Category Archives: Cerddoriaeth

Adolygiad: Hunan-anghofiant Brychan Llyr

hunan-anghofiant brychan llyrMae fy ffrindiau a fy nheulu yn gwybod fod gen i ychydig bach o obsesiwn gyda Jess. Mae’n rhyfedd a dweud y gwir gan mod i rhy ifanc i’w cofio yn eu hanterth gan mai dim ond 10 oeddwn i pan wnaethon nhw chwalu yn 1995. Des i ar draws Jess yn gyntaf pan wnaethon nhw ail-ffurfio i chwarae yng ngŵyl y Faenol yn 2000 a byth ers hynny dwi wedi fy nghyfareddu. Ers hynny dwi wedi bod yn ddigon ffodus i’w gweld yn fyw cwpwl o weithie gan gynnwys yng Nghlwb Rygbi Llanulltid Fawr yn Eisteddfod 2012. Roedden nhw’n anhygoel yn y gig yn Llanulltid Fawr, yn wirioneddol arbennig, noson fythgofiadwy.

P’nawma wnes i brynu hunan-anghofiant Brychan Llyr, dechrau ei ddarllen a’i orffen mewn diwrnod! Dydw i ddim fel rheol yn gallu darllen am gyfnodau hir, felly mae hyn yn gamp! Mae’r teitl clyfar yn deillio o dro trist ac anodd yn hanes Brychan, sef ei frwydr ag alcoholiaeth a dyna’r hanes a geir reit ar ddechrau’r llyfr. Roeddwn i’n gwybod ei fod wedi bod yn sâl yn y blynyddoedd diwethaf, yn sâl iawn, ond wyddwn i ddim ei fod wedi bod ar beiriant cynnal bywyd am 28 diwrnod. Doedd dim syniad gen i ein bod ni mor agos a hynny i golli trysor cenedlaethol, ond yn fwyaf pwysig cymeriad mor hoffus. Mae’n wych gweld fod Brychan wedi gwella o’r cyflwr bellach, mae wedi goroesi.

Mae Brychan yn cynnig testun llyfr difyr gan fod ganddo gymaint o ddiddordebau gwahanol nad sydd fel arfer yn gor-gyffwrdd. Mae’n dod o deulu amaethyddol, yn fab i Brifardd, yn canu i Jess, wedi cael gyrfa lwyddiannus fel artist unigol yn yr Eidal ac yn rasio ceffylau. Unigryw. Brychan Llyr Jess oedd yn ennyn fy niddordeb i, ac un o ychydig wendidau’r llyfr o’m rhan i yw fod dim mwy o hanes y band. Does dim o hanes y recordio, dim trafod gan Brychan pa record gan Jess oedd e’n fwyaf balch ohono ayyb… byddai manylion felly wedi bod yn ddifyr i ffans fel fi.

Un peth dwi’n ei hoffi’n fawr am y llyfr yw ei fod wedi ei sgwennu mewn tafodiaith. Nid Brychan Llyr heb ei acen. Mae un rhan yn dechrau fel hyn: “Part mowr iawn o’r ffordd dwi’n meddwl ‘nôl ….” Mae’r llyfr yn llawn troeon trwstan doniol hefyd; megis ei antur unwaith mewn i ystafell wely un o’i chwiorydd a treial ‘mlan teits a dychryn am ei fywyd ar ôl gweld blew ei goesau’n torri trwy’r teits. Yna’r tro cafodd ei arestio am gael hashish yn ei feddiant… yn nhŷ’r cyffredin o bobman!

Er i mi brynu’r llyfr fel fanboy Jess mae’n siŵr mae rhannau gorau’r llyfr yw’r rhannau mwy personol. Mae’r hanes ar y dechrau am ei salwch diweddar yn ddirdynnol. Yr hanes am gyfarfod Sian ei wraig mor annwyl ac yna sôn am eu gofal at ei gilydd yn gyntaf trwy ei chancr hi ac yna ei salwch ef gyda’r ddiod. Mae yr holl ddweud am ei Dad, Dic yr Hendre, yn arbennig iawn hefyd gyda’r ffaith syfrdanol fod Brychan wedi’i eni yn yr un ystafell yn nhŷ fferm yr Hendre a bu ei Dad farw.

Hunan-anghofiant i gofio amdano. Nawr, ma ishe Jess sortio’i hunen allan a rhyddhau’r Best of yna!

Eisteddfod 2013

IMG_0077Dwi newydd ddychwelyd o’r Eisteddfod ac roedd hi’n wythnos braf iawn. Fe wnes i dreulio’r rhan fwyaf o’r wythnos yn cynorthwyo Cymdeithas yr Iaith – yn tynnu lluniau o’r digwyddiadau ar y maes yn ystod y dydd a gwneud peth stiwardio a rheoli llwyfan yn gigs y Gymdeithas gyda’r nos. Am flynyddoedd roeddwn i’n rhan o dîm y Gorlan, dwi heb helpu’r Gorlan ers rhai blynyddoedd bellach ond roedd hi’n wych clywed fod tîm da o wirfoddolwyr yna eleni a bod y gwaith wedi mynd yn dda – mae eu ffydd yn Nuw a’u cariad yn gwasanaethu yn yr Eisteddfod i’w edmygu.

Nid yw Cymru ar werth

IMG_0428Uchafbwynt gwleidyddol yr Eisteddfod i mi oedd protest y Gymdeithas ar y dydd Gwener yn erbyn datblygiadau tai anghynaladwy Cyngor Sir Ddinbych. Mae’r Gymdeithas yn deall fod angen peth datblygu tai a hynny ar sail anghenion lleol ond mae cynlluniau Cyngor Sir Ddinbych fel sawl sir arall yn anghynaladwy ac yn datblygu ar gyfer mewnlifiad yn hytrach na datblygu i warchod a chryfhau’r cymunedau lleol sydd eisoes yna. Fe wnaeth Menna a Toni siarad yn danbaid ac yn wych a da oedd cael cyfle i wneud ychydig o brotestio caled drwy weithredu’n ddi-drais ar stondin Cyngor Sir Ddinbych.

Cristion

clawr-medihydref13Bues i hefyd yn gwneud ambell i beth ar stondin yr Eglwysi. Roedden ni’n cyhoeddi rhifyn cyntaf y cylchgrawn CRISTION ar ei newydd wedd a dan olygyddiaeth Menna, Gwenno Mererid a fi. Dwi’n bles iawn yda’r rhifyn cyntaf. Ewch draw i wefan cristion.net i danysgrifio – dim ond £15 y flwyddyn a derbyn y 6 rhifyn trwy’r post am hynny yn unig! Bargen! Sesiwn arall fues i’n rhan ohono ar stondin yr eglwysi oedd cadeirio sgwrs banel gyda Peter Thomas, Ysgrifennydd y Bedyddwyr, Geraint Tudur, Ysgrifennydd Cyffredinol yr Annibynwyr a Barry Morgan, Archesgob Cymru. Y duedd gyda sesiynau fel hyn yw mynd i siarad siop a thrafod strwythurau eglwysig a’r ffordd ymlaen ayyb… Roeddwn i am osgoi hynny felly wnes i eu holi ynglŷn â’u ffydd bersonol nhw a’r dylanwadau arnyn nhw fel unigolion yn hytrach na nhw yn eu harswydus swyddi. Dwi’n meddwl i’r sesiwn fod yn ddifyr a buddiol er mod i’n synhwyro y byddai’r tri wedi bod yn fwy cyfforddus yn siarad siop na thrafod eu ffydd bersonol nhw eu hunain!

John Gwilym Jones

IMG_9860Y digwyddiad arall fues i’n rhan ohoni oedd sesiwn wedi ei threfnu gan Undodwyr Cymru er mwyn trafod ffydd ar y we. Roeddwn i, Arfon Jones o beibl.net, Sian Howys, Wyn Thomas (Undodwr), Cathrin Daniel (Cymorth Cristnogol), Mabon ap Gwynfor a John Gwilym Jones (Cristnogaeth 21) yn cymryd rhan gyda Carwyn Towyn (Undodwyr Cymru) yn cadeirio. Ar y cyfan roedd yn sesiwn digon difyr ond yr hyn wnaeth aros gyda mi oedd unig gyfraniad John Gwilym Jones i’r drafodaeth lle wadodd arbenigrwydd ac unigrywiaeth Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr gan bledio’n hytrach gyffredinoliaeth (universalism) bur. Roedd ei weledigaeth wrth gwrs yn gyson a barn yr Undodwyr wnaeth drefnu’r sesiwn ond yn gam pendant a chlir i ffwrdd o bob diffiniad o Gristnogaeth. Roedd John Gwilym yn dyheu i fwyfwy o Gristnogion Cymru ddilyn ei weledigaeth ef, ond i mi mae’n galondid fod y math yma o weledigaeth dim ond yn dangos ei hun ymysg y genhedlaeth hŷn tra bod y genhedlaeth iau o Gristnogion yng Nghymru yn parhau i garu a dilyn Iesu Grist fel y ffordd, y gwirionedd a’r bywyd.

Gigs Cymdeithas yr Iaith

IMG_0182Trefnwyd gigs Cymdeithas yr Iaith eleni gan y Schiavone’s – Corleone’s y Sin Roc Gymraeg. Roedd y rhan fwyaf o gigs wedi gwerthu allan a’r lleill o leiaf 75% llawn. Yn wyneb y ffaith fod y steddfod yn trefnu gigs ar faes yr Eisteddfod ac yn dal pobl ar y maes yn hytrach na mynd i’r gymuned leol roedd gigs y Gymdeithas yn llwyddiant ysgubol. Un o uchafbwyntiau’r wythnos i mi oedd set Geraint Jarman ar y nos Iau. Wedi dweud hynny fe wnes i fwynhau ei berfformiad yng Nghastell Caernarfon ychydig wythnos yn ôl yn fwy, ond yn yr Eisteddfod fe wnaeth e berfformio rhai caneuon wnaeth e adael allan yng Nghaernarfon fel Ethiopia Newydd, Paid Dwyn Dy Hun i’r Dwfn ac yna gorffen ei set ychydig yn annisgwyl gyda’r clasur Nos Da Saunders. Fy unig gŵyn yw nad yw fy ffefryn i, Cwn Hela, yn rhan o’i set byw ar hyn o bryd. I mi mae Geraint Jarman a’i fand o gerddorion proffesiynol ben ag ysgwyddau uwchben unrhyw beth arall yn y Sin Roc Gymraeg ar hyn o bryd. Gobeithio y bydd yn parhau i gigio’n gyson dros y blynyddoedd i ddod. Hefyd, dwi’n meddwl, efallai fod Peredur ap Gwynedd wedi goddiweddyd Chris Lewis (Jess) fel fy hoff gitarydd Cymraeg!

Swnami a Yr Ods

copa+cd019mO ran y bandiau ifanc dwi’n meddwl mai’r uchafbwynt i mi oedd set Swnami ar y nos Sadwrn olaf. Roedden nhw mor mor dyn ac mae ganddyn nhw ganeuon bachog. Mae dweud hyn yn rhywfaint o ystrydeb bellach ond am yr hyn maen nhw’n eu gwneud maen nhw gystal ag unrhyw beth yn yr iaith fain. Daeth yr wythnos i ben gyda set Yr Ods – roedd hwn eto yn berfformiad proffesiynol ac arbennig ganddyn nhw yn arbennig gan gofio eu bod nhw wedi perfformio ar y maes ychydig oriau yn gynt ac yn maes b y noson flaenorol. Byddai llawer o fandiau Cymraeg jest wedi yfed gormod erbyn y pwynt yma, wedi blino a ddim yn trafferthu rhoi perfformiad da – ond perfformiad gwych rhoddodd Yr Ods i orffen yr wythnos. Gan fod gymaint o’r band ynghlwm a phrosiectau eraill (cerddorol a jest gwaith dydd i ddydd teledu/radio ayyb….) roeddwn i’n ofni ychydig fisoedd yn ôl y byddai’r Ods yn dod i ben neu o leiaf yn rhygnu yn ei flaen heb gyfeiriad. Ond gyda LP gwych newydd allan a’r perfformiad byw gyda’r gorau yn y Sin Gymraeg ar hyn o bryd mae’n dda gweld Yr Ods yn mynd o nerth i nerth. Ond, ar nodyn personol, dwi’n siomedig fod fy hoff gan i Nid Teledu Oedd y Bai, ddim yn eu set byw bellach.

Hwyl – tan Eisteddfod Llanelli 2014!

Wele, cawsom y Meseia (fersiwn llawn)

Dyma un o garolau Dafydd Jones o Gaeo (1711-1777) ac un o fy hoff garolau. Fel rheol dim ond y tri phennill coch sydd wedi eu cynnwys yn y llyfr emynau neu’r llyfr carolau. Diolch i Andras am dynnu fy sylw at y fersiwn llawn llynedd. Ac os ydy rhywun isho ei chwarae hi ar y gitar dyma chi: Wele, cawsom y Meseia (Chords Gitar – PDF). Diolch eto o Andras am y cordiau!

Wele, cawsom y Meseia,
Cyfaill gwerthfawroca’ ‘rioed;
Darfu i Moses a’r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod:
Iesu yw, gwir Fab Duw,
Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.

Dyma’r hen addewid hyfryd
‘Sîgodd siôl y sarff yn friw;
Caed tragwyddol fuddugoliaeth
Ar farwolaeth, trwy Fab Duw:
Trwy fy oes, ym mhob loes,
F’enaid, cân am waed y groes.

Hwn yw’r Oen, ar ben Calfaria
Aeth i’r lladdfa yn ein lle,
Swm ein dyled fawr a dalodd
Ac fe groesodd filiau’r ne’;
Trwy ei waed, inni caed
Bythol heddwch a rhyddhad.

Ca’dd cyfiawnder ei fodloni,
Ca’dd y gyfraith ei chwblhau;
Duw a ninnau, fu’n elynol,
Yn heddychol gwnaed y ddau:
Fe wnaeth ben; ‘nawr mae’r llen
Wedi rhwygo o’r ddae’r i’r nen.

Dyma gyfaill haedda ‘i garu,
A’i glodfori’n fwy nag un:
Prynu’n bywyd, talu’n dyled,
A’n glanhau â’i waed ei hun:
Frodyr, dewch, llawenhewch,
Diolchwch iddo, byth na thewch!

Dyma’r Cyfaill mwyn a’n cofiodd
Ac a’n carodd cyn bod byd;
Dyma’r Oen a ddaeth o’r nefoedd,
Ac a’n prynodd ni mor ddrud:
Tra bôm fyw, dyled yw
Cofio cariad pur Mab Duw.

Paratown am chwyldro achos NI yw y byd!

Ddeg mlynedd yn ôl es i fy mhrotest Cymdeithas yr Iaith gyntaf. Mae gen i gof plentyn o fynd i rai pan oeddwn i’n blentyn ond dyma oedd y brotest gyntaf i fi fynd gan mod i wedi dewis mynd. Roeddwn i’n ddwy ar bymtheg a phrotest oedd hi i nodi pen-blwydd y Gymdeithas yn 40 ac i alw am Ddeddf Iaith Newydd. Y diwrnod hwnnw ces i fy nghyfareddu gan wefr y mudiad ac ers hynny dwi wedi bod yn ymwneud ac ymgyrchoedd, protestiadau a gigs y Gymdeithas bron a bod pob gwyliau a phob penwythnos rhydd oedd gen i. Roedd penwythnos yma felly, dathliadau’r Gymdeithas yn 50, yn garreg filltir bwysig i mi yn bersonol yn ogystal â’r Gymdeithas yn gyffredinol.

I bobl sydd ddim wedi ymwneud a Chymdeithas yr Iaith mae’n anodd iawn disgrifio naws a psyche y mudiad gan ei fod mor wahanol i bopeth arall sydd gyda ni yng Nghymru. Efallai fod yr hyn sgwennodd Ffred Ffransis ar ei dudalen Facebook heddiw yn crynhoi’r peth yn effeithiol:

Pobl yn holi pam fod nifer yn barod i stiwardio oriau hir yn Hanner Cant. Wrth gwrs mai rhan o’r ymateb yw teyrngarwch at Gymdeithas yr Iaith. Ond, does dim digon o sylw’n cael ei roi i’r gair cyntaf yn nheitl y mudiad “Cymdeithas”. Nid corff, nid sefydliad, nid bwrdd, nid cwango ond cymdeithas o bobl. Rhoddodd pobl oriau hir o lafur gwirfoddol a llawen yn bennaf fel teyrngarwch i ymdrech a gwaith anhygoel y trefnwyr fel Owain Schiavone, Huw Lewis, Iwan Standley, Dewi Snelson, Llyr Bermo a Gwyn. O deyrngarwch i’w hymroddiad nhw y gweithion ni. Run fath pan fydd pobl o flaen llysoedd ac yn wynebu canlyniadau mewn ymgyrchoedd – mae teulu a ffrindiau’n ymroi mewn teyrngarwch. Cadwn y bwyslais ar yr ‘iaith’, ond rhown bwyslais gyfartal ar ‘gymdeithas’.

Dyna Ffred yn taro’r hoelen ar ei phen. Yn aml, pan fydd pobl yn mynd yn rhwystredig gyda’r Gymdeithas am wahanol resymau, maen nhw’n anghofio mae nid sefydliad yw Cymdeithas yr Iaith ond yn syml iawn cymdeithas o bobl – cymdeithas o ffrindiau – teulu.

Yn nathliadau’r Gymdeithas yn 40 ddeng mlynedd yn ôl roeddwn i’n ddwy ar bymtheg ac roeddwn i’n sylwi dros y penwythnos fod yna lawer o bobl ifanc tua’r oedran yna wedi dod. Dwi’n gobeithio y bydda nhw’n cydio yn yr un wefr a chydiais i ynddi ddeng mlynedd yn ôl ac y gwela i nhw eto a hwyntau yn 27 a finnau yn, och a gwae, 37 yn nathliadau’r Gymdeithas yn 60 ar ôl deng mlynedd arall o brotestio beiddgar a rhes o gigs a cherddoriaeth Gymraeg.

Paratown am chwyldro achos NI yw y byd!

Society Profiad – “Haeddu”/”Y Bywyd Da” (Double A-side)

Dwi a Cynan wedi bod yn recordio heddiw. Nid ni sgwennodd y gerddoriaeth, daeth y tracs gan brosiect Gospel Cypher sef prosiect o Fyrmingham sy’n rhyddhau traciau instrumental urban at ddefnydd artistiaid Cristnogol ac eglwysi. Fedrw ni ddim cymryd y clod felly, ond mae rapio Cynan yn reit dda arnyn nhw.

Nadolig llawen. Mwynhewch:

Haeddu (Geiriau a Rapio: Cynan Llwyd, Cerddoriaeth: Triple O)

Y Bywyd Da (Geiriau a Rapio: Cynan Llwyd, Cerddoriaeth: Clikz)

Beganifs – Aur

Mae Dafydd Tomos wedi bod yn gwneud cyfraniad mawr wrth ddigideiddio a rhyddhau clasuron coll Cymraeg ar ei flog. Ar ôl clywed addasiad Jakokoyak o Breuddwyd gan Ust ar C2 wythnos diwethaf cododd chwilfrydedd ynof i glywed y gwreiddiol eto – roedd y gwreiddiol ar y Casset aml-gyfrannog Hei Mr DJ, ac roedd Dafydd wedi ei ddigideiddio a’i rannu ar ei flog nol yn 2005, diolch Dafydd.

Datblygodd y drafodaeth ar Twitter a chofiais i mi ddigideiddio fy hen gasetiau o Ffraeth ac Aur gan Beganifs. Roedd Dafydd eisoes wedi rhannu Ffraeth yma ond hyd yma doedd neb wedi rhannu Aur felly dyma fi’n gwneud hynny ar y blog heddiw.

Roedd Ffraeth ac Aur yn ddylanwadau ffurfiannol arna i yn gerddorol – roeddwn i’n 7 neu’n 8 mlwydd oed pan rhyddhawyd y ddwy gasét ac roeddwn ni wedi fy mopio’n llwyr gyda’r gerddoriaeth. Isod mae rhywfaint o’r gwaith celf ac o dan hynny y traciau eu hunain. Roedd Aur yn “gapless album”, dyna sydd i esbonio pam fod rhai o’r traciau yn ymddangos fel petaent yn stopio’n ddisymwth os ydych chi’n gwrando ar y traciau’n unigol.

Ochr Un
01 Crisial 5.01 munud / 6.8 MB
02 Dan Enw 4.11 munud / 5.8 MB
03 Llygaid Y Lloer 5.06 munud / 7.0 MB
04 Pethau Arall 5.51 munud / 8.1 MB

Ochr Dau
05 Her 3.13 munud / 4.5 MB
06 Ffaith 4.37 munud / 6.4 MB
07 Isabel 5.34 munud / 7.7 MB
08 Melys Fêl 4.06 munud / 5.7 MB

Eisteddfod 2011

IMG_9705

Wedi i mi fethu Eisteddfod llynedd oherwydd gwaith y PhD fe wnes i’n fawr o’r cyfle i ddal lan eleni a mynd am yr wythnos gyfan ac fe wnes i fwynhau mas draw. Bues yn gall (neu’n gyfrwys?) i beidio a chymryd unrhyw waith na chyfrifoldebau penodol eleni gyda Chymdeithas yr Iaith na’r Gorlan – fe wnaeth hynny fy rhyddhau i allu mynd a dod fel y mynnwn.

Tref Wrecsam

Mae’n debyg mae’r hyn wnes i fwynau mwyaf oedd cyfle i dreulio amser gyda hen ffrindiau – ffrindiau dwi eisoes a minnau ond yn chwech ar hugain wedi mynd i’r rhigol anffodus o’u gweld yn unig bob Eisteddfod. Wnes i fwynhau byw a bod yn Wrecsam hefyd. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o Eisteddfodwyr roeddwn i’n aros yng nghanol y dref a gan fod gigs y Gymdeithas hefyd yng nghanol y dref treuliais dipyn o amser yn y dref ei hun. Yr hyn a’m tarodd yn fwy na’r ffaith fod Wrecsam ddim yn dref Gymraeg ei hiaith oedd nad oedd hi chwaith yn dref Gymreig nac ychwaith yn “Brydeinig”. Wrth fynd i chwilio am frecwast ynghanol dre ar y bore cyntaf methais a chanfod un siop gornel oedd yn gwerthu cynnyrch “Prydeinig” – roedd pob siop ddes i ar eu traws yn gwerthu cynnyrch Polisk neu Halal! Ddim bod dim byd o’i le ar hyn, ond roedd yn brofiad annisgwyl rhywsut.

Bryn Fôn - Tren y Chwyldro, Eisteddfod Wrecsam 2011

Gigs y Gymdeithas

Fe aeth gigs y Gymdeithas yn rhagorol. Mae llawer o’r lluniau wnes i dynnu fan yma. Dyma oedd y gigs mwyaf llwyddiannus i’r Gymdeithas drefnu ers Steddfod Eryri yn 2005 yn fy nhyb i. Roedd pob noson yn rhagorol o ran adloniant, nifer uwch na’r disgwyl wedi mynychu ac felly llwyddodd pob noson (heblaw am un) glirio ei gostau – rhywbeth sydd wedi bod yn strygl i ni yn y blynyddoedd diwethaf. Dwi’n meddwl mae’r hyn wnaethom ni’n iawn eleni oedd peidio trio cystadlu head-on gyda maes-b a maes-c ond yn hytrach cynnig rhywbeth gwahanol. Mae’n amlwg i bobl fwynhau’r profiad “gwahanol”.

Ar y Maes

Fe aeth digwyddiadau ‘gwleidyddol’ y Gymdeithas yn dda iawn hefyd. Mae lluniau o rhai o ddigwyddiadau ‘gwleidyddol’ y Gymdeithas yma a lluniau cyffredinol o’r Eisteddfod. Ond yr eliffant yn yr ystafell (neu’r steddfod) oedd dyfodol Cymunedau Cymraeg – roedd llawer un yn dechrau darogan beth fydd ffigurau y sensws yn dangos am leihad nifer y siaradwyr Cymraeg yn y “cadarnleoedd”. Mae hi’n ddeg mlynedd bellach ers i Seimon Glyn dynnu sylw pawb at y pwnc pwysig yma a dydy’r pleidiau gwleidyddol, gan gynnwys Plaid Cymru, heb wneud dim i ddelio a’r broblem. Sibrwd ynghylch y pwnc oedd yn yr Eisteddfod eleni, mae’n bosib y bydd yn bwnc llosg go-iawn eto erbyn steddfod y flwyddyn nesaf.

IMG_9733

Y Gorlan

Oherwydd ymrwymiadau eraill dwi heb ymrwymo’n iawn i waith Y Gorlan ers sawl blwyddyn bellach ond roeddwn i’n falch mod i wedi gallu mynd draw i gynorthwyo am un noson eleni. Dyma oedd fy mlwyddyn olaf hefyd ar bwyllgor Y Gorlan. Er gwaethaf fy niffyg ymroddiad ymarferol yn ystod yr wythnos i’r gwaith mae’r Gorlan yn parhau i fod yn agos iawn at fy nghalon i oherwydd ei fod yn genhadaeth holistaidd iawn yn y Gymry Gymraeg gan ei fod yn cynnig gobaith ysbrydol ac ymarferol.

Yfed ein ffordd i’r Gymry Rydd?

Dwi wedi bod yn gwneud rhywbeth neu gilydd gyda’r Gorlan ers deg mlynedd bellach ac fe fues i’n gwersylla ar y Maes Ieuenctid am saith o’r deg mlynedd yna. Dros y blynyddoedd dwi wedi sylwi fod natur y Maes Ieuenctid wedi newid llawer. Pan ddechreuais i weithio gyda’r Gorlan roedd y trawstoriad oedran, ar y cyfan, tua 18-30 gyda rhai eithriadau naill ben. Ond mae’n ymddangos nawr fod y trawstoriad oedran yn debycach i 15-21 gyda eithriadau y naill ben. Un o ganlyniadau hyn yw fod popeth yn fwy “gwyllt” yn arbennig gyda pobl yn gwneud cam-ddefnydd o alcohol. Roedd pobl yn mynd dros ben llestri gyda diod wastad yn rhan o’r Maes Ieuenctid ond mae e i weld wedi mynd yn waeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er ei fod yn broblem gymdeithasol sy’n amlwg iawn ar y Maes Ieuenctid mae e’n symptomatig o broblem cymdeithas yn gyfan – erbyn diwedd yr wythnos roedd digon o bobl yn nosweithiau Cymdeithas yr Iaith hefyd a mwy o diddordeb yn y bar na’r bandiau yn anffodus. Mae hyn yn fy nhristáu, y ffenomenon yma ein bod ni fel Cymry yn meddwl fod rhaid ymgolli a’r ddiod pob tro rydym ni’n cyfarfod i ddathlu ein diwylliant. Bron fel petai yfed, a gor-yfed, yn rhan o hanfod ein hunaniaeth bellach. Dwi’n gwybod beth yw’r ateb hir dymor, dyna pam mod i dal i gredu yng ngweledigaeth y Gorlan, ond wn i ddim beth yw’r ateb tymor byr/cymdeithasol os oes un o gwbl.

Ymlaen, ymlaen

Mae’r ychydig sylwadau yma felly yn crynhoi beth mae’r Eisteddfod yn ei olygu i mi. Roedd hi’n gyfle i weld hen ffrindiau, i ddathlu ein diwylliant ond hefyd yn wythnos lle roedd rhai o wendidau a pheryglon ein hanfod fel Cymry Cymraeg yn dod i’r amlwg.

Fel yr Iddewon, ein Gwŷl y Pebyll ni ar ben am flwyddyn arall, ymlaen mae Canan.

Popoleg – Rhan 2

Bore dydd Sul yng Nghaersalem, Caernarfon fe wnaethom ni barhau gyda’r gyfres “Popoleg.” Y syniad yw gadael i ganeuon pop Cymraeg ofyn y cwestiynnau ond wedyn edrych yn y Beibl am yr atebion. Wythnos yma fe wnaethom ni ystyried y linell ‘Dwi’n cau fy llygaid ac agor fy enaid’ allan o’r gân Adre gan Gwyneth Glyn.

Yr adnod berthnasol oedd Hebreaid 11:1 –

“Yn awr, y mae ffydd yn warant o bethau y gobeithir amdanynt ac yn sicrwydd o bethau na ellir eu gweld.”

Fe wnaethom ni drafod beth yw’r diffiniaid Cristnogol o’r hyn ydyw ffydd. Yna trafod mae’r cwestiwn pwysig yw nid o’r rheidrwydd os oes gan rywun ffydd ond yn hytrach yn beth mae rhywun yn rhoi ei ffydd. Rhai yn rhoi eu ffydd ynddyn nhw eu hunain, rhai yn rhoi eu ffydd mewn pobl eraill ond fod Iesu yn ein galw i roi ffydd ynddo fe. Ac i wneud hynny fod yn rhaid i ni, fel mae Gwyneth Glyn yn awgrymu, gau ein llygaid ac agor ein henaid.

Mae modd gwrando ar y neges yn ei gyfanrwydd ar wefan Caersalem fan YMA, neu drwy danysgrifio i’r podlediad trwy iTunes drwy ddilyn y ddolem YMA.

Dyma promo ffilm y gyfres:

Popoleg – Rhan 1

Fe wnaethom ni ddechrau ar gyfres newydd yn Caersalem, Caernarfon bore ‘ma. Popoleg yw enw’r gyfres, y syniad yw gadael i ganeuon pop Cymraeg ofyn y cwestiynnau ond wedyn edrych yn y Beibl am yr atebion. Fe wnaethom ni ddechrau bore ‘ma drwy ystyried her y linell ‘Mi glywais sôn fod pawb yn blant i Dduw’ allan o’r gân Hawl i Fyw gan Dafydd Iwan.

Fe wnaetho’m ni ystyried tri peth:

  1. Y ffaith fod pawb yn blant i Dduw yn yr ystyr fod Duw wedi ein creu ni i gyd yn gydradd. (Genesis 1:26 ac Actau 17:25)
  2. Edrych yn benodol beth mae’r Testament Newydd yn dweud mae e’n ei olygu i fod yn blentyn i Dduw drwy ffydd. (Galatiaid 3:26, Rhufeiniaid 8:14 a Rhufeiniaid 9:8)
  3. Ac yn olaf, her y Beibl o sut dylai Plant Duw fyw yng ngolau’r ffaith eu bod nhw’n blant ac felly yn llysgenhadon i Dduw. (Effesiaid 5:1-4)

Mae modd gwrando ar y neges yn ei gyfanrwydd ar wefan Caersalem fan YMA, neu drwy danysgrifio i’r podlediad trwy iTunes drwy ddilyn y ddolem YMA.

Dyma promo ffilm y gyfres:

Popoleg – Gwanwyn 2011 from Caersalem Caernarfon on Vimeo.

Fy 2010 mewn lluniau

Er na ches fawr amser i flogio (fel yr esboniais yn y cyfnod diwethaf) ces amser i dynnu rhai lluniau ar hyd y daith. Dyma bigion mewn trefn gronolegol:

4 Ionawr 2010 - Elidir Fawr dan eira o Ddeiniolen. Bues i'n byw yn Neiniolen rhwng Awst 2009 a Medi 2010.

30 Ionawr 2010 - Criw Hacio'r Iaith yn Aberystwyth

1 Ebrill 2010 - Lansiad 'Gair i Gell' yn Palas Print, Caernarfon

3 Ebrill 2010 - Priodas Dafydd a Gwenno yn Llangefni

7 Ebrill 2010 - Criw Llanw, y flwyddyn olaf yn Llangrannog cyn symud i Gei Newydd

23 Ebrill 2010 - Begw yn cyrraedd teulu'r Llwydiaid!

24 Ebrill 2010 - Dafydd Iwan yn annerch mewn "rali" Plaid Cymru jest cyn yr Etholiadau Cyffredinol. Roedd y rali yn Aberystwyth ac fe wnaeth Plaid Cymru yn drychunebus yno.

11 Mai 2010 - Lansio 'Siarter Bangor', rhan o'r ymgyrch i Gymreigio Prifysgol Bangor

15 Mai 2010 - Cyfarfod sefydlu Derek yn Capel Gomer, Abertawe

19 Mai 2010 - Achos Llys Geraint Twm, Caernarfon

25 Mai 2010 - Darllen ar gyfer y PhD ar lethrau Elidyr Fawr uwchben Deiniolen

19 Mehefin 2010 - Rali 'Mesur Iaith Cyflawn', Porthmadog

17 Gorffennaf 2010 - Diwedd taith y Society Profiad

19 Gorffennaf 2010 - Gwyliau gyda'r teulu yn Nyfnaint

7 Awst 2010 - Fy ymweliad cyntaf ag Eastlands, curodd Man City Valencia 2-0.

6 Tachwedd 2010 - Rali 'Achub S4C', tua 2,000 yna, y rali fwyaf fues i'n rhan o'i threfnu erioed.

14 Tachwed 2010 - Fy Sul cyntaf yn Ebeneser, Llanllyfni un o Eglwysi llai fy ngofalaeth (fe wnaeth *rhai* droi fyny ar ôl tipyn!)

26 Tachwedd 2010 - Derek, Cynan ac Ifan yn ymweld a Chaernarfon

4 Rhagfyr 2010 - Rali 'NA i'r TORI-adau', y rali wlypaf fues i ynddi erioed.

17 Rhagfyr 2010 - Eira mawr yng Nghomins Coch, gymerodd hi bythefnos i'r cyfan glirio.

18 Rhagfyr 2010 - Y flwyddyn yn dod i ben gyda phriodas Elain fy hyfryd chwaer!

Felly dyna pam mod i wedi bod rhy brysur i flogio’n iawn yn 2010!