Dal dy dir? Pa mor bwysig yw tir i’n hunaniaeth mewn gwirionedd

71P8RY4ldrL._SL1400_Gan fod dathliadau arbennig ym Mhatagonia eleni i gofio 150 o flynyddoedd ers sefydlu’r Wladfa bydd llawer o drafod newydd am y diaspora Cymreig a nodweddion hunaniaeth Gymreig. Cyn y Nadolig fe wnes i wylio ffilm arbennig Gruff Rhys, American Interior, oedd yn mynd ar drywydd John Evans a aeth ei hun ar drywydd y chwedl fod yna lwyth o Americaniaid brodorol yn siarad Cymraeg. Os nad ydych chi wedi gwylio’r ffilm eto yna gwnewch – mae’n hollol wych! Yr haf yma dwi am Menna yn gobeithio mynd i deithio yn America felly mae hanes y Cymry yn America yn fy nifyrru’n fwy nag arfer ar hyn o bryd.

Un peth sydd wedi gwawrio ata i o’r newydd wrth feddwl am Batagonia a’r Cymry aeth hefyd i America oedd natur hanfod eu hunaniaeth. Nid oedd tir yn chwarae rhan arbennig o bwysig yn eu hunaniaeth – i’r genhedlaeth gyntaf o wladychwyr eu ffydd Gristnogol ymneilltuol oedd y nodwedd bwysicaf ac wedi hynny yr iaith a’u diwylliant. Nid oedd tir na lleoliad eu cymuned i weld mor bwysig a hynny, beth oedd yn bwysig oedd darganfod rhywle oedd yn rhoi rhyddid crefyddol a diwylliannol iddyn nhw hyd yn oed os oedd hwnnw yn bell o’r famwlad.

Michael D Jones

Michael D Jones

Cododd hynny y cwestiwn yma yn fy mhen: beth fyddai cenhedlaeth Michael D Jones yn ei wneud o’n cenedlaetholdeb sifig ni heddiw? Wedi’r cyfan, motto cenedlaetholwyr Cymreig sifig modern yw: “y ‘Cymro’ yw unrhyw un sy’n dewis gwneud ei gartref yma.” Ond i genhedlaeth Michael D Jones doedd lleoliad eu cartref fawr o bwys, iaith a diwylliant oedd nodweddion y “Cymro” nid pa ddarn o dir roedd yn digwydd dewis gosod ei stondin. Dros y blynyddoedd dwi wedi bod yn amheus o’r Patamaniacs gan eu gweld fel pobol sy’n erbyn gwladychu yma (“Dal dy Dir!”) ond wedyn yn dathlu ein bod ni wedi gwladychu ein hunain mewn rhannau eraill o’r byd. Ond wrth feddwl mwy am bwysigrwydd tir a chael nad yw tir mewn gwirionedd mor bwysig a hynny yn fy nealltwriaeth o hunaniaeth rydw i’n gallu dechrau deall meddwl cenhedlaeth Michael D Jones, ac efallai erbyn diwedd y flwyddyn fe fydda i’n dathlu hefyd!

Yn olaf, gwead ddiddorol yn nylanwad Cristnogaeth ar hunaniaeth Michael D Jones a’i genhedlaeth oedd dysgeidiaeth y Beibl ar genedl a hunaniaeth. Yn ganolog i stori’r Hen Destament mae’r syniad yma o “Wlad yr Addewid”, dyma yn anffodus yw ffynhonnell rhan fwyaf o’r gwrthdaro yn Israel a Phalisteina heddiw. Ar ryw wedd gellid deall sut roedd naratif y Beibl wedi ysbrydoli y Cymry aeth i America a Patagonia i ddarganfod eu “gwlad yr addewid” nhw. Ond ar y llaw arall gellid hefyd weld fod yr Hebreaid yn yr Hen Destament wedi cadw eu hunaniaeth a’u cenedl yn fyw trwy’r cyfnodau hynny pan nad oedd ganddyn nhw diriogaeth eu hunain. Jest oherwydd nad oedd ganddyn nhw wlad eu hunain yn yr Aifft doedd hynny ddim yn eu gwneud nhw’n llai o Hebreaid – os rhywbeth roedd yn cryfhau eu hunaniaeth.

Trafodaeth sy’n siŵr o barhau dros y misoedd nesaf!

3 thoughts on “Dal dy dir? Pa mor bwysig yw tir i’n hunaniaeth mewn gwirionedd

  1. Elan

    Cwestiwn difyr! Dwi’n cytuno fod cenedlaetholdeb sifig yn broblematig, os all y ffasiwn beth hyd yn oed fodoli (wedi’r cyfan, mi ryda ni’n dehongli ein gwerthoedd trwy lens diwylliant), ond dwn i ddim a allwn ni ddiystyru rol tir yn gyfan gwbwl o’n teimladau o genedligrwydd. Wedi’r cwbwl, prin iawn ydi unrhyw genedl sydd heb rywle mae nhw’n ei alw’n ‘gartref’ daearyddol – y Roma o bosib, ond wedyn mae na broblemau o’u diffino nhw fel cenedl hefyd yn does. Roedd gan yr Hebraed wrth gwrs wastad eu syniad o ‘gartref’ daearyddol, er nad oedden nhw’n digwydd trigo yno ar y pryd. Nid oedd y ffaith nad oedden nhw’n byw yno yn gwneud tir yn llai perthnasol i’w hynaniaeth.
    Posib mai tensiwn sydd yma rhwng Jus in soli a jus sanguini. Nid dehongliad ethnig, na sifig mo’n hunaniaeth Gymreig, ond un yn seiliedig ar ddiwylliant a iaith, ac eto’i gyd allwn ni ddim gwadu dylanwad hil a daearyddiaeth ar bwy sy’n etifeddu y diwylliant a’r iaith honno. Mae Tatu Vanhannen yn son am nepotism ethnig fel y rheswm pam ein bod ni’n reddfol rhywsut yn teimlo ffyddlondeb tuag at y rhai yr ydym yn eu canfod fel ‘perthnasau’, neu’n ‘cymyned ddychmygol’ i ni, yn yr achos yma rheini sydd yn rhannu ein diwylliant. Oes posib, efallai, ddweud fod gennym deimladau tebyg tuag at ein ‘cartref dychmygol’, teimladau o berchnogaeth anaralladwy? Achos mae na ryw reddf yno ni i ysu am deulu a chartref, ddwedwn i, ac o wneud estyniad o ddelwedd Vanhannen onid yr un greddfau sy’n ein clymu at ein cenedl a’n gwlad?
    Fe fyddwn i hefyd yn dadlau nad oedd tir amherthnasol i wladychwyr Patagonia chwaith- mi hawlio nhw y tir trwy roi enwau Cymreig iddo, nid bodoli mewn gwagle oedden nhw, ond mewn amgylchedd oedden nhw wedi ei greu, yn llythrennol a dychmygol, i fod yn amgylchedd Cymreig. Mae’r cysyniad o wlad yn un hyblyg- mae ffiniau bron pob gwlad yn Ewrop wedi newid dros y canrifoedd, eto ryda ni’n dal i’w hystyried nhw fel yr un wlad. Bodolaeth y syniad o gartref sydd yn bwysig, nid yr union linellau ar y map (er fod hynny yn achos trais a thensiwn hefyd, wrth reswm)
    Wel, dyna fy mhwt i beth bynnag, ond cwestiwn pwysig iawn, yn enwedig ar ôl refferendwm yr Alban ac amlygrwydd a llwyddiant/methiant (?) cenedlaetholdeb sifig yn yr ymgyrch hwnnw.

  2. Cathasturias

    Gwahaniaeth arall efallai yw’r math o ‘wladychu’ a fu ym Mhatagonia. Nid gyrru’r brodorion ( y Tehuelche yn bennaf) o’u tiroedd hela a gwersylla traddodiadol, ond byw eu bywydau gwahanol iawn ochr yn ochr . Roedd gan y Tehuelche enw am fod yn ‘bobl heddwch’. Eto mae’n wir bod y Cymry, beth bynnag oedd eu crefydd, wedi cyfnewid gynau ac alcohol gyda’r brodorion – weithiau er mwyn cael eu cymorth wrth grwydro’r paith ac ehangu’r wladfa. Ac roedd hynny ynddo’i hun yn ddigon i drawsnewid eu gwareiddiad nhw. Adrodd wyf i rai o’r pethau a glywais yno dri mis yn ôl (nid gan Gymry bob amser chwaith) ond nid yn barnu.

  3. Carl Morris

    Dw i ddim yn siŵr os dw i’n derbyn taw dehongliadau o ‘Wlad yr Addewid’ yw ‘ffynhonnell rhan fwyaf o’r gwrthdaro’. Yn sicr mae ynfydion defnyddiol sy’n cyfrannu at y problem ond mae gymaint o ffactorau eraill, megis elw. Hefyd mae llawer o bobl sy’n cefnogi polisïau milwrol Llywodraeth Israel sydd ddim yn cydnabod unrhyw ‘Wlad yr Addewid’. Nid dyna oedd prif gwestiwn dy gofnod blog, dw i’n gwybod.

    Mae Cymry wedi cael cyfle i ddatblygu eu diwylliant, barddoniaeth a bywyd ysbrydol achos doedd dim lot o reolaeth dros bethau eraill yn hanesyddol.

    Roedd Michael D. Jones yn ceisio gwneud yr hyn a oedd yn bosibl ar y pryd. Fe oedd nifer cyfyngedig o declynnau creu/datblygu hunaniaeth yn y bocs.

    Mae hunaniaeth yn newid trwy’r amser ac yn cynnwys mwy o elfennau erbyn hyn. Tasai Mike o gwmpas heddiw byddai fe’n ymddiddori mewn tir. Byddai fe efallai’n ymgyrchu er mwyn gwneud ffracio yn anghyfreithlon yng Nghymru, rhywbeth sydd yn gyraeddadwy yn yr oes ddatganoledig. Byddai fe’n gosod gwersyll fel yr un yng Ngresffordd a chreu placardau gydag adnodau o’r Beibl am stiwardiaeth ddoeth o’r Ddaear. Ffaith!

    Sori os ti’n gwybod yn barod ond mae mwy nag un diffiniad o genedlaetholdeb sifig modern na dy un di uchod, e.e. mae rhai fel Dr Simon Brooks wedi bod yn dadlau ar sail llenyddiaeth bod diffiniad ieithyddol o ‘Cymry’ yn sifig erioed a dyna sydd angen hybu heddiw yn yr ‘ardaloedd Cymraeg’.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *