Gan rhysllwyd, ar 09.02.10
Ar ddiwrnod Pethau Bychain mae’n bleser ail-agor fy ngwefan ar ôl dros ddau fis o fudandod.
Bu’n rhaid i mi gau’r wefan yn wreiddiol am resymau technegol, gan mod i wedi cyrraedd uchafswm cwota fy masdata MySQL buodd rhaid i mi drosglwyddo’r cyfan i fasdata newydd. Ar ôl trosglwyddo’r basdata roedd problem dra ddifrifol sef fod yr . . . → Read More: Yn ôl ar dir y byw
Gan rhysllwyd, ar 05.02.10
Pam na fu dadl arweinwyr Cymreig gan y BBC yn Gymraeg ar S4C? Neu gael opsiwn iaith ar y rhaglen ar BBC 1? Mae BBC Cymru wedi colli cyfle eto fyth i brif ffrydio’r Gymraeg a dangos ein bod ni’n genedl hyderus yn ein dwyieithrwydd.
Gellid bod wedi rhoi clustffonau cyfieithu ar y pryd i Cheryl, Hain . . . → Read More: Ambell i website yn Welsh chware teg
Gan rhysllwyd, ar 03.22.10
Ymddiheuriadau am esgeuluso’r blog ‘ma’n ddiweddar. Dwi’n ofnadwy o brysur rhwng y PhD, gwaith i’r eglwys a rhyw bethau bach eraill. Ond dyma rannu’r ffilm fer dwi wedi bod yn gweithio arni sy’n arddull NOOMA Rob Bell. Gadewch mi wybod beth ‘dy chi’n feddwl, byddw ni’n datblygu’r wefan Torri Syched yma i gyd fynd gyda’r ffilmiau. . . . → Read More: Torri Syched 001 | Derbyniad
Gan rhysllwyd, ar 02.13.10
Wythnos yma dwi’n cymryd seibiant o’r PhD a gwahanol bethau eraill sydd fel arfer ar fy mhlât i weithio ar y ffilm fer gyntaf mewn cyfres gobeithio. Dydy hi’n ddim byd newydd i Gristnogion gynhyrchu ffilmiau byr er mwyn rhannu eu ffydd i bobl sydd a diddordeb gwylio a gwrando. Er enghraifft yn y byd Saesneg . . . → Read More: Ffilm 001
Gan rhysllwyd, ar 01.27.10
Mae cyfaill i mi, Andy Ollerton, yn gweithio fel plannwr eglwysi a bugail yn mhen pellaf Cernyw, enw’r clwstwr o eglwysi ydy Light and Life. Mae un o’r eglwysi wedi cynhyrchu y fideo gwych isod, nid Andy ei hun sydd yn y ffilm ond un o’i gyd-weithwyr. Dros yr wythnosau nesaf mi fydda i’n gweithio ar . . . → Read More: Ffilm o Light and Life
Gan rhysllwyd, ar 01.20.10
Bu bron i mi anghofio fod fy mlog i’n bum mlwydd oed heddiw! Tipyn o gyrhaeddiad ag ystyried mae oes arferol blog ydy dwy flynedd yn unig maen debyg. Mae llawer wedi newid yn fy myd bach i yn ystod y bum mlynedd diwethaf. Roeddwn ni’n byw ym Mhantycelyn ac yng nghanol gwneud gradd mewn Gwleidyddiaeth . . . → Read More: Yn bum mlwydd oed (20.1.2005 – 20.1.2010)
Gan rhysllwyd, ar 12.16.09
Mae Cysill yn ddoniol:
Gwall: Hip Hop Cristnogol
Rheswm: Mae ansoddair fel ‘Cristnogol’ yn treiglo’n feddal ar ôl enw benywaidd unigol Ond os yw ‘Cristnogol’ yn cyfeirio at ‘Hip Hop’ ac nid ‘Hop’ yn unig does dim angen treiglad.
Fe wnaeth o i mi chwerthin . . . → Read More: Cysill
Gan rhysllwyd, ar 12.12.09
Cwpwl o wythnosau’n ôl fuesi’n recordio cyfweliad i’r rhaglen Dal i Gredu – cafodd e ei ddarlledu wythnos diwetha. Dyma fe eto os wnaetho chi ei fethu e ac eisiau gwrando. Dim ond deng munud o raglen yw hi.
Islwytho MP3 (PC: Right Click>Save File As… MAC: Ctrl+Click>Download Linked . . . → Read More: Dal i Gredu
Gan rhysllwyd, ar 12.03.09
Heddiw mi fyddwn ni’n cofio pum mlynedd ar hugain ers trychineb Bhopal yn yr India. Trychineb llai adnabyddus na thrychineb Chernobyl o bosib, ond trychineb a oedd yr un mor os nad yn fwy difrifol. Fe glywais i’n gyntaf am drychineb Bhopal yng nghyfres o ddarlithoedd Yr Athro Andrew Linklater ar gyflwyniad i Wleidyddiaeth Ryngwladol yn . . . → Read More: Cofio Trychineb Bhopal
Gan rhysllwyd, ar 12.01.09
Dylunio Rhys Llwyd cofiwch gysylltu . . . → Read More: Ebeneser