Gan rhysllwyd, ar 09.02.10
Ar ddiwrnod Pethau Bychain mae’n bleser ail-agor fy ngwefan ar ôl dros ddau fis o fudandod.
Bu’n rhaid i mi gau’r wefan yn wreiddiol am resymau technegol, gan mod i wedi cyrraedd uchafswm cwota fy masdata MySQL buodd rhaid i mi drosglwyddo’r cyfan i fasdata newydd. Ar ôl trosglwyddo’r basdata roedd problem dra ddifrifol sef fod yr . . . → Read More: Yn ôl ar dir y byw
Gan rhysllwyd, ar 06.21.10
Gan rhysllwyd, ar 05.19.10
Bues i draw yn Llys Ynadon Caernarfon p’nawma yn gwrando ar achos Geraint Jones, Trefor. Roedd Geraint o flaen ei well am wrthod talu am ei drwydded deledu fel protest yn erbyn Seisnigrwydd Radio Cymru. Rhaid i mi gydnabod nad oeddw ni’n cytuno gyda’r oll oedd yn cael ei ddadlau yn y llys heddiw yn enwedig . . . → Read More: Achos Geraint Jones – Seisnigrwydd Radio Cymru
Gan rhysllwyd, ar 05.15.10
Fe aeth lansiad Siarter Bangor yn dda, hanner cant yno yn cynnwys llond dwrn o ddarlithwyr. Lluniau YMA.
Roedd Oedfa sefydlu Derek yn Capel Gomer, Abertawe heddiw yn gyffrous hefyd. . . . → Read More: Siarter Bangor a Sefydlu Derek
Gan rhysllwyd, ar 03.22.10
Ymddiheuriadau am esgeuluso’r blog ‘ma’n ddiweddar. Dwi’n ofnadwy o brysur rhwng y PhD, gwaith i’r eglwys a rhyw bethau bach eraill. Ond dyma rannu’r ffilm fer dwi wedi bod yn gweithio arni sy’n arddull NOOMA Rob Bell. Gadewch mi wybod beth ‘dy chi’n feddwl, byddw ni’n datblygu’r wefan Torri Syched yma i gyd fynd gyda’r ffilmiau. . . . → Read More: Torri Syched 001 | Derbyniad
Gan rhysllwyd, ar 02.13.10
Wythnos yma dwi’n cymryd seibiant o’r PhD a gwahanol bethau eraill sydd fel arfer ar fy mhlât i weithio ar y ffilm fer gyntaf mewn cyfres gobeithio. Dydy hi’n ddim byd newydd i Gristnogion gynhyrchu ffilmiau byr er mwyn rhannu eu ffydd i bobl sydd a diddordeb gwylio a gwrando. Er enghraifft yn y byd Saesneg . . . → Read More: Ffilm 001
Gan rhysllwyd, ar 01.28.10
Neithiwr fe wnes i roi facelift i wefan y Society Profiad, www.societyprofiad.com. Ar hyn o bryd dwi’n trio trosi pob gwefan dwi’n ei redeg draw i WordPress a dyma oedd y diweddaraf. Dwi wedi seilio’r wefan ar un o themau WooThemes sy’n cynnig llond dwrn o rai am ddim a hefyd rhai reit dda am bris . . . → Read More: Gwefan newydd Society Profiad
Gan rhysllwyd, ar 01.27.10
Mae cyfaill i mi, Andy Ollerton, yn gweithio fel plannwr eglwysi a bugail yn mhen pellaf Cernyw, enw’r clwstwr o eglwysi ydy Light and Life. Mae un o’r eglwysi wedi cynhyrchu y fideo gwych isod, nid Andy ei hun sydd yn y ffilm ond un o’i gyd-weithwyr. Dros yr wythnosau nesaf mi fydda i’n gweithio ar . . . → Read More: Ffilm o Light and Life
Gan rhysllwyd, ar 01.20.10
Bu bron i mi anghofio fod fy mlog i’n bum mlwydd oed heddiw! Tipyn o gyrhaeddiad ag ystyried mae oes arferol blog ydy dwy flynedd yn unig maen debyg. Mae llawer wedi newid yn fy myd bach i yn ystod y bum mlynedd diwethaf. Roeddwn ni’n byw ym Mhantycelyn ac yng nghanol gwneud gradd mewn Gwleidyddiaeth . . . → Read More: Yn bum mlwydd oed (20.1.2005 – 20.1.2010)
Gan rhysllwyd, ar 12.01.09
Wnes i basio’r fan yma dro yn ôl a thynu’r llun ar fy iFfôn. Clyfar iawn. Da gweld fod y llafnau ifanc yn dilyn y newyddion yn hatrach na jest sgwennu pethau brwnt (esgusodwch y pun) ar gefn faniau.
. . . → Read More: Ysbytai Brwnt