Category Archives: Diwylliant

Justin Welby – Archesgob Caergaint

JWHeddiw mae Justin Welby yn cael ei sefydlu’n swyddogol fel Archesgob Caergaint. Dydw i ddim yn cytuno gyda’r syniad o eglwys wladol (hynny yw eglwys sy’n rhan o’r wladwriaeth), yn hytrach rwy’n credu mai’r model Beiblaidd yw un lle mae’r eglwys a’r wladwriaeth ar wahân. Dydw i ddim yn cytuno chwaith gydag eglwysi hierarchaidd fel yr eglwys Anglicanaidd. Dwi’n credu y dylai sofraniaeth pob eglwys fod yn lleol ac y dylai’r eglwys ar lefel ranbarthol, genedlaethol a rhyngwladol fod yn undeb gwirfoddol ac nid yn unffurfiaeth orfodol. Unwaith eto dwi’n credu mai dyma’r model sydd i’w weld yn y Beibl – roedd yr eglwys yn Antioch yn rhydd i roi ei stamp ei hun ar bethau a ddim yn gorfod bod yn garbon copy o’r eglwys yn Jerwsalem.

Wedi dweud hyn rydw i’n gyffrous iawn am benodiad Justin Welby fel Archesgob newydd Caergaint. Mae’n dod o gefndir breintiedig ac fe’i haddysgwyd yn Eton fel David Cameron a George Osborne. Yna aeth ymlaen i gael gyrfa lewyrchus fel Cyfarwyddwr yn y diwydiant Olew. Mewn termau bydol roedd ganddo’r cyfan. Fe aeth Cameron ac Osborne ymlaen i ddefnyddio eu safle a’u cefndir breintiedig i gynnal y statws quo ac i gadw’r cyfoethog yn gyfoethog a chadw’r tlawd yn dlawd. Ond camodd Welby allan o’r cylch, rhoi’r gorau i’w swydd lewyrchus yn y diwydiant Olew a mynd yn Offeiriad. Ac yna wythnos yma roedd e’n arwain y gad wrth feirniadu polisïau Cameron ac Osborne oedd yn galed ar y tlawd.

O’r hyn rwy’n deall mae ei ddiwinyddiaeth yn efengylaidd heb fod yn ffwndamentalaidd sydd i’w groesawu. Mae’n ymddangos felly ar yr olwg gyntaf ei fod yn geidwadol ar hanfodion y ffydd – pwy yw Iesu – beth wnaeth Iesu drosom – beth yw Cristion ayyb… ond yn radical ei agwedd at ymwneud y Cristion a chymdeithas – gwarchod y tlawd – beirniadu llywodraethau anghyfiawn ayyb… Mewn gair mae’n Archesgob sy’n ticio pob bocs gen i!

Bydda i’n gweddïo na fydd y “sefydliad” eglwysig yn ei newid a’i dymheru ac y bydd yn darganfod dewrder a hyder gan Dduw i lynu’n ffyddlon at Iesu ac arwain yn deg a gostyngedig.

Beibl i bawb

Dwi’n cofio gwylio’r ffilm isod am y tro cyntaf tua dwy flynedd yn ôl. Mae’n dogfennu’r diwrnod y cyrhaeddodd y Beibl bobl y Kimyal yn eu haith nhw eu hunain am y tro cyntaf. Mae’r holl beth yn tu hwnt o drawiadol a does dim rhaid i chi gael ffydd eich hun i werthfawrogi hyn. Fe wnes i wylio’r ffilm eto ychydig wythnosau yn ôl yng nghŵp tŷ Caersalem ac fe ddaeth deigryn i fy llygaid eto.

The Kimyal People Receive the New Testament from UFM Worldwide on Vimeo.

Wythnos yma mae’r fersiwn llawn o’r Beibl mewn Cymraeg llafar/cyfoes yn cael ei gyhoeddi ar www.beibl.net. Diolch i Dduw am ddefnyddio Arfon Jones dros gyfnod o 15 mlynedd (!) i gyflawni’r gwaith.

Yn anffodus mae’n anhebygol y cawn ni barti mor liwgar yma yng Nghymru ag y cafodd pobl y Kimyal ond gobeithio y bydd cyhoeddi’r Beibl newydd yma yn y Gymraeg yn cael effaith yr un mor bellgyrhaeddol yn yr hir dymor ar Gymru ag y cafodd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf nol yn 1588.

R. Tudur Jones ar Lloyd George

Doedd dim llawer o feddwl gan R. Tudur Jones o Lloyd George. Dyma ddywedodd amdano unwaith:

…how does the individual Welshmen get his hands on the reigns of power? That was the question in the late nineteenth century and it was brilliantly answered by David Lloyd George. A Welsh man becomes a member of the ruling elite at London precisely by becoming one of them. He may sing Pantycelyn’s hymns in the front parlor at Downing Street on Sunday nights, but otherwise he must forget his nationality. That solution has been perfectly acceptable to hundreds of Welshmen.

Cerddoriaeth Gymraeg a’r cysyniad o Gymru Ddwyieithog

Ar Twitter bore ‘ma roeddwn i’n gweld fod yr hen ddadl ynglŷn a bandiau yn canu yn Saesneg mewn nosweithiau oedd yn cael eu gweld fel rhai Cymraeg wedi codi ei ben eto. Dros y blynyddoedd dwi wedi gwylltio llawer o bobl wrth gyfrannu i’r drafodaeth yma, ac o edrych nol rwy’n gresynu dros rhai o’r pethau dwi wedi eu dweud.

Mae’n siŵr mae’r darn mwyaf ymfflamychol dwi wedi ei sgwennu oedd yr erthygl yma i Barn yn 2004, pan oeddwn i’n 19, mae’n werth ei ail-ddarllen jest er mwyn gweld cymaint dwi wedi toddi fel person dros y ddegawd diwethaf! Dwi’n meddwl mod i dal yn cytuno gyda prif bwyntiau’r erthygl ond dwi’n difaru mod i heb ddefnyddio mwy o râs a dwi’n sicr yn difaru mod i wedi brifo pobl gyda beth wnes i ddweud.

Yr hen a ŵyr a’r ifanc a dybia, Barn, Mehefin 2004 (PDF)

Y darn allweddol i mi oedd y dyfyniad gan Merêd:

Wedi’r Ail Ryfel Byd, gwelwyd tri datblygiad amlwg, sef twf mudiadau cenedlaethol… ymgyrchu ymroddedig gan leiafrifoedd oddi mewn i wladwriaethau… a gwrthryfel o du’r genhedlaeth ifanc. Gellid dadlau… nad oes yr un angerdd ac argyhoeddiad yng ngwrthryfel yr ifanc ag a fu yn y chwedegau a’r saithdegau…

Hyd yr wythdegau cynnar, cymharol brin oedd yr arwyddion o gloffi rhwng dau feddwl. Roedd mwyafrif llethol o popwyr y cyfnod hyd at hynny yn frwd dros greu a pherfformio eu caneuon yn Gymraeg, ond bellach daeth tro ar fyd… prinhau y mae’r grwpiau a’r unigolion sy’n gwbl sicr eu meddwl mai perfformwyr Cymraeg ydynt.

Lego’r Nadolig

Fe gaetho ni chwip o Oedfa Deulu Nadolig dda yng Nghaersalem ddoe. Llwyth o bobl yr Eglwys yn cyfrannu mewn rhyw ffordd neu gilydd ond y fendith mwyaf oedd cael ugain o bobl newydd yn troi mewn i ddathlu’r Nadolig gyda ni. Clod i Dduw.

Un o’r pethau wnaetho ni baratoi ar gyfer yr Oedfa a’i ddangos am y tro cyntaf bore ddoe oedd y ffilm wych yma yn defnyddio darnau lego wedi eu hanimeiddio i adrodd stori’r Nadolig. Arwel ffeindiodd y gwreiddiol Saesneg ar Youtube a wedyn ni yng Nghaersalem aeth ati i gyfieithu’r sgript a trosleisio’n Gymraeg dros yr animeiddio gwreiddiol.

Dan y ffilm mae dolen i chi ei lawrlwytho os ydych chi am ei defnyddio yn eich eglwys chi, croeso i bawb ei defnyddio dros yr ŵyl.

Lego’r Nadolig from Caersalem Caernarfon on Vimeo.

Lawrlwytho fersiwn .MOV (Quick Time) [90.5Mb]

Fy araith o Rali’r Cyfrif, Caernarfon

Pan ro’ ni’n fach roeddem ni arfer codi estyll tywod ar y traeth, yn y Borth ger Aberystwyth. Roeddem ni wrthi trwy’r dydd yn adeiladu’r castell mwyaf crand erioed. Yna roeddem ni’n paratoi ar gyfer y llanw. Yn cloddio ditches i ddelio ar dwr oedd yn taro yn erbyn y castell. Yn codi muriau uchel i warchod y castell. Ond doedd dim ots faint oeddem ni’n trio amddiffyn y castell roedd y llanw wastad rhy gryf.

Weithiau dyma sut mae bod yn Gymro Cymraeg yn teimlo.

Mae pobl yn dweud wrthym ni fod angen i ni wneud mwy ein hunain, angen i ni gymryd cyfrifoldeb dros yr iaith. Ond os ydy’r llanw yn dod mewn a ninnau heb unrhyw ffordd o’i stopio mae ein holl waith yn dod i ddim. Fe allwn ni wneud beth a fedrw ni i gadw ein cymunedau Cymraeg yn fyw – ond mae’n rhaid i’r gwleidyddion fynd i’r afael a’r llanw.

Mae’n rhaid mynd i’r afael a’r ffaith fod y mewnlifiad i sawl cymuned Gymraeg yn anghynaladwy a bod yr all-lifiad o Gymry ifanc oherwydd diffyg gwaith yn drychineb.

Rwy’n falch fod Cymdeithas yr Iaith heddiw yn cyhoeddi rhai awgrymiadau ymarferol sut mae mynd i’r afael a’r broblem yma. Er enghraifft, cyn bob datblygiad tai dylai yna asesiad gael ei wneud ar effaith y datblygiad ar yr iaith Gymraeg. Dylai pob tŷ, nid un neu ddau ohonyn nhw, ond pob tŷ fod yn dŷ sy’n fforddiadwy i bobl leol. Gyda digon ohonyn nhw’n fforddiadwy i brynwyr cyntaf. Dylai canran ohonyn nhw fod yn dai da ar rent hefyd. Ac os nad yw’r datblygiad yn ticio’r blychau yma yna ni ddylai’r datblygiad gael ei ganiatáu.

Un o broblemau mwyaf y stoc dai ydy ail-gartrefi, neu fel rydym ni’n fwy cyfarwydd a’u galw: tai haf. Mae Cymdeithas yr Iaith yn argymell codi lefel sylweddol uwch o dreth cyngor ar Dai Haf ac yna ail fuddsoddi yr arian hwnnw mewn i stoc dai i bobl leol.

Mae yna gamau cwbwl ymarferol y gall y gwleidyddion ar lefel sirol a chenedlaethol eu cymryd. Ac mae’r math yma o fesurau eisoes mewn lle mewn ardaloedd o bwysigrwydd diwylliannol yn Lloegr – fel ardal y llynnoedd. Nid mater o hil yw hyn – ond economeg sy’n effeithio ar diwylliant.

Ond – y cwestiwn yw, a oes gan ein gwleidyddion ewyllys wleidyddol i gymryd y camau angenrheidiol yma?

Gadewch i fi ddarllen beth ddywedodd y Cenedlaetholwr Diwyllianol Ed Milliband ddoe: “If we are going to build One Nation, we need to start with everyone in Britain knowing how to speak English. We should expect that of people that come here.”

Roedd ymateb y darlledwr Hardeep Sing yn dda: “funny but when the British colonised India they didn’t feel the need to learn the language”

Ond beth am newid ambell i air yn nyfyniad Ed Milliband: “If we are going to build One Nation, we need to start with everyone in Wales knowing how to speak Welsh. We should expect that of people that come here.”

Rhyfedd sut mae rhywbeth mae gwleidydd proffesiynol mewn siwt yn ei ddweud yn ddigon derbyniol. Ond yna pan fo Cymry yn eu cymunedau yn dweud yr union run peth rydym ni’n cael ein cyhuddo o fod yn gul ac yn eithafol.

Mae rhai pobl wedi dweud wythnos hyn fod popeth ddim yn ddrwg. Fod dim angen i ni ddi-galoni oherwydd o leiaf fod yr ymdeimlad o hunaniaeth Gymreig yn cynyddu. Ac yn araf deg mae datganoli yn mynd a ni’n nes ac yn nes at y Gymry Rydd.

Ond a siarad yn blaen ac yn onest nawr – does gen i ddim fawr o ddiddordeb mewn hunaniaeth Gymreig sydd wedi gadael y Gymraeg ar ôl. A does gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn Cymru Rydd os nad yw honno’n Gymru Rydd Gymraeg!

Iaith neu Efengyl? Howel Harris a Gruffydd Jones, Llanddowror

Mae Gruffydd Jones, Llanddowror yn enwog am ei waith arloesol gyda’r Ysgol Sul. Bu’n gymwynas fawr i’r iaith Gymraeg gan droi gwerin yn llythrennog a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae sawl un yn dadlau nad oedd ganddo fawr o ddiddordeb mewn gwirionedd mewn “achub yr iaith” ac mae ei unig amcan oedd “achub eneidiau” a’i fod wedi sylwi mae’r ffordd mwyaf effeithiol o wneud hynny oedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Er bod hi’n gywir i nodi mae’r lles ysbrydol oedd o ddiddordeb pennaf iddo, mae’n anghywir ysgaru’r ddau beth mewn gwirionedd gan fod Gruffydd Jones a’i gyfoeswyr yn gweld y ddeubeth fel unpeth. Anghywir felly yw i ni heddiw i geisio eu rhoi mewn blychau gwahanol – rhaid edrych ar y cwestiwn drwy eu byd olwg nhw, fel oedden nhw yn gweld y peth ar y pryd. Mae gweddill y post yn cut & paste allan o bennod gyntaf fy thesis.

Erbyn y ddeunawfed ganrif gwelai rhai o’r Tadau Methodistaidd fod parodrwydd, neu ddiffyg parodrwydd, y Cymry i gynnal eu bywyd yn Gymraeg yn hytrach na throi i’r Saesneg yn deillio o gwestiwn ffydd. Dywedodd Howel Harris yn ei ddyddiadur yn dilyn ymweliad â sir Benfro: ‘Yr oeddwn i’n daer iawn dros i’r Cymry beidio â llyncu balchder y Sais a’i iaith, gan anghofio eu hiaith eu hunain. Fe ddywedais wrthynt fod Duw’n Gymro, ac yn gallu siarad Cymraeg, a’i fod wedi dweud wrth lawer yn Gymraeg, ‘Maddeuwyd i ti dy bechodau’.’1 Pwyslais Harris yma yn ôl R. Geraint Gruffydd, yw’r alwad Gristnogol i’r Cymry ymwrthod â balchder ac i beidio â cheisio bod yn rhywbeth gwahanol i’r hyn y crëwyd hwy i fod. Dehongliad tebyg a gynigai Tudur Jones am agwedd un arall o’r Tadau Methodistaidd, Gruffydd Jones, Llanddowror, tuag at gwestiwn iaith a chenedligrwydd:

…y mae i’w [Gruffydd Jones] genedlaetholdeb seiliau Beiblaidd sydd yn rhoi cadernid a bywiogrwydd i’w waith a’i ysgrifennu. Daw hyn i’r golwg yn ei syniadau am Ragluniaeth. Nid yw’r gair Rhagluniaeth eto wedi colli ei ystyr ddynamig, greadigol. Iddo ef, cabledd fyddai cyhoeddi fod popeth sydd, yn iawn. Ffolineb heb seiliau yn y Beibl fyddai cyhoeddi na ellir gwneud dim yn wyneb yr amgylchiadau ac mai’r unig beth sy’n aros inni yw eistedd i lawr a’n dwylo ymhleth a sibrwd ‘Fel hyn mae hi orau!’ Nid sêl ar batrwm statig yw Rhagluniaeth i Gruffydd Jones. Ac nid dyna oedd i John Calfin na John Penry na Walter Cradoc na Vavasor Powell. Rhagluniaeth yw’r hyn y mae Duw’n ei ewyllysio. Fel y mae’n digwydd, mae dynion yn eu balchder yn ceisio gwneud pethau sy’n groes i ewyllys Duw. Beth yw dyletswydd milwyr Duw mewn cyfwng felly? Mae’r ateb yn syml ac yn glir – ymladd. Peth creadigol yw Rhagluniaeth. Galwad i frwydr yn erbyn Philistia.2

Dehonglai Tudur Jones lif meddwl Gruffydd Jones fel pe bai’n dweud fod ‘diwreiddio’r Gymraeg a gorseddu Saesneg yn enw rhyw gyd-wladoldeb bas’ gyfystyr ag ‘ail-adrodd trosedd gwŷr Babel.’ Oherwydd bod y diwylliant Cymraeg yn un a ddylanwadodd Cristnogaeth yn drwm arno, a’r iaith Gymraeg yn iaith yr arferid y ffydd Gristnogol drwyddi, yma ym meddwl y Tadau Methodistaidd dechreuwyd gweld yr arfer o weld safiad ffydd a’r frwydr dros ddiwylliant y genedl fel deubeth oedd yn mynd law yn llaw’n naturiol.

1. Dyfynnwyd yn R. Geraint Gruffydd: ‘Ein hiaith a’n diwylliant’ yn Y Ffordd Gadarn – Ysgrifau ar Lên a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd, E. Wyn James gol. (Pen-y-bont a’r Ogwr: Gwasg Bryntirion, 2008), 97
2. R. Tudur Jones: ‘Cenedlaetholdeb Cristion’ yn Y Cylchgrawn Efengylaidd, Cyfrol 9, Rhifyn 4 (1968), 96

Wele, cawsom y Meseia (fersiwn llawn)

Dyma un o garolau Dafydd Jones o Gaeo (1711-1777) ac un o fy hoff garolau. Fel rheol dim ond y tri phennill coch sydd wedi eu cynnwys yn y llyfr emynau neu’r llyfr carolau. Diolch i Andras am dynnu fy sylw at y fersiwn llawn llynedd. Ac os ydy rhywun isho ei chwarae hi ar y gitar dyma chi: Wele, cawsom y Meseia (Chords Gitar – PDF). Diolch eto o Andras am y cordiau!

Wele, cawsom y Meseia,
Cyfaill gwerthfawroca’ ‘rioed;
Darfu i Moses a’r proffwydi
Ddweud amdano cyn ei ddod:
Iesu yw, gwir Fab Duw,
Ffrind a Phrynwr dynol-ryw.

Dyma’r hen addewid hyfryd
‘Sîgodd siôl y sarff yn friw;
Caed tragwyddol fuddugoliaeth
Ar farwolaeth, trwy Fab Duw:
Trwy fy oes, ym mhob loes,
F’enaid, cân am waed y groes.

Hwn yw’r Oen, ar ben Calfaria
Aeth i’r lladdfa yn ein lle,
Swm ein dyled fawr a dalodd
Ac fe groesodd filiau’r ne’;
Trwy ei waed, inni caed
Bythol heddwch a rhyddhad.

Ca’dd cyfiawnder ei fodloni,
Ca’dd y gyfraith ei chwblhau;
Duw a ninnau, fu’n elynol,
Yn heddychol gwnaed y ddau:
Fe wnaeth ben; ‘nawr mae’r llen
Wedi rhwygo o’r ddae’r i’r nen.

Dyma gyfaill haedda ‘i garu,
A’i glodfori’n fwy nag un:
Prynu’n bywyd, talu’n dyled,
A’n glanhau â’i waed ei hun:
Frodyr, dewch, llawenhewch,
Diolchwch iddo, byth na thewch!

Dyma’r Cyfaill mwyn a’n cofiodd
Ac a’n carodd cyn bod byd;
Dyma’r Oen a ddaeth o’r nefoedd,
Ac a’n prynodd ni mor ddrud:
Tra bôm fyw, dyled yw
Cofio cariad pur Mab Duw.

Benedict Anderson: ‘a tomb of the unknown Marxist or a cenotaph for fallen Liberals. Is a sense of absurdity avoidable?’

Dydd Sadwrn diwethaf roeddwn i yng nghynhadledd ‘Trwy Ddulliau Chwyldro…?’ a drefnwyd gan Menna Machreth a Huw Lewis ar ran Prifysgol Bangor, Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a’r Coleg Cymraeg. Roedd yn gynhadledd arbennig yn cloriannu hanes llenyddol a syniadaethol yr hanner can mlynedd diwethaf, diolch i’r trefnwyr. Yn ôl y disgwyl fe wnes i roi sylw i waith a meddwl R. Tudur Jones; ond efallai yn syndod i rai rhoddodd Ned Thomas, prif siaradwr y gynhadledd beth sylw i waith a meddwl Tudur Jones hefyd a hynny mewn perthynas a dadl enwog Tudur gyda Emyr Llywelyn – helynt ‘Cysgod y Swastica’.

Ond un peth carwn ymateb iddo oedd y sylw gwnaeth Ned fod cenedlaetholdeb i’w weld yn codi mewn ymateb i seciwlareiddio. Er fod dadl gref dros hynny, roeddwn i’n dadlau yn fy nhraethawd i fod y theori ddim cweit yn ffitio mewn yn daclus gyda’r patrwm Cymreig. Rhaid trafod rhywfaint ar waith Benedict Anderson felly.

Benedict Anderson yw un o’r theoriwyr cenedlaetholdeb mwyaf dylanwadol, ac un sy’n ein cynorthwyo’n arbennig wrth ystyried cenedl y Cymry a chenedlaetholdeb yng Nghymru. Cyhoeddodd Benedict Anderson ei gyfrol ddylanwadol Imagined Communities yn 1983 ac fe’i cydnabyddir pellach fel un o’r gweithiau mwyaf awdurdodol a threiddgar ar genedlaetholdeb. Ceisiodd Anderson esbonio’r gwrthgyferbyniadau a gyfyd wrth arsylwi ar genedlaetholdeb. Er enghraifft, mae’n nodi fod yr hanesydd yn medru gweld yn glir mai ffenomen fodern yw’r genedl er bod y cenedlaetholwr yn gweld y genedl yn hen, os nad yn oesol. Nid yw’n llwyr ddiystyriol o farn, neu’r hyn a elwir ef yn “ddychymyg” y cenedlaetholwr, ond yn hytrach y mae’n ceisio mynd ati i egluro’r hyn sydd wedi creu’r “dychymyg” hwnnw. Dangosai Anderson sut y bu i haneswyr brofi mai “dychymyg” yn aml iawn a nodweddai feddylfryd a dyhead y cenedlaetholwyr ac nid hanes di-gwestiwn.

Paradocs sylfaenol arall y mae Anderson yn ceisio mynd i’r afael â hi yw ei ymdrech i ddeall sut y llwyddodd cenedlaetholdeb i ddod yn gymaint o rym gwleidyddol yn Ewrop, os nad y cryfaf ers y Chwyldro Ffrengig, er gwaethaf ei ‘dlodi athronyddol’ fel ideoleg. ‘Unlike other isms’, meddai Anderson, ‘nationalism has never produced its own grand thinkers: no Hobbeses, Tocquevilles, Marxes, or Webers…’ Dyma bwynt sy’n cael ei ategu gan Michael Freeden pan honnodd fod cenedlaetholdeb yn: ‘incapable of providing on its own a solution to questions of social justice, distribution of resources, and conflict-management which mainstream ideologies address’.

Yn ôl Anderson y cwestiwn mawr y mae’n rhaid mynd i’r afael ag ef yw’r ffenomen o weld pobl yn fodlon lladd a chael eu lladd yn enw eu cenedl. Os mai rhywbeth wedi ei ‘ddychmygu’ yw cymuned y genedl, a hynny’n weddol ddiweddar, sut felly mae esbonio penderfyniad llawer o unigolion i roi eu heinioes dros eu cymuned ddychmygol: ‘These deaths bring us abruptly face to face with the central problem posed by nationalism: what makes the shrunken imaginings of recent history (scarcely more than two centuries) generate such colossal sacrifices?’ Mae Anderson yn argyhoeddedig fod yr ateb i’w ganfod yng ngwreiddiau diwylliannol cenedlaetholdeb. Fe dybiodd fod cenedlaetholdeb yn perthyn i’r un categori o syniadaeth â Christnogaeth, Bwdhaeth ac Islam yn hytrach na’r categori y perthynai Marcsiaeth, Rhyddfrydiaeth a Sosialaeth iddo. Daw hyn i’r amlwg wrth ystyried yr arfer o godi cofadail a beddrodau ar gyfer arwyr cenedlaethol anadnabyddus. Dyma fel yr esbonia Anderson:

The cultural significance of such monuments becomes even clearer if one tries to imagine, say, a tomb of the unknown Marxist or a cenotaph for fallen Liberals. Is a sense of absurdity avoidable? The reason is that neither Marxism nor Liberalism are much concerned with death and immortality. If the nationalist imagining is so concerned, this suggests a strong affinity with religious imaginings.

Credai Anderson ymhellach fod y cysyniad o ‘barhad’ yn bwysig i bobl – cyn yr oleuedigaeth crefydd a ddiwallai blys dyn am barhad. Roedd rhaid wrth y diwallu hwn er mwyn arfogi pobl i ddelio â chyfyngder, dioddefaint, salwch a marwolaeth – dyma roes ystyr i fywyd. Tybiodd Anderson i’r genedl ddod i fodolaeth yn ystod cyfnod machlud y systemau crefyddol ac i’r ‘genedl’ lenwi gwagle neu dyhead a lanwyd gynt gan grefydd yn ei ddarpariaeth o’r syniad o ‘barhad’ i ddyn. ‘What then was required’, meddai Anderson, ‘was a secular transformation of fatality into continuity, contingency into meaning… few things were (are) better suited to this end than an idea of nation.’

Gwendid y theori hwn yw fod y cyd-destun Cymreig wedi dangos fod crefydd ei phobl wedi chwarae rhan bwysig yn natblygiad, ac yn wir yng nghread, cenedl y Cymry: nid cymryd lle crefydd a wnaeth y broses o lunio’r genedl yng Nghymru. Yn ogystal, wrth drafod perthynas cenedligrwydd y Sais a’r ffydd Gristnogol yn ei ffurf Anglicanaidd, mynnodd Tudur Jones yn The Desire of Nations fod y ddeubeth yn ‘closely interfused’ i’r graddau fel na ellid gweld cenedlaetholdeb fel ‘[a] substitute for a decayed religion,’ ond yn hytrach fel ‘a mature and responsible Christian response to a crisis that is social, economic, political and spiritual in its manifestations’.

Er yn cydnabod gwerth i theori Anderson, ac mewn rhai sefyllfaoedd yn gweld ei theori yn realiti; yn y cyd-destun Cymraeg gyda pherthynas agos crefydd a chenedlaetholdeb rhaid gweld y ddau yn dod law yn llaw nid bod un yn cymryd lle y llall.

Benedict Anderson: Imagined Communities, New Edition (Llundain: Verso, 2006)
Michael Freeden: ‘Is Nationalism a Distinct Ideology?’ yn Political Studies, XLVI (Rhydychen: Blackwell)
R. Tudur Jones: The Desire of Nations (Llandybie: Christopher Davies, 1974)

The Party of Wales

Dwi’n deall y rheswm ymarferol dros wneud fwy o ddefnydd o’r enw Saesneg. Er mwyn denu mwy o bleidleisiau’r di-Gymraeg. Ar ryw olwg, synnwyr cyffredin.

Ond y broblem ydy fod yr agenda o ddefnyddio mwy o’r enw Saesneg yn dangos diffyg hunanhyder yn y Gymraeg. Dylai’r Blaid ddim ymddiheurio fod y Gymraeg o bwysigrwydd canolog iddi hi. Dyna pam y sefydlwyd y Blaid yn wreiddiol. Ac mae’r rhanfwyaf o aelodau craidd y Blaid dal i gyfri’r iaith fel un o’u blaenoriaethau os nad y flaenoriaeth.

Un genedl dwy iaith, wrth gwrs, ond mae’r rhanfwyaf o genedlaetholwyr yn credu mae’r Gymraeg dylai fod yn Briod iaith. Nid Cymru Rydd yw fy ngobaith hir dymor i, ond Cymru Rydd Gymraeg. Gwahaniaeth pwysig fan hyn.

Arwynebol hollol yw y newid enw yma – ond mae llawer yn ofni ei fod yn arwydd o rhywbeth dyfnach sef, yn y bôn, fod y Blaid a rhyw fath o gywilydd am ei gwreiddiau a’i chraidd o hyd fel plaid y Cymry Cymraeg.