Eisteddfod 2011

IMG_9705

Wedi i mi fethu Eisteddfod llynedd oherwydd gwaith y PhD fe wnes i’n fawr o’r cyfle i ddal lan eleni a mynd am yr wythnos gyfan ac fe wnes i fwynhau mas draw. Bues yn gall (neu’n gyfrwys?) i beidio a chymryd unrhyw waith na chyfrifoldebau penodol eleni gyda Chymdeithas yr Iaith na’r Gorlan – fe wnaeth hynny fy rhyddhau i allu mynd a dod fel y mynnwn.

Tref Wrecsam

Mae’n debyg mae’r hyn wnes i fwynau mwyaf oedd cyfle i dreulio amser gyda hen ffrindiau – ffrindiau dwi eisoes a minnau ond yn chwech ar hugain wedi mynd i’r rhigol anffodus o’u gweld yn unig bob Eisteddfod. Wnes i fwynhau byw a bod yn Wrecsam hefyd. Yn wahanol i’r rhan fwyaf o Eisteddfodwyr roeddwn i’n aros yng nghanol y dref a gan fod gigs y Gymdeithas hefyd yng nghanol y dref treuliais dipyn o amser yn y dref ei hun. Yr hyn a’m tarodd yn fwy na’r ffaith fod Wrecsam ddim yn dref Gymraeg ei hiaith oedd nad oedd hi chwaith yn dref Gymreig nac ychwaith yn “Brydeinig”. Wrth fynd i chwilio am frecwast ynghanol dre ar y bore cyntaf methais a chanfod un siop gornel oedd yn gwerthu cynnyrch “Prydeinig” – roedd pob siop ddes i ar eu traws yn gwerthu cynnyrch Polisk neu Halal! Ddim bod dim byd o’i le ar hyn, ond roedd yn brofiad annisgwyl rhywsut.

Bryn Fôn - Tren y Chwyldro, Eisteddfod Wrecsam 2011

Gigs y Gymdeithas

Fe aeth gigs y Gymdeithas yn rhagorol. Mae llawer o’r lluniau wnes i dynnu fan yma. Dyma oedd y gigs mwyaf llwyddiannus i’r Gymdeithas drefnu ers Steddfod Eryri yn 2005 yn fy nhyb i. Roedd pob noson yn rhagorol o ran adloniant, nifer uwch na’r disgwyl wedi mynychu ac felly llwyddodd pob noson (heblaw am un) glirio ei gostau – rhywbeth sydd wedi bod yn strygl i ni yn y blynyddoedd diwethaf. Dwi’n meddwl mae’r hyn wnaethom ni’n iawn eleni oedd peidio trio cystadlu head-on gyda maes-b a maes-c ond yn hytrach cynnig rhywbeth gwahanol. Mae’n amlwg i bobl fwynhau’r profiad “gwahanol”.

Ar y Maes

Fe aeth digwyddiadau ‘gwleidyddol’ y Gymdeithas yn dda iawn hefyd. Mae lluniau o rhai o ddigwyddiadau ‘gwleidyddol’ y Gymdeithas yma a lluniau cyffredinol o’r Eisteddfod. Ond yr eliffant yn yr ystafell (neu’r steddfod) oedd dyfodol Cymunedau Cymraeg – roedd llawer un yn dechrau darogan beth fydd ffigurau y sensws yn dangos am leihad nifer y siaradwyr Cymraeg yn y “cadarnleoedd”. Mae hi’n ddeg mlynedd bellach ers i Seimon Glyn dynnu sylw pawb at y pwnc pwysig yma a dydy’r pleidiau gwleidyddol, gan gynnwys Plaid Cymru, heb wneud dim i ddelio a’r broblem. Sibrwd ynghylch y pwnc oedd yn yr Eisteddfod eleni, mae’n bosib y bydd yn bwnc llosg go-iawn eto erbyn steddfod y flwyddyn nesaf.

IMG_9733

Y Gorlan

Oherwydd ymrwymiadau eraill dwi heb ymrwymo’n iawn i waith Y Gorlan ers sawl blwyddyn bellach ond roeddwn i’n falch mod i wedi gallu mynd draw i gynorthwyo am un noson eleni. Dyma oedd fy mlwyddyn olaf hefyd ar bwyllgor Y Gorlan. Er gwaethaf fy niffyg ymroddiad ymarferol yn ystod yr wythnos i’r gwaith mae’r Gorlan yn parhau i fod yn agos iawn at fy nghalon i oherwydd ei fod yn genhadaeth holistaidd iawn yn y Gymry Gymraeg gan ei fod yn cynnig gobaith ysbrydol ac ymarferol.

Yfed ein ffordd i’r Gymry Rydd?

Dwi wedi bod yn gwneud rhywbeth neu gilydd gyda’r Gorlan ers deg mlynedd bellach ac fe fues i’n gwersylla ar y Maes Ieuenctid am saith o’r deg mlynedd yna. Dros y blynyddoedd dwi wedi sylwi fod natur y Maes Ieuenctid wedi newid llawer. Pan ddechreuais i weithio gyda’r Gorlan roedd y trawstoriad oedran, ar y cyfan, tua 18-30 gyda rhai eithriadau naill ben. Ond mae’n ymddangos nawr fod y trawstoriad oedran yn debycach i 15-21 gyda eithriadau y naill ben. Un o ganlyniadau hyn yw fod popeth yn fwy “gwyllt” yn arbennig gyda pobl yn gwneud cam-ddefnydd o alcohol. Roedd pobl yn mynd dros ben llestri gyda diod wastad yn rhan o’r Maes Ieuenctid ond mae e i weld wedi mynd yn waeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er ei fod yn broblem gymdeithasol sy’n amlwg iawn ar y Maes Ieuenctid mae e’n symptomatig o broblem cymdeithas yn gyfan – erbyn diwedd yr wythnos roedd digon o bobl yn nosweithiau Cymdeithas yr Iaith hefyd a mwy o diddordeb yn y bar na’r bandiau yn anffodus. Mae hyn yn fy nhristáu, y ffenomenon yma ein bod ni fel Cymry yn meddwl fod rhaid ymgolli a’r ddiod pob tro rydym ni’n cyfarfod i ddathlu ein diwylliant. Bron fel petai yfed, a gor-yfed, yn rhan o hanfod ein hunaniaeth bellach. Dwi’n gwybod beth yw’r ateb hir dymor, dyna pam mod i dal i gredu yng ngweledigaeth y Gorlan, ond wn i ddim beth yw’r ateb tymor byr/cymdeithasol os oes un o gwbl.

Ymlaen, ymlaen

Mae’r ychydig sylwadau yma felly yn crynhoi beth mae’r Eisteddfod yn ei olygu i mi. Roedd hi’n gyfle i weld hen ffrindiau, i ddathlu ein diwylliant ond hefyd yn wythnos lle roedd rhai o wendidau a pheryglon ein hanfod fel Cymry Cymraeg yn dod i’r amlwg.

Fel yr Iddewon, ein Gwŷl y Pebyll ni ar ben am flwyddyn arall, ymlaen mae Canan.

3 thoughts on “Eisteddfod 2011

  1. Peter

    Diolch Rhys – mae dy sylwadau a’r cipolwg o “dy” Eisteddfod yn ddiddorol. Diolch i ti am dy frwdfrydedd gyda’r Gymdeithas a’r Gorlan dros y blynyddoedd. Ie, tristwch yw’n nodwedd fel Cymry am ddiota i ormodedd – hyderu yn wir bydd dy gyfres ffilmiau byr “Torri syched” yn gymorth hefyd. Ys dywedodd Dennis Young flynyddoedd yn ol – nid yr yfed yw’r broblem, ond y syched! Gobeithio dangos yr ail un o’r CD yn Darganfod ddiwedd y mis. (Yn hynod o berthnasol yn wyneb trychineb y difrodi ar strydoedd dinasoedd Lloegr yn ystod yr wythnos ddiwethaf hefyd). Bendith arnat ac ar dy waith gyda’th bobl yng Nghaernarfon a’r cyffuniau. Diau na allwn ddod i’r cyfarfodydd ddechrau mis Medi gan fy mod i gael triniaeth ysbyty – ond byddwn yn meddwl, yn cofio ac yn dymuno Duw yn rhwydd i ti a’th bobl. Cofion cynnes a diolch eto, Peter a Glesni

  2. gwion

    Hai Rhys! Mwynhau dy flogio. Wedi dy weld ond heb gael cyfle am sgwrs yn y steddfod. Heb gofio’n iawn nawr ymhle. Galw draw yn y Felin i’n gweld a chawn gyfle i siarad am yr wthnos wych yn Wrecsam. (A helo Peter hefyd!) Dim ond o fynd i adael sylw gweld bod fy nhad hefyd yn gwerthfawrogi dy flog! Beth yn union mae’n dweud am dy flog dwi’m yn siwr! Wedi hoffi dy luniau ar Flickr hefyd yn enwedig yr un o dy famgu a Cynan yn canu mewn capel a hi’n edrych i’r camera.

  3. Pingback: Eisteddfod Genedlaethol 2011 drwy lygaid blogwyr | Gwenu Dan Fysiau

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *