Category Archives: Ffilm a Theledu

Slow motion ar y Canon 7D

Dwi’n gwybod mod i mynd i gael lot o stick gan deulu a ffrindiau am y ffilm yma. Ond nid fi ddaeth lan a’r syniad. Yn hytrach, roeddwn i wedi fy ysbrydoli ac yn ceisio efelychu’r ffilm yma gan Philip Bloom. Goddefwch y ffilm felly yn enw celfyddyd.

Dwi wedi bod yn arbrofi heno gyda ffilmio mewn slow motion ar y Canon 7D. Roeddwn i wedi bwriadu gwneud saethu mewn 60fps yna ei arafu lawr i 24fps. Yn anffodus fe fues i’n saethu yn 50fsp heb sylwi, mae dal wedi gweithio ond byddai’r effaith yn well os byddai’r clip gwreiddiol yn 60fps. Wnes i saethu gyda f/2.8 felly mae’r shallow deapth of field yn golygu mod i’n mynd mewn a mas o ffocws trwyddo, ond ma’ hynny yn rhan o’r effaith mewn gwirionedd. Hefyd, gan nad oedd neb tu ôl y camera mae’r fframio braidd dros y lle hefyd, ond mae’n gwneud y tro fel arbrawf.

Er nad ydy gwrthruch y ffilm yn ddeniadol mae ansawdd y llun oddi ar y Canon 7D unwaith eto’n wefreiddiol:

Depth of field ddofn: siomedig gyda ffilm y Canon 7D

Canon eXtremePrif gryfder ffilmio gyda DSLRs, fel y Canon 7D, ydy’r manylder wrth saethu gyda depth of field bâs ac/neu mewn golau isel. Mae hyn yn amlwg iawn yn y siots sydd 4.24 i mewn yn fy ffilm Brwydr Caerdegog; saethwyd y siots yna yn defnyddio apeture o f/1.4 yn unig. Ond un o wendidau’r DSLRs wrth saethu ffilm ydy fod llawer o fanylder yn cael ei golli wrth saethu gyda depth of field dwfn – e.e. siots lydan o dirwedd ac yn y blaen. O’i gymharu a’r stwff rhagorol a geir wrth saethu a depth of field bâs, mae’r deunydd sy’n cael ei saethu yn ddwfn yn siomedig braidd a’r deunydd yn “mucky” iawn.

Es am dro heddiw i Borth Nobla ger Aberffraw ar Ynys Môn i arbrofi gyda saethu a depth of field dwfn. Fy lens llydan yw’r Canon 17-40mm f/4.0 L USM. Wele isod fontage o’r hyn wnes i ei ffilmio heddiw:

Fel y gwelwch chi mae’r deunydd yn siomedig braidd o’i gymharu a stwff eraill – e.e. cyfweliadau – dwi wedi ei gael allan o’r Canon 7D. Roedd y stwff yn dod allan o’r camera yn ddiflas iawn ac roedd angen ei drin. Dyma’r gosodiadau wnes i ddefnyddio yn Final Cut X i fywiogi’r llun:

Ond wrth ei drin roedd y llun yn dirywio mewn rhai mannau. Roedd angen miniogi’r llun a bywiogi’r lliwiau ond mae’n ymddangos fod hynny wedi peri i rhyw fath o effaith pixelated ymddangos o amgylch manylder y cymylau a’r brwyni. Dyma drio dangos y gwahaniaeth rhwng y ffilm ddaeth yn awrwd oddi ar y camera a’r deunydd wedi ei drin yn Final Cut X:

Fel y daeth oddi ar y camera


Wedi ei finiogi a'i fywiogi yn Final Cut X

Fel y daeth oddi ar y camera


Wedi ei finiogi a'i fywiogi yn Finacl Cut X

Mae’n ymddangos ei bod hi’n dipyn o gamp cydio ffilm a depth of field ddofn ar y Canon 7D i gymharu a’r stwff a depth of field bâs trawiadol. Rhaid i mi arbrofi mwy.

Llif gwaith presennol ar y Canon 7D

Canon eXtremeBues i’n ffilmio eitem ar gyfer Sianel 62 gyda Ywain Gwynedd (o Frizbee gynt) ddydd Llun. Boi clên. Dwi wrth fy modd yn tynnu lluniau ar fy Nghanon 7D ond dwi yn fy elfen wrth gael cyfle i ffilmio’n defnyddio’r Canon 7D. I chi sydd ddim yn gyfarwydd gyda’r 7D dyma athrylith y peth wedi esbonio’n syml: camera lluniau ydy’r 7D yn y bôn ond ers rhai blynyddoedd nawr mae cwmnïau fel Nikon, ond yn fwyaf pwysig Canon, wedi cynhyrchu camerâu lluniau sydd hefyd yn gwneud ffilm. Canlyniad hyn yw bod modd i amaturiaid fel fi ffilmio stwff ar yr un frame rates a drwy’r un lensys premiwm a rhai o ffilmiau Hollywood! Bellach mae modd ffilmio ffilm safonol gyda gwerth dim mwy na £1k o offer lle cynt roedd rhaid buddsoddi miloedd. Mae’r Canon 7D a’r 5D MKii (a nawr y 5D MKiii) wedi golygu fod y gofod rhwng y proffesiynol a’r amatur wedi ei leihau os nad ei ddileu pan fo’r amatur yn deall sut mae cael y gorau allan o’i gamera.

Dyna gyflwyniad felly, ond diben y blog bost yma oedd dweud rhywfaint am fy llif gwaith ôl-saethu presennol ar y Canon 7D. Dwi’n parhau i olygu ffilm ar Final Cut Pro 7 – dwi ddim wedi cael amser eto i ddeall yn iawn sut mae Final Cut X yn gweithio ar gyfer golygu. Ond mi rydw i wedi dechrau defnyddio Final Cut X ar gyfer graddio a miniogi’r ffilm ar ôl ei olygu. Yn y cyswllt yna mae Final Cut X yn cynnig llif gwaith tipyn gwell a chyflymach na gweithio gyda Color (oedd yn rhaglen ar wahân) gyda Final Cut Pro 7.

Felly, fy llif gwaith ar hyn o bryd gyda’r Canon 7D ydy:

  1. Deunydd llun a sain mewn i Final Cut Pro 7
  2. Rhedeg y cyfan trwy Pluraleyes er mwyn syncio’r llun a’r sain
  3. Gwneud yr holl olygu yn Final Cut Pro 7 ac yna ei allbynnu mewn ansawdd llawn
  4. Gollwng allbwn Final Cut Pro 7 mewn i Final Cut X
  5. Graddio’r lliw yn Final Cut X
  6. Miniogi’r llun yn Final Cut X
  7. Ei allbynnu’n derfynol o Final Cut X (mewn 720p ar gyfer stwff i’r we fel rheol)

Fe flogiais wythnos diwethaf am bwysigrwydd trin lluniau llonydd ar y cyfrifiadur ar ôl tynnu’r llun, math o ddyblygu digidol. Mae’r un peth yn wir am luniau symudol (ffilm) oddi ar y Canon 7D. Wele isod y gwahaniaeth rhwng y ffilm ddaeth oddi ar y Canon yn amrwd a’r ffilm derfynol. Cofiwch mai dim ond screen shots ydyn nhw, mae ansawdd y tri dipyn uwch go-iawn, ond mae’n rhoi syniad.

Cofiwch adael unrhyw gwestiynau.

Amrwd oddi ar y Canon 7D

Lliwiau wedi eu graddio

Lliwiau wedi eu graddio a'r llun wedi'i finiogi

Stori Tom

Dyma’r ffilm ddiweddaraf dwi wedi gynhyrchu. Tom, un o’n aelodau ni yng Nghaersalem Caernarfon, yn rhannu am ei ffydd. Beth sy’n wych am stori Tom yw fod ei ffydd wedi’i alluogu i drechu ei broblem alcoholiaeth – mae wedi’i iachau. Mae stori Tom yn diriaethu’r ffydd Gristnogol dyna pam ei fod yn gymaint o annogaeth i Gristnogion ac yn gymaint o her i amheuwyr.

Stori Tom from Rhys Llwyd on Vimeo.

Lansio Torri Syched 003 | Dyfodol

Wnes i ryddhau Torri Syched 003 ar y wefan rai wythnosau yn ôl ond heb gael amser tan nawr i’w blygio. Dyma’r drydedd yn ein cyfres o ffilmiau byr yn trafod ffydd. Thema’r ffilm yma ydy’r modd rydym ni i gyd yn hoffi gwybod beth sydd rownd y gornel nesaf, am wybod sut mae’r stori’n gorffen. Ond mae ein bywydau ni, ar y cyfan, yn ansicr – dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd fory gan fod y byd yma’n taflu pob math o bethau annisgwyl ac anodd i’n cyfeiriad. Mae’r ansicrwydd yma ynglŷn â’n dyfodol yn ein harwain i bryderu. Duw sy’n dal ein dyfodol ac felly drwy ymddiried ein dyfodol iddo fe gallwn ni gael ein rhyddhau i fwynhau bywyd heddiw yn ei gyflawnder.

Mae ychydig fanylion am y cynhyrchu dan y ffilm. Cofiwch hefyd fynd draw i wefan Torri Syched i wylio Torri Syched 001 a 002 os nad ydych chi wedi gweld hwnnw eto. Mwynhewch:

Ffilmiwyd yn Nantgaredig a Merthyr Tudfil ar yr 23ain o Dachwedd 2010.

Cyfrannwyr:
Rhys Llwyd: Awdur, cyflwyno a golygu fideo.
Aled Ifan: Cynhyrchu.
Iwan England: Cyfarwyddo, camera a sain.

Diolch i:
Geraint Tudur ac Undeb yr Annibynwyr, Mari Fflur, Cynan Llwyd, Menna Machreth, teulu Aled, Eglwys Bresbyteraidd Cymru a Vue.

Nodiadau technegol:
Ffilmiwyd ar Panasonic AG-HPX171E mewn HD a’i olygu ar Final Cut Studio.

Dadl Cylch yr Iaith yn adlais o ddadl Adfer?

Yn ôl fy arfer fe es i ddyfroedd dyfnion bore ‘ma ar Twitter. Wnes i fynegi fy marn nad oedd un rhes hir o jôcs brwnt a hiwmor budur o’r rheidrwydd yn gwneud comedi dda. Y cyd-destun oedd fod un comedïwr Cymraeg wedi cyhuddo Peter Hughes Griffiths o siarad 100% “b****s”. Dyma fi’n llawn annoethineb yn ymateb drwy ddweud fod 100% o’i gomedi ef yn dibynnu ar regi neu brynti! Yn naturiol felly daeth rhai i’r casgliad mod i’n ochri gyda Peter Hughes Griffiths yn y ddadl purdeb ieithyddol ar Radio Cymru ac S4C. Dydw i ddim. Rydw i’n credu’n gryf y dylai Radio Cymru ac S4C fod yn wasanaethau uniaith Gymraeg ond tu hwnt i hynny dwi ddim yn credu fod purdeb ieithyddol o dragwyddol bwys. Mae cynnal safon iaith yn bwysig ond er mwyn parhad yr iaith fel cyfrwng dydd i ddydd, yn arbennig mewn diwylliant poblogaidd, mae’n rhaid arfer iaith lafar naturiol hefyd. Yn bersonol dwi’n gorfod gwneud ychydig o’r ddau beth. Gyda’r gwaith PhD ac ati dwi’n gorfod defnyddio Cymraeg safonol ond wedyn yn fy ngwaith dydd i ddydd fel Gweinidog yng Nghaernarfon dwi’n gorfod ystwytho fy Nghymraeg – aneffeithiol iawn fyddai fy ngweinidogaeth taswn ni’n siarad efo pobl Dre fel llyfr. “Euthum yn bopeth i bawb” fel y dywedodd yr Apostol Paul! Rhywbeth sy’n rhaid i Radio Cymru wneud.

Er na wnes i glywed Peter Hughes Griffiths ar Taro’r Post wythnos diwethaf dwi ar ddeall mae’r hyn wnaeth gythruddo’r rhan fwyaf o bobl oedd fod aelodau Cylch yr Iaith yn portreadu eu hunain fel y ‘gweddill ffyddlon’ a ‘cheidwaid y safon’ ac mae nhw, a nhw yn unig, oedd a’r hawl i nodi beth oedd y safon. Pwy oedd mewn, a pwy oedd mas. Pwy oedd yn dderbyniedig, a phwy oedd yn annerbyniol.

Wrth i’r drafodaeth ar Twitter ddatblygu cofiais fod llawer o’r drafodaeth yma yn debyg iawn i’r ddadl a ddigwyddodd rhwng R. Tudur Jones (testun fy PhD) ac arweinwyr Mudiad Adfer yn 1976. Ac nid cyd-ddigwyddiad yw hi wrth gwrs mae arweinwyr Adfer yn yr 1970au, yn fwy na heb, ydy arweinwyr Cylch yr Iaith heddiw. Cyhoeddodd Adfer lyfr gan Emyr Llywelyn o’r enw ‘Adfer a’r Fro Gymraeg’ yn 1976 ac fe gyhoeddodd Tudur Jones adolygiad ohoni, adolygiad oedd yn rhybuddio rhag rhai o beryglon Adfer ac efallai Cylch yr Iaith heddiw. Teitl yr adolygiad, yn dra ddadleuol, oedd ‘Cysgod Y Swastika’.

Yn yr adolygiad y mae Tudur Jones yn mynd ati i bortreadu ideoleg Adfer fel petai’n addasiad Cymreig o ideoleg Hitler a’r Natsïaid. Noda fod y gyfrol yn llawn adleisiau o athroniaethau tramor Comte, Hegel, Fichte, Schelling ac Alfred Rosenberg cyn mynd ymlaen i nodi i’r traddodiad athronyddol yma ‘gyrraedd ei bendraw erchyll yng ngormes y Drydedd Reich’. Canolbwynt beirniadaeth Tudur Jones oedd defnydd yr awdur o’r cysyniad o “eneidfaeth”. Cymdeithas y genedl, yn ôl yr awdur, ydy’r man lle llunnir ystyr a lle chanfyddir canllawiau i fywyd. ‘Cymru yw’r ysbryd yma a fu’n llifo drwy ddynion cyn fy mod,’ meddai. Dadleua Tudur Jones fod y syniad yma am eneidfaeth yn ‘allweddol bwysig’ i ddeall dadl Adfer oherwydd ‘trwy gymorth yr eneidfaeth y gellir gwahaniaethu Cymry ffug oddi wrth Gymry iawn.’

Mae Tudur Jones yn gweld methiant Adfer i ddiffinio ac esbonio beth yn union yw natur yr eneidfaeth yn wendid mawr oherwydd drwy drafod y cyfan yn amwys cyhudda arweinwyr Adfer o hunan-apwyntio eu hunain yn ddehonglwr yr eneidfaeth. ‘Mae’n eithriadol bwysig felly inni wybod,’ medd Tudur Jones, ‘o ba ddefnyddiau y gwnaethpwyd yr eneidfaeth. Ond ofer holi. Ni ddatgelir y gyfrinach. Emyr Llywelyn yn unig a ŵyr beth yn union ydyw. Mae’n rhy gyfriniol i’w fynegi mewn geiriau.’ Er enghraifft, pa fath ddiwylliant sy’n dderbyniol yn ôl safonau’r eneidfaeth? ‘Dim ond yr hyn sy’n gywir ac yn unol â’n traddodiad a’n hanes sydd yn dderbyniol yn y Fro Gymraeg’ medd Emyr Llywelyn.

Derbyniodd Tudur Jones gais gan Wasg Gomer yn 1981 i gyfieithu’r adolygiad i’w chynnwys mewn pecyn addysgol am hunaniaeth Gymreig, ond mynegodd elfen o siom gydag ef ei hun: ‘I am not sure’, meddai, ‘whether I am happy to see this old controversy revived. My two articles all but destroyed Emyr Llewelyn – and it certainly put paid to Adfer.’ Noda hefyd ei fod yn gresynu fod ei adolygiad wedi llesteirio ymgyrchoedd Adfer, rai ohonynt yr oedd ef mewn gwirionedd yn eu cefnogi. Meddai; ‘I regret now that I did not make it clearer at the time that many of the practical aims of Adfer were laudable enough and that what I objected to was the attempt to justify its actions by a pernicious philosophy.’

Mae hyn i gyd yn berthnasol i’r ddadl wythnos diwethaf am Cylch yr Iaith oherwydd mae Cylch yr Iaith, fel Adfer, yn amwys iawn ynglŷn a lle mae tynnu’r llinell. Beth sy’n dderbyniol? Beth sy’n annerbyniol? A pwy sydd i benderfynu hyn? Ond hefyd, mae poethder y ddadl wedi dallu’r ddwy ochr, fel a ddigwyddodd yn yr 1970au, i weld fod gan y ddau ochr bwyntiau digon teg.

Popoleg – Rhan 1

Fe wnaethom ni ddechrau ar gyfres newydd yn Caersalem, Caernarfon bore ‘ma. Popoleg yw enw’r gyfres, y syniad yw gadael i ganeuon pop Cymraeg ofyn y cwestiynnau ond wedyn edrych yn y Beibl am yr atebion. Fe wnaethom ni ddechrau bore ‘ma drwy ystyried her y linell ‘Mi glywais sôn fod pawb yn blant i Dduw’ allan o’r gân Hawl i Fyw gan Dafydd Iwan.

Fe wnaetho’m ni ystyried tri peth:

  1. Y ffaith fod pawb yn blant i Dduw yn yr ystyr fod Duw wedi ein creu ni i gyd yn gydradd. (Genesis 1:26 ac Actau 17:25)
  2. Edrych yn benodol beth mae’r Testament Newydd yn dweud mae e’n ei olygu i fod yn blentyn i Dduw drwy ffydd. (Galatiaid 3:26, Rhufeiniaid 8:14 a Rhufeiniaid 9:8)
  3. Ac yn olaf, her y Beibl o sut dylai Plant Duw fyw yng ngolau’r ffaith eu bod nhw’n blant ac felly yn llysgenhadon i Dduw. (Effesiaid 5:1-4)

Mae modd gwrando ar y neges yn ei gyfanrwydd ar wefan Caersalem fan YMA, neu drwy danysgrifio i’r podlediad trwy iTunes drwy ddilyn y ddolem YMA.

Dyma promo ffilm y gyfres:

Popoleg – Gwanwyn 2011 from Caersalem Caernarfon on Vimeo.