Cwestiwn fydda i’n ei gael yn aml a chwestiwn fydda i’n holi Gweinidogion eraill yw faint o amser mae’n ei gymerid i sgwennu pregeth? Cwestiwn anodd iawn i’w ateb. A siarad mewn termau amser pur mae’n cymryd tua un diwrnod gwaith – 6 i 8 awr efallai. Ond dydy e ddim cweit mor syml â hynny oherwydd yn ei hanfod gweithred o ffydd ydy paratoi pregeth nid gweithred fecanyddol fel prosesau cynhyrchu na hyd yn oed prosiectau “creadigol” eraill fel ysgrifennu erthygl i gylchgrawn.
Y cwestiwn cyntaf i gnoi cil arno yw beth yn union yw pregeth? Nid rhannu eich syniadau eich hun yw pregeth. Ond nid esbonio’r Beibl yw pregeth chwaith (fel mae rhai yn meddwl), astudiaeth Feiblaidd yw hynny, neu ddarlith hyd yn oed. Mae pregeth yn wahanol. Hanfod pregeth yw esbonio Gair Duw wrth gwrs, ond mae a wnelo hefyd a dod a Gair Duw yn fyw drwy nerth yr Ysbryd Glân. Rhaid dechrau gydag esbonio beth mae Gair Duw yn dweud, ond wedyn drwy arweiniad yr Ysbryd Glân rhaid mynd ymlaen i herio a chalonogi drwy ddangos beth mae’r Gair yma gan Dduw yn ei olygu i TI, i NI ac i BAWB heddiw. A dyna le mae hi’n dod yn anodd mesur amser pan mae’n dod i ysgrifennu pregeth oherwydd fydd y bregeth ddim wedi gorffen cael ei ysgrifennu tan ei bod hi wedi gorffen cael ei thraddodi oherwydd bydd yr Ysbryd Glân yn dotio’r i’s ac yn croesi’r t’s wrth i chi fynd. Dyna’r ochr ysbrydol i’r peth felly – rhaid paratoi a thraddodi pregeth mewn gweddi ac yng ngrym yr Ysbryd Glân.
Ond a siarad yn fwy ymarferol dyma’r camau dwi yn bersonol yn mynd trwyddyn nhw. Yn gyntaf dwi’n edrych ar y testun Beiblaidd sydd wrth law, yna yn troi at wahanol lyfrau a meddalwedd esboniadol (h.y. Bible Commenteries a Study Bibles) er mwyn ceisio deall beth sy’n mynd ymlaen. Ar ryw wedd y rhan cyntaf yma, a’r rhan fwyaf pwysig, yw’r hawsaf gan fod pregethwyr heddiw yn gallu troi at ganrifoedd o gyfoeth cyhoeddedig er mwyn ein helpu ni i ddeall y Beibl a’i esbonio i eraill. Ond wedyn daw’r elfen fwy proffwydol sef, gyda chymorth yr Ysbryd Glân eto, holi beth mae’r darn yma o’r Beibl yn dysgu i ni heddiw yng Nghaernarfon yn 2013. Gall y rhan yma ddod atoch chi fel mellten mewn pum munud. Ond gall y rhan yma hefyd fod yn frwydr ysbrydol all gymryd rhai oriau – weithiau diwrnodau – i ddod trwyddi nes gweld yn glir: ‘A ie! Dyna yw pwynt y gwirionedd yna i ni yma heddiw!’
Yn olaf, mae’n bwysig mynd yn ôl dros y cyfan ac edrych lle y gellir cynnwys hanesion difyr ac ychydig o hiwmor sy’n gymorth i gario’r neges. Dwi’n gredwr cryf mewn cynnwys cynifer o ddelweddau, hanesion a hiwmor ac sy’n bosib mewn pregeth. Yn bersonol mae gen i attention span byr iawn felly mi fydd pregethwyr eraill sydd ddim yn plethu’r elfennau hyn mewn i’w pregeth yn fy ngholli i yn sydyn. O brofiad personol felly dwi’n gwybod am bwysigrwydd cynnwys y technegau dal sylw yma! Ond wrth gwrs mae angen doethineb a chynildeb, ar rai adegau dwi wedi rhoi mwy o sylw i’r gaffs nag i’r sylwedd ac wedi dysgu o fy nghamgymeriadau. Wedi dweud hynny dwi hefyd wedi pregethu ambell i bregeth oedd a digon o sylwedd ond fod y sylwedd yna heb ddod yn fyw i bobl oherwydd nad oedd y neges wedi cael digon o ddelweddau ac ati i’w chario hi.
Wrth baratoi pregeth mi fydda i’n cadw nodiadau blêr a brysiog mewn llyfr nodiadau. Yna mi fydda i’n defnyddio’r nodiadau yna i sgwennu’r bregeth. I gychwyn mi fydda i’n ysgrifennu’r bregeth fel pe tasai hi’n draethawd neu’n bennod mewn llyfr. Yna bydda i’n mynd trwyddi eto a’i thorri hi fyny mewn i brif bwyntiau. Dros frecwast ar fore traddodi’r bregeth mi fydda i’n edrych trwy’r pwyntiau yma gyda highlighter pen ac yn dwyn sylw fy hun at brif ergyd pob pwynt trwy’r bregeth. Yna wrth draddodi bydda i’n ceisio bod mor rhydd o’r nodiadau a medra i. Yn sicr ni ddylai pregethwyr fod yn darllen sgript gair am air. Dwi wedi dysgu fod gwerth 1,500 o eiriau o nodiadau yn rhoi pregeth 25 munud i mi. Mae hynny’n ddefnyddiol i wybod oherwydd pan mod i’n paratoi neges fer ar gyfer oedfa Nadolig rwy’n gwybod mae gwerth tua 600 o eiriau sydd angen ar gyfer neges 10 munud, ar gyfer neges hirach mewn cynhadledd 3,000 o eiriau ayyb…
Er bod y manylion ymarferol yn ddifyr ac o gymorth i bobl eraill sy’n pregethu cofiwch mai’r elfen fwyaf pwysig yw llawer o weddïo wrth baratoi ac yna dilyn Ysbryd Duw.
Heddiw mae Justin Welby yn cael ei sefydlu’n swyddogol fel Archesgob Caergaint. Dydw i ddim yn cytuno gyda’r syniad o eglwys wladol (hynny yw eglwys sy’n rhan o’r wladwriaeth), yn hytrach rwy’n credu mai’r model Beiblaidd yw un lle mae’r eglwys a’r wladwriaeth ar wahân. Dydw i ddim yn cytuno chwaith gydag eglwysi hierarchaidd fel yr eglwys Anglicanaidd. Dwi’n credu y dylai sofraniaeth pob eglwys fod yn lleol ac y dylai’r eglwys ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol fod yn undeb gwirfoddol ac nid yn unffurfiaeth orfodol. Unwaith eto dwi’n credu mai dyma’r model sydd i’w weld yn y Beibl – roedd yr eglwys yn Antioch yn rhydd i roi ei stamp ei hun ar bethau a ddim yn gorfod bod yn garbon copy o’r eglwys yn Jerwsalem.
Wedi dweud hyn rydw i’n gyffrous iawn am benodiad Justin Welby fel Archesgob newydd Caergaint. Mae’n dod o gefndir breintiedig ac fe’i haddysgwyd yn Eton fel David Cameron a George Osborne. Yna aeth ymlaen i gael gyrfa lewyrchus fel Cyfarwyddwr yn y diwydiant Olew. Mewn termau bydol roedd ganddo’r cyfan. Fe aeth Cameron ac Osborne ymlaen i ddefnyddio eu safle a’u cefndir breintiedig i gynnal y statws quo ac i gadw’r cyfoethog yn gyfoethog a chadw’r tlawd yn dlawd. Ond camodd Welby allan o’r cylch, rhoi’r gorau i’w swydd lewyrchus yn y diwydiant Olew a mynd yn Offeiriad. Ac yna wythnos yma roedd e’n arwain y gad wrth feirniadu polisïau Cameron ac Osborne oedd yn galed ar y tlawd.
O’r hyn rwy’n deall mae ei ddiwinyddiaeth yn efengylaidd heb fod yn ffwndamentalaidd sydd i’w groesawu. Mae’n ymddangos felly ar yr olwg gyntaf ei fod yn geidwadol ar hanfodion y ffydd – pwy yw Iesu – beth wnaeth Iesu drosom – beth yw Cristion ayyb… ond yn radical ei agwedd at ymwneud y Cristion a chymdeithas – gwarchod y tlawd – beirniadu llywodraethau anghyfiawn ayyb… Mewn gair mae’n Archesgob sy’n ticio pob bocs gen i!
Bydda i’n gweddïo na fydd y “sefydliad” eglwysig yn ei newid a’i dymheru ac y bydd yn darganfod dewrder a hyder gan Dduw i lynu’n ffyddlon at Iesu ac arwain yn deg a gostyngedig.
Dwi’n cofio gwylio’r ffilm isod am y tro cyntaf tua dwy flynedd yn ôl. Mae’n dogfennu’r diwrnod y cyrhaeddodd y Beibl bobl y Kimyal yn eu haith nhw eu hunain am y tro cyntaf. Mae’r holl beth yn tu hwnt o drawiadol a does dim rhaid i chi gael ffydd eich hun i werthfawrogi hyn. Fe wnes i wylio’r ffilm eto ychydig wythnosau yn ôl yng nghŵp tŷ Caersalem ac fe ddaeth deigryn i fy llygaid eto.
Wythnos yma mae’r fersiwn llawn o’r Beibl mewn Cymraeg llafar/cyfoes yn cael ei gyhoeddi ar www.beibl.net. Diolch i Dduw am ddefnyddio Arfon Jones dros gyfnod o 15 mlynedd (!) i gyflawni’r gwaith.
Yn anffodus mae’n anhebygol y cawn ni barti mor liwgar yma yng Nghymru ag y cafodd pobl y Kimyal ond gobeithio y bydd cyhoeddi’r Beibl newydd yma yn y Gymraeg yn cael effaith yr un mor bellgyrhaeddol yn yr hir dymor ar Gymru ag y cafodd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf nol yn 1588.
Dwi ddim yn blogio’n aml am fy ngwaith dydd i ddydd fel Gweinidog a hynny am resymau da. Mae natur llawer o waith Gweinidog yn bersonol ac felly dwi ddim yn meddwl byddai aelodau yr eglwys yn hapus iawn mod i’n adrodd holl hynt a helynt pawb ar y blog. Dydy e ddim yn gyfrinach fod gwaith Gweinidog (a gwaith yr eglwys yn gyffredinol) yn waith annodd dyddiau yma ac ar adegau mae’n gallu bod yn waith tor-calonnog a blinedig, a dydy profiadau a hanesion felly ddim yn destun blogio difyr. Ar y llaw arall pan fo’r gwaith yn dal gafael ac yn dwyn peth ffrwyth dydy blogio ddim yn syniad da chwaith oherwydd y perygl o ddod drosodd yn goeglyd, ymffrostgar a buddugoliaethus! Dyna pam dwi ddim yn blogio llawer am fy ngwaith dydd i ddydd yma.
Ond, mae’r blogiad yma mynd i fod yn eithriad prin oherwydd dwi’n teimlo mod i eisiau rhannu rhywfaint am ddaioni Duw i ni yng Nghaersalem Caernarfon yn ddiweddar.
Tîm Addoli
Ers mis Medi 2011 rydym ni wedi ein harwain i sefydlu Tîm Addoli yn yr eglwys. I lawer o eglwysi Saesneg mae hyn yn no brainer, ond i eglwys Gymraeg mae’n gam arwyddocaol dwi’n meddwl. Mae’n gam pendant, clir a gweladwy i ffwrdd o’r model ‘Gweinidog yn gwneud bob dim’. Erbyn hyn pan fydda i’n pregethu a pan fydd pregethwyr gwadd yn pregethu gyda ni dim ond pregethu y bydd y pregethwr yn gwneud gyda gweddill yr oedfa yng ngofal y tîm addoli. Mae wir wedi bod yn chwa o awyr iach oherwydd waeth i mi gydnabod mae afterthought oedd yr addoliad gen i pan oeddwn i yng ngofal y pregethu a’r addoli. Roeddwn i’n paratoi y bregeth ac yna munud olaf yn taflu trefn yr addoliad ati yn ddigon difeddwl. Ond mae’r addoliad yr un mor bwysig a’r dysgu felly dan y drefn newydd mae’r addoliad yn cael y paratoad a’r sylw haeddiannol. Mantais fawr newydd y drefn newydd hefyd yw fod mwy a mwy o aelodau’r eglwys yn arwain mewn gwahanol ffyrdd. Mae mwy o amrediad oedran a mwy o falans rhyw i’w weld yn arwain yn yr Eglwys nawr ac mae hynny’n hyfryd ac yn gywir.
Rydw i’n ddiolchgar iawn i Dduw am ein harwain trwy’r newid yma. Newid sy’n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn newid arwynebol yn unig, ond mewn gwirionedd mae’n newid pellgyrhaeddol sy’n ymwneud a’n cyfrifoldeb fel Eglwys i addoli Duw mewn ffordd anrhydeddus ac hefyd rhoi egwyddor ‘offeiriadaeth yr holl saint’ ar waith fwy fwy.
Nadolig
Yr ail beth sydd wedi fy nghalonogi dros y misoedd diwethaf oedd tymor y Nadolig yn yr Eglwys. Mae’n rhaid i mi gyffesu mod i ddim yn dda iawn gyda achlysuron arbennig, dwi’r math o Weinidog sy’n ofni gwasanaethau gwahanol i’r arfer yn hytrach nag un sy’n awchu amdanyn nhw. Ond cawsom ni ein calonogi’n fawr eleni wrth i oddeutu ugain o bobl o du allan yr Eglwys droi i mewn i addoli gyda ni yn yr Oedfa Deulu ac oddeutu pymtheg o du allan yr eglwys ymuno a ni yn ein gwasanaeth Carolau. Rydym ni’n eglwys gymharol fychan felly rydym ni’n sôn fan hyn am ganran sylweddol yn cael ei ychwanegu i’r gynulleidfa. Roedd hi’n gymaint o fraint cael cynifer o bobl yn ymuno gyda ni i glywed am y newyddion da rydym ni fel Cristnogion yn ei ddathlu dros y Nadolig.
Yn o gystal a’r ffaith i dipyn ymuno a ni yr ail anogaeth yw sut wnaeth y bobl ymuno a ni. Er i ni gynhyrchu flyers a gwahoddiadau a’u dosbarthu yn gymharol eang o gwmpas y dref nid drwy wahoddiadau amhersonol y daeth pobl ond yn hytrach drwy gyswllt ffrindiau a theulu. Dangosodd hyn i mi yr hyn roeddwn i wedi ei dybio ers blynyddoedd sef mae’r ffordd orau o gyflwyno pobl i gymdeithas yr Eglwys ac i’r newyddion da am Iesu yw nid o’r rheidrwydd drwy flyers a chyfathrebu amhersonol ond yn hytrach drwy berthnasau a chyfeillgarwch dwfn hir-dymor wedi ei seilio ar gariad.
Teulu yn tyfu
Ond wrth gwrs mae’r rhan fwyaf o eglwysi yn cael spike yn eu niferoedd yn nhymor y nadolig a dyma ddod at y trydydd anogaeth. Mae rhai o’r bobl wnaeth ymuno a ni dros y Nadolig wedi parhau i ddod i glywed mwy am Iesu. Rhai yn agored yn chwilio, eraill yn adnabod Iesu ac wedi ffeindio cartref ysbrydol gyda ni. Mae’n gymaint o fraint fod Duw wedi ymddiried y bobl yma i’n gofal ni yng Nghaersalem.
Dyfodol
Wrth edrych nol dros y misoedd diwethaf mae’n dda gallu gweld fod Duw wedi ein cynnal a’n harwain ond rwy’n synhwyro fod cyfnod o brawf ar y ffordd. Mae sawl teulu yn ein mysg ni’n wynebu gofid a salwch dros y misoedd nesaf. Fel pob eglwys fechan, wrth edrych ar bethau drwy lygaid bydol, mae’r gwaith yn gallu teimlo fel tŷ gwellt weithiau. Pe bae dim ond un neu ddau o’r teulu yn ein gadael am ba bynnag reswm byddai’r effaith yn bellgyrhaeddol. Ond wrth gwrs mae’n rhaid i mi gofio fod Duw yr un peth pa bynnag brofion daw ar ein traws a pwy bynnag sydd yn y cwch.
Mae’r gwaith yng Nghaersalem yn mynd yn ei flaen yn galonogol nid oherwydd ni’r aelodau ond er ein gwaethaf ni ac oherwydd bod Duw yn dda ac yn hoffi ein synnu ni.
Doedd dim llawer o feddwl gan R. Tudur Jones o Lloyd George. Dyma ddywedodd amdano unwaith:
…how does the individual Welshmen get his hands on the reigns of power? That was the question in the late nineteenth century and it was brilliantly answered by David Lloyd George. A Welsh man becomes a member of the ruling elite at London precisely by becoming one of them. He may sing Pantycelyn’s hymns in the front parlor at Downing Street on Sunday nights, but otherwise he must forget his nationality. That solution has been perfectly acceptable to hundreds of Welshmen.
Fe gaetho ni chwip o Oedfa Deulu Nadolig dda yng Nghaersalem ddoe. Llwyth o bobl yr Eglwys yn cyfrannu mewn rhyw ffordd neu gilydd ond y fendith mwyaf oedd cael ugain o bobl newydd yn troi mewn i ddathlu’r Nadolig gyda ni. Clod i Dduw.
Un o’r pethau wnaetho ni baratoi ar gyfer yr Oedfa a’i ddangos am y tro cyntaf bore ddoe oedd y ffilm wych yma yn defnyddio darnau lego wedi eu hanimeiddio i adrodd stori’r Nadolig. Arwel ffeindiodd y gwreiddiol Saesneg ar Youtube a wedyn ni yng Nghaersalem aeth ati i gyfieithu’r sgript a trosleisio’n Gymraeg dros yr animeiddio gwreiddiol.
Dan y ffilm mae dolen i chi ei lawrlwytho os ydych chi am ei defnyddio yn eich eglwys chi, croeso i bawb ei defnyddio dros yr ŵyl.
Mae Gruffydd Jones, Llanddowror yn enwog am ei waith arloesol gyda’r Ysgol Sul. Bu’n gymwynas fawr i’r iaith Gymraeg gan droi gwerin yn llythrennog a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae sawl un yn dadlau nad oedd ganddo fawr o ddiddordeb mewn gwirionedd mewn “achub yr iaith” ac mae ei unig amcan oedd “achub eneidiau” a’i fod wedi sylwi mae’r ffordd mwyaf effeithiol o wneud hynny oedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Er bod hi’n gywir i nodi mae’r lles ysbrydol oedd o ddiddordeb pennaf iddo, mae’n anghywir ysgaru’r ddau beth mewn gwirionedd gan fod Gruffydd Jones a’i gyfoeswyr yn gweld y ddeubeth fel unpeth. Anghywir felly yw i ni heddiw i geisio eu rhoi mewn blychau gwahanol – rhaid edrych ar y cwestiwn drwy eu byd olwg nhw, fel oedden nhw yn gweld y peth ar y pryd. Mae gweddill y post yn cut & paste allan o bennod gyntaf fy thesis.
Erbyn y ddeunawfed ganrif gwelai rhai o’r Tadau Methodistaidd fod parodrwydd, neu ddiffyg parodrwydd, y Cymry i gynnal eu bywyd yn Gymraeg yn hytrach na throi i’r Saesneg yn deillio o gwestiwn ffydd. Dywedodd Howel Harris yn ei ddyddiadur yn dilyn ymweliad â sir Benfro: ‘Yr oeddwn i’n daer iawn dros i’r Cymry beidio â llyncu balchder y Sais a’i iaith, gan anghofio eu hiaith eu hunain. Fe ddywedais wrthynt fod Duw’n Gymro, ac yn gallu siarad Cymraeg, a’i fod wedi dweud wrth lawer yn Gymraeg, ‘Maddeuwyd i ti dy bechodau’.’1 Pwyslais Harris yma yn ôl R. Geraint Gruffydd, yw’r alwad Gristnogol i’r Cymry ymwrthod â balchder ac i beidio â cheisio bod yn rhywbeth gwahanol i’r hyn y crëwyd hwy i fod. Dehongliad tebyg a gynigai Tudur Jones am agwedd un arall o’r Tadau Methodistaidd, Gruffydd Jones, Llanddowror, tuag at gwestiwn iaith a chenedligrwydd:
…y mae i’w [Gruffydd Jones] genedlaetholdeb seiliau Beiblaidd sydd yn rhoi cadernid a bywiogrwydd i’w waith a’i ysgrifennu. Daw hyn i’r golwg yn ei syniadau am Ragluniaeth. Nid yw’r gair Rhagluniaeth eto wedi colli ei ystyr ddynamig, greadigol. Iddo ef, cabledd fyddai cyhoeddi fod popeth sydd, yn iawn. Ffolineb heb seiliau yn y Beibl fyddai cyhoeddi na ellir gwneud dim yn wyneb yr amgylchiadau ac mai’r unig beth sy’n aros inni yw eistedd i lawr a’n dwylo ymhleth a sibrwd ‘Fel hyn mae hi orau!’ Nid sêl ar batrwm statig yw Rhagluniaeth i Gruffydd Jones. Ac nid dyna oedd i John Calfin na John Penry na Walter Cradoc na Vavasor Powell. Rhagluniaeth yw’r hyn y mae Duw’n ei ewyllysio. Fel y mae’n digwydd, mae dynion yn eu balchder yn ceisio gwneud pethau sy’n groes i ewyllys Duw. Beth yw dyletswydd milwyr Duw mewn cyfwng felly? Mae’r ateb yn syml ac yn glir – ymladd. Peth creadigol yw Rhagluniaeth. Galwad i frwydr yn erbyn Philistia.2
Dehonglai Tudur Jones lif meddwl Gruffydd Jones fel pe bai’n dweud fod ‘diwreiddio’r Gymraeg a gorseddu Saesneg yn enw rhyw gyd-wladoldeb bas’ gyfystyr ag ‘ail-adrodd trosedd gwŷr Babel.’ Oherwydd bod y diwylliant Cymraeg yn un a ddylanwadodd Cristnogaeth yn drwm arno, a’r iaith Gymraeg yn iaith yr arferid y ffydd Gristnogol drwyddi, yma ym meddwl y Tadau Methodistaidd dechreuwyd gweld yr arfer o weld safiad ffydd a’r frwydr dros ddiwylliant y genedl fel deubeth oedd yn mynd law yn llaw’n naturiol.
1. Dyfynnwyd yn R. Geraint Gruffydd: ‘Ein hiaith a’n diwylliant’ yn Y Ffordd Gadarn – Ysgrifau ar Lên a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd, E. Wyn James gol. (Pen-y-bont a’r Ogwr: Gwasg Bryntirion, 2008), 97
2. R. Tudur Jones: ‘Cenedlaetholdeb Cristion’ yn Y Cylchgrawn Efengylaidd, Cyfrol 9, Rhifyn 4 (1968), 96
Dyma un o garolau Dafydd Jones o Gaeo (1711-1777) ac un o fy hoff garolau. Fel rheol dim ond y tri phennill coch sydd wedi eu cynnwys yn y llyfr emynau neu’r llyfr carolau. Diolch i Andras am dynnu fy sylw at y fersiwn llawn llynedd. Ac os ydy rhywun isho ei chwarae hi ar y gitar dyma chi: Wele, cawsom y Meseia (Chords Gitar – PDF). Diolch eto o Andras am y cordiau!
Wele, cawsom y Meseia, Cyfaill gwerthfawroca’ ‘rioed; Darfu i Moses a’r proffwydi Ddweud amdano cyn ei ddod: Iesu yw, gwir Fab Duw, Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.
Dyma’r hen addewid hyfryd
‘Sîgodd siôl y sarff yn friw;
Caed tragwyddol fuddugoliaeth
Ar farwolaeth, trwy Fab Duw:
Trwy fy oes, ym mhob loes,
F’enaid, cân am waed y groes.
Hwn yw’r Oen, ar ben Calfaria Aeth i’r lladdfa yn ein lle, Swm ein dyled fawr a dalodd Ac fe groesodd filiau’r ne’; Trwy ei waed, inni caed Bythol heddwch a rhyddhad.
Ca’dd cyfiawnder ei fodloni,
Ca’dd y gyfraith ei chwblhau;
Duw a ninnau, fu’n elynol,
Yn heddychol gwnaed y ddau:
Fe wnaeth ben; ‘nawr mae’r llen
Wedi rhwygo o’r ddae’r i’r nen.
Dyma gyfaill haedda ‘i garu, A’i glodfori’n fwy nag un: Prynu’n bywyd, talu’n dyled, A’n glanhau â’i waed ei hun: Frodyr, dewch, llawenhewch, Diolchwch iddo, byth na thewch!
Dyma’r Cyfaill mwyn a’n cofiodd
Ac a’n carodd cyn bod byd;
Dyma’r Oen a ddaeth o’r nefoedd,
Ac a’n prynodd ni mor ddrud:
Tra bôm fyw, dyled yw
Cofio cariad pur Mab Duw.
Yn oedfaon y nos yng Nghaersalem wrth arwain fyny at y Nadolig rydym ni’n edrych ar y disgwyl oedd yna am Iesu yn yr Hen Destament. Yr wythnos gyntaf edrychom ni ar Iesu’n dod yn Broffwyd fel Moses, wythnos yma fe edrychom ar Iesu’n dod yn Frenin fel Dafydd a thro nesa byddwn ni’n gorffen drwy edrych ar Iesu’n dod yn Offeiriad fel Machelsidec.
Wrth baratoi’r bregeth ar Iesu fel Brenin sylweddolais fod rhaid myfyrio rhywfaint ynghylch beth yn union yw Teyrnas Dduw. Os sôn am Frenin rhaid sôn am Deyrnas y Brenin. Arweiniodd hyn fi i gychwyn darllen un o lyfrau diweddaraf Tom Wright sef ‘How God Became King’ ac unwaith yn rhagor ces i fy nghyfareddu! Dim ond tair pennod dwi wedi darllen ond dwi eisoes eisiau rhannu rhywfaint am yr hyn roedd Tom Wright yn dweud.
I ddechrau mae’n trafod rhywfaint ynglŷn â beth yw’r “efengyl” ac mae’n rhyfeddu sut mae’r rhan fwyaf o Gristnogion efengylaidd ddim yn troi at yr “efengylau” o gwbl (ac eithrio Ioan 3:16) wrth geisio crynhoi beth yw’r “efengyl”. Dyma Tom Wright yn esbonio:
When Williams Tyndale, one of England’s earliest Protestants, a disciple of Martin Luther, wrote about ‘the gospel’, he didn’t mean ‘the gospels’ – Matthew, Mark Luke and John. He meant ‘the gospel in the sense of the message: the good news that, because of Jesus’ death alone, your sins can be forgiven, and all you have to do is believe it, rather than trying to impress God with doing ‘good works’. ‘The gospel’ in this sense is what the early Reformers believed they had found in Paul’s letters, particularly Romans and Galatians – and particularly Romans 3 and Galatians 2-3.
Now, you can explain that ‘gospel’ in Paul’s terms. You can make it more precise, fine-tuning the interpretation of this or that verse or technical term. But the point is that you can do all of that without any reference whatever to ‘the gospels’, to the four books that, along with Acts, precede Paul in the New Testament as we have it. Thus in many classic Christian circles, including the plethora of movements that go broadly under the label ‘evangelical’, there has been the assumption, going back at least as far as the Reformation, that ‘the gospel’ is what you find in Paul’s letters, particularly in Romans and Galatians. This ‘gospel’ consists, normally, of a precise statement of what Jesus achieved in his saving death (‘atonement’) and a precise statement of how that achievement could be appropriated by the individual (‘justification by faith’). Atonement and justification were assumed to be at the heart of ‘the gospel’. But ‘the gospels’ – Matthew, Mark, Luke and John – appear to have almost nothing to say about those subjects.
Dwi ddim yn siŵr os ydw i’n cytuno gyda Wright nad yw cysyniadau fel yr Iawn a Chyfiawnhad i’w weld yn yr efengylau ond rwy’n cyd-weld ag ef fod cysyniadau eraill fel Brenhiniaeth Crist a Theyrnas Nefoedd yn gysyniadau llawer mwy canolog yn yr efengylau er mae pur anaml bydd pobl yn trafod cysyniadau felly wrth geisio diffinio yr “efengyl”. Rwy’n credu fod Tom Wright yn llygad ei le fod llawer o Gristnogion efengylaidd yn esgeuluso’r efengylau, a hyd yn oed os ydy’r efengylau yn cael sylw mae Cristnogion efengylaidd, rhywsut, yn llwyddo i fethu rhoi sylw i thema ganolog yr efengylau ac yn eu defnyddio’n unig fel rhyw fath o gyflwyniad ysgafn i’r brif act sef llythyrau ac athrawiaethau Paul. Rwy’n gallu rhoi’r feirniadaeth yma oherwydd mod i’n ei weld ynof fi fy hun a dros y blynyddoedd diwethaf dwi’n sicr yn euog o’r gwendid mae Tom Wright yn ei adnabod. Dyma Tom Wright yn esbonio ymhellach:
I tried to explain that I thought I was seeing: that the four gospels had, as it were, fallen off the front of the canon of the New Testament as far as many Christians were concerned. Matthew, Mark, Luke and John were used to support points you might get out of Paul, but their actual message had not been glimpsed, let alone integrated into the larger biblical theology in which they claimed to belong.
Mae Tom Wright yn mynd ymlaen wedyn i ystyried sut y daeth y camsyniad yma i mewn i’r traddodiad efengylaidd. Mae Wright yn tybio fod gwraidd y broblem yn y cyffesion clasurol. Er enghraifft, cymerwch y rhan o gyffes Nicea sy’n trafod Iesu:
We believe in one Lord, Jesus Christ,
the only Son of God,
eternally begotten of the Father,
God from God, Light from Light,
true God from true God,
begotten, not made,
of one Being with the Father.
Through him all things were made.
For us and for our salvation
he came down from heaven:
by the power of the Holy Spirit
he became incarnate from the Virgin Mary,
and was made man.
For our sake he was crucified under Pontius Pilate;
he suffered death and was buried.
On the third day he rose again
in accordance with the Scriptures;
he ascended into heaven
and is seated at the right hand of the Father.
He will come again in glory to judge the living and the dead,
and his kingdom will have no end.
Nid oes dim byd yma i anghytuno ag ef, y broblem ydy fod un peth allweddol wedi ei adael allan. Mae’r hanner cyntaf yn sôn am dragwyddol fodolaeth Crist a’i ddwyfoldeb, yna ceir sôn am ei eni a’i ymgnawdoliad yna fe neidir yn syth bin at ei farwolaeth. Dim sôn o gwbl am ei fywyd a’i weinidogaeth ar y ddaear: mewn gair, dim sôn am brif sylwedd yr efengylau: Mathew, Marc, Luc ac Ioan. Wright sy’n esbonio ymhellach:
Matthew, Mark, Luke and John all seem to think it’s hugely important that they tell us a great deal about what Jesus did between the time of his birth and the time of his death. In particular, they tell us about what we might call his kingdom-inaugurating work: the deeds and words that declared that God’s kingdom wa coming then and there, in some sense or other, on earth as in heaven. They tell us a great deal about that; but the great creeds don’t.
Mae Tom Wright yn dadlau fod y modd mae rhai Cristnogion yn esbonio yr “efengyl” heb fawr o gyfeiriad at yr “efengylau” yn deillio o’r ffaith mae canon llawer o Gristnogion diwygiedig yw cyffesion ffydd y traddodiad diwygiedig – o’r tadau adeg Nicea trwy’r diwygwyr Protestannaidd i gyffesion ffydd pwysig y cyfnod modern diweddar. Hynny yw, y cyffesion ffydd yma rhagor na’r Beibl ei hun sy’n cael ei weld fel y “safon”, a gan fod y cyffesion traddodiadol uniongred yn sôn dim (neu o leiaf ddim llawer) am fywyd Crist ar y ddaear mae’r gwendid wedi treiddio trwy’r traddodiad. Dyma sydd i gyfrif sut y mae llawer o Gristnogion yn gallu rhoi diffiniad o’r “efengyl” heb sôn am brif gynnwys/thema yr “efengylau”. Wright eto:
The canonical gospels give us a Jesus whose public career radically mattered as part of his overall accomplishment, which had to do with the kingdom of God. The creeds give us a Jesus whose miraculous birth and saving death, resurrection, and Ascension are all we need to know.
Nawr, a’i hollti blew yw hyn gan Tom Wright? Wel, na ddim o gwbl. Mae o bwysigrwydd cwbl ganolog i’r Eglwys ac i bob Cristion fedru diffinio beth yw’r “efengyl”. Dwi wedi teimlo ers blynyddoedd fod diffinio’r “efengyl” heb unrhyw sôn am fywyd, gwaith a Theyrnas y Brenin Iesu rhywsut yn anghyflawn. Nid yn anghywir, jest yn anghyflawn. Dwi wedi credu fod dweud yn syml fod “Iesu wedi marw er mwyn i ni osgoi uffern” yn gwneud cam a stori fawr Duw. Peidiwch â fy nghamddeall i, rwy’n credu fod y Beibl yn dysgu fod “Iesu wedi marw er mwyn i ni osgoi uffern” ond mae berwi cyffro, gogoniant a chariad yr “efengyl” lawr i hynny a hynny yn unig yn colli’r darlun mawr a’r darlun mawr sy’n denu llawer at Iesu. Rydym ni am i bobl ddewis Iesu oherwydd eu bod nhw am fod yn ei Deyrnas nid oherwydd nad ydyn nhw eisiau bod mewn teyrnas arall. Rhowch y peth mewn i gyd-destun gwahanol: mae Prifysgol Bangor eisiau myfyrwyr sydd eisiau bod yn fyfyrwyr Prifysgol Bangor nid rhai sydd dim ond yno er mwyn osgoi Prifysgol Glyndŵr! Mae yna wahaniaeth pwysig.
Dyma Wright eto:
We have lived for many years now with ‘kingdom Christians’ and ‘cross Christians’ in opposite corners of the room, anxious that those on the other side are missing the point, the one group with its social-gospel agenda and the other with its saving-soules-for-heaven agenda. The four gospels bring these two viewpoints together into a unity that is much greater than the sum of their parts.
Ac felly wrth fynd ati i geisio diffinio beth yw’r “efengyl” mae sôn fod Iesu wedi dod i roi bywyd ar ei orau (Ioan 10:10) yr un mor bwysig a sôn ei fod wedi dod fel bod pobl ddim yn mynd i ddistryw (Ioan 3:16). Wrth geisio diffinio beth yw’r “efengyl” mae angen i ni ddysgu troi at yr “efengylau” ac esbonio’n syml mae’r “efengyl” yw Iesu Grist ei hun – ei fywyd, ei farwolaeth a’i atgyfodiad – ac nid syniadau am Iesu Grist.
Diolch eto i Tom Wright am esbonio’n glir a rhoi trefn ar rai syniadau cymysg oedd gen i. Os nad oes amser gyda chi ddarllen y llyfr beth am wrando ar y ddarlith yma ganddo yn rhoi brasolwg o’r hyn mae’n trafod yn y llyfr:
Dydd Sadwrn diwethaf roeddwn i yng nghynhadledd ‘Trwy Ddulliau Chwyldro…?’ a drefnwyd gan Menna Machreth a Huw Lewis ar ran Prifysgol Bangor, Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a’r Coleg Cymraeg. Roedd yn gynhadledd arbennig yn cloriannu hanes llenyddol a syniadaethol yr hanner can mlynedd diwethaf, diolch i’r trefnwyr. Yn ôl y disgwyl fe wnes i roi sylw i waith a meddwl R. Tudur Jones; ond efallai yn syndod i rai rhoddodd Ned Thomas, prif siaradwr y gynhadledd beth sylw i waith a meddwl Tudur Jones hefyd a hynny mewn perthynas a dadl enwog Tudur gyda Emyr Llywelyn – helynt ‘Cysgod y Swastica’.
Ond un peth carwn ymateb iddo oedd y sylw gwnaeth Ned fod cenedlaetholdeb i’w weld yn codi mewn ymateb i seciwlareiddio. Er fod dadl gref dros hynny, roeddwn i’n dadlau yn fy nhraethawd i fod y theori ddim cweit yn ffitio mewn yn daclus gyda’r patrwm Cymreig. Rhaid trafod rhywfaint ar waith Benedict Anderson felly.
Benedict Anderson yw un o’r theoriwyr cenedlaetholdeb mwyaf dylanwadol, ac un sy’n ein cynorthwyo’n arbennig wrth ystyried cenedl y Cymry a chenedlaetholdeb yng Nghymru. Cyhoeddodd Benedict Anderson ei gyfrol ddylanwadol Imagined Communities yn 1983 ac fe’i cydnabyddir pellach fel un o’r gweithiau mwyaf awdurdodol a threiddgar ar genedlaetholdeb. Ceisiodd Anderson esbonio’r gwrthgyferbyniadau a gyfyd wrth arsylwi ar genedlaetholdeb. Er enghraifft, mae’n nodi fod yr hanesydd yn medru gweld yn glir mai ffenomen fodern yw’r genedl er bod y cenedlaetholwr yn gweld y genedl yn hen, os nad yn oesol. Nid yw’n llwyr ddiystyriol o farn, neu’r hyn a elwir ef yn “ddychymyg” y cenedlaetholwr, ond yn hytrach y mae’n ceisio mynd ati i egluro’r hyn sydd wedi creu’r “dychymyg” hwnnw. Dangosai Anderson sut y bu i haneswyr brofi mai “dychymyg” yn aml iawn a nodweddai feddylfryd a dyhead y cenedlaetholwyr ac nid hanes di-gwestiwn.
Paradocs sylfaenol arall y mae Anderson yn ceisio mynd i’r afael â hi yw ei ymdrech i ddeall sut y llwyddodd cenedlaetholdeb i ddod yn gymaint o rym gwleidyddol yn Ewrop, os nad y cryfaf ers y Chwyldro Ffrengig, er gwaethaf ei ‘dlodi athronyddol’ fel ideoleg. ‘Unlike other isms’, meddai Anderson, ‘nationalism has never produced its own grand thinkers: no Hobbeses, Tocquevilles, Marxes, or Webers…’ Dyma bwynt sy’n cael ei ategu gan Michael Freeden pan honnodd fod cenedlaetholdeb yn: ‘incapable of providing on its own a solution to questions of social justice, distribution of resources, and conflict-management which mainstream ideologies address’.
Yn ôl Anderson y cwestiwn mawr y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef yw’r ffenomen o weld pobl yn fodlon lladd a chael eu lladd yn enw eu cenedl. Os mai rhywbeth wedi ei ‘ddychmygu’ yw cymuned y genedl, a hynny’n weddol ddiweddar, sut felly mae esbonio penderfyniad llawer o unigolion i roi eu heinioes dros eu cymuned ddychmygol: ‘These deaths bring us abruptly face to face with the central problem posed by nationalism: what makes the shrunken imaginings of recent history (scarcely more than two centuries) generate such colossal sacrifices?’ Mae Anderson yn argyhoeddedig fod yr ateb i’w ganfod yng ngwreiddiau diwylliannol cenedlaetholdeb. Fe dybiodd fod cenedlaetholdeb yn perthyn i’r un categori o syniadaeth â Christnogaeth, Bwdhaeth ac Islam yn hytrach na’r categori y perthynai Marcsiaeth, Rhyddfrydiaeth a Sosialaeth iddo. Daw hyn i’r amlwg wrth ystyried yr arfer o godi cofadail a beddrodau ar gyfer arwyr cenedlaethol anadnabyddus. Dyma fel yr esbonia Anderson:
The cultural significance of such monuments becomes even clearer if one tries to imagine, say, a tomb of the unknown Marxist or a cenotaph for fallen Liberals. Is a sense of absurdity avoidable? The reason is that neither Marxism nor Liberalism are much concerned with death and immortality. If the nationalist imagining is so concerned, this suggests a strong affinity with religious imaginings.
Credai Anderson ymhellach fod y cysyniad o ‘barhad’ yn bwysig i bobl – cyn yr oleuedigaeth crefydd a ddiwallai blys dyn am barhad. Roedd rhaid wrth y diwallu hwn er mwyn arfogi pobl i ddelio â chyfyngder, dioddefaint, salwch a marwolaeth – dyma roes ystyr i fywyd. Tybiodd Anderson i’r genedl ddod i fodolaeth yn ystod cyfnod machlud y systemau crefyddol ac i’r ‘genedl’ lenwi gwagle neu dyhead a lanwyd gynt gan grefydd yn ei ddarpariaeth o’r syniad o ‘barhad’ i ddyn. ‘What then was required’, meddai Anderson, ‘was a secular transformation of fatality into continuity, contingency into meaning… few things were (are) better suited to this end than an idea of nation.’
Gwendid y theori hwn yw fod y cyd-destun Cymreig wedi dangos fod crefydd ei phobl wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad, ac yn wir yng nghread, cenedl y Cymry: nid cymryd lle crefydd a wnaeth y broses o lunio’r genedl yng Nghymru. Yn ogystal, wrth drafod perthynas cenedligrwydd y Sais a’r ffydd Gristnogol yn ei ffurf Anglicanaidd, mynnodd Tudur Jones yn The Desire of Nations fod y ddeubeth yn ‘closely interfused’ i’r graddau fel na ellid gweld cenedlaetholdeb fel ‘[a] substitute for a decayed religion,’ ond yn hytrach fel ‘a mature and responsible Christian response to a crisis that is social, economic, political and spiritual in its manifestations’.
Er yn cydnabod gwerth i theori Anderson, ac mewn rhai sefyllfaoedd yn gweld ei theori yn realiti; yn y cyd-destun Cymraeg gyda pherthynas agos crefydd a chenedlaetholdeb rhaid gweld y ddau yn dod law yn llaw nid bod un yn cymryd lle y llall.
Benedict Anderson: Imagined Communities, New Edition (Llundain: Verso, 2006)
Michael Freeden: ‘Is Nationalism a Distinct Ideology?’ yn Political Studies, XLVI (Rhydychen: Blackwell)
R. Tudur Jones: The Desire of Nations (Llandybie: Christopher Davies, 1974)