Category Archives: Ffilm a Theledu

Lego’r Nadolig

Fe gaetho ni chwip o Oedfa Deulu Nadolig dda yng Nghaersalem ddoe. Llwyth o bobl yr Eglwys yn cyfrannu mewn rhyw ffordd neu gilydd ond y fendith mwyaf oedd cael ugain o bobl newydd yn troi mewn i ddathlu’r Nadolig gyda ni. Clod i Dduw.

Un o’r pethau wnaetho ni baratoi ar gyfer yr Oedfa a’i ddangos am y tro cyntaf bore ddoe oedd y ffilm wych yma yn defnyddio darnau lego wedi eu hanimeiddio i adrodd stori’r Nadolig. Arwel ffeindiodd y gwreiddiol Saesneg ar Youtube a wedyn ni yng Nghaersalem aeth ati i gyfieithu’r sgript a trosleisio’n Gymraeg dros yr animeiddio gwreiddiol.

Dan y ffilm mae dolen i chi ei lawrlwytho os ydych chi am ei defnyddio yn eich eglwys chi, croeso i bawb ei defnyddio dros yr ŵyl.

Lego’r Nadolig from Caersalem Caernarfon on Vimeo.

Lawrlwytho fersiwn .MOV (Quick Time) [90.5Mb]

Tip Jar Vimeo – ydych chi’n teimlo’n hael?

Os nad ydw i’n nodi’n wahanol* mae pob ffilm dwi’n ei gynhyrchu a’u rannu ar y we wedi ei gynhyrchu yn fy amser fy hun, yn defnyddio offer dwi wedi prynu fy hun a hyn oll yn ddi-dal.

O ganlyniad, dwi’n croesawu un o ddatblygiadau diweddaraf Vimeo sef y “Tip Jar”, cyfle i bobl wneud cyfraniadau ariannol bychan i gynhyrchwyr ffilmiau ar-lein fel fi. Mae modd cyfrannu $1 i $500. Dyma esbonio sut mae’n gweithio:

Introducing Vimeo Tip Jar and more Creator Services from Vimeo Staff on Vimeo.

Os ydych chi wedi mwynhau neu werthfawrogi rhai o’r ffilmiau isod dwi wedi cynhyrchu dros y flwyddyn diwethaf byddai eich “tip” yn cael ei werthfawrogi’n fawr ac yn mynd tuag at gostau cynhyrchu mwy o ffilmiau tebyg yn y dyfodol.

Brwydr Caerdegog from Rhys Llwyd on Vimeo.

Parc from Rhys Llwyd on Vimeo.

Stori Tom from Rhys Llwyd on Vimeo.

*Derbyniais dâl i gynhyrchu’r gyfres Torri Syched.

Guto Prys ap Gwynfor ar Sianel 62

Nos Sul, ar Sianel 62 darlledwyd cyfweliad cwbwl wefreiddiol gyda Guto Prys ap Gwynfor. Mewn cyfweliad cymharol fyr a hynny ar y wê byddai disgwyl i’r cynnwys fod yn gymharol arwynebol ac, efallai, ail-adrodd llawer o ystrydebau am y mudiad heddwch a heddychiaeth. Ond beth a gafwyd oedd esboniad cwbwl wefreiddiol o seiliau Cristnogol heddychiaeth ac yn y broses rhannodd Guto rhywfaint o’i dystiolaeth ef ei hun ynglŷn a dod yn Gristion, troi cefn ar genedlaetholdeb treisgar a chofleidio cenedlaetholdeb heddychlon.

Mae’r cyfweliad yma yn haeddu gwrandawiad a dadansoddiad manwl gan bawb gan fod Guto yn un o’r bobl prin yna heddiw sy’n agor y drws i ni i athrylith llawer o genedlaetholdeb Cymreig. Ac mae’r dyfnder yn syniadaeth Guto sydd a’i seiliau yn ei ffydd Gristnogol yn dangos i ni, yn y bon, beth yw diffyg presennol y mudiad cenedlaethol sef ei bod yn ddibris o sylfaen heddychiaeth a chenedlaetholdeb dyrchafol sef Iesu ei hun.

Abermenai

Abermenai yw pen gorllewinol Afon Menai. Ar ochr ogleddol y Fenai, ar Ynys Môn, mae Pwynt Abermenai yn ymestyn tua’r de, gan adael dim ond darn cul o fôr rhwng pen deheuol y pwynt a Chaer Belan ar ochr Arfon i’r Fenai. I’r dwyrain o Bwynt Abermenai, ceir Traeth Abermenai, hefyd Traeth Melynog, ardal helaeth o fwd sy’n ymestyn hyd aber afon Braint. I’r dwyrain o Gaer Belan ar yr ochr draw mae aber y Foryd.

Ceir sawl cyfeiriad at Abermenai yn hanes Cymru. Glaniodd Gruffudd ap Cynan yma yn 1075 wedi croesi o Ddulyn gyda mintai o filwyr hur o Lychlynwyr i geisio hawlio teyrnas Gwynedd. Yn 1144 glaniodd Cadwaladr ap Gruffudd, brawd Owain Gwynedd, yma gyda llynges yr oedd wedi ei llogi gan y Daniaid o ddinas Dulyn. Y flwyddyn cynt, roedd Cadwaladr wedi ei yrru o’i diroedd gan Owain oherwydd ei ran yn llofruddiaeth Anarawd ap Gruffudd, tywysog Deheubarth, a bwriad Cadwaladr oedd defnyddio’r Daniaid i geisio gorfodi Owain i dychwelyd ei diroedd. Ymddengys i Gadwaladr adael y Daniaid a dod i gytundeb a’i frawd.

Ceir cyfeiriad at Abermenai ym mhedwaredd cainc y Mabinogi hefyd.

Cwrw Sinsir – ffilm fer wrth brofi’r Canon 40mm f/2.8 STM

Yn anffodus mae’r awto-ffocws ar fy 50mm f/1.4 wedi torri. Mae modd ei ddefnyddio o hyd wrth gwrs, ac yn sicr mae modd ei ddefnyddio ar gyfer ffilm gan fod rhai ffocysu â llaw beth bynnag ar hynny. Ond dwi angen awto-ffocws ar gyfer lluniau ond doeddwn i ddim am brynu 50mm newydd felly wnes i brynu’r 40mm f/2.8 STM newydd. Mae’n un o lensys “pancake” newydd Canon ac mae’n fach iawn iawn iawn iawn. Er mai ei brynu ar gyfer lluniau wnes i mae’n lens da ar gyfer ffilm hefyd mae’n debyg ac felly heno wnes i arbrofi i weld sut ganlyniadau oedd yn bosib drwyddo a dwi’n eithriadol o bles.

Dyma’r deunydd ches i allan ohono:

Cwrw Sinsir (Canon 40mm f/2.8 STM) from Rhys Llwyd on Vimeo.

Yr unig feirniadaeth sydd gen i yw bod ffocysu’n anodd gan fod y cylch ffocysu’n denau ofnadwy oherwydd, mae’n siŵr, fod y lens cyfan yn fychan iawn. Mae’r modur ffocysu STM sydd tu mewn iddo yn medru gwneud awto-ffocws wrth ffilmio wrth ei ddefnyddio gyda chamerâu diweddaraf Canon fel y 650D. Ond ar y 7D sydd gen i roedd rhaid ffocysu â llaw oedd yn medru fod yn lletchwith gyda’r cylch ffocysu bach. Ond am £150 dyma chi chwip o lens sydd, mewn partneriaeth gyda’r 7D, yn poeri allan ffilm anhygoel.

Nawr i yfed y Cwrw Sinsir yna!

Torri Syched

Dwi heb blygio rhain ers tro felly dyma eu plygio eto. Fy ffilmiau ‘Torri Syched’ sef rhyw fath o mini-pregethau / cyflwyniadau am ffydd ar ffurf ffilmiau byr.

Mwynhewch y gwylio ac os ydych chi eisiau gwybod mwy am y prosiect a cael deunydd trafod sy’n mynd gyda’r ffilmiau porwch draw i www.torrisyched.com

Torri Syched 001 | Derbyniad from Torri Syched on Vimeo.

Torri Syched 002 | Llenwi from Torri Syched on Vimeo.

Torri Syched 003 | Dyfodol from Torri Syched on Vimeo.

Ffilmio i Sianel 62 yn Steddfod yr Urdd

Roedd Eisteddfod yr Urdd yng Nghlynllifon, Dyffryn Nantlle wythnos diwethaf. Dwi heb fod i Steddfod yr Urdd ers rhai blynyddoedd ond gan ei fod ar fy stepen drws wnes i gymryd mantais o haelioni’r Frenhines yn rhoi tamaid o wyliau i ni a mentro draw rhyw ben bob dydd yn ystod yr wythnos. Roeddwn i’n eiddgar i arbrofi gyda chyfres o ffilmiau byr yn dilyn hanes Cymdeithas yr Iaith yn y Steddfod ar gyfer Sianel 62. Mae’r safon yn amrywiol ac yn aml dipyn is na’r hyn dwi fel arfer yn hapus ag e, ond eto maen nhw’n ffilmiau oce ag ystyried fod nhw heb eu ffilmio mewn ‘controled enviroment’ fel petae!

Ffilmiwyd y cyfan ar Canon 7D gyda’r 17-40mm f/4 L lens, torrwyd ar Final Cut Pro a graddiwyd y lliwiau ar Fianel Cut X. Mwynhewch:

Cymdeithas yr Iaith yn Eisteddfod yr Urdd 2012 from Rhys Llwyd on Vimeo.

Sianel 62 yn Eisteddfod yr Urdd | Dydd Llun – Diwrnod y Tagfeydd from Sianel62 | Cymdeithas on Vimeo.

Sianel 62 yn Eisteddfod yr Urdd | Dydd Mawrth – Diwrnod Callia Carwyn from Sianel62 | Cymdeithas on Vimeo.

Sianel 62 yn Eisteddfod yr Urdd | Dydd Mercher – Diwrnod Cynghrair Cymunedau Cymru from Sianel62 | Cymdeithas on Vimeo.

Sianel 62 yn Eisteddfod yr Urdd | Dydd Iau – Diwrnod Cychwyn Taith Tynged yr Iaith from Sianel62 | Cymdeithas on Vimeo.

Sianel 62 yn Eisteddfod yr Urdd | Dydd Gwener – Diwrnod Cyflwyno’r Llyfr Du from Sianel62 | Cymdeithas on Vimeo.

Slow motion ar y Canon 7D

Dwi’n gwybod mod i mynd i gael lot o stick gan deulu a ffrindiau am y ffilm yma. Ond nid fi ddaeth lan a’r syniad. Yn hytrach, roeddwn i wedi fy ysbrydoli ac yn ceisio efelychu’r ffilm yma gan Philip Bloom. Goddefwch y ffilm felly yn enw celfyddyd.

Dwi wedi bod yn arbrofi heno gyda ffilmio mewn slow motion ar y Canon 7D. Roeddwn i wedi bwriadu gwneud saethu mewn 60fps yna ei arafu lawr i 24fps. Yn anffodus fe fues i’n saethu yn 50fsp heb sylwi, mae dal wedi gweithio ond byddai’r effaith yn well os byddai’r clip gwreiddiol yn 60fps. Wnes i saethu gyda f/2.8 felly mae’r shallow deapth of field yn golygu mod i’n mynd mewn a mas o ffocws trwyddo, ond ma’ hynny yn rhan o’r effaith mewn gwirionedd. Hefyd, gan nad oedd neb tu ôl y camera mae’r fframio braidd dros y lle hefyd, ond mae’n gwneud y tro fel arbrawf.

Er nad ydy gwrthruch y ffilm yn ddeniadol mae ansawdd y llun oddi ar y Canon 7D unwaith eto’n wefreiddiol:

Depth of field ddofn: siomedig gyda ffilm y Canon 7D

Canon eXtremePrif gryfder ffilmio gyda DSLRs, fel y Canon 7D, ydy’r manylder wrth saethu gyda depth of field bâs ac/neu mewn golau isel. Mae hyn yn amlwg iawn yn y siots sydd 4.24 i mewn yn fy ffilm Brwydr Caerdegog; saethwyd y siots yna yn defnyddio apeture o f/1.4 yn unig. Ond un o wendidau’r DSLRs wrth saethu ffilm ydy fod llawer o fanylder yn cael ei golli wrth saethu gyda depth of field dwfn – e.e. siots lydan o dirwedd ac yn y blaen. O’i gymharu a’r stwff rhagorol a geir wrth saethu a depth of field bâs, mae’r deunydd sy’n cael ei saethu yn ddwfn yn siomedig braidd a’r deunydd yn “mucky” iawn.

Es am dro heddiw i Borth Nobla ger Aberffraw ar Ynys Môn i arbrofi gyda saethu a depth of field dwfn. Fy lens llydan yw’r Canon 17-40mm f/4.0 L USM. Wele isod fontage o’r hyn wnes i ei ffilmio heddiw:

Fel y gwelwch chi mae’r deunydd yn siomedig braidd o’i gymharu a stwff eraill – e.e. cyfweliadau – dwi wedi ei gael allan o’r Canon 7D. Roedd y stwff yn dod allan o’r camera yn ddiflas iawn ac roedd angen ei drin. Dyma’r gosodiadau wnes i ddefnyddio yn Final Cut X i fywiogi’r llun:

Ond wrth ei drin roedd y llun yn dirywio mewn rhai mannau. Roedd angen miniogi’r llun a bywiogi’r lliwiau ond mae’n ymddangos fod hynny wedi peri i rhyw fath o effaith pixelated ymddangos o amgylch manylder y cymylau a’r brwyni. Dyma drio dangos y gwahaniaeth rhwng y ffilm ddaeth yn awrwd oddi ar y camera a’r deunydd wedi ei drin yn Final Cut X:

Fel y daeth oddi ar y camera


Wedi ei finiogi a'i fywiogi yn Final Cut X

Fel y daeth oddi ar y camera


Wedi ei finiogi a'i fywiogi yn Finacl Cut X

Mae’n ymddangos ei bod hi’n dipyn o gamp cydio ffilm a depth of field ddofn ar y Canon 7D i gymharu a’r stwff a depth of field bâs trawiadol. Rhaid i mi arbrofi mwy.

Llif gwaith presennol ar y Canon 7D

Canon eXtremeBues i’n ffilmio eitem ar gyfer Sianel 62 gyda Ywain Gwynedd (o Frizbee gynt) ddydd Llun. Boi clên. Dwi wrth fy modd yn tynnu lluniau ar fy Nghanon 7D ond dwi yn fy elfen wrth gael cyfle i ffilmio’n defnyddio’r Canon 7D. I chi sydd ddim yn gyfarwydd gyda’r 7D dyma athrylith y peth wedi esbonio’n syml: camera lluniau ydy’r 7D yn y bôn ond ers rhai blynyddoedd nawr mae cwmnïau fel Nikon, ond yn fwyaf pwysig Canon, wedi cynhyrchu camerâu lluniau sydd hefyd yn gwneud ffilm. Canlyniad hyn yw bod modd i amaturiaid fel fi ffilmio stwff ar yr un frame rates a drwy’r un lensys premiwm a rhai o ffilmiau Hollywood! Bellach mae modd ffilmio ffilm safonol gyda gwerth dim mwy na £1k o offer lle cynt roedd rhaid buddsoddi miloedd. Mae’r Canon 7D a’r 5D MKii (a nawr y 5D MKiii) wedi golygu fod y gofod rhwng y proffesiynol a’r amatur wedi ei leihau os nad ei ddileu pan fo’r amatur yn deall sut mae cael y gorau allan o’i gamera.

Dyna gyflwyniad felly, ond diben y blog bost yma oedd dweud rhywfaint am fy llif gwaith ôl-saethu presennol ar y Canon 7D. Dwi’n parhau i olygu ffilm ar Final Cut Pro 7 – dwi ddim wedi cael amser eto i ddeall yn iawn sut mae Final Cut X yn gweithio ar gyfer golygu. Ond mi rydw i wedi dechrau defnyddio Final Cut X ar gyfer graddio a miniogi’r ffilm ar ôl ei olygu. Yn y cyswllt yna mae Final Cut X yn cynnig llif gwaith tipyn gwell a chyflymach na gweithio gyda Color (oedd yn rhaglen ar wahân) gyda Final Cut Pro 7.

Felly, fy llif gwaith ar hyn o bryd gyda’r Canon 7D ydy:

  1. Deunydd llun a sain mewn i Final Cut Pro 7
  2. Rhedeg y cyfan trwy Pluraleyes er mwyn syncio’r llun a’r sain
  3. Gwneud yr holl olygu yn Final Cut Pro 7 ac yna ei allbynnu mewn ansawdd llawn
  4. Gollwng allbwn Final Cut Pro 7 mewn i Final Cut X
  5. Graddio’r lliw yn Final Cut X
  6. Miniogi’r llun yn Final Cut X
  7. Ei allbynnu’n derfynol o Final Cut X (mewn 720p ar gyfer stwff i’r we fel rheol)

Fe flogiais wythnos diwethaf am bwysigrwydd trin lluniau llonydd ar y cyfrifiadur ar ôl tynnu’r llun, math o ddyblygu digidol. Mae’r un peth yn wir am luniau symudol (ffilm) oddi ar y Canon 7D. Wele isod y gwahaniaeth rhwng y ffilm ddaeth oddi ar y Canon yn amrwd a’r ffilm derfynol. Cofiwch mai dim ond screen shots ydyn nhw, mae ansawdd y tri dipyn uwch go-iawn, ond mae’n rhoi syniad.

Cofiwch adael unrhyw gwestiynau.

Amrwd oddi ar y Canon 7D

Lliwiau wedi eu graddio

Lliwiau wedi eu graddio a'r llun wedi'i finiogi