Gan admin, ar 01.31.07
Dros y penwythnos fuesi lan ym Mangor ym Mhrotest Cymdeithas yr Iaith dros Ddeddf Iaith Newydd. Roedd rhyw 150 yna a rhaid mi ddeud mae dyma’r brotest fwyaf lwyddiannus i mi ei fynychu gan y Gymdeithas ers y blynyddoedd. Wedi i drafodaethau gyda chwmni Morrisons dorri i lawr fe benderfynwyd eu targedu gyda phrotest. Yn ddiddorol . . . → Read More: Bangor a Vavasor Powell
Gan admin, ar 01.25.07
Dwi wedi bod yn dilyn yr helynt hawl i fabwysiadu o asiantaethau mabwysiadu Eglwysig ers tipyn nawr ac mae wedi rhoi pen tost i mi. Ond dwi’n meddwl mod i wedi dod i safbwynt mor glir a medr dyn ddod iddo nawr. Felly dyma roi fy mhen ar y bloc – hyd yn oed os yr . . . → Read More: Helynt Mabwysiadu Hoywon
Gan admin, ar 01.15.07
Fe ddois ar draws y llun gwych yma ar wefan y BBC. Dyn patrol yr RAC yn tynnu ei sgidiau a’i drwser ffwrdd er mwyn mynd i ddwr y llifogydd yr wythnos diwethaf i achub aelodau’r . . . → Read More: Arwr yr RAC
Gan admin, ar 01.15.07
Pregeth ddiddorol bore ma yn Capel yn seiliedig ar ddechrau Actau 2:
Ar ddiwrnod dathlu Gŵyl y Pentecost roedd pawb gyda’i gilydd eto. Ac yn sydyn dyma nhw’n clywed sŵn oedd fel gwynt cryf yn chwythu drwy’r ystafell lle’r oedden nhw’n cyfarfod. Ac wedyn roedd fel petai rhywbeth tebyg i fflamau tân yn dod i lawr ac . . . → Read More: Benny Hinn – gau broffwyd?
Gan admin, ar 01.14.07
Erfynaf faddeuant am y llanast a’r iaith fain tra mod i’n ail-wampio’r blog dros y dyddiau nesaf! Rwy’n dyfaru gwneud nawr oherwydd maen ben tost ond nawr mod i wedi dechrau . . . → Read More: Ail Wampio’r Blog
Gan admin, ar 01.13.07
Mae cynnwrf mawr yn yr Alban ar hyn o bryd gyda’r SNP yn debygol o wneud yn dda iawn yn etholiadau Senedd Caeredin yn hwyrach eleni. Pan fo’r cyfiawn yn dechrau ennill y dydd mae’r anghyfiawn yn taro’n ôl gyda’r unig arf sydd ganddo i daro’n ôl sef propaganda di sail a rhagfarnllyd. Mewn ymgais i . . . → Read More: SNP Vs Gordon Brown / Cyfiawn Vs Anghyfiawn?
Gan admin, ar 01.13.07
Fe wyr fy nghyfeillion fod gen i rhyw hoffter o drenau. Nid hoffter yn yr ystyr mod i’n treulio p’nawniau Sadwrn yn steshon Amwythig yn nodi rhifau trenau ond hoffter o ran eu rhinwedd fel trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol a chyfforddus… wel ar y prif leiniau beth bynnag. Mae fy hoffter o deithio ar drên yn deillio . . . → Read More: Mwy o drenau i Aberystwyth?
Gan admin, ar 01.09.07
Dewch nol gyda mi i Drawsfynydd, fis Medi 1951. Roedd Plaid Cymru yn cynnal protest yn erbyn safle hyfforddi milwrol ym Meirionydd a dyma’r Prif-Gwnstabl y Cyrnol Jones-Williams – a oedd yn Annibynnwr selog yn Salem, Caernarfon – yn dod a’i blismyn i hel y “penboethiaid” hyn o’r ffordd ac yn dod at y cyntaf ac . . . → Read More: Arestio AC ac ASE Plaid Cymru
Gan admin, ar 01.04.07
Maen nhw’n dweud mae’r gyfrinach i flog llwyddiannus yw amrywiaeth. Dros yr wythnosau diwethaf dwi wedi sôn am fy achau teuluol, fy agwedd tuag at y Blaid Lafur, fideo o ddau gyfaill yn chwarae dwli, coffadwriaeth i weinidog, hysbysebu gig ac adolygu llyfr. Ac er mwyn bod yn amrywiol dyma droi at goginio!
Mae’r rhai sydd yn . . . → Read More: Porc mewn saws hoi!