Category Archives: Ymchwil R. Tudur Jones

Guto Prys ap Gwynfor ar Sianel 62

Nos Sul, ar Sianel 62 darlledwyd cyfweliad cwbwl wefreiddiol gyda Guto Prys ap Gwynfor. Mewn cyfweliad cymharol fyr a hynny ar y wê byddai disgwyl i’r cynnwys fod yn gymharol arwynebol ac, efallai, ail-adrodd llawer o ystrydebau am y mudiad heddwch a heddychiaeth. Ond beth a gafwyd oedd esboniad cwbwl wefreiddiol o seiliau Cristnogol heddychiaeth ac yn y broses rhannodd Guto rhywfaint o’i dystiolaeth ef ei hun ynglŷn a dod yn Gristion, troi cefn ar genedlaetholdeb treisgar a chofleidio cenedlaetholdeb heddychlon.

Mae’r cyfweliad yma yn haeddu gwrandawiad a dadansoddiad manwl gan bawb gan fod Guto yn un o’r bobl prin yna heddiw sy’n agor y drws i ni i athrylith llawer o genedlaetholdeb Cymreig. Ac mae’r dyfnder yn syniadaeth Guto sydd a’i seiliau yn ei ffydd Gristnogol yn dangos i ni, yn y bon, beth yw diffyg presennol y mudiad cenedlaethol sef ei bod yn ddibris o sylfaen heddychiaeth a chenedlaetholdeb dyrchafol sef Iesu ei hun.

Person crefyddol

Mae wedi mynd yn beth ffasiynol ymysg Cristnogion ifanc dyddiau yma i ddweud nad ydyn nhw’n “berson crefyddol”. Y syniad tu ôl y naratif yma yw ceisio cael pobl i ddeall fod yna wahaniaeth rhwng crefydd (farwaidd) a ffydd (fyw). Ond, pan fydda i’n cyfarfod pobl sy’n holi am fy ffydd neu fy ngwaith fel Gweinidog ac yn eu hateb gyda’r ymadrodd slic nad ydw i’n “berson crefyddol” rhyw olwg o ddryswch nid goleuedigaeth sy’n dod dros eu hwynebau. Dyma geisio esbonio rhywfaint felly sail fy honiad nad ydw i’n “berson crefyddol”.

Y gwahaniaeth technegol/diwinyddol rhwng Cristnogaeth a chrefydd yw bod a wnelo crefydd ac ymgais dyn i gyrraedd duw tra bod a wnelo Cristnogaeth a Duw, trwy ei gariad, yn cyrraedd at ddyn. Mae hyn yn ddigon clir a hawdd i’w ddeall.

Y gwahaniaeth cymhlethach rhwng Cristnogaeth a chrefydd yw’r gwahaniaeth diwylliannol; a dyma sydd i gyfrif pam fod y duedd boblogaidd ymysg Cristnogion ifanc i ddweud nad ydyn nhw’n “grefyddol” ddim i’w weld yn ddealladwy i’w cyd-Gymry. Mae crefydd yn ddiwylliant tra bod Cristnogaeth, pan ei fod yn driw i’r Beibl a dysgeidiaeth Iesu, yn draws-ddiwylliannol. Does dim rhaid mabwysiadu diwylliant penodol i fod yn Gristion; mae Cristnogaeth yn medru dod yn rhan o, adfer a thrawsnewid y diwylliant oedd gan y person hwnnw yn barod. Parodrwydd y ffydd Gristnogol ar un llaw i lynu wrth ei hegwyddorion craidd ond eto mabwysiadu traddodiadau, diwylliant ac iaith pawb y daw ar ei thraws sydd i gyfri am ei lledaeniad. Yng ngeiriau’r Apostol Paul: “euthum yn bopeth i bawb.”

Dyna yw Cristnogaeth y Beibl beth bynnag; ond y realiti ydy fod Cristnogion dros y canrifoedd wedi llurgunio’r syniad am ddiwylliant a dyma wnaeth y diwylliant capelyddol Cymraeg. Aeth ein ffydd Gristnogol yn grefydd ddiwylliannol. Cymylwyd y linell rhwng ffydd a diwylliant i’r graddau fod crefydd gyda’i gynodiadau negyddol wedi dal gafael. Nid “Cristnogaeth” ym meddwl y Cymry bellach yw ffydd syml ddi-ffuant yn Iesu ond “Cristnogaeth” yw’r grefydd Gymreig gyda’r trimings i gyd: Cwlt y Pregethwr (rhagrithiol mwy na thebyg), y gymanfa ganu, teyrn yr Organ, canu pedwar llais, dyngarwch arwynebol, adeilad nid pobl, traddodiadaeth nid traddodiad.

Ond gwedd gyfoes o hyn yn unig yw llawer o’r diwylliant anglo-americanaidd efengylaidd hefyd. Pregethir mai Cristnogaeth yw ffydd syml ddiffuant yn Iesu ond mewn gwirionedd disgwylir i chi fabwysiadu diwylliant crefyddol hefyd. Cwlt pod-bregethwr, y profiad athsetig neo-Grismataidd, teyrn yr emynau cyfoes canol y ffordd, canu unllais, dyngarwch glamerized, difrïo’r eglwys leol, gweld dim gwerth o gwbl mewn traddodiad; ac y tristaf ohonynt oll – ildio i’r gred fod rhaid troi o’r Gymraeg i’r Saesneg i gael y profiad Cristnogol cyflawn.

Problem crefydd yn ei wedd Gymreig draddodiadol fel yn ei wedd anglo-americanaidd efengylaidd fodern yw ei fod yn mynnu fod pobl yn derbyn Iesu ac hefyd y trimings diwylliannol. Problem hyn yw fod pobl ar y gwaethaf yn methu gweld Iesu trwy’r diwylliant crefyddol ac ar y gorau yn gweld Iesu a gweld y diwylliant crefyddol ac yn gwrthod y ddau. Does gen i ddim amser i Gristnogaeth felly, dyna pam mod i ddim yn “berson crefyddol”.

Nathaniel Micklem ac R. Tudur Jones

Un o’r amryw bethau na ches amser i fynd ar ei ôl tra’n gwneud yr ymchwil ar R. Tudur Jones oedd ei berthynas gyda Nathaniel Micklem. Micklem oedd Prifathro Coleg Mansfield, Rhydychen pan oedd Tudur Jones yno yn cyflawni ei radd ymchwil. Ar ôl gorffen y radd honno a derbyn yr alwad i fynd yn Weinidog i Gapel Seion, Aberystwyth yn 1948 cafodd ei Ordeinio gan Micklem.

Cyfyd hyn sawl cwestiwn diddorol na ches gyfle i fynd ar ei ôl:

  • A gafodd R. Tudur Jones, o bawb, ei Ordeinio felly trwy gyfrwng y Saesneg mewn Eglwys Gymraeg?
  • Ac yntau yn Bleidiwr pybyr pam derbyn ei Ordeinio gan Ryddfrydwr (gwleidyddol) blaenllaw fel Micklem?

Mae’n debyg fod hanner yr ateb i’w ganfod yn y ffaith fod Micklem, er yn Rhyddfrydwr Gwleidyddol, yn sicr ddim yn rhyddfrydwr diwinyddol. Roedd yn un o brif bleidwyr yr uniongrededd newydd yn Lloegr, safbwynt oedd gan Tudur Jones gydymdeimlad ag ef. Ond cymryd ei Ordeinio yn Saesneg? Neu a ddysgodd Micklem beth Cymraeg er mwyn cyflawni’r ddefod yn Gymraeg?

Ches i ddim cyfle i fynd ar ôl hyn oherwydd, diwedd y dydd, doedd hi ddim yn bwysig y naill ffordd i rediad y thesis. Ond byddai’n ddifyr gwybod yr hanes rhyw dro. Pwy tybed oedd yno sydd dal yn fyw?

Cofio J.E. Daniel – hanner canrif i’r wythnos ers ei farwolaeth

Mae llawer o sôn ar y cyfryngau wythnos yma am ddarlith enwog Saunders Lewis, Tynged yr Iaith, gan fod hi’n hanner canrif i’r wythnos er iddo ei thraddodi. Ynghanol holl firi cofio’r ddarlith radio enwog hawdd anghofio ein bod ni’n coffau wythnos yma farwolaeth un arall o feddylwyr craffaf y Blaid hanner canrif yn ôl i’r wythnos. Bu farw John Edward Daniel, neu J.E. Daniel, ond yn 59 oed mewn damwain car gwta ddeuddydd cyn i Saunders draddodi Tynged yr Iaith. Roedd J.E. Daniel yn un o feddylwyr craffaf Plaid Cymru yn ei blynyddoedd cynnar a hefyd yn ddiwinydd o bwys mawr yng Nghymru’r Ugeinfed Ganrif. Ond ychydig iawn sy’n ymwybodol o’i ddylanwad a’i waith gan iddo adael bywyd cyhoeddus Cymru a mynd i ryw fath o obsciwrantiaeth yn weddol ifanc yn dilyn yr ail ryfel byd.

Pan laniodd R. Tudur Jones yn fyfyriwr ym Mala-Bangor y ddau athro yna ar y pryd oedd y Prifathro John Morgan Jones a’r Athro Syniadaeth Gristnogol J.E. Daniel. Roedd John Morgan Jones yn enwog am fod yn un o brif ladmeryddion rhyddfrydiaeth ddiwinyddol; ond J.E. Daniel oedd lladmerydd cyntaf yr uniongrededd-newydd nid yn unig yng Nghymru ond hefyd ym Mhrydain. Teimlai J.E. Daniel nad oedd yr iwtopia ddaearol y deisyfa’r rhyddfrydwyr diwinyddol amdano gam yn nes, yn wir, yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel teimlai fod rhyddfrydiaeth ddiwinyddol os rhywbeth wedi gwaethygu’r sefyllfa. Gwelai J.E. Daniel na allai dyn achub ei hun, ac felly’n hytrach ei bod angen achubwr a dyna wnaeth ei dywys yn gyntaf at astudio uniongrededd newydd Karl Barth ac yna ei ail-gysylltu gyda’r traddodiad cyfoethog Calfinaidd Cymraeg.

Ochr yn ochr â hyn roedd J.E. Daniel yn un o aelodau cyntaf Plaid Cymru gan fod yn Ddirprwy-lywydd i Saunders am gyfnod ac yn ystod yr ail ryfel byd ef fu’n Llywydd dros dro pan fu’n rhaid i Gwynfor roi seibiant iddi am resymau personol [Dwi ddim 100% siŵr os yw hyn yn ffeithiol gywir, dwi’n cofio ei ddarllen rhywle ond methu’n deg a ffeindio cofnod nawr! – gol.]. Roedd y cyfuniad yma o’i uniongrededd diwinyddol a’i genedlaetholdeb yn apelgar tu hwnt i’r R. Tudur Jones ifanc ac felly does dim syndod i Tudur gael ei ddylanwadu’n drwm gan J.E. Daniel. Mae fy ymchwil ddiweddar yn dadlau mae’r hyn wnaeth Tudur Jones i ryw raddau oedd datblygu ar y seiliau syniadaethol-ddiwinyddol dros genedlaetholdeb a ddechreuwyd ond a’i gadawyd yn anghyflawn gan J.E. Daniel.

Dywedodd D. Densil Morgan mae un o drasiedïau mwyaf yr ugeinfed ganrif oedd diffyg cynhyrchedd J.E. Daniel fel diwinydd. Dim ond un gyfrol a llond llaw o ysgrifau cyfoethog a chyhoeddodd byth. Ond gellir deillio ei ddiffyg cynnyrch diwinyddol i’w waith diflino dros y mudiad cenedlaethol fel y tystia atgof yr Athro Geraint Gruffydd amdano:

‘R wy’n cofio Daniel yn dweud wrthyf unwaith ddau beth, sef (a) fod galwad cenedlaetholdeb arno wedi ei droi oddi wrth ddiwinydda; a (b) nad oedd yn ddrwg o gwbl ganddo am hynny. Arwydd yw hyn fod Daniel wedi gallu uniaethu’n llwyr yn ei feddwl alwad Crist arno â galwad Cymru…

Rhan bwysig iawn o stori J.E. Daniel oedd ei wraig a oedd, efallai, yn fwy enwog nag ef sef Cathrine Daniel. Roedd Cathrine yn Babydd â J.E. Daniel yn Brotestant. Ond, fel Saunders, roedd ail-ddarganfod uniongrededd wedi peri i J.E. Daniel weld gwendidau Anghydffurfiaeth Cymru fel ag yr oedd hi’n boenus o glir. Gwelodd yn eglwys Rufain, beth bynnag am ei gwendidau amlwg hi hefyd, fod ganddi barch o leiaf at bethau fel y ddealltwriaeth glasurol o berson a gwaith Crist. Y dynfa yma oedd ynddo rhwng ei Brotestaniaeth a’i gydymdeimlad tawel gyda Chatholigiaeth Cathrine a Saunders sydd i’w gyfri, dwi’n meddwl, am ei gyfnod o obsciwrantiaeth cymharol ar ôl gadael Bala-Bangor.

Yn dilyn yr ail-ryfel byd gadawodd ei gadair ym Mala-Bangor a derbyn swydd fel arolygydd ysgolion a hyd y gwn bu’n addoli wedyn gyda’i wraig a’i blant mewn eglwysi Catholig. Datblygiad rhyfedd yn wir i ddyn oedd nid yn unig yn gyn-athro yng Ngholeg yr Annibynwyr ond hefyd yn brif ladmerydd uniongrededd o’i mewn. Mae’n debyg fod rhai, gan gynnwys ei deulu, yn mynnu fod J.E. Daniel wedi troi cefn yn llwyr ar Brotestaniaeth o 1946 ymlaen ond mae tystiolaeth fod Cathrine Daniel wedi dweud wrth R. Tudur Jones ar ei gwely angau ei bod hi am i bobl wybod “Mai Protestant oedd Jac tan y diwedd.”

O safbwynt diwinyddol mae Saunders a Daniel yn ffigurau diddorol tu hwnt. Mae llawer wedi sôn amdanynt fel un adain o’r adwaith ceidwadol yn erbyn rhyddfrydiaeth; cynrychiolwyd yr adain arall gan rai fel Geraint Gruffydd a Bobi Jones aeth ymlaen i fod yn rhan o sefydlu eglwysi anghydffurfiol newydd yn hytrach na gadael Anghydffurfiaeth a throi at Rufain. Cymaint oedd y dryswch syniadaeth a geid o fewn Anghydffurfiaeth y pryd fod Daniel a oedd yn Brotestant “tan y diwedd” yn fwy cyfforddus tu allan iddi nac o’i mewn.

Ond beth am Dynged yr Iaith? Wn i ddim os traddodwyd y ddarlith yn fyw neu iddi gael ei recordio ymlaen llaw, cyn i Daniel farw ar yr 11eg o Chwefror 1962. Tybed pa fath o gwmwl y trawodd y newydd trist yma am ei gyfaill a gŵr un o’i gyfeillion agosaf dros Saunders ar y pryd? Mae J.E. Daniel yn ŵr sy’n haeddu mwy o sylw a mwy o astudiaeth – roedd, yn debyg i Saunders ei hun efallai, yn enigma diddorol.

Oes gan yr Yr Hen Ymneilltuwyr a Leanne Wood rhywbeth yn gyffredin?

Dwi wedi ail ymuno a Phlaid Cymru wythnos yma er mwyn pleidleisio dros Leanne Wood. Dydw i ddim yn cytuno gyda Leanne ynglŷn a phob peth o bell ffordd, ond dwi’n argyhoeddedig mae hi mae’r Blaid a Chymru ei hangen ar y foment yma mewn hanes er mwyn rhoi ychydig o dân ym mhethau. Y Mab Darogan i mi o hyd yw Adam Price, ac mae cefnogaeth Adam i Leanne yn bwysig dwi’n meddwl wrth edrych ar ddyfodol y Blaid yn yr hir dymor.

Mae unrhyw un sydd wedi ymwneud ac ymgyrchoedd iaith dros y blynyddoedd diwethaf yn gwybod yn iawn am ymrwymiad Leanne i’r Gymraeg. Oes, mae angen iddi fagu mwy o hyder wrth siarad Cymraeg yn gyhoeddus ond fe ddaw hynny gydag amser. Ond prif nodwedd Leanne yw ei daliadau sosialaidd felly dwi am ddweud gair am hynny o bersbectif Cristnogol. Er mod i’n gwerthfawrogi dadansoddiad Marx o ymddieithriad y gweithiwr o’i lafur does gen i fawr ddim byd arall i ddweud am Marx. Mae fy rhagfarn yn erbyn Marx yn rhannol oherwydd crwsâd Marx yn erbyn crefydd ac yn sgìl hynny erlid brwnt dilynwyr Marx ar Gristnogion drwy hanes. Fodd bynnag, wrth ddod at gwestiynau ynglŷn a stiwardiaeth arian a chyfoeth mae gan sosialwyr a Gristnogion fwy yn gyffredin nag y byddai llawer o sosialwyr a llawer o Gristnogion yn fodlon ei gyfaddef.

Mae Tudur Hallam yn dweud yn Canon ein Llên fod y diwylliant anghydffurfiol, cyn i athroniaeth Marx ledu drwyddi, yn ‘hyrwyddo undod diwylliannol a thrawsddosbarth’. Roedd Tudur Jones hefyd yn dadlau yn Ffydd ac Argyfwng Cenedl fod Yr Hen Ymneilltuwyr, er yn cynnwys rhai aelodau ‘digon cyfforddus eu hamgylchiadau’, yn cymryd gofal o dlodion eu cynulleidfaoedd. Gwerthoedd Cristnogol oedd sail y gofal a’r consyrn hwn am y tlodion ac anffodusion y gymdeithas, a hynny cyn i unrhyw lofa gael ei suddo yng Nghymru ac ymhell cyn i syniadau Marx gyrraedd y wlad. Ond mae yna wahaniaeth sylfaenol rhwng Cristnogaeth a Marcsiaeth ar y mater yma sef fod Marcsiaeth methu mynd i’r afael a gwraidd problem cymdeithas wrth ddelio a chyfoeth sef hunanoldeb, cybydd-dod, natur farus pobl ac yn y blaen – mewn gair – pechod. Mae Cristnogaeth, yn wahanol i Farcsiaeth, yn cynnig newid y galon yn ogystal a’r allanolion. Ond beth bynnag am y gwendid sylfaenol hwnnw o dŷ sosialaeth seciwlar, mae gwleidyddiaeth Leanne yn eistedd yn fwy cyfforddus ar fy nghydwybod i na gwleidyddiaeth pobl sy’n derbyn teyrnasiad cyfalafiaeth y farchnad rydd yn ddi-gwestiwn.

Er mod i wedi ail ymuno a’r Blaid does gen i ddim bwriad bod yn weithgar o fewn y Blaid a hynny am sawl rheswm, yn bennaf oherwydd mod i dal yn argyhoeddedig mae’r ffordd fwyaf gonest i Weinidog yr Efengyl ddilyn dysgeidiaeth Iesu yw tu allan i wleidyddiaeth pleidiol gan fod y byd hwnnw, fel y mae dyddiau yma beth bynnag, yn gofyn i bobl gyfaddawdu’n ormodol ar werthoedd dwi’n eu cyfri’n rhai cwbwl greiddiol.

Cyhoeddi’r PhD dan drwydded Creative Commons

Dwi wedi gwneud y penderfyniad, dewr efallai, i gyhoeddi fy thesis PhD yma ar y wefan dan drwydded Creative Commons. Dyma rai o’r rhesymau tu ôl y penderfyniad:

  • Fy mwriad o’r dechrau gyda’r ymchwil oedd dod a syniadaeth Gristnogol R. Tudur Jones am ddiwylliant a gwleidyddiaeth i glyw mwy o bobl, yn arbennig y genhedlaeth iau. Pa beth well felly na’i gyhoeddi ar y wê.
  • Mae’r traethawd mynd i fod ar gael i bobl ddarllen yn Archifdy Bangor ac yn y Llyfrgell Genedlaethol felly wrth ei gyhoeddi yma hefyd y gobaith yw dod a’r thesis i sylw pobl na fyddai’n debygol o gael cyfle i bori ynddo ym Mangor neu Aberystwyth.
  • Os daw cyfle i gyhoeddi peth deunydd o’r thesis mewn llyfr rhywbryd dwi ddim yn meddwl bydd cyhoeddi’r thesis yma ar y wefan yn effeithio’r gwerthiant rhyw lawer. Mae’n ddwy farchnad wahanol gydag ychydig iawn o orgyffwrdd.
  • Mae llawer o bobl, Carl Morris yn bennaf, wedi bod yn pwysleisio ers tro fod angen mwy o gynnwys Cymraeg ar y we. Wel, dyma, ar amrantiad megis, 77,000 o eiriau ychwanegol i’r corpws Cymraeg ar-lein.
  • Ar ôl gweithio’n galed am bum mlynedd ar y prosiect mae’n gwbl briodol i mi gael dangos fy hun rhyw ychydig!

Cenedlaetholdeb R. Tudur Jones
yn ei gyd-destun hanesyddol a diwinyddol

Mae’r traethawd hwn yn cael ei gyhoeddi ar-lein dan drwydded

Creative Commons
Attribution-NonCommercial-NoDerivs
CC BY-NC-ND

Ceir esboniad o gyfyngiadau’r drwydded yn llawn ar ddiwedd y traethawd ac fan yma ond fel crynodeb dylid nodi eich bod yn rhydd i lawr-lwytho a rhannu’r gwaith hwn yn unol a’r amodau canlynol:

  • Rhaid priodoli’r gwaith bob tro i’r awdur gwreiddiol.
  • Gwaherddir defnyddio’r gwaith at unrhyw ddiben masnachol dan unrhyw amgylchiadau.
  • Gwaherddir unrhyw waith deilliadol yn seiliedig ar y gwaith hwn. Gwaherddir ei olygu, ei drawsffurfio neu ychwanegu ato.
[ilink url=”http://blog.rhysllwyd.com/wp-content/uploads/2011/11/Cenedlaetholdeb-R-Tudur-Jones-gan-Sion-Rhys-Llwyd-Tachwedd-2011.pdf” style=”download”]Lawrlwytho’r Thesis[/ilink]

Ysbryd segur?

Y mae tuedd yn y traddodiad Pentecostaidd o’r ddeunawfed ganrif hyd heddiw i feddwl am yr Ysbryd Glân yn gweithio’n ysbeidiol trwy gyfrwng diwygiadau sydyn a dramatig. Nid yw’r Ysbryd byth yn segur. Rhan bwysig o waith yr hanesydd Cristnogol yw ceisio olrhain gwaith tawel, dirgel yr Ysbryd Glân mewn cyfnodau sy’n ymddangos ar yr olwg gyntaf yn ddiffrwyth.

R. Tudur Jones: Crefydd yn Esgobaeth Bangor yn y Ddeunawfed Ganrif yn ‘Ysbryd Dealltwrus ac Enaid Anfarwol’, WP Griffith gol. (Bangor, 1999)

Cyngor PhD gan un ffôl

Holodd Ifan i mi rannau rhai tips as y blog ynglŷn a’r do’s and dont’s wrth weithio ar PhD. Rwy’n teimlo’n dra annheilwng i roi unrhyw gyngor oherwydd mae pawb sy’n fy adnabod i’n gwybod yn iawn nad ydw i’n fodel i’w ddilyn. Bu’n rhaid i mi gael estyniad (neu ddau) yn rhannol oherwydd fod fy nhiwtor wedi symud Prifysgol ond hefyd oherwydd mod i, wrth edrych yn ôl, wedi cael gormod o heyrn yn y tân. Felly fy nghyngor cyntaf byddai gwylio rhag hynny, rhag cael gormod o heyrn yn y tân. Os ydy rhywun yn gobeithio cyflawni PhD da ac ar amser rhaid derbyn ei fod gyfystyr a swydd lawn amser. Wedi dweud hynny, dydw i ddim yn difaru am funud i mi fuddsoddi tipyn o’m hamser dros flynyddoedd yr ymchwil ar bethau eraill megis yr ymgyrch am y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ymrafael a’m galwad i’r Weinidogaeth ac hefyd gychwyn arbrofi gyda phrosiect Torri Syched. Hefyd gan na ches i ysgoloriaeth lawn roedd rheidrwydd arna i wneud tipyn o waith dylunio graffeg llaw-rhydd hefyd. Hyd yn oed pe tawn yn rhydd i weithio 9-5, Llun-Gwener ar y PhD am bedair mlynedd wn i ddim a fyddai gen i’r amynedd a’r galon i weithio felly beth bynnag.

Mae dewis testun sy’n agos at eich calon yn bwysig dwi’n meddwl. Ar un llaw mae’n rhaid i chi gymryd gofal arbennig i wneud yn siŵr eich bod chi’n cadw gwrthrychedd os ydych chi a rhyw ymlyniad personol at eich maes ymchwil. Ond ar y naill law mae cael angerdd dros eich testun yn medru eich cario chi trwy gyfnodau tywyll, anodd a sych yn yr ymchwil.

Mae cael teulu a ffrindiau cefnogol yn holl bwysig. Mae gwaith ymchwil yn waith tu hwnt o unig ar brydiau. Roedd cael teulu a ffrindiau oedd yn fodlon trafod testun y traethawd yn gyson ynghyd a darllen drafftiau a chynnig sylwadau yn holl bwysig i mi. Hebddynt mae dyn yn gallu mynd i deimlo fel ei fod yn siarad gyda’r wal yn unig.

Y dewis ffurfiannol ar ddechrau ymchwil ydy penderfynu a ydy rhywun am ysgrifennu penodau wrth ei fod yn mynd yn ei flaen neu ydi o mynd i sgwennu’r cyfan ar y diwedd. Mae’r rhan fwyaf o bobl bellach yn dilyn y model sgwennu wrth fynd yn eu blaen ond mi wnes i ddilyn y patrwm mwy traddodiadol o sgwennu’r cyfan ar y diwedd. Am gyfnod roeddwn i’n difaru dilyn y llwybr hwnnw ond wedi edrych yn ôl roedd y thesis terfynol yn gryfach, oherwydd wrth wneud yr ymchwil gwnaeth fy nealltwriaeth o rai agweddau o’r gwaith ddatblygu’n fawr dros y blynyddoedd. Felly mi fuasai thesis pennod X neu Y yn dra gwahanol pe tawn i wedi ei sgwennu yn 2006 yn hytrach na 2009 ayyb…

Dyna ni am nawr. Mwy o sylwadau eto rhywbryd!

philosophiae doctor

Dyna ni, PhD allan o’r ffordd o’r diwedd! Bum mlynedd union ar ôl i mi ddechrau! Dwi’n berson sydd wedi cael pethau yn reit hawdd erioed (ac eithrio TGAU Maths a Gwyddoniaeth!) ond gyda’r PhD fe ddois i ar draws rhywbeth anodd, anodd iawn! Ond wnes i gyrraedd yna yn y diwedd, clod i Dduw. Ond roedd yn brofiad oedd yn sicr yn dysgu gwyleidd-dra a gostyngeiddrwydd i rhywun. Diolch hefyd am gefnogaeth teulu a ffrindiau.

Yn yr hir dymor hoffwn addasu’r gwaith a’i gyhoeddi fel llyfr lled-boblogaidd yn hytrach na’i gyhoeddi fel llyfr academaidd. Ond yn y tymor byr dwi’n bwriadu ei gyhoeddi dan drwydded agored yma ar y blog ac efallai gynnig rhannau o’r traethawd fel ysgrifau i gyhoeddiadau fel y Traethodydd.

Ond yr her fawr i mi mewn gwirionedd a’r hyn sydd o bennaf ddiddordeb i mi ydy rhoi rhai o’r egwyddorion a’r ddiwinyddiaeth dwi wedi dysgu wrth lunio’r traethawd ar waith ym mywyd yr Eglwys yma yng Nghaernarfon. Dwi’n gobeithio hefyd gallu ysbrydoli Cristnogion eraill ar draws Cymru i feithrin byd olwg yr un mor gyfoethog ag oedd gan R. Tudur Jones yn seiliedig, wrth gwrs, ar ddealltwriaeth gyflawn o ystyr a sgôp Buddugoliaeth a Brenhiniaeth Crist.

Dadl Cylch yr Iaith yn adlais o ddadl Adfer?

Yn ôl fy arfer fe es i ddyfroedd dyfnion bore ‘ma ar Twitter. Wnes i fynegi fy marn nad oedd un rhes hir o jôcs brwnt a hiwmor budur o’r rheidrwydd yn gwneud comedi dda. Y cyd-destun oedd fod un comedïwr Cymraeg wedi cyhuddo Peter Hughes Griffiths o siarad 100% “b****s”. Dyma fi’n llawn annoethineb yn ymateb drwy ddweud fod 100% o’i gomedi ef yn dibynnu ar regi neu brynti! Yn naturiol felly daeth rhai i’r casgliad mod i’n ochri gyda Peter Hughes Griffiths yn y ddadl purdeb ieithyddol ar Radio Cymru ac S4C. Dydw i ddim. Rydw i’n credu’n gryf y dylai Radio Cymru ac S4C fod yn wasanaethau uniaith Gymraeg ond tu hwnt i hynny dwi ddim yn credu fod purdeb ieithyddol o dragwyddol bwys. Mae cynnal safon iaith yn bwysig ond er mwyn parhad yr iaith fel cyfrwng dydd i ddydd, yn arbennig mewn diwylliant poblogaidd, mae’n rhaid arfer iaith lafar naturiol hefyd. Yn bersonol dwi’n gorfod gwneud ychydig o’r ddau beth. Gyda’r gwaith PhD ac ati dwi’n gorfod defnyddio Cymraeg safonol ond wedyn yn fy ngwaith dydd i ddydd fel Gweinidog yng Nghaernarfon dwi’n gorfod ystwytho fy Nghymraeg – aneffeithiol iawn fyddai fy ngweinidogaeth taswn ni’n siarad efo pobl Dre fel llyfr. “Euthum yn bopeth i bawb” fel y dywedodd yr Apostol Paul! Rhywbeth sy’n rhaid i Radio Cymru wneud.

Er na wnes i glywed Peter Hughes Griffiths ar Taro’r Post wythnos diwethaf dwi ar ddeall mae’r hyn wnaeth gythruddo’r rhan fwyaf o bobl oedd fod aelodau Cylch yr Iaith yn portreadu eu hunain fel y ‘gweddill ffyddlon’ a ‘cheidwaid y safon’ ac mae nhw, a nhw yn unig, oedd a’r hawl i nodi beth oedd y safon. Pwy oedd mewn, a pwy oedd mas. Pwy oedd yn dderbyniedig, a phwy oedd yn annerbyniol.

Wrth i’r drafodaeth ar Twitter ddatblygu cofiais fod llawer o’r drafodaeth yma yn debyg iawn i’r ddadl a ddigwyddodd rhwng R. Tudur Jones (testun fy PhD) ac arweinwyr Mudiad Adfer yn 1976. Ac nid cyd-ddigwyddiad yw hi wrth gwrs mae arweinwyr Adfer yn yr 1970au, yn fwy na heb, ydy arweinwyr Cylch yr Iaith heddiw. Cyhoeddodd Adfer lyfr gan Emyr Llywelyn o’r enw ‘Adfer a’r Fro Gymraeg’ yn 1976 ac fe gyhoeddodd Tudur Jones adolygiad ohoni, adolygiad oedd yn rhybuddio rhag rhai o beryglon Adfer ac efallai Cylch yr Iaith heddiw. Teitl yr adolygiad, yn dra ddadleuol, oedd ‘Cysgod Y Swastika’.

Yn yr adolygiad y mae Tudur Jones yn mynd ati i bortreadu ideoleg Adfer fel petai’n addasiad Cymreig o ideoleg Hitler a’r Natsïaid. Noda fod y gyfrol yn llawn adleisiau o athroniaethau tramor Comte, Hegel, Fichte, Schelling ac Alfred Rosenberg cyn mynd ymlaen i nodi i’r traddodiad athronyddol yma ‘gyrraedd ei bendraw erchyll yng ngormes y Drydedd Reich’. Canolbwynt beirniadaeth Tudur Jones oedd defnydd yr awdur o’r cysyniad o “eneidfaeth”. Cymdeithas y genedl, yn ôl yr awdur, ydy’r man lle llunnir ystyr a lle chanfyddir canllawiau i fywyd. ‘Cymru yw’r ysbryd yma a fu’n llifo drwy ddynion cyn fy mod,’ meddai. Dadleua Tudur Jones fod y syniad yma am eneidfaeth yn ‘allweddol bwysig’ i ddeall dadl Adfer oherwydd ‘trwy gymorth yr eneidfaeth y gellir gwahaniaethu Cymry ffug oddi wrth Gymry iawn.’

Mae Tudur Jones yn gweld methiant Adfer i ddiffinio ac esbonio beth yn union yw natur yr eneidfaeth yn wendid mawr oherwydd drwy drafod y cyfan yn amwys cyhudda arweinwyr Adfer o hunan-apwyntio eu hunain yn ddehonglwr yr eneidfaeth. ‘Mae’n eithriadol bwysig felly inni wybod,’ medd Tudur Jones, ‘o ba ddefnyddiau y gwnaethpwyd yr eneidfaeth. Ond ofer holi. Ni ddatgelir y gyfrinach. Emyr Llywelyn yn unig a ŵyr beth yn union ydyw. Mae’n rhy gyfriniol i’w fynegi mewn geiriau.’ Er enghraifft, pa fath ddiwylliant sy’n dderbyniol yn ôl safonau’r eneidfaeth? ‘Dim ond yr hyn sy’n gywir ac yn unol â’n traddodiad a’n hanes sydd yn dderbyniol yn y Fro Gymraeg’ medd Emyr Llywelyn.

Derbyniodd Tudur Jones gais gan Wasg Gomer yn 1981 i gyfieithu’r adolygiad i’w chynnwys mewn pecyn addysgol am hunaniaeth Gymreig, ond mynegodd elfen o siom gydag ef ei hun: ‘I am not sure’, meddai, ‘whether I am happy to see this old controversy revived. My two articles all but destroyed Emyr Llewelyn – and it certainly put paid to Adfer.’ Noda hefyd ei fod yn gresynu fod ei adolygiad wedi llesteirio ymgyrchoedd Adfer, rai ohonynt yr oedd ef mewn gwirionedd yn eu cefnogi. Meddai; ‘I regret now that I did not make it clearer at the time that many of the practical aims of Adfer were laudable enough and that what I objected to was the attempt to justify its actions by a pernicious philosophy.’

Mae hyn i gyd yn berthnasol i’r ddadl wythnos diwethaf am Cylch yr Iaith oherwydd mae Cylch yr Iaith, fel Adfer, yn amwys iawn ynglŷn a lle mae tynnu’r llinell. Beth sy’n dderbyniol? Beth sy’n annerbyniol? A pwy sydd i benderfynu hyn? Ond hefyd, mae poethder y ddadl wedi dallu’r ddwy ochr, fel a ddigwyddodd yn yr 1970au, i weld fod gan y ddau ochr bwyntiau digon teg.