Gan rhysllwyd, ar 09.08.10
Ches i fy nychryn bore ma ar ôl darllen fod yna Eglwys yn Florida yn trefnu gŵyl International Burn a Koran Day er mwyn nodi atgof Medi’r unfed ar ddeg. Mae’r digwyddiad yn cael ei drefnu gan Pastor Terry Jones a’i Eglwys, sydd ag enw tra eironig, The Dove World Outreach Center.
Yn ogystal â bod yn . . . → Read More: Fflam, coelcerth, paraffin. A’r mwyaf o’r rhain yw paraffin?
Gan rhysllwyd, ar 09.07.10
R. Tudur Jones
Dadleua Tudur y byddai rhyddid i Gymru yn dwyn manteision arbennig i’r genedl gan gynnwys rhai economaidd. Dadleua mai rhyddid ffals ac anghyflawn fyddai unrhyw fesur o ryddid i Gymru oni chaiff Gymru ryddid a chyfrifoldeb lawn dros ei bywyd economaidd hi ei hun. Esbonia mai ‘un o’r enllibiau mwyaf cyson’ am Blaid . . . → Read More: Cydweithrediaeth ym meddwl Tudur
Gan rhysllwyd, ar 06.25.10
Oes rhywun am geisio dehongli beth mae R. Tudur Jones yn dweud isod am arwyddocâd Diwygiad 1904-05 yn y cyd-destun o argyfwng ysbrydol a hunaniaethol yr oedd Cymru ynddi ar y pryd? Ydw i’n bell iawn ohoni i dybio mae’r hyn mae R. Tudur Jones yn dadlau, yn y bon, yw fod y diwylliant gorau Cymraeg . . . → Read More: Diwygiad 1904-05 yn drobwynt argyfyngus?
Gan rhysllwyd, ar 06.23.10
Ddois i ar draws enghriafft galsurol arall o’r agwedd golonial sy’n dra nodweddiadol o lawer o’r symudiad efengylaidd ym Mhrydain heddiw a hynny mewn erthygl gan David Instone-Brewer yn y cylchgrawn dylanwadol Christinaity. Roedd yr erthygl yn trafod ‘church splits’ ac fe agorodd ei erthygl fel hyn:
My friend Ken showed me a strange photo of the . . . → Read More: One church worshiped in English and one in Welsh
Gan rhysllwyd, ar 06.21.10
Gan rhysllwyd, ar 06.09.10
Dwi’n ffilmio pwt byr fory i’r rhaglen Pethe, S4C. Mae’r rhaglen yn trafod perthynas Ffydd a Gwleidyddiaeth ac ar ddechrau’r eitem cyn y drafodaeth mi fydda nhw’n chwarae clip bach ohona i yn trafod rhai syniadau. Dyma rhai pethau dwi am drio cyfleu yn fyr a syml iawn.
Amhosib i’r Cristion wahanu ei ffydd oddi . . . → Read More: Ffydd a Gwleidyddiaeth – rhai ystyriaethau
Gan rhysllwyd, ar 06.01.10
Yn y sylwadau i’r postiad diwethaf yn trafod amheuaeth Simon Brooks o brosiect datganoli mae Simon yn egluro’n llawnach pam ei fod yn ei chael hi’n anodd cysoni ei gefnogaeth i ddatganoli ar un llaw a’i gefnogaeth i’r iaith Gymraeg ar y naill.
Un o ddadleuon Simon yw fod tuedd gan y dosbarth gwleidyddol yng Nghaerdydd i . . . → Read More: Brooks a’r Bröydd Cymraeg
Gan rhysllwyd, ar 05.31.10
Pytiau o areithiau Menna Machreth, Jonathan Edwards AS, Emyr Lewis, Gareth Miles, Cynan Llwyd a Catrin Dafydd.
Lluniau . . . → Read More: Uchafbwyntiau Rali ‘Mesur Iaith Cyflawn’, Caerdydd 22 Mai 2010
Gan rhysllwyd, ar 05.29.10
Bellach mae Simon Brooks a’i deulu yn byw yng Nghaerdydd ac mae ei blant yn mynychu ysgol Treganna. Roedd hi’n ddiddorol felly darllen ei ymateb e ar flog Vaughan Roderick i benderfyniad Carwyn Jones i beidio cefnogi ehangiad addysg Gymraeg yn y Brifddinas. Dyma ddywedodd Seimon:
Datganoli = llywodraeth Lafur barhaus = rhagfarn sefydliadol ddi-ben-draw yn erbyn . . . → Read More: Dweud mawr Simon: Datganoli a Threganna
Gan rhysllwyd, ar 05.28.10
Wythnos yma dwi wedi cael fy atgoffa unwaith yn rhagor mae pennaf rwystr adfywiad y Gymraeg dros y ddegawd diwethaf oedd ac ydy Rhodri Morgan. Fel Prif Weinidog roedd ganddo’r cyfle i wneud gwahaniaeth ond nid yn unig iddo fethu, dwi’n credu i argyhoeddiad bellach ei fod wedi dilyn agenda fwriadus o ddal datblygiad y Gymraeg . . . → Read More: Y ‘crachach’ a sglod Rhodri Morgan