Gan admin, ar 05.31.07
Bydd sawl un ohonoch yn gyfarwydd a’r wefan www.politicalcompass.org. Ar y wefan yma fe allwch chi ateb set o gwestiynau yna ar sail eich atebion maen cyfrifo lle ydych chi ar y spectrwm gwleidyddol chwith-dde ac awdurdodol-rhyddfrydol. Gan fod yr holl gwestiwn o leoli ideoleg a pholisïau gwleidyddol yn dysen boeth ers yr etholiad a’r Sosialydd . . . → Read More: Cwmpawd Gwleidyddol: dwi dal ar y chwith – maen swyddogol!
Gan admin, ar 05.30.07
Fe welesi Bol Piniwn ar flog Ciaran Jenkins felly dyma ddwyn y syniad. Bydd yna Bol Piniwn yn ymddangos bob wythnos (os bydd amser/amynedd yn caniatau) ym mar ochr. fy mlog. Gan ei bod hi’n wythnos eisteddfod yr Urdd pol piniwn eisteddfotaidd . . . → Read More: Polau Piniwn ar fy mlog
Gan admin, ar 05.29.07
Tynodd Vaughan Roderick sylw ar ei flog rhai wythnosau yn ôl at y ffaith y gallai holl arweinwyr y DG fod yn feibion i weinidogion Presbyteraidd cyn bo hir. Alex Salmon ac Ian Paisly eisioes yn arweinwyr ac fe fydd Gordon Brown, y presbyter arall o’r Alban yn ymuno a nhw dros yr haf ac fe . . . → Read More: ENFYS, (en-bys) Gr. ιÏις; bwa gwlaw. Edr.
Gan admin, ar 05.29.07
Mae yna dipyn o bopeth i bawb yn y ddogfen enfys ond dyma un peth sy’n sefyll allan i mi. Dwi wedi bod yn weithgar yn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg ers pedair mlynedd bellach. Dy ni wedi gweld llanw a thrai ym mhoblogrwydd yr ymgyrch maen rhaid cyfaddef. Flwyddyn yn ôl cyhoeddodd Ymgynghorwyr Arad . . . → Read More: Beth sydd yn y ddogfen ‘enfys’ i mi?
Gan admin, ar 05.28.07
Fe fynychais gyngor cenedlaethol y Blaid ddoe gan gynrychioli Cymru x, adain ieuenctid Plaid Cymru. Mae trafodaethau mewnol y Blaid i’w cadw’n gyfrinachol felly byddai’n syniad da i mi barchu hynny rhag i mi gael fy esgymuno! Ond fe fedrai ddweud gymaint ag sydd wedi cael ei adrodd gan y BBC yn barod sef na drafodwyd . . . → Read More: Clymblaid: Atgyfododd
Gan admin, ar 05.24.07
Mae’r blog wedi bod yn dawel ers y penwythnos tra mod i wedi bod fyny ym Mangor yn cyfarfod fy nhiwtor a hel rhyw bethau o’r llyfrgell ar gyfer gwaith y mis neu ddau nesaf. Fodd bynnag dydy gwleidyddiaeth Cymru heb fod yn ddistaw. Mae pob plaid wedi rhoi’r gorau i drafod gyda Llafur ac o . . . → Read More: Democratiaid Rhyddfrydol Ystyfnig
Gan admin, ar 05.21.07
Dwi wedi bod yn pwyso a mesur oblygiadau moesol clymbleidiau enfys. Waeth i ni fod yn gwbwl onest fod yna elfen o “mewn trwy’r drws cefn” ynghlwm wrth glymblaid enfys. A oes gan glymblaid enfys fandand gan yr etholwyr o gwbl? Ond wedyn a oes gan lywodraeth leiafrifol fandad gan yr etholwyr? Cwestiynau dyrys yn wir. . . . → Read More: Moesoldeb Clymblaid Enfys: mewn trwy’r drws cefn?
Gan admin, ar 05.21.07
Yn ystod yr ymgyrch etholiadol fe drodd coffi ar ôl cwrdd fore Sul yn sesiwn drafod gwleidyddiaeth, yn anffurfiol beth bynnag. Oherwydd y datblygiadau diddorol does dim taw ar y sgwrsio am helyntion Plaid Cymru a bore ma ces i fy nghorneli gan un fam ifanc; “Beth yw hyn am Blaid Cymru yn rhoi pŵer i’r . . . → Read More: Clymblaid Enfys: Pleidwyr ‘llawr gwlad’ yn gymysg eu barn
Gan admin, ar 05.20.07
Dwi wedi cael diwrnod hollol ymlaciol heddiw, neu fel y byddai Mam yn disgrifio’r diwrnod; “Rhys, ti jest di bod yn slob heddiw.” Weithiau maen rhaid i chi gael diwrnod o beidio mynd i nunlle a pheidio gwneud dim byd o bwys yn toes? Dwi wedi bod yn cael ychydig o nostalgia heddiw drwy chwarae gemau . . . → Read More: Sadwrn Slobaidd
Gan admin, ar 05.19.07
Maen rhaid fod Rhodri Morgan a’i gyd Lafurwyr mewn panig llwyr heno. Dydy nhw, yng Nghymru, erioed wedi cael y profiad o beidio dal pŵer. Ar ben y drychineb o golli awenau llywodraeth yng Nghymru bydd y glymblaid enfys yn dod a PR i fewn i etholiadau lleol ac o ganlyniad mi gollith Llafur ei hegemoni . . . → Read More: Ceisio dod o hyd i’r aur ar ben yr enfys