Y Blaid Lafur Gymreig-Brydeinig

Dwi wedi fy atgoffa wythnos yma am y gwahaniaeth sylfaenol sydd rhwng cenedlaetholwyr ac unoliaethwyr. Gan gofio fod y Blaid Lafur wedi methu a chael mandad clir gan yr etholwyr yn ôl ym mis Mai ac eu bod nhw wedi gorfod dibynnu ar Genedlaetholwyr i sefydlu Llywodraeth mi fyddech yn tybio y buasent yn dysgu rhai . . . → Read More: Y Blaid Lafur Gymreig-Brydeinig

Cyrraedd Bangor a Chyfarfod ag Elvis

Dwi wedi cyrraedd Bangor ers ddydd Sul ond dim ond heddiw dwi wedi cael y ŵe i weithio. Dwi wedi fy siomi ar yr ochr orau gyda fy fflat yn JMJ – roedd e braidd yn frwnt pan gyrhaeddes ond ar ôl ychydig bach o hwfro, polish a codi ambell i lun ar y wal a . . . → Read More: Cyrraedd Bangor a Chyfarfod ag Elvis

Dylunio i Sir FFlint

Wedi neud jobyn bach dylunio i Fenter Iaith Sir Fflint wythnos yma. Mae’r gwaith i’w weld isod. Os ydych chi’n hoff o’r dylunio yna cofiwch amdana i pan fo angen dylunydd arnoch – mae fy nghyfraddau tua hanner pris y ‘going rate’. A gallwch fod yn saff o wybod fod y pres yn mynd tuag at . . . → Read More: Dylunio i Sir FFlint

Nid Oes Efengyl Arall (2/2)

…parhad o’r postiad blaenorol

Peth peryglus iawn a rhywbeth na ddylid rhuthro i mewn iddo yw honni mai eich dehongliad chi o destun Beiblaidd sy’n gywir a’ch dealltwriaeth chi o efengyl Crist yw’r unig ddehongliad posibl. Afraid dweud mai rhybudd rhag gwneud hynny a geir yn adnod wyth; nodir dwy ffynhonnell bosibl y gall gau-efengyl ddeillio oddi . . . → Read More: Nid Oes Efengyl Arall (2/2)

Nid Oes Efengyl Arall (1/2)

Bu llawer o sôn yn ddiweddar am ‘ddiwygio’ ein heglwysi ac am ‘ail-feddwl’ am rôl a phwrpas Cristnogaeth yn y Gymru gyfoes. Dymuniad rhai o weinidogion ac offeiriaid ein heglwysi yw llusgo ein Cristnogaeth o gysgod ein gwaddol Brotestannaidd-Galfinaidd, lle bu’r eglwys, yn eu tyb hwy’n gwywo ac yn ymdrybaeddu yn ei gorffennol amherthnasol. Yn Y . . . → Read More: Nid Oes Efengyl Arall (1/2)

Ydw, dwi yn hoffi chwarae golff

Mae gan bawb ei gyfrinach. Fy nghyfrinach i yr haf yma yw mod i wedi cymryd at chwarae Golff. Wn i ddim pam mod i’n galw’r peth yn gyfrinach o gwbl; amwni oherwydd fod yna rhyw stigma ynghlwm wrth chwarae golff yn union fel pe tasae fel cyfaddef eich bod chi wedi ymuno a’r Ceidwadwyr neu . . . → Read More: Ydw, dwi yn hoffi chwarae golff

Cledrau Tren newydd i Gymru?

Mae hi’n 2.19 y.b. a dwi methu cysgu (dwi’n amau fod bwyta clamp o frechdan samwn cyn mynd i fy ngwely rhywbeth i wneud a’r peth) felly beth well i’w wneud na phostio rhywbeth ar fy mlog. Dwi wedi bod yn pori gwefannau y BBC i weld os oes yna rhyw stori y carwn wneud sylwad . . . → Read More: Cledrau Tren newydd i Gymru?

Yn ol i Fangor

Fel Ceri Cunington “geshi ngeni ym Mangor” – ac 18 mlynedd yn ddiweddarach dwi’n symud yn ol i fy nhref enedigol. Symudodd fy nheulu i Aberystwyth o Fangor yn 1989 a gan i mi aros yn Aberystwyth i fynd i’r Brifysgol dyma fydd y tro cyntaf i mi, mewn gwirionedd, adael cartre go-iawn (er i mi . . . → Read More: Yn ol i Fangor