Dwi wedi dysgu fod gwerth 1,500 o eiriau o nodiadau yn rhoi pregeth 25 munud i mi. Mae hynny’n ddefnyddiol i wybod oherwydd pan mod i’n paratoi neges fer ar gyfer oedfa Nadolig rwy’n gwybod mae gwerth tua 600 o eiriau sydd angen ar gyfer neges 10 munud, ar gyfer neges hirach mewn cynhadledd 3,000 o eiriau ayyb…

Er bod y manylion ymarferol yn ddifyr ac o gymorth i bobl eraill sy’n pregethu cofiwch mai’r elfen fwyaf pwysig yw llawer o weddïo wrth baratoi ac yna dilyn Ysbryd Duw.

Justin Welby – Archesgob Caergaint

JWHeddiw mae Justin Welby yn cael ei sefydlu’n swyddogol fel Archesgob Caergaint. Dydw i ddim yn cytuno gyda’r syniad o eglwys wladol (hynny yw eglwys sy’n rhan o’r wladwriaeth), yn hytrach rwy’n credu mai’r model Beiblaidd yw un lle mae’r eglwys a’r wladwriaeth ar wahân. Dydw i ddim yn cytuno chwaith gydag eglwysi hierarchaidd fel yr eglwys Anglicanaidd. Dwi’n credu y dylai sofraniaeth pob eglwys fod yn lleol ac y dylai’r eglwys ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol fod yn undeb gwirfoddol ac nid yn unffurfiaeth orfodol. Unwaith eto dwi’n credu mai dyma’r model sydd i’w weld yn y Beibl – roedd yr eglwys yn Antioch yn rhydd i roi ei stamp ei hun ar bethau a ddim yn gorfod bod yn garbon copy o’r eglwys yn Jerwsalem.

Wedi dweud hyn rydw i’n gyffrous iawn am benodiad Justin Welby fel Archesgob newydd Caergaint. Mae’n dod o gefndir breintiedig ac fe’i haddysgwyd yn Eton fel David Cameron a George Osborne. Yna aeth ymlaen i gael gyrfa lewyrchus fel Cyfarwyddwr yn y diwydiant Olew. Mewn termau bydol roedd ganddo’r cyfan. Fe aeth Cameron ac Osborne ymlaen i ddefnyddio eu safle a’u cefndir breintiedig i gynnal y statws quo ac i gadw’r cyfoethog yn gyfoethog a chadw’r tlawd yn dlawd. Ond camodd Welby allan o’r cylch, rhoi’r gorau i’w swydd lewyrchus yn y diwydiant Olew a mynd yn Offeiriad. Ac yna wythnos yma roedd e’n arwain y gad wrth feirniadu polisïau Cameron ac Osborne oedd yn galed ar y tlawd.

O’r hyn rwy’n deall mae ei ddiwinyddiaeth yn efengylaidd heb fod yn ffwndamentalaidd sydd i’w groesawu. Mae’n ymddangos felly ar yr olwg gyntaf ei fod yn geidwadol ar hanfodion y ffydd – pwy yw Iesu – beth wnaeth Iesu drosom – beth yw Cristion ayyb… ond yn radical ei agwedd at ymwneud y Cristion a chymdeithas – gwarchod y tlawd – beirniadu llywodraethau anghyfiawn ayyb… Mewn gair mae’n Archesgob sy’n ticio pob bocs gen i!

Bydda i’n gweddïo na fydd y “sefydliad” eglwysig yn ei newid a’i dymheru ac y bydd yn darganfod dewrder a hyder gan Dduw i lynu’n ffyddlon at Iesu ac arwain yn deg a gostyngedig.

Lluniau Priodas Steffan a Gwenno

Dwi newydd gyrraedd adre ar ôl penwythnos i ffwrdd ym mhriodas Steff a Gwenno Teifi. Priodas hyfryd, lot o hwyl, dal fyny gyda hen ffrindiau a theulu, clod i Dduw.

Ges i’r fraint o dynnu lluniau yn y briodas. Lleucu oedd yn arwain a fi yna fel 2nd shooter, mwy o ryddid a llai o stress, siwtio fi. Dwi’n eithriadol bles gyda’r lluniau ges i ar y diwrnod a gobeithio fod y teuluoedd yn hapus hefyd!

Os ydych chi’n chwilio am ffotograffydd Priodas yna ewch draw i ngwefan i: www.lluniaupriodas.com

Dyma oedd fy ffefrynau i o’r diwrnod ddoe:

IMG_4267

IMG_4361

IMG_3893

IMG_3734

IMG_4318

IMG_3506

panoramagwennoasteff

Beibl i bawb

Dwi’n cofio gwylio’r ffilm isod am y tro cyntaf tua dwy flynedd yn ôl. Mae’n dogfennu’r diwrnod y cyrhaeddodd y Beibl bobl y Kimyal yn eu haith nhw eu hunain am y tro cyntaf. Mae’r holl beth yn tu hwnt o drawiadol a does dim rhaid i chi gael ffydd eich hun i werthfawrogi hyn. Fe wnes i wylio’r ffilm eto ychydig wythnosau yn ôl yng nghŵp tŷ Caersalem ac fe ddaeth deigryn i fy llygaid eto.

The Kimyal People Receive the New Testament from UFM Worldwide on Vimeo.

Wythnos yma mae’r fersiwn llawn o’r Beibl mewn Cymraeg llafar/cyfoes yn cael ei gyhoeddi ar www.beibl.net. Diolch i Dduw am ddefnyddio Arfon Jones dros gyfnod o 15 mlynedd (!) i gyflawni’r gwaith.

Yn anffodus mae’n anhebygol y cawn ni barti mor liwgar yma yng Nghymru ag y cafodd pobl y Kimyal ond gobeithio y bydd cyhoeddi’r Beibl newydd yma yn y Gymraeg yn cael effaith yr un mor bellgyrhaeddol yn yr hir dymor ar Gymru ag y cafodd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf nol yn 1588.

R. Tudur Jones ar Lloyd George

Doedd dim llawer o feddwl gan R. Tudur Jones o Lloyd George. Dyma ddywedodd amdano unwaith:

…how does the individual Welshmen get his hands on the reigns of power? That was the question in the late nineteenth century and it was brilliantly answered by David Lloyd George. A Welsh man becomes a member of the ruling elite at London precisely by becoming one of them. He may sing Pantycelyn’s hymns in the front parlor at Downing Street on Sunday nights, but otherwise he must forget his nationality. That solution has been perfectly acceptable to hundreds of Welshmen.

Gwersi o ddiwrnod cyntaf yn ysgol lluniau priodas (a.k.a. Lluniau Priodas Andras a Heledd!)

Dwi’n tynnu lluniau ers rhai blynyddoedd bellach ac er mod i’n gymharol fodlon gyda fy nhirluniau a fy lluniau newyddiadurol roedd yna un maes na fentrais iddi eto … tan ddoe. Y maes hwnnw oedd lluniau priodasol. Roeddwn i’n nerfus tu hwnt, ond esboniais i fy nghyfeillion oedd yn priodi nad oeddwn wedi gwneud o’r blaen ac iddyn nhw dderbyn y byddai’r cyfan yn dipyn o trial & error. Ond roeddwn i’n falch am y cyfle er mwyn gweld a oedd yn fath o ffotograffiaeth y gallwn ddatblygu mwy ohono yn y dyfodol. Dwi’n meddwl bod y lluniau yn argoeli’n weddol ar gyfer y dyfodol ond dwi hefyd wedi gweld lle mae angen i mi wella. Dyma rannu rhywfaint felly am sut es i ati.

Roedd gen i ddau gamera, Canon 7D (prif gamera) a’r 40D (wrth gefn). Newydd brynu’r 40D ail-law ydw i, roedd yn rhad iawn ond roedd angen camera wrth gefn arna i. Er ei fod yn rhad roeddwn i wedi disgwyl gwell. Mae wir-yr yn gamera wrth gefn a dim mwy, roedd y gwahaniaeth rhyngddo a’r 7D mewn golau isel yn drawiadol ac felly prin i unrhyw luniau o’r 40D gyrraedd y casgliad terfynol. Yn yr hir dymor bydd angen ail gamera gwell arna i.

O ran lensys roedd gen i’r 17-40mm f/4, 40mm f/2.8, 50mm f/1.4, 70-200mm f/4. Roedd y mwyafrif helaeth o’r lluniau wedi eu tynnu ar y 40mm, mae’n debyg mae’r 50mm byddwn i wedi defnyddio ond dydy’r AF ddim yn gweithio ar hwnnw felly mae’n anodd ei ddefnyddio mewn sefyllfa lle mae pethau’n newid yn sydyn. Oherwydd roedd modd i mi fod yn gymharol agos i’r cyffro yn y capel ac yn y derbyniad doedd dim angen i mi ddefnyddio llawer o’r 70-200mm ac mae hynny’n ffodus mewn gwirionedd oherwydd roedd yr f/4′s yn stryglo braidd gyda golau isel y capel. Yn yr hir dymor bydd angen uwchraddio’r 70-200mm o f/4 i f/2.8. Ond dydy hynny ddim mynd i ddigwydd yn y dyfodol agos yn anffodus, mae nhw’n costio gymaint a câr! Defnyddiais i’r 17-40mm ar gyfer y lluniau grŵp. Mae’n rhyfedd iawn mae’r lens wnes i’r defnydd mwyaf ohoni oedd y 40mm sef fy lens rhataf, prawf fod dim angen yr offer drud bob tro.

Y flash oedd gen i oedd y Speedlite 580. Dwi wedi bod yn burydd ers blynyddoedd yn gwrthod defnyddio flash ond roeddwn i’n gwybod y byddai angen un arna i ar gyfer y briodas felly dwi dim ond wedi cael flash ers ychydig wythnosau. Wrth edrych nôl roedd angen i mi ymarfer dipyn mwy gyda’r flash na’r hyn wnes i, ac roedd y defuser rhad oedd gen i yn dda i ddim mewn gwirionedd felly bydd angen i mi fuddsoddi mewn mathau gwahanol o defusers. Y brif broblem gyda’r flash oedd bod y to yn y capel mor uchel â’r waliau mor bell o wrthych y lluniau nes bod bownsio’r flash ddim yn gweithio mewn gwirionedd.

Ar y cyfan roeddwn i’n bles iawn gyda’r lluniau grŵp tu allan a’r lluniau “artistig” yn y capel, roedd y lluniau yn y derbyniad yn ddigon derbyniol ond roeddwn i ychydig yn siomedig gyda fi fy hun gyda’r lluniau wnes i gymryd yn ystod y gwasanaeth. Ond dyna ni, trial & error. Dwi’n gobeithio fydd y teuluoedd yn hapus gyda’r lluniau, mae hynny’n bwysicach na be dwi’n feddwl fy hun amdanyn nhw!

Dwi’n tynnu lluniau mewn priodas dau ffrind arall dros y misoedd nesaf, wedi hynny dwi’n gobeithio bydda i wedi magu digon o hyder a phrofiad ac yn agored wedyn os oes galw ac amser i wneud gwaith am dâl. Dwi wedi cofrestru lluniaupriodas.com yn barod rhag ofn!

Dyma oedd fy hoff luniau i o’r diwrnod. Plîs gadewch sylwadau, boed yn bositif neu’n rhoi beirniadaeth adeiladol:

Mwy o luniau ar Flickr:

Priodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a Heledd
Priodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a Heledd
Priodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a Heledd
Priodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a HeleddPriodas Andras a Heledd

Priodas Andras a Heledd, a set on Flickr.

Fy 2011 mewn lluniau

Mae’r post yma flwyddyn yn hwyr, ond roedd rhaid ei wneud cyn gwneud “Fy 2012 mewn lluniau” wythnos nesaf. Dyma oedd Fy 2010 mewn lluniau gyda llawn.

Protest yn erbyn diffyg Cymraeg ym Mhrosiect Pontio, Prifysgol Bangor, Ionawr 2011

Protest yn erbyn diffyg Cymraeg ym Mhrosiect Pontio, Prifysgol Bangor, Ionawr 2011

Priodas Osian ac Elinor, Llanfaglan, Mawrth 2011

Priodas Osian ac Elinor, Llanfaglan, Mawrth 2011

Gwersyll Amddiffyn Darlledu Cymru, Bryn Meirion, Bangor, Mehefin 2011

Gwersyll Amddiffyn Darlledu Cymru, Bryn Meirion, Bangor, Mehefin 2011

Yncyl Martin, Aron ac Elain ym mhriodas Dylan fy nghefnder a Helen yn Porthmadog, Mehefin 2011

Yncyl Martin, Aron ac Elain ym mhriodas Dylan fy nghefnder a Helen yn Porthmadog, Mehefin 2011

Cyflwyno'r PhD, Prifysgol Bangor, Mehefin 2011

Cyflwyno’r PhD, Prifysgol Bangor, Mehefin 2011

Encil Gweithwyr Cristnogol, Tynllidiart, Dolgellau, Gorffennaf 2011

Encil Gweithwyr Cristnogol, Tynllidiart, Dolgellau, Gorffennaf 2011

Eisteddfod Wrecsam, Awst 2011

Eisteddfod Wrecsam, Awst 2011

Fy nghyfarfod Sefydlu ac Ordeinio, Caernarfon, Medi 2011

Fy nghyfarfod Sefydlu ac Ordeinio, Caernarfon, Medi 2011

Mamgu, Aberystwyth, Nadolig 2011

Mamgu, Aberystwyth, Nadolig 2011

Cerddoriaeth Gymraeg a’r cysyniad o Gymru Ddwyieithog

Ar Twitter bore ‘ma roeddwn i’n gweld fod yr hen ddadl ynglŷn a bandiau yn canu yn Saesneg mewn nosweithiau oedd yn cael eu gweld fel rhai Cymraeg wedi codi ei ben eto. Dros y blynyddoedd dwi wedi gwylltio llawer o bobl wrth gyfrannu i’r drafodaeth yma, ac o edrych nol rwy’n gresynu dros rhai o’r pethau dwi wedi eu dweud.

Mae’n siŵr mae’r darn mwyaf ymfflamychol dwi wedi ei sgwennu oedd yr erthygl yma i Barn yn 2004, pan oeddwn i’n 19, mae’n werth ei ail-ddarllen jest er mwyn gweld cymaint dwi wedi toddi fel person dros y ddegawd diwethaf! Dwi’n meddwl mod i dal yn cytuno gyda prif bwyntiau’r erthygl ond dwi’n difaru mod i heb ddefnyddio mwy o râs a dwi’n sicr yn difaru mod i wedi brifo pobl gyda beth wnes i ddweud.

Yr hen a ŵyr a’r ifanc a dybia, Barn, Mehefin 2004 (PDF)

Y darn allweddol i mi oedd y dyfyniad gan Merêd:

Wedi’r Ail Ryfel Byd, gwelwyd tri datblygiad amlwg, sef twf mudiadau cenedlaethol… ymgyrchu ymroddedig gan leiafrifoedd oddi mewn i wladwriaethau… a gwrthryfel o du’r genhedlaeth ifanc. Gellid dadlau… nad oes yr un angerdd ac argyhoeddiad yng ngwrthryfel yr ifanc ag a fu yn y chwedegau a’r saithdegau…

Hyd yr wythdegau cynnar, cymharol brin oedd yr arwyddion o gloffi rhwng dau feddwl. Roedd mwyafrif llethol o popwyr y cyfnod hyd at hynny yn frwd dros greu a pherfformio eu caneuon yn Gymraeg, ond bellach daeth tro ar fyd… prinhau y mae’r grwpiau a’r unigolion sy’n gwbl sicr eu meddwl mai perfformwyr Cymraeg ydynt.

Penrhys, Y Rhondda

Fedra i ddim cofio pam, ond rhai wythnosau yn ôl fe es ati i ddarllen am stâd Penrhys yn y Rhondda ar Wikipedia. Dyma oedd y darn wnaeth fynd a’m sylw i:

When it was officially opened in 1968, it consisted of 951 houses, at the time the largest public-sector housing venture in Wales.

One of the innovative features of Penrhys village was the district heating system; under an agreement with the National Coal Board, water was heated in a central coal-fired boiler, and a network of insulated pipes served each house with space heating and hot water for domestic use, with the cost of heating included in the rent. This was designed and built during a period of low bulk energy costs, but proved very expensive following the Oil Crisis of 1973 which increased the cost of energy. As heating cost increases had to be absorbed into the rent, the village became uneconomic for those residents who were not reliant on state benefits (which paid housing costs), and many of those in employment left the estate to move to other housing where they could have more control of heating costs.

The outflow of employed residents led to a process of social engineering (whether intentional or not) whereby those on unemployment or other state benefits were relocated into Penrhys from other council run estates (with the initial prospect of them a saving on separate heating costs). As a result of the concentration of socially impoverished residents during the 1970s and 1980s the village gained a poor reputation and was seen by many as an undesirable location. In an attempt to rejuvenate the village, the Priority Estate Programme was undertaken in the late 1980s with all houses refurbished and environmental improvements made throughout the community. This, though, proved unsuccessful as the reputation of Penrhys was so low that new occupants could not be found; this led to newly refurbished houses being vandalised as they stood empty. This in turn fueled the area’s negative reputation.

By the 1990s the local authorities had begun a relocation program for Penrhys, with many buildings demolished once the tenants had been relocated. By the early 21st century much of the village had been demolished, leaving around 300 buildings remaining.

Roeddwn i wedi darllen o’r blaen fod rhannau helaeth o’r stâd wedi ei dymchwel ond fod y ffyrdd dal mewn lle ac felly bod y cyfan yn edrych yn rhyfedd braidd. Dyma fynd ati i edrych ar y golygfeydd rhyfedd o Penrhys ar Google Map a Google Street view.


View Larger Map


View Larger Map


View Larger Map


View Larger Map

Lego’r Nadolig

Fe gaetho ni chwip o Oedfa Deulu Nadolig dda yng Nghaersalem ddoe. Llwyth o bobl yr Eglwys yn cyfrannu mewn rhyw ffordd neu gilydd ond y fendith mwyaf oedd cael ugain o bobl newydd yn troi mewn i ddathlu’r Nadolig gyda ni. Clod i Dduw.

Un o’r pethau wnaetho ni baratoi ar gyfer yr Oedfa a’i ddangos am y tro cyntaf bore ddoe oedd y ffilm wych yma yn defnyddio darnau lego wedi eu hanimeiddio i adrodd stori’r Nadolig. Arwel ffeindiodd y gwreiddiol Saesneg ar Youtube a wedyn ni yng Nghaersalem aeth ati i gyfieithu’r sgript a trosleisio’n Gymraeg dros yr animeiddio gwreiddiol.

Dan y ffilm mae dolen i chi ei lawrlwytho os ydych chi am ei defnyddio yn eich eglwys chi, croeso i bawb ei defnyddio dros yr ŵyl.

Lego’r Nadolig from Caersalem Caernarfon on Vimeo.

Lawrlwytho fersiwn .MOV (Quick Time) [90.5Mb]