Gan admin, ar 01.29.06
Des i ar draws hwn ar flog Chwadan bore ma. Wedi rhedeg fy llun drwyddo ac mae’n debyg mod i’n edrych fel y pel-droediwr Figo. Fedrai weld rhyw fymryn o debygrwydd h.y. o dras cyfandirol + trwyn mawr.
Ym mhellach i lawr y rhestr roedd Kate Winslet. Ddim cweit yn siwr beth sy’n gyffredin rhyngtha . . . → Read More: Dwi’n debyg i Figo… a Kate Winslet (o diar)
Gan admin, ar 01.28.06
Wedi gorffen fy arholiadau bellach ac yn disgwyl mlaen i’r tymor newydd! Mae’n nhw’n dweud mae pwynt mynd i brifysgol ydy ehangu eich gorwelion. O ran union leoliad dwi heb ehangu rhyw lawer ar fy ngorwelion oherwydd i mi aros yn Aberystwyth. Ond yn syniadaethol dwi wedi ehangu fy ngorwelion. Dwi wedi treulio amser yn astudio . . . → Read More: Cenedlaetholdeb, Cenedlaetholdeb a Chenedlaetholdeb
Gan admin, ar 01.22.06
Dwi wedi cal fy syfyrdanu wythnos yma gyda sylwadau adain dde, gul a rhagfarnllyd aelodau o fforwm drafod Gristnogol.
Am Gymru a’r Gymraeg:
“There are many things wrong with the world. We have to live for God, doing what we can with what we’ve got. Yes, it’s an unfortunate situation to be in, but why let that colour . . . → Read More: Y Dde Grefyddol yn fyw ac yn iach yn Aber
Gan admin, ar 01.19.06
Ro ni yn y Llyfrgell Genedlaethol heddiw, wel dyna ble dwi di bod ers bod nol, a dyna ble fyddai am o leiaf wythnos arall. Mae o’n le bach od am sawl rheswm. I ddechrau maen nhw’n edrych yn dy fag di ar y ffordd i fewn ond ddim ar y ffordd allan. Felly os wyt . . . → Read More: Y Grand National
Gan admin, ar 01.13.06
Dyma fi nol ym Mhantycelyn. Cyfnod arholiadau a chyfnod pen-blwydd y blog! Bron i flwyddyn yn ol yng nghanol tristwch/rhwystredigaeth cyfnod arholiadau fe ddechreuais flogio. Wel dyma fi eto yn wynebu arholiad, ie dim ond un. Oherwydd i mi wneud cynifer o draethodau a rheiny yn rai hir cyn y ‘dolig rwy’n cael fy ngwobrwyo gyda . . . → Read More: Yn ol i Bantycelyn
Gan admin, ar 01.11.06
Dyma ddau beth yr hoffwn dynnu sylw darllenwyr fy mlog atynt!
1. Wyt ti wedi arwyddo’r ddeiseb bwysig yma? Nagwyt? Dos i wneud nawr!
2. Mae ail sioe podlediad Naws yn barod (or diwedd!) doedd e ddim yn gyment a hynny o strach, llai nag o ni’n feddwl. Dwi am wneud ymdrech lew nawr i ryddhau sioe bob . . . → Read More: Basgwyr a Sgwarnogod
Gan admin, ar 01.08.06
Dwi erioed wedi cymryd cyffur, heb sôn am fod yn gaeth i unrhyw un. Ond efallai fod hynny yn gelwydd, mae’n dibynnu sut ydych chi’n diffinio cyffur – ydy Alcohol yn gyffur? Ydy debyg, wedyn beth am wleidydda? Ydy debyg eto! Os felly yna mae gemau cyfrifiadur megis Championship Manager yn sicr yn gyffur! Ydw dwi . . . → Read More: Dwi’n gaeth i gyffur
Gan admin, ar 01.04.06
Wrth deithio ar y trên o Gaerdydd i Aber heddiw roeddwn ni’n darllen y rhifyn diweddaraf o Macworld pan des i ar draws erthygl ar dudalen 42 ynglyn a meddalwedd addysg Cymraeg oedd newydd ei ryddhau i’r MAC! Rhaglen o’r enw ‘Skill Builders’.
Dwi dal i ddisgwyl fersiwn Cymraeg o . . . → Read More: Cymraeg yn Macworld