Photoshop Disasters

Fe glywesi am y blog difyr yma rhai dyddiau yn ôl, Photoshop Disasters, dyma oedd rhai o fy ffefrynau i:

Mawredd mawr eisteddwch i lawr mae rhywun wedi dwyn fy nhrwyn llaw:

Gyrru ar hyd y gwair i’r garêj?:

Defnydd o’r teclyn clonio yn logo . . . → Read More: Photoshop Disasters

Ali G yng Nghymru

Dwi ddim yn cofio os ydw i wedi cyfeirio at y fideo yma o’r blaen ond maen un o fy ffefrynau. Ali G yng . . . → Read More: Ali G yng Nghymru

Ydy bod yn Gymro a bod yn Gristion yn synonymous?

Cyn i fy Nhad-cu droi at Grist yr hyn wnaeth ei sbarduno ef i feddwl yn ddyfnach am ei berthynas (neu ddiffyg ar y pryd) gyda Duw oedd iddo dderbyn pamffled oedd a’r teitl brawychus GOD HAS NO GRAND CHILDERN. Byrdwn neges awdur y bamffled y diwrnod hwnnw oedd y ffaith fod rhaid i bawb ddod . . . → Read More: Ydy bod yn Gymro a bod yn Gristion yn synonymous?

Effaith mynychu Prifysgol ar dueddiadau crefyddol

Ar hyn o bryd dwi wrthi yn darllen cyfrol gyntaf ‘Ffydd ac argyfwng Cenedl’ ac maen chwith gyda mi gyfaddef mae dyma’r tro cyntaf i mi weithio trwyddi er mod i’n dod i ddiwedd fy ail flwyddyn yn gwneud doethuriaeth am R. Tudur Jones, awdur y gyfrol!

Yr hyn a’m trawodd heno oedd darllen ystadegyn am yr . . . → Read More: Effaith mynychu Prifysgol ar dueddiadau crefyddol

Dogfen od am Islam ar fy nghyfrifiadur rhywsut :-/

Roeddw ni wrthi nawr yn sortio allan ffeiliau’r cyfrifiadur pan ddois ar draws dogfen nad oeddwn yn siwr beth oedd ynddo, ac wrth ei agor dois ar draws hwn ynddo:

“The Legislation is for None but Allah…”[Qur’an - Surah Yusuf :40 - & - Surah al-An’am :57]

“And He(Allah) does not permit anyone to share in His Legislation”[Qur’an . . . → Read More: Dogfen od am Islam ar fy nghyfrifiadur rhywsut :-/

Coleg Ffederal Cymraeg – rhaid achub ar y cyfle nawr

Yn dilyn cyfarfodydd ddoe (ni ddywedaf ymhle na gyda phwy oherwydd rwy’n parchu preifatrwydd y cyfarfodydd) rwy’n teimlo fel bod yn rhaid dweud gair am Goleg Ffederal Cymraeg eto fyth.

Gan ddisgwyl cyhoeddiad buan gan y Gweinidog Addysg Jane Hutt ynglŷn a pholisi Llywodraeth Cymru’n Un o Goleg Ffederal Cymraeg carwn dynnu eich sylw at yr hyn . . . → Read More: Coleg Ffederal Cymraeg – rhaid achub ar y cyfle nawr

Twitter, Twhirl ac Adobe Air

Dwi wedi bod yn defnyddio Twitter ers llai nag wythnos nawr ond mae’n cydio’n barod. Eisioes dwi wedi bod yn defnyddio gwefannau sy’n updêtio eich statws Twitter a Facebook run pryd. Yn gyntaf fe fuesi yn arbrofi gyda www.hellotxt.com ond bellach dwi wedi setlo i ddefnyddio www.ping.fm . Mae ping.fm dal yng nghyfnod beta (hy profi) . . . → Read More: Twitter, Twhirl ac Adobe Air

Rhyddid a Hunanlywodraeth yw’r asgwrn cefn a’r ffydd Gristnogol yw’r sbeinal cord

Fe ddoes ar draws llythyr difyr a phwerus tu hwnt heddiw yn yr archifau. Llythyr ydyw oddi wrth R. Tudur Jones at Gwynfor Evans. Mae yna dri peth ysgytwol sy’n sefyll allan i mi:

1. Yn gyntaf beirniadaeth RTJ o duedd y blaid tua diwedd yr wythdegau i goleddu “sosialaeth”. Ddim bod RTJ yn wrth-sosialaidd ac yn . . . → Read More: Rhyddid a Hunanlywodraeth yw’r asgwrn cefn a’r ffydd Gristnogol yw’r sbeinal cord

Wedi meddwl mynd i’r capel ond y pyb yn fwy atyniadol?

Wedi meddwl mynd i’r capel ond y pyb yn fwy atyniadol? Wel… mae ateb!

CWRDD, Eglwys Dafarn Gymraeg – tafarn The End, Caerdydd, 9 pm – 22 a 29 Mehefin 6 a 13 Gorffennaf

Dyma medd y trefnwyr:

Ni’n byw mewn cymdeithas sy’ ‘di newid. Dydy mynd ir capel ar y Sul ddim yn norm, dydy Cristnogaeth ddim . . . → Read More: Wedi meddwl mynd i’r capel ond y pyb yn fwy atyniadol?

Faint o’r gloch mae’r cwrdd dydd Sul?

Nid yw mynd i Capel yn boblogaidd dyddiau yma ond hyd yn oed os byddech chi eisiau mynychu cwrdd ar y Sul maen arbennig o annodd gwneud hynny oherwydd nad oes unrhyw ffordd o wybod faint o’r gloch mae’r gwasanaethau. Dim ond nifer fychan iawn iawn o Eglwysi Cymraeg sydd a gwefannau felly dwi wedi cychwyn . . . → Read More: Faint o’r gloch mae’r cwrdd dydd Sul?