Iaith neu Efengyl? Howel Harris a Gruffydd Jones, Llanddowror

Mae Gruffydd Jones, Llanddowror yn enwog am ei waith arloesol gyda’r Ysgol Sul. Bu’n gymwynas fawr i’r iaith Gymraeg gan droi gwerin yn llythrennog a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg. Ond mae sawl un yn dadlau nad oedd ganddo fawr o ddiddordeb mewn gwirionedd mewn “achub yr iaith” ac mae ei unig amcan oedd “achub eneidiau” a’i fod wedi sylwi mae’r ffordd mwyaf effeithiol o wneud hynny oedd trwy gyfrwng y Gymraeg. Er bod hi’n gywir i nodi mae’r lles ysbrydol oedd o ddiddordeb pennaf iddo, mae’n anghywir ysgaru’r ddau beth mewn gwirionedd gan fod Gruffydd Jones a’i gyfoeswyr yn gweld y ddeubeth fel unpeth. Anghywir felly yw i ni heddiw i geisio eu rhoi mewn blychau gwahanol – rhaid edrych ar y cwestiwn drwy eu byd olwg nhw, fel oedden nhw yn gweld y peth ar y pryd. Mae gweddill y post yn cut & paste allan o bennod gyntaf fy thesis.

Erbyn y ddeunawfed ganrif gwelai rhai o’r Tadau Methodistaidd fod parodrwydd, neu ddiffyg parodrwydd, y Cymry i gynnal eu bywyd yn Gymraeg yn hytrach na throi i’r Saesneg yn deillio o gwestiwn ffydd. Dywedodd Howel Harris yn ei ddyddiadur yn dilyn ymweliad â sir Benfro: ‘Yr oeddwn i’n daer iawn dros i’r Cymry beidio â llyncu balchder y Sais a’i iaith, gan anghofio eu hiaith eu hunain. Fe ddywedais wrthynt fod Duw’n Gymro, ac yn gallu siarad Cymraeg, a’i fod wedi dweud wrth lawer yn Gymraeg, ‘Maddeuwyd i ti dy bechodau’.’1 Pwyslais Harris yma yn ôl R. Geraint Gruffydd, yw’r alwad Gristnogol i’r Cymry ymwrthod â balchder ac i beidio â cheisio bod yn rhywbeth gwahanol i’r hyn y crëwyd hwy i fod. Dehongliad tebyg a gynigai Tudur Jones am agwedd un arall o’r Tadau Methodistaidd, Gruffydd Jones, Llanddowror, tuag at gwestiwn iaith a chenedligrwydd:

…y mae i’w [Gruffydd Jones] genedlaetholdeb seiliau Beiblaidd sydd yn rhoi cadernid a bywiogrwydd i’w waith a’i ysgrifennu. Daw hyn i’r golwg yn ei syniadau am Ragluniaeth. Nid yw’r gair Rhagluniaeth eto wedi colli ei ystyr ddynamig, greadigol. Iddo ef, cabledd fyddai cyhoeddi fod popeth sydd, yn iawn. Ffolineb heb seiliau yn y Beibl fyddai cyhoeddi na ellir gwneud dim yn wyneb yr amgylchiadau ac mai’r unig beth sy’n aros inni yw eistedd i lawr a’n dwylo ymhleth a sibrwd ‘Fel hyn mae hi orau!’ Nid sêl ar batrwm statig yw Rhagluniaeth i Gruffydd Jones. Ac nid dyna oedd i John Calfin na John Penry na Walter Cradoc na Vavasor Powell. Rhagluniaeth yw’r hyn y mae Duw’n ei ewyllysio. Fel y mae’n digwydd, mae dynion yn eu balchder yn ceisio gwneud pethau sy’n groes i ewyllys Duw. Beth yw dyletswydd milwyr Duw mewn cyfwng felly? Mae’r ateb yn syml ac yn glir – ymladd. Peth creadigol yw Rhagluniaeth. Galwad i frwydr yn erbyn Philistia.2

Dehonglai Tudur Jones lif meddwl Gruffydd Jones fel pe bai’n dweud fod ‘diwreiddio’r Gymraeg a gorseddu Saesneg yn enw rhyw gyd-wladoldeb bas’ gyfystyr ag ‘ail-adrodd trosedd gwŷr Babel.’ Oherwydd bod y diwylliant Cymraeg yn un a ddylanwadodd Cristnogaeth yn drwm arno, a’r iaith Gymraeg yn iaith yr arferid y ffydd Gristnogol drwyddi, yma ym meddwl y Tadau Methodistaidd dechreuwyd gweld yr arfer o weld safiad ffydd a’r frwydr dros ddiwylliant y genedl fel deubeth oedd yn mynd law yn llaw’n naturiol.

1. Dyfynnwyd yn R. Geraint Gruffydd: ‘Ein hiaith a’n diwylliant’ yn Y Ffordd Gadarn – Ysgrifau ar Lên a Chrefydd gan R. Geraint Gruffydd, E. Wyn James gol. (Pen-y-bont a’r Ogwr: Gwasg Bryntirion, 2008), 97
2. R. Tudur Jones: ‘Cenedlaetholdeb Cristion’ yn Y Cylchgrawn Efengylaidd, Cyfrol 9, Rhifyn 4 (1968), 96

One thought on “Iaith neu Efengyl? Howel Harris a Gruffydd Jones, Llanddowror

  1. Dyfed

    Dwi ddim yn gwybod digon am y cyfnod nag am waith RGG a Tudur ond tybed oes perygl eu bod yn darllen problemau heddiw i mewn i waith GJ? Doedd yna ddim y fath beth a brwydr iaith yn y cyfnod hwnnw, oedd yna? Yn wir, oedd yr iaith mewn perygl o gwbl bryd hynny o’i gymharu a phryd yr oedd RGG a Tudur yn sgwennu?

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *