Erchylltra Llafur

Yn ddiweddar dwi wedi dod i gasau y Blaid Lafur a’i unffurfiaeth o’r newydd. Ers darllen ysgrif gan Abraham Kuyper am Unffurfiaeth dwi wedi dod i edrych a’r y Blaid Lafur a’i brif ideoleg sef unffurfiaeth (nid sosialaeth na chyfalafiaeth hyd yn oed moi brif ideoleg) mewn goleuni ang-nhristnogol. Hynny yw bod y Blaid Lafur yn . . . → Read More: Erchylltra Llafur

Rhys Llwyd ap Cranmer

Mae fy Nhad wedi bod wrthi’n ddiwyd yn hel ei achau ers imi fod yn hogyn bach. Ei ddiddordeb mawr oedd dilyn achau ei Dad (fy Nhaid) oblegid cyfenw Ffrengig oedd ganddo sef Couture (newidiodd fy Nhad ei enw i Llwyd tua diwedd y saithdegau dwi’n meddwl). Darganfyddodd fod ein teulu ni yn Huwganotiaid Protestannaidd a . . . → Read More: Rhys Llwyd ap Cranmer

Rali Fawr Ceredigion

Neithiwr fe fynychais Rali Fawr Ceredigion. Noson o ‘fawl cyfoes’ a hynny trwy gyfrwng iaith y nefoedd. Er mae mynychu eglwysi marw (mae’r gymdeithas a’r efengyl yn iach ond waeth i ni gyfaddau fod y cyfrwng wedi hen farw) Cymraeg ydw i fel rheol dwi’n troi mewn i Eglwys Saesneg San Mihangel o bryd i’w gilydd . . . → Read More: Rali Fawr Ceredigion

Cofio am hoelio’r erthyglau

Heddiw mae’r byd seciwlar yn dathlu gwŷl Calan Gaeaf ond heddiw mi rydw i a Christnogion eraill dros y byd yn dathlu ‘Dydd Diwygio’ (Reformation Day). Ar yr union ddiwrnod yma yn 1517 (489 o flynyddoedd yn ôl ie?!) hoeliodd Matin Luther ei gan erthygl namyn pump ar ddrws Eglwys y Castell, Wittenberg, Yr Almaen. . . . → Read More: Cofio am hoelio’r erthyglau