Spoted: Awyr Las

Newyddion da i ninau’r dewr sy’n mynd i wersylla ym . . . → Read More: Spoted: Awyr Las

Pontrhydfendigaid a Kenavo yn ôl

Rhagofn i chi gam-ddeall, dwi rioed wedi meddwl fod neb wedi ‘gweld eisiau’ Kenavo ond er gwybodaeth mae Kenavo yn ôl. Mae gyda ni dri gig yn dod i fyny dros yr haf. Y cyntaf ddydd Sadwrn yma yn Gig Mawr Bont – fel dwi’n deall byddwn ni mlaen tua 5pm. Yr ail yw’r gig diddorol . . . → Read More: Pontrhydfendigaid a Kenavo yn ôl

Pamffledi’r Piwritaniaid

Dwi ddim wedi sôn ar y blog am fy ngwaith ymchwil ers tro. Felly, gan wybod bod fy nhiwtor yn darllen y blog o dro i dro, dyma sôn am yr hyn dwi wedi bod yn darllen dros yr wythnosau diwethaf. Dwi, o’r diwedd, wedi gorffen cropian drwy gyfrolau sychion Thomas Richards a bellach wedi symud . . . → Read More: Pamffledi’r Piwritaniaid

Fy Antur Ddelfrydol – teithio o Jerwsalem i Rufain

Mae wedi bod yn freuddwyd gennai ers tro i wneud un o deithiau Paul yr Apostol. Dwi ddim ar fin gwneud, nid yw amser nac arian yn caniatáu ar hyn o bryd; ond dyma nodi yn fras yr hyn baswn ni’n gobeithio ei gyflawni. Y man cychwyn fyddai Jerwsalem gan orffen y daith yn Rhufain. Cyfuno . . . → Read More: Fy Antur Ddelfrydol – teithio o Jerwsalem i Rufain

Blair, Rhufain a Gwleidyddiaeth

Mae sî wedi bod ar led ers blynyddoedd fod Tony Blair yn Babydd tu ôl i ddrysau caeëdig ac ei fod yn bwriadu gadael yr Eglwys Anglicanaidd ac ymuno ag Eglwys Rufain wedi iddo adael 10 Stryd Downing. Gyda’r dyddiad yna yn nesáu, wythnos nesaf, mae’r diddordeb yn y saga yma yn poethi yn enwedig felly . . . → Read More: Blair, Rhufain a Gwleidyddiaeth

Y Gorlan: saith mlynedd yn ddiweddarach…

Fuesi lawr yn Llanelli heddiw yn ffilmio fideo’s ar gyfer Y Gorlan, rhai i roi ar y wefan a rhai i chwarae ar sgrin fawr yn y Gorlan ei hun yn yr Eisteddfod eleni. Roedd un, ro ni’n teimlo, mor bwerus roedd rhaid i mi fynd syth ati i’w olygu ar ôl cyrraedd adre ac am . . . → Read More: Y Gorlan: saith mlynedd yn ddiweddarach…

Google yn anog boddi pobl!

Dwi wastad wedi gweld mapiau yn bethau difyr ac fe fedrai edrych ac astudio mapiau ac atlysau am oriau heb ddiflasu. Pan eich bod chi’n eistedd mewn llyfyrgell fel yr ydw i nawr a phennod o lyfr Geoffery Nutall yn dwyn y teitl ‘The Principle of Fellowship’ yn profi eich amynedd i’r eithaf mae bron a . . . → Read More: Google yn anog boddi pobl!

Golwg aeth a sisiwrn at fy epistol

Rwy’n ddiolchgar iawn i Golwg am gyhoeddi fy llythyr yn eu rhifyn heddiw. Fodd bynnag fe’m synwyd eu bod wedi tynnu un frawddeg allan a hwnw yn un go allweddol i rediad fy nadl. Mae’r frawddeg gafodd ei hepgor wedi ei oleuo yn y paragraff isod:

Serch hynny, rhaid cytuno ag ef ar un pwynt, sef mai . . . → Read More: Golwg aeth a sisiwrn at fy epistol

Mudiad ‘crefydd fel metaffordd-duw fel delwedd’ Aled Jones-Williams

Maen debyg i rai ohono chi ddarllen llythyr y Parch. Aled Jones-Williams yn Golwg wythnos diwethaf. Efallai i chi glywed y llythyr yn cael ei drafod ar raglen John Roberts fore Sul – ar y rhaglen canolbwyntiodd John ar ei sylwadau am fod dim dyfodol i enwadaeth ac nad oedd llyfrau Cristnogol o werth yn cael . . . → Read More: Mudiad ‘crefydd fel metaffordd-duw fel delwedd’ Aled Jones-Williams

Dad-Drefedigaethu’r Meddwl

Dwi wedi cael tridiau o ddad-drefedigaethu’r meddwl – antidôt cwbl anghenrhaid ag ystyried y seremonïau cyfoglyd a ddigwyddodd yng Nghymru wythnos yma. Nos Fawrth roedd NgÅ©gÄ© wa Thiong’o yn siarad yn adran y Gymraeg Bangor, maen awdur,bardd a beirniad llenyddol ôl-drefedigaethol. Menna oedd a’r diddordeb (theori ôl-drefedigaethol yw ei ‘thing’ hi) ond fe es i am . . . → Read More: Dad-Drefedigaethu’r Meddwl