Category Archives: Ymchwil R. Tudur Jones

Cynhadledd Plaid Cymru

Ar y ffordd adre o gynhadledd y BMS yn Sheffield ddoe fe wnaethom ni alw mewn yng nghynhadledd Plaid Cymru yn Llangollen. Dyma oedd y tro cyntaf i mi fynd i gynhadledd y Blaid.

Pan yn astudio bywyd a gwaith R. Tudur Jones dwi’n cofio dod ar draws gohebiaeth rhyngo fe a Gwynfor yn trafod sut roedd cynadleddau’r Blaid wedi newid dros y blynyddoedd. Cynhadledd Plaid Cymru yn Nolgellau yn 1967 oedd y trobwynt yn ôl Tudur Jones. Yno y dechreuodd y Blaid lunio polisïau ymarferol a phellhau oddi wrth rethregu ar egwyddorion yn unig. Rhybuddiodd Tudur nad oedd hyn heb ei beryglon: ‘Ni cheid mwyach y darlithiau i ysbrydoli. Prin y soniwyd am hanes Cymru. Ychydig a glywyd mwyach am egwyddorion cenedlaetholdeb. Bellach symudwyd y pwyslais a’i osod yn hytrach ar yr elfennau pragmataidd hynny sy’n ennill pleidleisiau yn awr.’

Dywedodd Tudur Jones wrth Gwynfor Evans yn 1981, wrth i’w lywyddiaeth ef ddod i ben, ei fod yn parhau’n fwy cyfforddus gyda’r ‘hen bwyslais’ ac iddo ‘orwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall.’ Er bod Tudur Jones yn cydnabod pwysigrwydd trafod ‘y pethau sy’n debyg o ddenu cefnogaeth ar ddydd etholiad,’ mynnai bwysleisio nad ‘mater o gofleidio set o dybiaethau athronyddol yw cenedlaetholdeb ond yn hytrach cael pobl i gydnabod nodweddion eu dynoliaeth eu hunain. Ffurf ar hunan-adnabyddiaeth ydyw.’ Tybiodd fod perygl yn perthyn i’r trywydd mwy ymarferol yma, sef mabwysiadu agweddau ar wahanol athroniaethau economaidd, arwain Plaid Cymru i’r un gors a’r pleidiau Prydeinig: ‘Gwelsom eisoes beth a ddigwyddodd i’r Blaid Lafur pan lyncodd bragmatiaeth Harold Wilson,’ meddai. ‘Yn lle ymddiosg o’r caledwch doctrinaire a oedd yn mygu’r haenau dynol yn ei neges, fe ddatblygodd yn blaid ddiegwyddor yn yr ystyr lythrennol.’ Mynnodd Tudur Jones fod rhaid cadw’r ffocws ar raison d’être y Blaid, sef rhyddid i’r Cymry: ‘Nid ymgiprys am rym yn unig yr ydym. Grym er mwyn cyrraedd nod rhyddid y genedl yw’r peth yr ydym eisiau ei gael.’ Y rhyddid hwnnw oedd rhyddid oddi wrth Brydeindod.

Rhyddid sydd yn parhau i fod yn bosib yn unig drwy amcan hir dymor y Blaid, annibyniaeth. Ymlaen!

Darlith R. Tudur Jones i goffau Martin Luther: ‘Yma y safaf…”

R. Tudur Jones

R. Tudur Jones

Heddiw mae’r rhan fwyaf o bobl yn dathlu gwŷl Calan Gaeaf ond heddiw mi rydw i a Christnogion eraill dros y byd yn dathlu ‘Dydd Diwygio’ (Reformation Day). Ar yr union ddiwrnod yma yn 1517 hoeliodd Matin Luther ei gan erthygl namyn pump ar ddrws Eglwys y Castell, Wittenberg, Yr Almaen. Dyma oedd dechrau’r Diwygiad Protestanaidd a sgubodd drwy holl genhedloedd Gorllewin Ewrop gan effeithio Cymru fwy nag, gellid dadlau – unrhyw genedl arall. Oni bai i Luther godi yn erbyn Eglwys Rufain y diwrnod yma, 489 o flynyddoedd yn ôl, mae’n ddigon posib na fyddai William Morgan wedi cyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg ac o ganlyniad ni fyddai’r Iaith Gymraeg yn dal ei gafael o hyd! Dweud mawr medde chi, wel ie!

Dyma anrheg bach i ddarllenwyr y blog i ddathlu’r achlysur. MP3 o ddarlith gan R. Tudur Jones yn Coffau Martin Luther a’i safiad. Mae’n ddarlith dirdynol oherwydd mae’n amlwg fod R. Tudur Jones wrth ei thraddodi yn gweld fod Cymru heddiw angen yr un math ddiwygiad eto.

R. Tudur Jones – ‘Yma y safaf…’ (MP3)

R. Tudur Jones ar Lloyd George

Doedd dim llawer o feddwl gan R. Tudur Jones o Lloyd George. Dyma ddywedodd amdano unwaith:

…how does the individual Welshmen get his hands on the reigns of power? That was the question in the late nineteenth century and it was brilliantly answered by David Lloyd George. A Welsh man becomes a member of the ruling elite at London precisely by becoming one of them. He may sing Pantycelyn’s hymns in the front parlor at Downing Street on Sunday nights, but otherwise he must forget his nationality. That solution has been perfectly acceptable to hundreds of Welshmen.

Iaith neu Efengyl? Howel Harris a Gruffydd Jones, Llanddowror

Mae Gruffydd Jones, Llanddowror yn enwog am ei waith arloesol gyda’r Ysgol Sul. Bu’n gymwynas fawr i’r iaith Gymraeg gan droi gwerin yn llythrennog a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae sawl un yn dadlau nad oedd ganddo fawr o ddiddordeb mewn gwirionedd mewn “achub yr iaith” ac mae ei unig amcan oedd “achub eneidiau” a’i fod wedi sylwi mae’r ffordd mwyaf effeithiol o wneud hynny oedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Er bod hi’n gywir i nodi mae’r lles ysbrydol oedd o ddiddordeb pennaf iddo, mae’n anghywir ysgaru’r ddau beth mewn gwirionedd gan fod Gruffydd Jones a’i gyfoeswyr yn gweld y ddeubeth fel unpeth. Anghywir felly yw i ni heddiw i geisio eu rhoi mewn blychau gwahanol – rhaid edrych ar y cwestiwn drwy eu byd olwg nhw, fel oedden nhw yn gweld y peth ar y pryd. Mae gweddill y post yn cut & paste allan o bennod gyntaf fy thesis.

Erbyn y ddeunawfed ganrif gwelai rhai o’r Tadau Methodistaidd fod parodrwydd, neu ddiffyg parodrwydd, y Cymry i gynnal eu bywyd yn Gymraeg yn hytrach na throi i’r Saesneg yn deillio o gwestiwn ffydd. Dywedodd Howel Harris yn ei ddyddiadur yn dilyn ymweliad â sir Benfro: ‘Yr oeddwn i’n daer iawn dros i’r Cymry beidio â llyncu balchder y Sais a’i iaith, gan anghofio eu hiaith eu hunain. Fe ddywedais wrthynt fod Duw’n Gymro, ac yn gallu siarad Cymraeg, a’i fod wedi dweud wrth lawer yn Gymraeg, ‘Maddeuwyd i ti dy bechodau’.’1 Pwyslais Harris yma yn ôl R. Geraint Gruffydd, yw’r alwad Gristnogol i’r Cymry ymwrthod â balchder ac i beidio â cheisio bod yn rhywbeth gwahanol i’r hyn y crëwyd hwy i fod. Dehongliad tebyg a gynigai Tudur Jones am agwedd un arall o’r Tadau Methodistaidd, Gruffydd Jones, Llanddowror, tuag at gwestiwn iaith a chenedligrwydd:

…y mae i’w [Gruffydd Jones] genedlaetholdeb seiliau Beiblaidd sydd yn rhoi cadernid a bywiogrwydd i’w waith a’i ysgrifennu. Daw hyn i’r golwg yn ei syniadau am Ragluniaeth. Nid yw’r gair Rhagluniaeth eto wedi colli ei ystyr ddynamig, greadigol. Iddo ef, cabledd fyddai cyhoeddi fod popeth sydd, yn iawn. Ffolineb heb seiliau yn y Beibl fyddai cyhoeddi na ellir gwneud dim yn wyneb yr amgylchiadau ac mai’r unig beth sy’n aros inni yw eistedd i lawr a’n dwylo ymhleth a sibrwd ‘Fel hyn mae hi orau!’ Nid sêl ar batrwm statig yw Rhagluniaeth i Gruffydd Jones. Ac nid dyna oedd i John Calfin na John Penry na Walter Cradoc na Vavasor Powell. Rhagluniaeth yw’r hyn y mae Duw’n ei ewyllysio. Fel y mae’n digwydd, mae dynion yn eu balchder yn ceisio gwneud pethau sy’n groes i ewyllys Duw. Beth yw dyletswydd milwyr Duw mewn cyfwng felly? Mae’r ateb yn syml ac yn glir – ymladd. Peth creadigol yw Rhagluniaeth. Galwad i frwydr yn erbyn Philistia.2

Dehonglai Tudur Jones lif meddwl Gruffydd Jones fel pe bai’n dweud fod ‘diwreiddio’r Gymraeg a gorseddu Saesneg yn enw rhyw gyd-wladoldeb bas’ gyfystyr ag ‘ail-adrodd trosedd gwŷr Babel.’ Oherwydd bod y diwylliant Cymraeg yn un a ddylanwadodd Cristnogaeth yn drwm arno, a’r iaith Gymraeg yn iaith yr arferid y ffydd Gristnogol drwyddi, yma ym meddwl y Tadau Methodistaidd dechreuwyd gweld yr arfer o weld safiad ffydd a’r frwydr dros ddiwylliant y genedl fel deubeth oedd yn mynd law yn llaw’n naturiol.

1. Dyfynnwyd yn R. Geraint Gruffydd: ‘Ein hiaith a’n diwylliant’ yn Y Ffordd Gadarn – Ysgrifau ar Lên a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd, E. Wyn James gol. (Pen-y-bont a’r Ogwr: Gwasg Bryntirion, 2008), 97
2. R. Tudur Jones: ‘Cenedlaetholdeb Cristion’ yn Y Cylchgrawn Efengylaidd, Cyfrol 9, Rhifyn 4 (1968), 96

Benedict Anderson: ‘a tomb of the unknown Marxist or a cenotaph for fallen Liberals. Is a sense of absurdity avoidable?’

Dydd Sadwrn diwethaf roeddwn i yng nghynhadledd ‘Trwy Ddulliau Chwyldro…?’ a drefnwyd gan Menna Machreth a Huw Lewis ar ran Prifysgol Bangor, Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a’r Coleg Cymraeg. Roedd yn gynhadledd arbennig yn cloriannu hanes llenyddol a syniadaethol yr hanner can mlynedd diwethaf, diolch i’r trefnwyr. Yn ôl y disgwyl fe wnes i roi sylw i waith a meddwl R. Tudur Jones; ond efallai yn syndod i rai rhoddodd Ned Thomas, prif siaradwr y gynhadledd beth sylw i waith a meddwl Tudur Jones hefyd a hynny mewn perthynas a dadl enwog Tudur gyda Emyr Llywelyn – helynt ‘Cysgod y Swastica’.

Ond un peth carwn ymateb iddo oedd y sylw gwnaeth Ned fod cenedlaetholdeb i’w weld yn codi mewn ymateb i seciwlareiddio. Er fod dadl gref dros hynny, roeddwn i’n dadlau yn fy nhraethawd i fod y theori ddim cweit yn ffitio mewn yn daclus gyda’r patrwm Cymreig. Rhaid trafod rhywfaint ar waith Benedict Anderson felly.

Benedict Anderson yw un o’r theoriwyr cenedlaetholdeb mwyaf dylanwadol, ac un sy’n ein cynorthwyo’n arbennig wrth ystyried cenedl y Cymry a chenedlaetholdeb yng Nghymru. Cyhoeddodd Benedict Anderson ei gyfrol ddylanwadol Imagined Communities yn 1983 ac fe’i cydnabyddir pellach fel un o’r gweithiau mwyaf awdurdodol a threiddgar ar genedlaetholdeb. Ceisiodd Anderson esbonio’r gwrthgyferbyniadau a gyfyd wrth arsylwi ar genedlaetholdeb. Er enghraifft, mae’n nodi fod yr hanesydd yn medru gweld yn glir mai ffenomen fodern yw’r genedl er bod y cenedlaetholwr yn gweld y genedl yn hen, os nad yn oesol. Nid yw’n llwyr ddiystyriol o farn, neu’r hyn a elwir ef yn “ddychymyg” y cenedlaetholwr, ond yn hytrach y mae’n ceisio mynd ati i egluro’r hyn sydd wedi creu’r “dychymyg” hwnnw. Dangosai Anderson sut y bu i haneswyr brofi mai “dychymyg” yn aml iawn a nodweddai feddylfryd a dyhead y cenedlaetholwyr ac nid hanes di-gwestiwn.

Paradocs sylfaenol arall y mae Anderson yn ceisio mynd i’r afael â hi yw ei ymdrech i ddeall sut y llwyddodd cenedlaetholdeb i ddod yn gymaint o rym gwleidyddol yn Ewrop, os nad y cryfaf ers y Chwyldro Ffrengig, er gwaethaf ei ‘dlodi athronyddol’ fel ideoleg. ‘Unlike other isms’, meddai Anderson, ‘nationalism has never produced its own grand thinkers: no Hobbeses, Tocquevilles, Marxes, or Webers…’ Dyma bwynt sy’n cael ei ategu gan Michael Freeden pan honnodd fod cenedlaetholdeb yn: ‘incapable of providing on its own a solution to questions of social justice, distribution of resources, and conflict-management which mainstream ideologies address’.

Yn ôl Anderson y cwestiwn mawr y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef yw’r ffenomen o weld pobl yn fodlon lladd a chael eu lladd yn enw eu cenedl. Os mai rhywbeth wedi ei ‘ddychmygu’ yw cymuned y genedl, a hynny’n weddol ddiweddar, sut felly mae esbonio penderfyniad llawer o unigolion i roi eu heinioes dros eu cymuned ddychmygol: ‘These deaths bring us abruptly face to face with the central problem posed by nationalism: what makes the shrunken imaginings of recent history (scarcely more than two centuries) generate such colossal sacrifices?’ Mae Anderson yn argyhoeddedig fod yr ateb i’w ganfod yng ngwreiddiau diwylliannol cenedlaetholdeb. Fe dybiodd fod cenedlaetholdeb yn perthyn i’r un categori o syniadaeth â Christnogaeth, Bwdhaeth ac Islam yn hytrach na’r categori y perthynai Marcsiaeth, Rhyddfrydiaeth a Sosialaeth iddo. Daw hyn i’r amlwg wrth ystyried yr arfer o godi cofadail a beddrodau ar gyfer arwyr cenedlaethol anadnabyddus. Dyma fel yr esbonia Anderson:

The cultural significance of such monuments becomes even clearer if one tries to imagine, say, a tomb of the unknown Marxist or a cenotaph for fallen Liberals. Is a sense of absurdity avoidable? The reason is that neither Marxism nor Liberalism are much concerned with death and immortality. If the nationalist imagining is so concerned, this suggests a strong affinity with religious imaginings.

Credai Anderson ymhellach fod y cysyniad o ‘barhad’ yn bwysig i bobl – cyn yr oleuedigaeth crefydd a ddiwallai blys dyn am barhad. Roedd rhaid wrth y diwallu hwn er mwyn arfogi pobl i ddelio â chyfyngder, dioddefaint, salwch a marwolaeth – dyma roes ystyr i fywyd. Tybiodd Anderson i’r genedl ddod i fodolaeth yn ystod cyfnod machlud y systemau crefyddol ac i’r ‘genedl’ lenwi gwagle neu dyhead a lanwyd gynt gan grefydd yn ei ddarpariaeth o’r syniad o ‘barhad’ i ddyn. ‘What then was required’, meddai Anderson, ‘was a secular transformation of fatality into continuity, contingency into meaning… few things were (are) better suited to this end than an idea of nation.’

Gwendid y theori hwn yw fod y cyd-destun Cymreig wedi dangos fod crefydd ei phobl wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad, ac yn wir yng nghread, cenedl y Cymry: nid cymryd lle crefydd a wnaeth y broses o lunio’r genedl yng Nghymru. Yn ogystal, wrth drafod perthynas cenedligrwydd y Sais a’r ffydd Gristnogol yn ei ffurf Anglicanaidd, mynnodd Tudur Jones yn The Desire of Nations fod y ddeubeth yn ‘closely interfused’ i’r graddau fel na ellid gweld cenedlaetholdeb fel ‘[a] substitute for a decayed religion,’ ond yn hytrach fel ‘a mature and responsible Christian response to a crisis that is social, economic, political and spiritual in its manifestations’.

Er yn cydnabod gwerth i theori Anderson, ac mewn rhai sefyllfaoedd yn gweld ei theori yn realiti; yn y cyd-destun Cymraeg gyda pherthynas agos crefydd a chenedlaetholdeb rhaid gweld y ddau yn dod law yn llaw nid bod un yn cymryd lle y llall.

Benedict Anderson: Imagined Communities, New Edition (Llundain: Verso, 2006)
Michael Freeden: ‘Is Nationalism a Distinct Ideology?’ yn Political Studies, XLVI (Rhydychen: Blackwell)
R. Tudur Jones: The Desire of Nations (Llandybie: Christopher Davies, 1974)

Ordeinio merched yn Esgobion yn Eglwys Loegr

Ddoe bues i’n gwrando ar deirawr olaf y ddadl ynglŷn ag ordeinio merched yn Esgobion yn Eglwys Loegr. A finnau yn ymneilltuwr Cymraeg, a hynny o argyhoeddiad, pam trafferthu dilyn yr hanes? Yn gam neu’n cymwys Eglwys Loegr sy’n cael ei weld fel wyneb cyhoeddus y dystiolaeth Gristnogol ym Mhrydain oherwydd y proffil cymharol uchel mae’n ei gael ar y cyfryngau. O ganlyniad dylai hynt a helynt Eglwys Loegr fod o ddiddordeb i bob Cristion oherwydd nhw sydd yn ein cynrychioli i’r rhan helaethaf o’r cyhoedd, dyna’r realiti fel y mae hi yn anffodus.

Wrth wrando ar y dadleuon ddoe sylwais fod yna – a siarad yn gyffredinol – dri math o ddadl yn cael ei chyflwyno:

i.) Y safbwynt Efengylaidd/Beiblaidd o blaid merched yn Esbonion
ii.) Y safbwynt Rhyddfrydol o blaid merched yn Esgobion
iii.) Y safbwynt Traddodiadaeth yn erbyn merched yn Esgobion

Roedd o gryn syndod i mi glywed cynifer o leisiau Efengylaidd blaenllaw, pobl fel Elaine Storkey (Tearfund), ac yn y gorffennol pobl fel Tom Wright (Diwinydd blaenllaw a chyn Esgob Durham) a John Sentamu (Esgob Efrog), yn dadlau o blaid y mesur. Hanfod eu dadl oedd fod yr adrannau hynny o lythyrau Paul oedd yn rhoi’r argraff fod rôl is-radd (neu o leiaf wahanol) gan y wraig ym mywyd yr Eglwys yn perthyn i gyd-destun penodol ac mae prif weledigaeth y Beibl ar y cwestiwn oedd fod yr Eglwys yn cael ei gyd-arwain gan ddynion a merched. Nid gan ddynion na merched ond gan ddynion a merched.

Dadleuodd rhai rhyddfrydwyr o blaid y mesur gan bledio safbwyntiau clasurol rhyddfrydol ynglŷn a’r angen i’r Eglwys “addasu i’r amseroedd”, ond doeddwn i ddim wedi fy argyhoeddi gan y dadleuon hynny. Dylai’r Eglwys byth wneud rhywbeth jest oherwydd fod pawb arall yn ei wneud. Dylai’r ddadl fod yn fwy cynhwysfawr a solet na hynny.

O ran y lleisiau oedd yn erbyn y mesur, roeddwn i wedi disgwyl dadleuon gan adain Efengylaidd yr Eglwys yn pledio’r rhannau perthnasol o lythyrau Paul. Ond yn y deirawr y gwrandewais i ar y ddadl yr unig ddadleuon yn erbyn y cafwyd oedd rhai yn ymwneud a thraddodiadaeth – “dyma ‘da ni wastad wedi gwneud felly rhaid i ni gadw at hynny” – ac hefyd dadleuon ynglŷn a rhyddid cydwybod – “efallai mod i o blaid merched yn Esgobion ond rhaid i ni warchod rhyddid cydwybod Cristnogion sydd ddim yn cytuno a’r safbwynt hwnnw”.

Hynny yw, yn wahanol i’r disgwyl efallai roedd y dadleuon cyhyrog a Beiblaidd a wnaed yn rhai o blaid merched yn Esgobion ac nid yn erbyn fel y mae’r cyfryngau prif ffrwd yn adrodd.

Hoffwn hefyd ddweud gair pellach am beth y dywedodd Elaine Storkey. Roedd hi’n siarad am ddau fath o efengyliaeth – roedd hi’n ei cyfri ei hun yn “evangelical” tra’n siarad am y “conservetive evangelicals” fel carfan wahanol. Mae yna gwestiynau mawr yma, ond yn y bôn dwi’n meddwl fod y gwahaniaeth yma mae Storkey yn ei adnabod yn amlygu’r hyn rydw i wedi ei ddadlau ers rhai blynyddoedd sef fod yna wahaniaeth rhwng pobl “efengylaidd” a phobl “ffwndamentalaidd”.

Cyfrifa pobl efengylaidd mae’r pedwar pwynt Bebbingtonaidd canlynol sy’n bwysig i bobl “efengylaidd”. Yn gyntaf, dysgai’r traddodiad mai gair Duw yw’r Beibl, gair i ymddiried ynddo, i’w gredu ac i weithredu mewn ufudd-dod iddo. Yn ail, dysgai fod marwolaeth Iawnol ac atgyfodiad Iesu yn ffeithiau a bod credu hyn yn rhan o hanfod y wir ffydd. Yn drydydd, dysgai fod yn rhaid i bawb ymwrthod â drygioni a’u hunanoldeb, hynny yw pechod, drwy brofi tröedigaeth. Ac yn bedwerydd, dysgai fod y ffydd Gristnogol yn rhywbeth ymarferol i’w harfer a’i gweithredu ym mywyd bob dydd, ond bod cadwedigaeth wedi’i seilio ar ffydd drwy ras ac nid drwy ymdrech a gweithredoedd. Er fod y traddodiad “ffwndamentalaidd” yn credu’r pedwar pwynt yma, mae’n nhw’n mynnu ychwanegu amodau diwylliannol pellach e.e. agwedd y Cristion tuag at gwestiynau penodol megis y cwestiwn presennol o ferched yn Esgobion.

Mae’r siart yma a baratowyd gan R. Tudur Jones yn esbonio rhai o’r gwahaniaethau yn gryno:

Pwy yw'r bobl efengylaidd?

Yn ein eglwys ni yma yng Nghaernarfon rydym ni’n cael ein bendithio’n helaeth o gael dynion a merched yn gweithio drwy holl haenau’r eglwys. Ar y tîm diaconiaid, wrth arwain yr Ysgol Sul, ar y tîm addoli ac ar y tîm dysgu bellach. Dyma yw’r patrwm Beiblaidd yn ôl fy nealltwriaeth i, ac yn ôl fy mhrofiad i mae deall a gweithredu hynny yn cyfoethogi bywyd yr Eglwys a’i thystiolaeth.

Guto Prys ap Gwynfor ar Sianel 62

Nos Sul, ar Sianel 62 darlledwyd cyfweliad cwbwl wefreiddiol gyda Guto Prys ap Gwynfor. Mewn cyfweliad cymharol fyr a hynny ar y wê byddai disgwyl i’r cynnwys fod yn gymharol arwynebol ac, efallai, ail-adrodd llawer o ystrydebau am y mudiad heddwch a heddychiaeth. Ond beth a gafwyd oedd esboniad cwbwl wefreiddiol o seiliau Cristnogol heddychiaeth ac yn y broses rhannodd Guto rhywfaint o’i dystiolaeth ef ei hun ynglŷn a dod yn Gristion, troi cefn ar genedlaetholdeb treisgar a chofleidio cenedlaetholdeb heddychlon.

Mae’r cyfweliad yma yn haeddu gwrandawiad a dadansoddiad manwl gan bawb gan fod Guto yn un o’r bobl prin yna heddiw sy’n agor y drws i ni i athrylith llawer o genedlaetholdeb Cymreig. Ac mae’r dyfnder yn syniadaeth Guto sydd a’i seiliau yn ei ffydd Gristnogol yn dangos i ni, yn y bon, beth yw diffyg presennol y mudiad cenedlaethol sef ei bod yn ddibris o sylfaen heddychiaeth a chenedlaetholdeb dyrchafol sef Iesu ei hun.

Person crefyddol

Mae wedi mynd yn beth ffasiynol ymysg Cristnogion ifanc dyddiau yma i ddweud nad ydyn nhw’n “berson crefyddol”. Y syniad tu ôl y naratif yma yw ceisio cael pobl i ddeall fod yna wahaniaeth rhwng crefydd (farwaidd) a ffydd (fyw). Ond, pan fydda i’n cyfarfod pobl sy’n holi am fy ffydd neu fy ngwaith fel Gweinidog ac yn eu hateb gyda’r ymadrodd slic nad ydw i’n “berson crefyddol” rhyw olwg o ddryswch nid goleuedigaeth sy’n dod dros eu hwynebau. Dyma geisio esbonio rhywfaint felly sail fy honiad nad ydw i’n “berson crefyddol”.

Y gwahaniaeth technegol/diwinyddol rhwng Cristnogaeth a chrefydd yw bod a wnelo crefydd ac ymgais dyn i gyrraedd duw tra bod a wnelo Cristnogaeth a Duw, trwy ei gariad, yn cyrraedd at ddyn. Mae hyn yn ddigon clir a hawdd i’w ddeall.

Y gwahaniaeth cymhlethach rhwng Cristnogaeth a chrefydd yw’r gwahaniaeth diwylliannol; a dyma sydd i gyfrif pam fod y duedd boblogaidd ymysg Cristnogion ifanc i ddweud nad ydyn nhw’n “grefyddol” ddim i’w weld yn ddealladwy i’w cyd-Gymry. Mae crefydd yn ddiwylliant tra bod Cristnogaeth, pan ei fod yn driw i’r Beibl a dysgeidiaeth Iesu, yn draws-ddiwylliannol. Does dim rhaid mabwysiadu diwylliant penodol i fod yn Gristion; mae Cristnogaeth yn medru dod yn rhan o, adfer a thrawsnewid y diwylliant oedd gan y person hwnnw yn barod. Parodrwydd y ffydd Gristnogol ar un llaw i lynu wrth ei hegwyddorion craidd ond eto mabwysiadu traddodiadau, diwylliant ac iaith pawb y daw ar ei thraws sydd i gyfri am ei lledaeniad. Yng ngeiriau’r Apostol Paul: “euthum yn bopeth i bawb.”

Dyna yw Cristnogaeth y Beibl beth bynnag; ond y realiti ydy fod Cristnogion dros y canrifoedd wedi llurgunio’r syniad am ddiwylliant a dyma wnaeth y diwylliant capelyddol Cymraeg. Aeth ein ffydd Gristnogol yn grefydd ddiwylliannol. Cymylwyd y linell rhwng ffydd a diwylliant i’r graddau fod crefydd gyda’i gynodiadau negyddol wedi dal gafael. Nid “Cristnogaeth” ym meddwl y Cymry bellach yw ffydd syml ddi-ffuant yn Iesu ond “Cristnogaeth” yw’r grefydd Gymreig gyda’r trimings i gyd: Cwlt y Pregethwr (rhagrithiol mwy na thebyg), y gymanfa ganu, teyrn yr Organ, canu pedwar llais, dyngarwch arwynebol, adeilad nid pobl, traddodiadaeth nid traddodiad.

Ond gwedd gyfoes o hyn yn unig yw llawer o’r diwylliant anglo-americanaidd efengylaidd hefyd. Pregethir mai Cristnogaeth yw ffydd syml ddiffuant yn Iesu ond mewn gwirionedd disgwylir i chi fabwysiadu diwylliant crefyddol hefyd. Cwlt pod-bregethwr, y profiad athsetig neo-Grismataidd, teyrn yr emynau cyfoes canol y ffordd, canu unllais, dyngarwch glamerized, difrïo’r eglwys leol, gweld dim gwerth o gwbl mewn traddodiad; ac y tristaf ohonynt oll – ildio i’r gred fod rhaid troi o’r Gymraeg i’r Saesneg i gael y profiad Cristnogol cyflawn.

Problem crefydd yn ei wedd Gymreig draddodiadol fel yn ei wedd anglo-americanaidd efengylaidd fodern yw ei fod yn mynnu fod pobl yn derbyn Iesu ac hefyd y trimings diwylliannol. Problem hyn yw fod pobl ar y gwaethaf yn methu gweld Iesu trwy’r diwylliant crefyddol ac ar y gorau yn gweld Iesu a gweld y diwylliant crefyddol ac yn gwrthod y ddau. Does gen i ddim amser i Gristnogaeth felly, dyna pam mod i ddim yn “berson crefyddol”.

Nathaniel Micklem ac R. Tudur Jones

Un o’r amryw bethau na ches amser i fynd ar ei ôl tra’n gwneud yr ymchwil ar R. Tudur Jones oedd ei berthynas gyda Nathaniel Micklem. Micklem oedd Prifathro Coleg Mansfield, Rhydychen pan oedd Tudur Jones yno yn cyflawni ei radd ymchwil. Ar ôl gorffen y radd honno a derbyn yr alwad i fynd yn Weinidog i Gapel Seion, Aberystwyth yn 1948 cafodd ei Ordeinio gan Micklem.

Cyfyd hyn sawl cwestiwn diddorol na ches gyfle i fynd ar ei ôl:

  • A gafodd R. Tudur Jones, o bawb, ei Ordeinio felly trwy gyfrwng y Saesneg mewn Eglwys Gymraeg?
  • Ac yntau yn Bleidiwr pybyr pam derbyn ei Ordeinio gan Ryddfrydwr (gwleidyddol) blaenllaw fel Micklem?

Mae’n debyg fod hanner yr ateb i’w ganfod yn y ffaith fod Micklem, er yn Rhyddfrydwr Gwleidyddol, yn sicr ddim yn rhyddfrydwr diwinyddol. Roedd yn un o brif bleidwyr yr uniongrededd newydd yn Lloegr, safbwynt oedd gan Tudur Jones gydymdeimlad ag ef. Ond cymryd ei Ordeinio yn Saesneg? Neu a ddysgodd Micklem beth Cymraeg er mwyn cyflawni’r ddefod yn Gymraeg?

Ches i ddim cyfle i fynd ar ôl hyn oherwydd, diwedd y dydd, doedd hi ddim yn bwysig y naill ffordd i rediad y thesis. Ond byddai’n ddifyr gwybod yr hanes rhyw dro. Pwy tybed oedd yno sydd dal yn fyw?

Cofio J.E. Daniel – hanner canrif i’r wythnos ers ei farwolaeth

Mae llawer o sôn ar y cyfryngau wythnos yma am ddarlith enwog Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, gan fod hi’n hanner canrif i’r wythnos er iddo ei thraddodi. Ynghanol holl firi cofio’r ddarlith radio enwog hawdd anghofio ein bod ni’n coffau wythnos yma farwolaeth un arall o feddylwyr craffaf y Blaid hanner canrif yn ôl i’r wythnos. Bu farw John Edward Daniel, neu J.E. Daniel, ond yn 59 oed mewn damwain car gwta ddeuddydd cyn i Saunders draddodi Tynged yr Iaith. Roedd J.E. Daniel yn un o feddylwyr craffaf Plaid Cymru yn ei blynyddoedd cynnar a hefyd yn ddiwinydd o bwys mawr yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif. Ond ychydig iawn sy’n ymwybodol o’i ddylanwad a’i waith gan iddo adael bywyd cyhoeddus Cymru a mynd i ryw fath o obsciwrantiaeth yn weddol ifanc yn dilyn yr ail ryfel byd.

Pan laniodd R. Tudur Jones yn fyfyriwr ym Mala-Bangor y ddau athro yna ar y pryd oedd y Prifathro John Morgan Jones a’r Athro Syniadaeth Gristnogol J.E. Daniel. Roedd John Morgan Jones yn enwog am fod yn un o brif ladmeryddion rhyddfrydiaeth ddiwinyddol; ond J.E. Daniel oedd lladmerydd cyntaf yr uniongrededd-newydd nid yn unig yng Nghymru ond hefyd ym Mhrydain. Teimlai J.E. Daniel nad oedd yr iwtopia ddaearol y deisyfa’r rhyddfrydwyr diwinyddol amdano gam yn nes, yn wir, yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel teimlai fod rhyddfrydiaeth ddiwinyddol os rhywbeth wedi gwaethygu’r sefyllfa. Gwelai J.E. Daniel na allai dyn achub ei hun, ac felly’n hytrach ei bod angen achubwr a dyna wnaeth ei dywys yn gyntaf at astudio uniongrededd newydd Karl Barth ac yna ei ail-gysylltu gyda’r traddodiad cyfoethog Calfinaidd Cymraeg.

Ochr yn ochr â hyn roedd J.E. Daniel yn un o aelodau cyntaf Plaid Cymru gan fod yn Ddirprwy-lywydd i Saunders am gyfnod ac yn ystod yr ail ryfel byd ef fu’n Llywydd dros dro pan fu’n rhaid i Gwynfor roi seibiant iddi am resymau personol [Dwi ddim 100% siŵr os yw hyn yn ffeithiol gywir, dwi'n cofio ei ddarllen rhywle ond methu'n deg a ffeindio cofnod nawr! - gol.]. Roedd y cyfuniad yma o’i uniongrededd diwinyddol a’i genedlaetholdeb yn apelgar tu hwnt i’r R. Tudur Jones ifanc ac felly does dim syndod i Tudur gael ei ddylanwadu’n drwm gan J.E. Daniel. Mae fy ymchwil ddiweddar yn dadlau mae’r hyn wnaeth Tudur Jones i ryw raddau oedd datblygu ar y seiliau syniadaethol-ddiwinyddol dros genedlaetholdeb a ddechreuwyd ond a’i gadawyd yn anghyflawn gan J.E. Daniel.

Dywedodd D. Densil Morgan mae un o drasiedïau mwyaf yr ugeinfed ganrif oedd diffyg cynhyrchedd J.E. Daniel fel diwinydd. Dim ond un gyfrol a llond llaw o ysgrifau cyfoethog a chyhoeddodd byth. Ond gellir deillio ei ddiffyg cynnyrch diwinyddol i’w waith diflino dros y mudiad cenedlaethol fel y tystia atgof yr Athro Geraint Gruffydd amdano:

‘R wy’n cofio Daniel yn dweud wrthyf unwaith ddau beth, sef (a) fod galwad cenedlaetholdeb arno wedi ei droi oddi wrth ddiwinydda; a (b) nad oedd yn ddrwg o gwbl ganddo am hynny. Arwydd yw hyn fod Daniel wedi gallu uniaethu’n llwyr yn ei feddwl alwad Crist arno â galwad Cymru…

Rhan bwysig iawn o stori J.E. Daniel oedd ei wraig a oedd, efallai, yn fwy enwog nag ef sef Cathrine Daniel. Roedd Cathrine yn Babydd â J.E. Daniel yn Brotestant. Ond, fel Saunders, roedd ail-ddarganfod uniongrededd wedi peri i J.E. Daniel weld gwendidau Anghydffurfiaeth Cymru fel ag yr oedd hi’n boenus o glir. Gwelodd yn eglwys Rufain, beth bynnag am ei gwendidau amlwg hi hefyd, fod ganddi barch o leiaf at bethau fel y ddealltwriaeth glasurol o berson a gwaith Crist. Y dynfa yma oedd ynddo rhwng ei Brotestaniaeth a’i gydymdeimlad tawel gyda Chatholigiaeth Cathrine a Saunders sydd i’w gyfri, dwi’n meddwl, am ei gyfnod o obsciwrantiaeth cymharol ar ôl gadael Bala-Bangor.

Yn dilyn yr ail-ryfel byd gadawodd ei gadair ym Mala-Bangor a derbyn swydd fel arolygydd ysgolion a hyd y gwn bu’n addoli wedyn gyda’i wraig a’i blant mewn eglwysi Catholig. Datblygiad rhyfedd yn wir i ddyn oedd nid yn unig yn gyn-athro yng Ngholeg yr Annibynwyr ond hefyd yn brif ladmerydd uniongrededd o’i mewn. Mae’n debyg fod rhai, gan gynnwys ei deulu, yn mynnu fod J.E. Daniel wedi troi cefn yn llwyr ar Brotestaniaeth o 1946 ymlaen ond mae tystiolaeth fod Cathrine Daniel wedi dweud wrth R. Tudur Jones ar ei gwely angau ei bod hi am i bobl wybod “Mai Protestant oedd Jac tan y diwedd.”

O safbwynt diwinyddol mae Saunders a Daniel yn ffigurau diddorol tu hwnt. Mae llawer wedi sôn amdanynt fel un adain o’r adwaith ceidwadol yn erbyn rhyddfrydiaeth; cynrychiolwyd yr adain arall gan rai fel Geraint Gruffydd a Bobi Jones aeth ymlaen i fod yn rhan o sefydlu eglwysi anghydffurfiol newydd yn hytrach na gadael Anghydffurfiaeth a throi at Rufain. Cymaint oedd y dryswch syniadaeth a geid o fewn Anghydffurfiaeth y pryd fod Daniel a oedd yn Brotestant “tan y diwedd” yn fwy cyfforddus tu allan iddi nac o’i mewn.

Ond beth am Dynged yr Iaith? Wn i ddim os traddodwyd y ddarlith yn fyw neu iddi gael ei recordio ymlaen llaw, cyn i Daniel farw ar yr 11eg o Chwefror 1962. Tybed pa fath o gwmwl y trawodd y newydd trist yma am ei gyfaill a gŵr un o’i gyfeillion agosaf dros Saunders ar y pryd? Mae J.E. Daniel yn ŵr sy’n haeddu mwy o sylw a mwy o astudiaeth – roedd, yn debyg i Saunders ei hun efallai, yn enigma diddorol.