Gan admin, ar 01.27.05
Wedi gorffen fy arholiadau byddai rhan fwyaf o bobl yn codi eu cyfraniad i’w blogiau oherwydd bod y gwaith mawr wedi dod i ben. Dyma fy neges gyntaf ers dydd Llun diwrnod fy arholiad olaf, yn ystod fy arholiadau roeddwn yn gadael neges y dydd – rhywbeth o’i le fan yna!
. . . → Read More: Aberystwyth, Caerfyrddin a Chaerdydd
Gan admin, ar 01.24.05
Wedi gorffen yr arholiadau! Ddim wedi gwneud fawr ddim byd prynhawn yma heblaw am gadarnhau mae Steffan Cravos fydd prif artist gig NAWS mis Chwefror. Cyffrous iawn.
Heno rwy’n mynd i gyfarfod er mwyn cynllunio cynhadledd Cymdeithas yr Iaith ‘Bywyd ar ôl y bwrdd’. Mae’n . . . → Read More: Gorffen arholiadau ac ail-gydio ym mywyd bob dydd!
Gan admin, ar 01.24.05
Noswyl fy arholiad olaf, hwre! Gwleidyddiaeth Ewropeaidd, modiwl nad ydw i wedi ei fwynhau, yn bennaf oherwydd nad i mi ei ddewis – dwi’n ei astudio oherwydd dyna yr unig fodiwl oedd ar gynnig yn Gymraeg… trafodaeth ar gyfer diwrnod arall.
Wedi bod yn capel . . . → Read More: Gwasanaethau Cyd-Enwadol
Gan admin, ar 01.23.05
Arholiad anodd iawn
Dyma ddiwrnod diddorol a dweud y lleiaf. Bore yma cefais fy ail arholiad, Damcaniaethau Gwleidyddol. Roedd yr arholiad yma gwerth 100% o’r modiwl, doedd dim traethawd o gwbl yn cyfri, 100% mewn tair awr – digon i godi braw ar . . . → Read More: Arholiad a thriniaeth y ‘special needs’!
Gan admin, ar 01.22.05
Ces i fy arholiad cyntaf bore ma’. ‘Cymru a Datganoli’ – aeth hi’n reit dda, cwestiynau teg oeddwn i’n meddwl. Diddorol oedd gwrando ar y Post Cyntaf cyn mynd i’r arholiad oherwydd roedd ffrae’r Ceidwadwyr am ddyfodol datganoli ar y rhaglen. Profodd yr eitem i fod yn ddefnyddiol iawn yn yr arholiad!
. . . → Read More: Datganoli mewn arholiad ac ar y newyddion
Gan admin, ar 01.21.05
Dyma fy ail bostiad, mae hi’n dri o’r gloch y prynhawn cyn fy arholiad cyntaf. Wedi gwneud coffi i fi fy hun ac yn cymryd seibiant o’r adolygu am ychydig i edrych ar y newyddion ar wefan y BBC.
Un o’r prif storiâu heddiw ydy seremoni dderbyn Bush . . . → Read More: Cristion yn y TÅ· Gwyn!
Gan admin, ar 01.20.05
Wel dyma fi yn dechrau blogio. Ychydig ar ei hol hi mae’n debyg gan fod llawer o Gymry eraill wedi bod yn blogio ers misoedd os na blynyddoedd bellach.
Felly beth sydd wedi peri i mi ddechrau blogio? Wel dwi’n meddwl y medrai ei dorri i lawr i dri . . . → Read More: Lansio blog Rhys Llwyd