Gareth Miles yn llygad ei le

Fe wnes i fwynhau rhaglen Gwion Lewis, Siarad o Brofiad, yn fawr iawn neithiwr. Y gwestai oedd Gareth Miles, un o feddylwyr pwysicaf Cymru heddiw. Am flynyddoedd roeddwn yn gweld Gareth Miles fel rhyw fath o ideolegydd Marcsaidd stwbwrn ar y gorau, naïf ar y gwaethaf. Ond ers ei ymddangosiad ar CF99 yn dilyn canlyniadau’r cyfrifiad llynedd dwi wedi fy nghyfareddu ganddo. Dyma oedd ei gyfraniad ar CF99 y noson honno (sori, mae’r llun a’r sain allan o sync).

“Chwyldro yw’r unig ateb” – Gareth Miles ar CF99 from Sianel62 | Cymdeithas on Vimeo.

Ers y cyfraniad hwnnw ar CF99 dwi wedi gweld mae nid naïf yw Gareth Miles ond yn hytrach rhywun sydd yn llygad ei le. Rhywun sydd wedi gallu crafu wyneb y Gymru gyfoes, gweld yn glir beth yw’r problemau ideolegol, gwleidyddol a diwylliannol (ac i ryw raddau ysbrydol, er nad yw’n gallu cynnig ateb i’r broblem yma!) a siarad yn glir a phendant amdanynt. Prif gyfraniad Marx oedd nid yn gymaint unrhyw atebion roedd ei theorïau yn ei gynnig ond yn hytrach ei gritîc cwbwl gywir o gyfalafiaeth a imperialaeth fel ag yr oedd. Dyma hefyd yw cryfder Gareth Miles – mae ei ddehongliad o argyfwng Cymru a’r Gymraeg yn gwbl gywir – does neb heddiw yn gallu mynd dan groen problemau ein cenedl fel y gall Gareth Miles.

Mae’n gywir wrth nodi fod y mudiad iaith wedi derbyn consesiynau yn lle gweithio at weddnewidiad llwyr. Rwy’n derbyn bellach mae dyna oedd fy methiant personol i wrth chwarae rôl yn yr ymgyrch am Goleg Ffederal Cymraeg. Mi es i mewn i’r gyfundrefn, mi oeddwn ar y pwyllgorau ac nid yn unig yn derbyn consesiwn ond yn gweithio tuag at un. O ganlyniad fe gaethom ni drefn newydd oedd yn well ac yn fwy ffafriol i’r Gymraeg nag oedd yn bodoli cynt. Fodd bynnag, consesiwn a dim byd mwy yw’r Coleg Cymraeg sydd gyda ni heddiw. Dydy’r Coleg ddim wir yn sefydliad annibynnol Cymreig – mae’n parhau i fod yn sefydliad sydd wedi ei blethu’n llwyr i mewn i farchnad gyfalafol Prifysgolion Cymru sydd eu hunain yn gaeth i’r model Prydeinig. Hufen ar y cyfan oedd fod Bwrdd y Coleg Cymraeg ar ôl ei sefydlu wedi ei lenwi’n rhannol gyda’r math o bobl mae Gareth Miles yn galw’n “Gymry da, ond Prydeinwyr gwell.”

Mae Gareth Miles yn gywir wrth nodi fod y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn bleidiau sy’n derbyn, mewn realiti, y status quo gyda man newidiadau iddi. Dwy blaid nationalist light a socialist light. Mae Gareth yn gywir wrth nodi mae diwedd y gân yw’r geiniog – dan drefn gyfalafol mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n bleidiol i’r Gymraeg yn bleidiol oherwydd mae dyna yw eu “ffon fara”. Pam y dylai y Cymry di-Gymraeg, mewn trefn gyfalafol, ddysgu Cymraeg os nad oes budd economaidd iddyn nhw wneud hynny? Efallai y caiff rhai eu hargyhoeddi o werth diwylliannol yr iaith, ond i droi y mwyafrif rhaid chwyldroi y drefn economaidd a gwleidyddol yn llwyr fel ei bod yn ffafriol i’r mwyafrif ac i amrywiaeth diwylliannol (sosialaeth ddatganoledig?) ac nid yn ffafriol i’r lleiafrif ac unffurfiaeth Saesneg (cyfalafiaeth imperialaidd?).

Wn i ddim os ydy hyn i gyd yn gwneud synnwyr? Rydw i dal yn cnoi cil ac yn trio prosesu’r hyn ddywedodd Gareth Miles ar y rhaglen neithiwr ac ar CF99 llynedd. Tra fod “ffon fara” cymaint o’r bourgeoisie Cymraeg (yn fy nghynwys i) yn ddibynnol ar y status quo fel y mae hi mae’n annhebygol y gwelir chwyldro yn fuan.

Dywedodd hefyd mae’r Diwygiad Methodistaidd “oedd ein Chwyldro Ffrengig ni” – sylw difyr iawn, rhywbeth arall i cnoi cil drosto.

2 thoughts on “Gareth Miles yn llygad ei le

  1. Richard Wyn Jones

    Diddorol iawn Rhys… Deunydd sesiwn drafod go iawn rhyw dro.

    O ran dy sylwadau ynglyn a’r Coleg Ffederal, fe fyddai’n ddiddorol clywed beth sydd gennyt mewn golwg fel cyfundrefn addysg uwch amgen, ‘di-gyfaddawd’ fel petai.

  2. Gwion Owain

    Difyr iawn ydi dy sylwadau ar Gareth Miles. O ran fy hun byddwn yn nodi nad yw yr un gyfundrefn Farcsaidd – hyd y gwn – wedi gwneud affliw o ddim i warchod hawliau diwylliannol a ieithyddol eu lleiafrifoedd dim ond eu gorfodi i anghofio eu gwahaniaethau yn enw ‘rhesymeg’ a gwleidyddiaeth annynol y nyth morgrug!!!

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *