Pedwar o resymau da pam y dylai Cristnogion yr Alban bleidleisio IE

1. Byd o genhedloedd nid byd o ymerodraethau greodd Duw
Rwy’n credu fod y Beibl yn dangos yn weddol glir mae dymuniad Duw oedd i ddyn greu byd o genhedloedd. Byd sydd ag undod mewn amrywiaeth gyda pob dyn a dynes yn gyfartal gan fod pawb wedi ei greu ar lun a delw Duw. Trwy’r Beibl a thrwy hanes mae dyn wedi ceisio chwalu’r amrywiaeth yma trwy geisio unffurfiaeth moel a haerllug tebyg i ddrygioni Tŵr Babel (Genesis 11). Trwy gymryd y cam dewr o adael un o’r ymerodraethau mwyaf unffurf a welodd y byd erioed gall Gristnogion yr Alban gyfrannu tuag at y gwaith o greu byd sy’n glytwaith o genhedloedd sy’n cyfrannu tuag at yr amrywiaeth hyfryd oedd yn fwriad gan Dduw o’r dechrau.

2. Gall Alban Annibynnol fod yn stiwardiaid gwell o greadigaeth Duw
Mae’r Cristion yn cael ei alw i fod yn stiward cyfrifol a doeth o greadigaeth Duw. Mae lle i gredu fod modd byw bywydau mwy cynaliadwy yn ecolegol wrth fyw bywydau’n fwy lleol ac mewn unedau llai. Y sôn yn y tymor byr yw y byddai’r Alban annibynnol yn dibynnu ar arian olew, ac wrth gwrs dydy dibynnu ar olew ddim yn llesol i’r greadigaeth. Ond mae sawl un wedi dadlau mae gwir gyfoeth yr Alban annibynnol yn yr hir dymor fyddai ei hadnoddau naturiol a’i gallu (i.) yn gyntaf i fod yn hunan-gynaliadwy ar egni adnewyddadwy; (ii.) ac yna ei gallu i allforio egni adnewyddadwy i wledydd eraill. Ar hyn o bryd mae is-adeiledd yr Alban fel rhan o’r Deyrnas Unedig wedi ei chynllunio i fynd ac egni o’r canolfannau (lle mae’r egni anadnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu) i’r perifferi. Gall yr Alban annibynnol ail-wampio ei is-adeiledd er mwyn dod a’r egni o’r mynyddoedd a’r moroedd ar y perifferi i’r canolfannau.

3. Gall Alban Annibynnol fod yn wlad sy’n cymryd ochr y tlawd a’r di-lais
Er gwaethaf datblygiadau y wladwriaeth les ers yr ail ryfel byd mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn un o wladwriaethau lleiaf cyfartal y byd. Mae’r sefydliad Prydeinig drwyddi draw wedi ei cynllunio i gynnal y dosbarth uwch ac i ddal pobl gyffredin yn wystlon i fwystfil economi fasnach rydd. Er fod pob plaid wleidyddol wedi ceisio diwygio gwleidyddiaeth a sefydliadau y Wladwriaeth Brydeinig mae’r sefydliad ei hun yn parhau i fod yn gwbwl anaddas i brysuro cymdeithas decach yn yr unfed ganrif ar hugain. Yr unig wlad arall yn y byd lle mae arweinwyr crefyddol yn cael hawl i bleidleisio ar ddeddfau gwlad yn unig am eu bod nhw’n arweinwyr crefyddol yw Iran! Mae bodolaeth, heb sôn am weithdrefnau, Tŷ’r Arglwyddi yn un enghraifft yn unig o broblem sylfaenol y sefydliad Prydeinig. Mae modd trwsio a diwygio rhai sefydliadau, ond mae’r sefydliad Prydeinig tu hwnt, rhaid dechrau o’r dechrau.

Dydw i ddim yn meddwl y bydd yr Alban annibynnol yn troi’n wlad gomiwnyddol dros nos, a tydw i ddim yn meddwl byddai hynny’n beth da chwaith. Ond mae gadael y Deyrnas Unedig yn rhoi cyfle i’r Alban ‘ddechrau o’r dechrau’ a llunio gwladwriaeth a sefydliadau sydd yn naturiol ddemocrataidd ac sy’n reddfol yn cymryd ochr y tlawd a’r di-lais (Diarhebion 31:9) mewn ffordd na alla y sefydliad Prydeinig byth.

4. Gall Alban Annibynnol fod yn wlad heddychlon
Un o broblemau y Deyrnas Unedig yw ei bod hi’n wladwriaeth sydd a psyche ymerodraethol. Er fod y rhan fwyaf o’r ymerodraeth wedi ei gadael hi ers degawdau mae hi’n parhau i fod mewn rhyw fath o denial am y peth ac yn dilyn polisïau tramor fel tasai hi’n 1890 o hyd! I ryw raddau mae ei statws a’i cryfder economaidd cymharol yn parhau i ddibynnu ar ei gallu i ymarfer ei dylanwad tramor. Canlyniad hyn yw fod y Deyrnas Unedig yn wladwriaeth filwriaethus iawn. Yn yr economi ryngwladol mae Prydain yn punch above her weight ag ystyried maint y wladwriaeth o ran poblogaeth a tirwedd ac mae’n llwyddo i wneud hynny i raddau oherwydd ei hanes treisgar a’i bôn braich milwrol trwy’r byd. Er fod Prydain yn falch o’i athletwyr a’i beirdd a’i ysgolheigion mae balchder Prydeinig i’w gweld gliriaf yn ei byddin. Daw hyn yn glir ym mhob digwyddiad gwladwriaethol o bwys, mae’r fyddin yna bob tro fel symbol o gryfder a balchder. Petai hyn ond symboliaeth gellid o bosib dygymod a’r peth ond mae fetish milwrol y Deyrnas Unedig yn fetish tu hwnt o ddrud yn ariannol ac yn foesol.

Yr enghraifft gliriaf yw Trident, sef cynllun arfau niwclear y Deyrnas Unedig sydd wedi ei lleoli … yn yr Alban. Hyd yn oed i Gristnogion sy’n credu mewn ‘rhyfel cyfiawn’ nid oes modd amddiffyn arfau niwclear gan eu bod bob tro yn dinistrio pawb a phob dim am filltiroedd a milltiroedd – at y diben yna maen nhw wedi eu cynllunio. Mae un bom trident cyn gryfed ag un o’r bomiau a ddefnyddiwyd yn Hiroshima ac mae gan y Deyrnas Unedig 180 ohonynt. Byddai creu cenhedlaeth newydd o daflegrau Trident yn costio £100 biliwn. Dros y cyfnod byddai hynny yn ddigon o arian i gyflogi 120,000 o nyrsys ac adeiladu 30 ysbyty newydd sbon.

Mae llywodraeth yr Alban wedi dweud y byddai’r Alban annibynnol yn cael gwared o Trident a gan nad oes yna byllau tanfor arall addas ym Mhrydain mae’n bosib y byddai hynny’n arwain i gael gwared o Trident o’r Deyrnas Unedig yn llwyr. Er yn lleihau ei gwariant ar fyddin ac arfau’n sylweddol byddai’r Alban annibynnol yn parhau gyda’i cyfrifoldebau dyngarol i weddill y byd.

Petawn i’n Albanwr byddwn i yn pleidleisio IE a hynny fel Cristion. Petawn i’n arweinydd Eglwysig yn yr Alban byddwn i’n annog Cristnogion eraill i roi ystyriaeth gref i bleidleisio IE.

2 thoughts on “Pedwar o resymau da pam y dylai Cristnogion yr Alban bleidleisio IE

  1. Aled

    Diddorol Rhys. Er bo fi’n cytuno gyda rhan helaeth o beth ti’n ei ddweud fi’n credu baswn ni yn fwy araf i ddweud fel arweinydd eglwys byddwn ni yn annog pobl i bleidleisio ie. Ar lefel bersonol yn iawn ond i cynulleidfa, falle ddim. Mae’n siwr bod cristnogion hyfryd yn yr Alban sydd am bleidleisio na. Ac felly mae’n beryglus i ddweud taw y pleidlais ie neu na yw y safbwynt cristnogol cywir.

  2. rhysllwyd Post author

    Diolch am ymateb Aled. Os wnei di sylwi dwi wedi dewis fy ngeiriau yn ofalus. Fyddw ni ddim yn dweud wrth bobl i bleidleisio “Ie” (mae rhyddid gan bawb i ddewis naill ffordd neu’r llall). Beth ddywedais i oedd “byddwn i’n annog Cristnogion eraill i roi ystyriaeth gref i bleidleisio IE”, mae hynny’n wahanol i ddweud “pleidleisiwch Ie, doed a ddel!”. Dydw i heb ddweud mae pleidleisio “Ie” yw Y safbwynt Cristnogol, beth dwi wedi trio gwneud yw amlinellu safbwynt Cristnogol o blaid y bleidlais Ie.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *