Gan admin, ar 01.29.08
Mi rydw i wedi cael y fraint a’r anrhydedd heddiw o gychwyn edrych trwy Archifau a Llawysgrifau R. Tudur Jones. Maen fraint anarferol felly y bo’r teulu wedi ymddiried yndda i anheilwng un felly i archwilio, chwynnu a dwyn maeth o’r casgliadau i’w rhannu gyda’r cyhoedd i ddechrau trwy gyfrwng fy nhraethawd doethuriaethol ac wedi hynny . . . → Read More: Archifau a Llawysgrifau R. Tudur Jones
Gan admin, ar 01.26.08
Dwi wedi dod ar draws blog newydd eto fyth gan un o fy ffrindiau. Huw Thomas yw’r enw – hen gyfaill da i mi o Benweddig – ef oedd ar y bas yn ein band anenwog hwnnw GHR2 pan yn yr ysgol. O gwglo fymryn canfuais fod ein hen wefan dal i fyny – clec fan . . . → Read More: Blog Huw Thomas a GHR2
Gan admin, ar 01.23.08
Dyma son am ddau flog newydd Cymraeg dwi wedi dod ar eu traws yn ddiweddar. Y ddau gan Gymry da o’r Wladfa fe dybiaf, Tad a Mab – Peladito a’i Dad El Jefe. Maent o ddiddordeb arbennig i mi gan fy mod yn ymchwilio i fywyd a gwaith aelod arall o’u teulu sef El Jefe Grande. . . . → Read More: Blogiau Cymraeg Newydd – Anturiaethau Peladito a Bywyd Caled El Jefe
Gan admin, ar 01.23.08
Mae undod Cristnogol yn wahanol i Eciwmeniaeth; hefyd rhaid gwahaniaethu rhwng y cysyniad o eciwmeniaeth a’r ‘mudiad eciwmenaidd‘ (Noel Davies et al.) – mudiad rhyddfrydol oedd y mudiad eciwmenaidd a fethodd; ac fe fethodd oherwydd ei fod yn rhy barod i ildio tir ar yr hyn oedd llawer o bobl yn gweld yn greiddiol i’r ffydd. . . . → Read More: Eciwmeniaeth ac Undod yng Nghrist
Gan admin, ar 01.19.08
Mae fy nghath i wedi newid ei sbotiau heddiw, fe drodd y Teigr yn Leopard. I chi sy’n parhau am ryw reswm i ddefnyddio Windows XP neu Vista gwell fydda i mi esbonio. Mathau gwahanol o gathod y mae Apple yn galw eu sustemau gweithredu, Puma (10.1), Jaguar (10.2), Panther (10.3), Tiger (10.4) a’r diweddaraf Leopard . . . → Read More: Gosod Leopard
Gan admin, ar 01.18.08
Un o’n modern-classics ni fel Cymry Cymraeg heb os oedd y rhaglen deledu Pobol y Chyff. Roeddw ni’n fach iawn pan y darlledwyd y rhaglen yn wreiddiol a hynny ddiwedd yr wythdegau/ddechrau’r nawdegau ond mae cof plentyn gennai o hyd. Cymaint oedd dylanwad y rhaglen fel ei fod wedi effeithio ar ein geirfa ni feln teulu . . . → Read More: Pobol y Chyff
Gan admin, ar 01.16.08
Ydych chi wedi cychwyn defnyddio BBC iPlayer? Sustem ar-lein am ddim ydyw gan y BBC sy’n eich galluogi i ail-wylio (neu am y tro cyntaf os colloch y gwreiddiol!) y rhan helaeth o raglenni’r BBC gafodd eu darlledu dros y saith diwrnod diwethaf. Mae S4C wedi bod yn cynnig rhyw fath o wasanaeth tebyg, S4C Gwyliwch . . . → Read More: BBC iPlayer
Gan admin, ar 01.11.08
Dwi nol ym Mangor a nol a’m dannedd yn yr ymchwil. Ar hyn o bryd dwi’n darllen trwy rifynnau’r 50au o’r Welsh Nation a rhifynnau’r 60au o’r Ddraig Goch, sef papurau Plaid Cymru. R. Tudur Jones, testun fy noethuriaeth, oedd y golygydd yn ystod y ddau ddegawd yma. Dwi wedi codi sawl dyfyniad difyr o’r ysgrifau . . . → Read More: Dyfyniadau gan R. Tudur Jones I