Ordeinio merched yn Esgobion yn Eglwys Loegr

Ddoe bues i’n gwrando ar deirawr olaf y ddadl ynglŷn ag ordeinio merched yn Esgobion yn Eglwys Loegr. A finnau yn ymneilltuwr Cymraeg, a hynny o argyhoeddiad, pam trafferthu dilyn yr hanes? Yn gam neu’n cymwys Eglwys Loegr sy’n cael ei weld fel wyneb cyhoeddus y dystiolaeth Gristnogol ym Mhrydain oherwydd y proffil cymharol uchel mae’n ei gael ar y cyfryngau. O ganlyniad dylai hynt a helynt Eglwys Loegr fod o ddiddordeb i bob Cristion oherwydd nhw sydd yn ein cynrychioli i’r rhan helaethaf o’r cyhoedd, dyna’r realiti fel y mae hi yn anffodus.

Wrth wrando ar y dadleuon ddoe sylwais fod yna – a siarad yn gyffredinol – dri math o ddadl yn cael ei chyflwyno:

i.) Y safbwynt Efengylaidd/Beiblaidd o blaid merched yn Esbonion
ii.) Y safbwynt Rhyddfrydol o blaid merched yn Esgobion
iii.) Y safbwynt Traddodiadaeth yn erbyn merched yn Esgobion

Roedd o gryn syndod i mi glywed cynifer o leisiau Efengylaidd blaenllaw, pobl fel Elaine Storkey (Tearfund), ac yn y gorffennol pobl fel Tom Wright (Diwinydd blaenllaw a chyn Esgob Durham) a John Sentamu (Esgob Efrog), yn dadlau o blaid y mesur. Hanfod eu dadl oedd fod yr adrannau hynny o lythyrau Paul oedd yn rhoi’r argraff fod rôl is-radd (neu o leiaf wahanol) gan y wraig ym mywyd yr Eglwys yn perthyn i gyd-destun penodol ac mae prif weledigaeth y Beibl ar y cwestiwn oedd fod yr Eglwys yn cael ei gyd-arwain gan ddynion a merched. Nid gan ddynion na merched ond gan ddynion a merched.

Dadleuodd rhai rhyddfrydwyr o blaid y mesur gan bledio safbwyntiau clasurol rhyddfrydol ynglŷn a’r angen i’r Eglwys “addasu i’r amseroedd”, ond doeddwn i ddim wedi fy argyhoeddi gan y dadleuon hynny. Dylai’r Eglwys byth wneud rhywbeth jest oherwydd fod pawb arall yn ei wneud. Dylai’r ddadl fod yn fwy cynhwysfawr a solet na hynny.

O ran y lleisiau oedd yn erbyn y mesur, roeddwn i wedi disgwyl dadleuon gan adain Efengylaidd yr Eglwys yn pledio’r rhannau perthnasol o lythyrau Paul. Ond yn y deirawr y gwrandewais i ar y ddadl yr unig ddadleuon yn erbyn y cafwyd oedd rhai yn ymwneud a thraddodiadaeth – “dyma ‘da ni wastad wedi gwneud felly rhaid i ni gadw at hynny” – ac hefyd dadleuon ynglŷn a rhyddid cydwybod – “efallai mod i o blaid merched yn Esgobion ond rhaid i ni warchod rhyddid cydwybod Cristnogion sydd ddim yn cytuno a’r safbwynt hwnnw”.

Hynny yw, yn wahanol i’r disgwyl efallai roedd y dadleuon cyhyrog a Beiblaidd a wnaed yn rhai o blaid merched yn Esgobion ac nid yn erbyn fel y mae’r cyfryngau prif ffrwd yn adrodd.

Hoffwn hefyd ddweud gair pellach am beth y dywedodd Elaine Storkey. Roedd hi’n siarad am ddau fath o efengyliaeth – roedd hi’n ei cyfri ei hun yn “evangelical” tra’n siarad am y “conservetive evangelicals” fel carfan wahanol. Mae yna gwestiynau mawr yma, ond yn y bôn dwi’n meddwl fod y gwahaniaeth yma mae Storkey yn ei adnabod yn amlygu’r hyn rydw i wedi ei ddadlau ers rhai blynyddoedd sef fod yna wahaniaeth rhwng pobl “efengylaidd” a phobl “ffwndamentalaidd”.

Cyfrifa pobl efengylaidd mae’r pedwar pwynt Bebbingtonaidd canlynol sy’n bwysig i bobl “efengylaidd”. Yn gyntaf, dysgai’r traddodiad mai gair Duw yw’r Beibl, gair i ymddiried ynddo, i’w gredu ac i weithredu mewn ufudd-dod iddo. Yn ail, dysgai fod marwolaeth Iawnol ac atgyfodiad Iesu yn ffeithiau a bod credu hyn yn rhan o hanfod y wir ffydd. Yn drydydd, dysgai fod yn rhaid i bawb ymwrthod â drygioni a’u hunanoldeb, hynny yw pechod, drwy brofi tröedigaeth. Ac yn bedwerydd, dysgai fod y ffydd Gristnogol yn rhywbeth ymarferol i’w harfer a’i gweithredu ym mywyd bob dydd, ond bod cadwedigaeth wedi’i seilio ar ffydd drwy ras ac nid drwy ymdrech a gweithredoedd. Er fod y traddodiad “ffwndamentalaidd” yn credu’r pedwar pwynt yma, mae’n nhw’n mynnu ychwanegu amodau diwylliannol pellach e.e. agwedd y Cristion tuag at gwestiynau penodol megis y cwestiwn presennol o ferched yn Esgobion.

Mae’r siart yma a baratowyd gan R. Tudur Jones yn esbonio rhai o’r gwahaniaethau yn gryno:

Pwy yw'r bobl efengylaidd?

Yn ein eglwys ni yma yng Nghaernarfon rydym ni’n cael ein bendithio’n helaeth o gael dynion a merched yn gweithio drwy holl haenau’r eglwys. Ar y tîm diaconiaid, wrth arwain yr Ysgol Sul, ar y tîm addoli ac ar y tîm dysgu bellach. Dyma yw’r patrwm Beiblaidd yn ôl fy nealltwriaeth i, ac yn ôl fy mhrofiad i mae deall a gweithredu hynny yn cyfoethogi bywyd yr Eglwys a’i thystiolaeth.

7 thoughts on “Ordeinio merched yn Esgobion yn Eglwys Loegr

  1. Steff

    Dau fath o berson efengylaidd?

    (a) Person efengylaidd/beiblaidd sydd o blaid menywod yn esgobion.

    (b) Person efengylaidd “ffwndamentalaidd” sy’n erbyn penodi menywod yn esgobion, ac sy’n ystyried bod rol menywod yn yr eglwys yn ganolog i’r diffiniad o wir Gristnogaeth.

    C’mon Rhys, roeddwn i’n meddwl bod gen ti fwy o nuance na hyn!

    Tabloid journalism at its best yw hyn. Rwyt ti’n gwybod yn iawn nad yw e mor ddu a gwyn a hynny. Ro’n i’n meddwl mai “ffwndamentalwyr” sy’n ceisio labeli pobl a’u rhoi mewn bocsys du a gwyn, ond onid dyna’n union mae Storkey, tabl R.Tudur Jones a dy asesiad di yn ei wneud?

    Beth am garfan (c)? Sbosib bod llawer o bobl wedi pleidleisio’n erbyn y mesur am eu bod yn perthyn i’r garfan hon?

    Yn unol a egwyddor gyntaf Bebbington am awdurdod gair Duw, mae’r Cristnogion efengylaidd yma’n ceisio cymhwyso’r Beibl i bob sefyllfa. Wrth ddarllen y Beibl yn weddigar maent yn sylwi ar nifer o egwyddorion am bob math o bethau. Nid ydynt yn bwyntiau sy’n diffinio Cristnogaeth (nid yw iachawdwriaeth person yn dibynnu arnynt), ond maent yn fwy sylweddol na “amodau diwylliannol”.Dyma, yn ol eu dealltwriaeth o’r Beibl a’u cydwybod, yw ewyllys Duw ar gyfer pob oes a diwylliant. Dyma sy’n ei anrhydeddu a’i blesio, ac felly, gyda phob parch a chariad at frodyr a chwiorydd duwiol sy’n anghytuno, nid ydynt yn medru mynd yn erbyn yr egwyddorion hynny. Cyn belled a bod ymroddiad i ymdrin a’r Gair yn ddiffuant a pharchus, maent yn fodlon i Gristnogion eraill ddehongli’r pwyntiau eilradd yma’n wahanol, ac ni fyddant yn torri cymdeithas a nhw drostynt, ond yn eu heglwysi a’u teuluoedd eu hunain, nid ydynt yn medru mynd yn erbyn ei gydwybod.

    Plis Rhys, tymbach mwy o gydymdeimlad, a mwy o “llwydni” y tro nesaf!

  2. rhysllwyd Post author

    Steff, iawn, rhaid cydnabod diffyg cynildeb yn fy nadl. Y bwriad oedd jest esbonio pethau fel yr oedd Storkey et. al. yn gwneud ddoe. Er mod i’n anghywir i gyffredinoli, dwi dal yn credu fod rhaid derbyn fod yna wahanol draddodiadau o fewn y traddodiad efengylaidd. Yn hytrach na sôn am efengylaidd a ffwndamentalaidd mae rhai wedi sôn am “evangelical” ac “open evangelical” – mae’n bosib fod hwnnw yn fwy teg.

  3. Steff

    Wrth gwrs mae gwahanol farn. Mae ystyr “efengylaidd” llawer yn fwy eang nag oedd e 25 mlynedd nol. “Open evangelicalism” . . . “Open” i beth? Agored i drafod ac i ddangos cariad a pharch at bobl sy’n anghytuno, gret. Ond fy nghonsyrn i yw mai “Open” i’r cyfryngau a political correctness yw ystyr “Open evangelicalism”

    Wrth ystyried rol gwragedd (a phob math o faterion eraill actually) rwy’n ofni ein bod ni’n gwrando’n fwy ar farn y sefydliad rhyddfrydol na’r Beibl (ee, David Cameron heddiw – “CoE needs to get with the programme”). Hynny yw, rydyn ni’n gadael i syniadau’r gymdeithas i reoli ein dehongliad o’r Beibl, yn hytrach na vice versa.

  4. Steff

    Ga’i awgrymu erthygl Lewis Roderick yn rhifyn y Gaeaf o’r Cylchgrawn Efengylaidd ar “Sola Scriptura: Yr Ysgrythur yn Unig” (shameless plug i’r Cylchgrawn, ond mae’n erthygl dda!)

  5. rhysllwyd Post author

    Ie, rwy’n cytuno. “Open Evangelical” yn swnio fel ffordd fwy parchus o ddweud “Soft Evangelical”. Rwy’n cofio Bobi Jones yn dadberfeddu’r term “neo-uniongred” gan ddadlau fod “uniongred” yn rhywbeth roedde chi yn neu ddim a bod dim modd bod bron yn uniongred. Melldith y labeli!

    O ran awdurdod y Beibl dros dueddiadau gwleidyddol/diwylliannol y dydd. Mae hyn yn bwysig iawn, ac yn y bôn dyma oedd prif ddiben y post yma sef pwyntio allan fod y bobl efengylaidd oedd o blaid merched yn Esgobion yn dadlau hynny allan o’r Beibl. Roedd hyn yn glir iawn yn y dadleuon ddoe er fod e ddim yn dod drosodd ar y cyfryngau prif ffrwd. Hyd yn oed os ydych chi’n anghytuno gyda pobl fel Tom Wright rhaid o leiaf parchu’r ffaith fod eu dadl yn dod allan o’r ysgrythur.

  6. Steff

    Ti’n iawn, dyna galon y mater: A oes parch at y Beibl fel Gair Duw? A oes ymdrech wirioneddol i ymdrin a’r Beibl, heb adael i syniadau’r gymdeithas ymyrryd?

    Rhaid cydnabod bod gan Gristnogion anrhydeddus a diffuant wahanol farn. Efallai bod Rhufeiniad 14:5, 19 yn briodol fan hyn. Mae pob person i fod yn argyhoeddiedig yn ei feddwl ei hun am faterion eilradd (does dim lle i syniadau cymylog a fuzzy, “soft evangelicalism” fel rwyt ti’n dweud), ond yr un pryd dylwn ni fod yn heddychlon a chariadus wrth gydnabod yr amrywiaethau barn.

    Ar nodyn arall, trueni mawr bod y cyfryngau heb roi cyfle i bobl a oedd yn erbyn y mesur oherwydd rhesymau beiblaidd (yn hytrach na thraddodiad,etc). Mae digon ohonyn nhw i’w gael yn y CoE, pobl duwiol a synhwyrol.

  7. Mererid

    Rhyfedd o beth ydi’r angen yma i ddadansoddi, dosbarthu a labelu bob dim o hyd. Rhywbeth yn hynod tribal yn hyn ac yn perthyn i oes yr arth a’r blaidd rywsut.
    Undod mewn amrywiaeth a rock on ddyweda i.
    A tydi hi’n biti garw fod politics enwadaeth yn dal achos ffydd yn ol gymaint o hyd hefyd. O na allen ni symud ymlaen i gael canolbwyntio ar fyw ein fydd a deled y deyrnas 🙂

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *