Category Archives: Cymdeithas yr Iaith

Democratiaeth Gymreig: yr absoliwt newydd – darlith Simon Brooks

Yn ei ddarlith heddiw dadleuodd Simon Brooks y dylai Cymdeithas yr Iaith ymwrthod yn derfynol gyda’r mathau mwyaf difrifol o anufudd-dod sifil. Mae’n dadlau hyn gan mai Cymry ac nid Saeson sydd a chyfrifoldeb bellach dros y rhan helaethaf o bolisïau yn ymwneud a’r Gymraeg. Mae Simon yn gywir i nodi’r ffaith yma ond rwy’n anghytuno’n llwyr ag ef na ddylid dal llywodraeth Cymru yn atebol a’u herio gyda’r math mwyaf difrifol o anufudd-dod sifil os yw’r amgylchiadau yn mynnu hynny. Ydy Simon, er enghraifft, yn meddwl bod yna rhyw enaid uwch gyda’r Cymry sy’n peri i ni allu gwneud penderfyniadau moesegol ‘uwch’ na’r Saeson? Ymha ffordd sylfaenol y mae democratiaeth Gymreig yn wahanol i ddemocratiaeth Seisnig? Onid y realiti yw y bod Cymry Cymraeg yn leiafrif o fewn democratiaeth Gymraeg yn yr un ffordd ag yr oedd Cymru yn leiafrif mewn democratiaeth Brydeinig? Hyd yn oed os yw’r consensws gwleidyddol presennol o blaid y Gymraeg (ac rwy’n amheus o hynny) sut y medr Simon ddweud fel dewin na fydd y sefyllfa yn newid yn y dyfodol? Ac yn olaf, onid gelyn pennaf y Gymraeg yw materoliaeth ac mae hwnnw a gafael yr un mor dyn ar wleidyddiaeth Gymreig ag yr oedd ganddo ar wleidyddiaeth Brydeinig?

Fy ngobaith i, yn sicr, ydy y bydd llywodraeth Gymreig yn fwy cefnogol i’r Gymraeg na llywodraeth Seisnig ond dydy hynny ddim yn dilyn bob tro. Dydy’r ffaith fod gyda ni ddemocratiaeth Gymreig nawr ddim yn golygu fod ein democratiaeth bellach yn naturiol gyfiawn. Nid ydw i’n mesur pa mor gyfiawn yw llywodraeth yn ôl lleoliad daearyddol ei siambr nac chwaith etholfraint y sawl a bleidleisiodd drosti. Mae’n rhaid credu fod cyfiawnder amgenach na’r cyfiawnder sy’n tyfu’n hanesyddol o draddodiad cenedl. Er enghraifft, os traddodiad cenedl yw dienyddio pawb sy’n cyrraedd ei ben-blwydd yn bedwar ugain oed, ofer cwyno? Wrth gwrs ddim! Dydy cael llywodraeth gynhenid yn pasio deddfau gynhenid ddim yn golygu fod cyfiawnder yn dilyn yn anorfod.

Fel Cristion dydw i ddim yn credu fod deddfau dynion yn absoliwt. Rhaid eu sgrwtineiddio yng ngolau deddf uwch. Os mai awgrym Simon yw fod herio llywodraeth Cymru yn yr un ffordd a heriwyd llywodraeth Loegr (a defnyddio’r run tactegau os yn briodol) yn annilys yna mae’n gosod cynsail beryglus iawn. Ni ddylem ni fel Cymry fod mor falch i dybio fod beth bynnag a wnawn yn well na beth a wnaed yn Llundain – os rhywbeth mae angen sgrwtineiddio manylach ac – os cyfyd y sefyllfa – brotest hyd yn oed gadarnach.

Efallai dylwn ddweud fel gair clo mod i’n cytuno gyda galwad Simon am weld mudiad newydd yn codi sy’n canolbwyntio’n llwyr ar lobïo. Mae Cymdeithas yr Iaith yn gwneud gwaith lobïo pwysig – celwydd mawr yr wythnos yw fod Cymdeithas yr Iaith yn aneffeithiol fel lobïwyr. Cyn i Menna Machreth a fi sgwennu Coleg Ffederal Cymraeg – Cynllun Gweithredu dim ond slogan gan Blaid Cymru a’r Blaid Lafur oedd y polisi. Dyna pam ges i fod ar bwyllgor HEFCW wrth fynd ati i roi polisi’r llywodraeth ar waith a gweld y Coleg Cymraeg yn y diwedd yn cael ei sefydlu. Fe ŵyr pawb, gan gynnwys Richard Wyn Jones ei hun, pa mor gwbwl greiddiol oedd rôl aelodau Cymdeithas yr Iaith wrth gael y maen i’r wal gyda’r ymgyrch yma. Dyna’r ymgyrch bues i ynghlwm a hi ond mae sawl enghraifft arall. Ond, mae lle i fudiad ganolbwyntio ar lobïo’n unig dwi’n meddwl. Pob hwyl i Richard Wyn Jones, Simon Brooks a phwy bynnag fydd ynghlwm a’r fenter; ond gweithredu tu allan i’r system sy’n gorwedd mwyaf esmwyth ar fy nghydwybod i.

Dweud Eich Dweud – 13 Chwefror 2012

Fi oedd yn gwneud ‘Dweud Eich Dweud’ ar y Post Cyntaf eto bore ‘ma. Dyma oedd gen i ddweud:

Heddiw rydym ni’n cofio hanner canrif ers traddodi Tynged yr Iaith, darlith enwog a phwysig Saunders Lewis. Roedd cynnwys y ddarlith yn bwysig iawn ond mae’r recordiad yn bwysig hefyd gan ei bod hi wedi diogelu cofnod o lais cofiadwy Saunders am genedlaethau. Cofiadwy meddwn i, ond mewn gwirionedd llais tra anghofiadwy oedd gan Saunders. Yr oslef isel mono-dôn hwnnw fyddai’n peri i chi dybio nad oedd Saunders ei hun wedi ei argyhoeddi a’i ddadl heb sôn am allu ysbrydoli eraill. Y math o oslef llais sy’n peri i rai syrthio i gysgu.

Heddiw, yn oes y spin doctors, y sloganau slic a’r delweddau deifiol mae’n debyg na fyddai rhywun fel Saunders yn cael gwahoddiad i ddarlledu darlith o’r fath. Doedd ganddo ddim “llais radio” yn fwy nag oedd ganddo “wyneb i’r teledu” chwaith.

Un o wendidau bywyd cyhoeddus heddiw yw fod pobl yn cael eu barnu yn ôl y ffordd maen nhw’n dweud rhywbeth yn hytrach na sylwedd yr hyn sydd gyda nhw ddweud. Ac yn hynny o beth mae darlith mono-dôn Saunders yn ein hatgoffa fod sylwedd, yn yr hir dymor, yn llawer pwysicach na steil.

Bore da i chi.

Clawr y Tafod (Chwefror 2012)

Wrth dynnu’r llun yma roedd gen i hunch y byddai’n gweithio’n wych mewn sawl cyd-destun, gan gynnwys y cyd-destun yma. Dwi wrth fy modd gyda cloriau plaen a trawiadol fel yma. Dyma sut y dylai pethau fod. Rhifyn newydd o’r Tafod yn y post i chi’n fuan. (Mae tu mewn y Tafod yn aml eiriog a blêr braidd yn ôl yr arfer ond o leia mae’r clawr yn taro deg!). Richard o Gaerdegog ydy’r gŵr sy’n syllu gyda llaw.

Talu’n ddrud am gadw’r ffydd mewn hen elynion

Un o fy guilty pleasures i yw gwrando’n achlysurol ar gerddoriaeth gawslyd Cymraeg o’r 90au cynnar. Un o’r pethau grêt am lawer o ganeuon Sobin a’r Smaeliaid yw’r islais gwleidyddol sydd yn llawer o’r caneuon – o’r amlwg fel Meibion y Fflam i’r cynnil fel Y Tŷ. Ro’ ni’n gwrando drwy ‘Can i Gymru: Y Casgliad Cyflawn 1969-2005’ ar Spotify heno a dyma fi’n cyrraedd ‘Y Cam Nesaf’ gan Paul Gregory o 1993. Dyma eiriau’r gytgan:

Talu’n ddrud am gadw’r ffydd mewn hen elynion.
Talu’n ddrud am fod yn rhan o’r frwydr gynt.
Edrych nol wrth gamu mlaen, does neb i’n harwain
yn ôl i’r dyddiau da, cyn diffodd fflamau’r tân.

Does gen i ddim syniad at beth mae Paul Gregory yn cyfeirio. Y meistri glô gyda chefndir cau’r pyllau glo? Y Blaid Lafur? Wn i ddim. Ond cymerais i mae’r syniad tu ôl delweddau’r gân oedd bod y Cymry’n talu’n ddrud erbyn diwedd yr Ugeinfed Ganrif am ymddiried a rhoi ffydd, yn y bôn, mewn gelynion pwy bynnag ydyn nhw.

Richard Caerdegog

Richard Jones, Caerdegog

Y rheswm dwi’n tynnu sylw at hyn nawr yw oherwydd ei fod yn adleisio rhywbeth ddywedodd Richard Caerdegog wrtho ni ddydd Llun pan oeddem ni draw yna yn gweithio ar y ffilm gyda nhw. Roedd Richard wedi bod yn byw yng nghysgod Wylfa, yn llythrennol, ers i Wylfa-A ddechrau cael ei adeiladu yn 1963. Bu Caerdegog yn gymydog cyfeillgar i Wylfa am bron i hanner canrif ac yna eleni dyma nhw yn penderfynu eu bod nhw am gymryd tir Caerdegog i godi Wylfa-B. Roedd Richard yn cydnabod ei gamgymeriad i beidio codi llais yn erbyn Wylfa tan ei fod yn effeithio’n uniongyrchol arno ef. Mae teulu Caerdegog yn sicr yn medru darllen ystyr i’r llinell gyfarwydd yna o Can i Gymru 1993 felly. ‘Talu’n ddrud am gadw’r ffydd mewn hen elynion’ yn wir.

Allfudo a symud S4C i Gaernarfon?

Roeddwn i’n falch o gael darllen ar Golwg360 heddiw fod Meirion Prys, Bwrdd yr Iaith, yn tynnu sylw at yr angen i fynd i’r afael a’r mewnfudo a’r allfudo o’r bröydd Cymraeg. Mae’n ddeng-mlynedd bellach ers i sylwadau Seimon Glyn godi proffil yr argyfwng oedd ac sy’n dal i wynebu ardaloedd Cymraeg. Mae’r llywodraeth, gan gynnwys Plaid Cymru yn anffodus, wedi methu mynd i’r afael a’r broblem o gwbl. Rhaid cydnabod hefyd fod ymgyrchwyr wedi bod yn dra aneffeithiol hefyd yn y maes hwn dros y ddeng-mlynedd diwethaf. Fe chwythodd Cymuned ei phlwc ac fel un o arweinwyr Cymdeithas yr Iaith dros y ddeng-mlynedd diwethaf mi fasw ni’r cyntaf i gydnabod fod y Gymdeithas wedi methu datblygu ymgyrch boblogaidd yn y maes.

Dwi’n siŵr fod yr allfudo yn broblem yr un mor ddifrifol â’r mewnfudo. Dwi’n ffodus mod i wedi medru cartrefu a chael gwaith yng Ngwynedd ond y gwir amdani yw fod llawer o fy ffrindiau wedi gorfod symud i Gaerdydd i gychwyn eu gwahanol yrfaoedd. Rhai ohonynt yn bobl oedd wastad eisiau mynd i fyw i Gaerdydd ac iawn felly, ond rhai byddai wedi ffafrio aros yn y fro pe bae cyfleoedd swyddi gwell yno. Roedd hi’n chwa o awyr iach felly darllen yn adroddiad Turner ar S4C ei fod yn argymell ystyried o ddifri symud y pencadlys i Gaernarfon. Roedd yr adroddiad yn rhestru pum dadl o blaid y symud ond dim ond tri yn erbyn. Dyma oedden nhw:

Manteision:

  1. Byddai’n rhoi S4C yn nes yn ddiwylliannol at ei gynulleidfa graidd a’i berfeddwlad ddiwylliannol naturiol.
  2. Byddai adleoli’n golygu y byddai’n rhaid newid diwylliant a gallai hynny olygu y byddai’n haws i gyflawni arbedion a synergedd.
  3. Byddai’r lluosydd economaidd yn sicr yn fwy mewn ardal o amddifadedd economaidd e.e. Caernarfon.
  4. Wrth feddwl am yr amgylchiadau economaidd anodd sy’n debygol yn ystod y blynyddoedd nesaf, byddai’n haws amddiffyn cyllid S4C mewn ardal o amddifadedd economaidd.
  5. O gofio y bydd S4C yn cael ei gyllido gan y BBC yn y dyfodol byddai adleoli’n ategu eu polisi o symud o’r dinasoedd mawr, a byddai hefyd yn atgyfnerthu ymrwymiadau’r BBC y tu hwnt i Gaerdydd.

Anfanteision:

  1. Gallai adleoliad o’r fath gael ei weld fel ‘rhedeg i ffwrdd’.
  2. Colli talent bresennol ac yn y dyfodol.
  3. Byddai’n tynnu sylw oddi wrth yr angen i fynd i’r afael â phroblemau pwysicach.

Fel un o drigolion Caernarfon dydy hi ddim yn syndod mod i o blaid o syniad o symud pencadlys S4C i Gaernarfon. Mae pobl sy’n gwybod lot mwy na fi am y pethau yma yn dweud mai dim ond rhywbeth symbolaidd fyddai hyn gan fod rhan fwyaf o swyddi’r sector allan yn y cwmnïau cynhyrchu annibynnol yn hytrach nag yn S4C ei hun. Digon teg, ond mae symbolaeth yn bwysig hefyd. A byddai dim ond llond dwrn o swyddi proffesiynol ychwanegol i Gaernarfon yn gwneud gwahaniaeth i’r dref ond dwi ddim yn meddwl byddai Llanisien yn teimlo’r golled rhywsut.

Poster Rali Wylfa B

Dwi ddim wedi bod yn hapus gyda fy ngwaith dylunio graffeg ers tro. Yn bennaf oherwydd bod deadlines a phrysurdeb yn golygu mod i wedi gorfod brysio pethau’n ormodol a/neu mod i wedi gorfod dilyn briff cleient yn gaeth er mod i ddim yn hoffi’r syniad/delwedd roedden nhw am i mi lunio. Ar yr adegau prin hynny lle dwi wedi modloni â phrosiect y tebygrwydd yw mod i wedi bod yn gweithio ar neu addasu stock vectors felly fedra i ddim cymryd llawer o’r clod. Ond wythnos yma dwi wedi mhlesio gyda’r poster dwi wedi gwneud ar gyfer Rali Wylfa B ym mis Ionawr.

Yn ei hanfod mae’r poster yn syml ac wedi ei wneud allan o dri haen …

Pe buaswn wedi cael fy ffordd byddai’r poster yn cynnwys lot llai o wybodaeth. A oedd angen rhestru’r holl siaradwyr? Onid ydyw’r hook line ‘Nid yw Môn ar Werth i Wylfa B’ yn ddigon cryf heb orfod ychwanegu ‘Cefnogwch deulu Caerdegog’? Ydy chi, er enghraifft, yn gwybod pwy yw teulu Caerdegog? Ni fyddai’r rhanfwyaf o bobl sy’n gweld y poster yn gwybod hanes teulu Caerdegog ac felly mae’n cymryd gofod di-angen ar y poster ac yn gwneud y poster braidd yn anelwig. Byddai’r poster yn fwy effeithiol pe byddai llai o destun ar y poster nag y bu’n rhaid i mi ei gynnwys. Dyma’r poster terfynol …

Eisteddfod 2011

IMG_9705

Wedi i mi fethu Eisteddfod llynedd oherwydd gwaith y PhD fe wnes i’n fawr o’r cyfle i ddal lan eleni a mynd am yr wythnos gyfan ac fe wnes i fwynhau mas draw. Bues yn gall (neu’n gyfrwys?) i beidio a chymryd unrhyw waith na chyfrifoldebau penodol eleni gyda Chymdeithas yr Iaith na’r Gorlan – fe wnaeth hynny fy rhyddhau i allu mynd a dod fel y mynnwn.

Tref Wrecsam

Mae’n debyg mae’r hyn wnes i fwynau mwyaf oedd cyfle i dreulio amser gyda hen ffrindiau – ffrindiau dwi eisoes a minnau ond yn chwech ar hugain wedi mynd i’r rhigol anffodus o’u gweld yn unig bob Eisteddfod. Wnes i fwynhau byw a bod yn Wrecsam hefyd. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o Eisteddfodwyr roeddwn i’n aros yng nghanol y dref a gan fod gigs y Gymdeithas hefyd yng nghanol y dref treuliais dipyn o amser yn y dref ei hun. Yr hyn a’m tarodd yn fwy na’r ffaith fod Wrecsam ddim yn dref Gymraeg ei hiaith oedd nad oedd hi chwaith yn dref Gymreig nac ychwaith yn “Brydeinig”. Wrth fynd i chwilio am frecwast ynghanol dre ar y bore cyntaf methais a chanfod un siop gornel oedd yn gwerthu cynnyrch “Prydeinig” – roedd pob siop ddes i ar eu traws yn gwerthu cynnyrch Polisk neu Halal! Ddim bod dim byd o’i le ar hyn, ond roedd yn brofiad annisgwyl rhywsut.

Bryn Fôn - Tren y Chwyldro, Eisteddfod Wrecsam 2011

Gigs y Gymdeithas

Fe aeth gigs y Gymdeithas yn rhagorol. Mae llawer o’r lluniau wnes i dynnu fan yma. Dyma oedd y gigs mwyaf llwyddiannus i’r Gymdeithas drefnu ers Steddfod Eryri yn 2005 yn fy nhyb i. Roedd pob noson yn rhagorol o ran adloniant, nifer uwch na’r disgwyl wedi mynychu ac felly llwyddodd pob noson (heblaw am un) glirio ei gostau – rhywbeth sydd wedi bod yn strygl i ni yn y blynyddoedd diwethaf. Dwi’n meddwl mae’r hyn wnaethom ni’n iawn eleni oedd peidio trio cystadlu head-on gyda maes-b a maes-c ond yn hytrach cynnig rhywbeth gwahanol. Mae’n amlwg i bobl fwynhau’r profiad “gwahanol”.

Ar y Maes

Fe aeth digwyddiadau ‘gwleidyddol’ y Gymdeithas yn dda iawn hefyd. Mae lluniau o rhai o ddigwyddiadau ‘gwleidyddol’ y Gymdeithas yma a lluniau cyffredinol o’r Eisteddfod. Ond yr eliffant yn yr ystafell (neu’r steddfod) oedd dyfodol Cymunedau Cymraeg – roedd llawer un yn dechrau darogan beth fydd ffigurau y sensws yn dangos am leihad nifer y siaradwyr Cymraeg yn y “cadarnleoedd”. Mae hi’n ddeg mlynedd bellach ers i Seimon Glyn dynnu sylw pawb at y pwnc pwysig yma a dydy’r pleidiau gwleidyddol, gan gynnwys Plaid Cymru, heb wneud dim i ddelio a’r broblem. Sibrwd ynghylch y pwnc oedd yn yr Eisteddfod eleni, mae’n bosib y bydd yn bwnc llosg go-iawn eto erbyn steddfod y flwyddyn nesaf.

IMG_9733

Y Gorlan

Oherwydd ymrwymiadau eraill dwi heb ymrwymo’n iawn i waith Y Gorlan ers sawl blwyddyn bellach ond roeddwn i’n falch mod i wedi gallu mynd draw i gynorthwyo am un noson eleni. Dyma oedd fy mlwyddyn olaf hefyd ar bwyllgor Y Gorlan. Er gwaethaf fy niffyg ymroddiad ymarferol yn ystod yr wythnos i’r gwaith mae’r Gorlan yn parhau i fod yn agos iawn at fy nghalon i oherwydd ei fod yn genhadaeth holistaidd iawn yn y Gymry Gymraeg gan ei fod yn cynnig gobaith ysbrydol ac ymarferol.

Yfed ein ffordd i’r Gymry Rydd?

Dwi wedi bod yn gwneud rhywbeth neu gilydd gyda’r Gorlan ers deg mlynedd bellach ac fe fues i’n gwersylla ar y Maes Ieuenctid am saith o’r deg mlynedd yna. Dros y blynyddoedd dwi wedi sylwi fod natur y Maes Ieuenctid wedi newid llawer. Pan ddechreuais i weithio gyda’r Gorlan roedd y trawstoriad oedran, ar y cyfan, tua 18-30 gyda rhai eithriadau naill ben. Ond mae’n ymddangos nawr fod y trawstoriad oedran yn debycach i 15-21 gyda eithriadau y naill ben. Un o ganlyniadau hyn yw fod popeth yn fwy “gwyllt” yn arbennig gyda pobl yn gwneud cam-ddefnydd o alcohol. Roedd pobl yn mynd dros ben llestri gyda diod wastad yn rhan o’r Maes Ieuenctid ond mae e i weld wedi mynd yn waeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er ei fod yn broblem gymdeithasol sy’n amlwg iawn ar y Maes Ieuenctid mae e’n symptomatig o broblem cymdeithas yn gyfan – erbyn diwedd yr wythnos roedd digon o bobl yn nosweithiau Cymdeithas yr Iaith hefyd a mwy o diddordeb yn y bar na’r bandiau yn anffodus. Mae hyn yn fy nhristáu, y ffenomenon yma ein bod ni fel Cymry yn meddwl fod rhaid ymgolli a’r ddiod pob tro rydym ni’n cyfarfod i ddathlu ein diwylliant. Bron fel petai yfed, a gor-yfed, yn rhan o hanfod ein hunaniaeth bellach. Dwi’n gwybod beth yw’r ateb hir dymor, dyna pam mod i dal i gredu yng ngweledigaeth y Gorlan, ond wn i ddim beth yw’r ateb tymor byr/cymdeithasol os oes un o gwbl.

Ymlaen, ymlaen

Mae’r ychydig sylwadau yma felly yn crynhoi beth mae’r Eisteddfod yn ei olygu i mi. Roedd hi’n gyfle i weld hen ffrindiau, i ddathlu ein diwylliant ond hefyd yn wythnos lle roedd rhai o wendidau a pheryglon ein hanfod fel Cymry Cymraeg yn dod i’r amlwg.

Fel yr Iddewon, ein Gwŷl y Pebyll ni ar ben am flwyddyn arall, ymlaen mae Canan.

Caergylchu’r Gymraeg

Roeddwn i mewn cynhadledd Gristnogol heddiw, does dim angen i chi wybod ymhle na phwy a’i trefnodd. Roedd un o’r siaradwyr, oedd yn Weinidog draw yng Ngogledd Ddwyrain Cymru rhywle, wedi galw i ollwng rhai pethau yng Nghaergylchu ar y ffordd. Caergylchu yw canolfan ailgylchu Caernarfon gyda llaw. Roedd y siaradwr yn rhannu ynglŷn â her yr eglwys i bontio gwahanol garfanau mewn cymdeithas. Ac adnabyddodd fod y ffactor ieithyddol yn gallu bod yn wahanfur wrth geisio rhannu’r ffydd yng Nghymru. Ac mae’n gywir i nodi hynny oherwydd fod rhai Eglwysi Cymraeg yn medru bod yn oer iawn eu croeso i’r di-Gymraeg ac i ddysgwyr. Ond ar y llaw arall fod yr agweddau mwyaf gwrth-Gymreig rwyf erioed wedi dod ar eu traws i’w canfod ymysg Cristnogion Efengylaidd di-Gymraeg sydd wedi ymgartrefu yng Ngwynedd. Ond yr hyn a’m cythruddwyd heddiw oedd sylw’r siaradwr am weithwyr Caergylchu. Rhywbeth tebyg i hyn a ddywedodd e ond nid ei union eiriau:

I went to Caergylchu on the way here today and spoke to the man working on the gate. Having spoken English to him he answered me back in English and then turned to say something and have a conversation with his colleague in Welsh right in front of me! That goes to show some of the bad attitude and tension still around.

Aaaaaaa! C’mooooooon! Doedden nhw ddim wedi siarad Cymraeg gyda’i gilydd er mwyn dy wylltio neu di ymddieithrio di mêt! Cymraeg mae gweithwyr Caergylchu yn siarad yn naturiol gyda’i gilydd trwy’r amser!

Dwi ddim yn meddwl bod y siaradwr yn meithrin syniadau gwrth-Gymraeg. Dwi’n meddwl mai jest anwybodus oedd ei sylwad. Ond eto mae’n esbonio rhywfaint pam fod gen i elfen o ragfarn yn erbyn y byd Cristnogol Saesneg yng Nghymru o hyd. Rhagfarn rwyf wedi bod yn delio reit dda ag ef ers rhai blynyddoedd bellach, ond wedyn pan fo rhywun yn clywed sylwad fel yna o lwyfan cynhadledd Gristnogol mae hen grachen yn cael ei hail agor.

Mae hyn yn drueni mawr oherwydd roeddwn i’n meddwl fod prif neges y siaradwr dan sylw yn arbennig ac yn siarad yn bersonnol gyda mi sef i ni wylio ein bod ni ddim mor brysur yn gwneud pethau yn enw Duw fel ag ein bod ni yn y diwedd rhy brysur i ganolbwyntio ar Dduw ei hun. Er i brif neges ei sgwrs siarad gyda mi heddiw, ei sylwadau am weithwyr Caergylchu, fy nghyd Gymry a’m pobol i, y bydd yn aros yn y cof oherwydd mae briwiau yn gadael creithiau.