Hamilton – Adolygiad

Menna sydd wedi sgwennu adolygiad o’r sioe aetho ni i weld ar Broadway nos Iau.

hamilton_FBSut bu i fewnfudwr o Indiau’r Gorllewin, mab llwyn a pherth ddod yn un o sylfaenwyr cenedl newydd Unol Daleithiau America? Dyma’r cwestiwn cyntaf a ofynnir yn sioe gerdd epig newydd Broadway – Hamilton. Mewn gwlad sy’n rhoi bri ar ryddid yr unigolyn i ‘wneud rhywbeth ohono’i hun’, bydd llawer o bobl yn uniaethu â stori’r underdog Alexander Hamilton. Yn fwy na hynny, mae cyffro mawr yn y wasg oherwydd y synnwyr fod y sioe gerdd hip-hop yma’n torri tir newydd wrth adrodd stori sylfaeni Unol Daleithiau America. Americanwyr-Affricanaidd sy’n chwarae rhannau George Washington, Thomas Jefferson ac Aaron Burr a gwych yw gweld y cymeriadau hynny’n saethu odlau llwythog fel Jay-Z – geiriau sy’n cyfleu negeseuon cryf am bwysigrwydd cyfraniad mewnfudwyr i’r UDA (pwnc llosg yn primaries y Gweriniaethwyr yr wythnos hon). Gyda Joe Biden yn y gynulleidfa y noson flaenorol i ni a J-Lo y penwythnos ar ôl ni, dyma’r ‘hottest ticket in town’.

O’r funud gyntaf, mae’r rapiwr-gyfansoddwr Miranda a’r cast cyfan yn swyno wrth iddynt blethu rapio ffraeth â harmonïau hardd ac mae cân gyntaf Hamilton ‘I am not throwin’ away my shot’ yn darlunio cymeriad penderfynol, cegog, heb-ddim-i’w-golli heblaw marw. I Hamilton, ‘My shot’ yw’r cyfle â wêl i Daleithiau America ennill rhyddid oddi wrth Brydain ar ddiwedd y 1700au; mae’n uchel ei gloch wrth ddenu cefnogaeth i’r chwyldro sydd i ddod, yn barod i ddadlau achos ei genedl, ac mae’r un angerdd yn parhau wrth iddo ef ac eraill geisio sefydlu dyfodol llewyrchus i’r wlad newydd drwy’r cyfansoddiad. Yn wir, roedd y dadleuon dros annibyniaeth gan yr Americanwyr a’r gwrth-ddadleuon gan y Prydeinwyr a glywir yn y sioe gerdd mor gyfarwydd i ni fel y gallech yn hawdd newid cyfenw Hamilton i Salmond a llwyfannu’r sioe yng Nghaeredin.

Yn draddodiadol nid yw Alexander Hamilton wedi derbyn yr un sylw â thadau eraill y genedl, ond mae sioe gerdd y rapiwr Lin-Manuel Miranda yn sicr am newid hynny. Daeth Miranda ar draws stori sylfaenydd trysorlys yr UDA wrth ddarllen llyfr Ron Chernow am Hamilton, a sylweddoli mai stori yn genre hip-hop yw stori Hamilton. Rhyw chwe mlynedd yn ôl, cafodd wahoddiad i berfformio yn y Tŷ Gwyn yn dilyn llwyddiant ei sioe gerdd In the Heights am dyfu i fyny yn Efrog Newydd, ond yn hytrach na pherfformio un o’i ganeuon arobryn, penderfynodd rapio am fywyd Hamilton; y gân honno yw cân/rap agoriadol y sioe sydd bellach wedi dod o hyd i le yn Theatr Richard Rogers ar Broadway Efrog Newydd.

Y stori

Y fframwaith storiol drwy’r sioe yw’r elyniaeth rhwng Aaron Burr ac Alexander Hamilton. Ar ddechrau’r sioe pan gyfarfu’r ddau yn ddynion ifanc, tlawd, mae Hamilton yn ceisio denu Burr i gefnogi’r chwyldro ond cyngor Burr iddo yw i gega llai ac i beidio ochri gyda unrhyw achos yn ormodol – safbwynt sy’n wrthun i Hamilton. Cythruddir Burr drwy gydol y sioe wrth weld Hamilton yn dringo’r ysgol wleidyddol a chymdeithasol, a chanfod eu hun ar ddeheulaw George Washington ei hun oherwydd ei gynllunio strategol a’i allu i ysbrydoli’r milwyr, ac er bod Burr eisiau bod yn ‘The Room where it Happens’ Hamilton sydd yno bob amser, nid Burr.

hamilton-21

Wrth gwrs, mae yna stori garu, sgandal, trasiedi teuluol a sylwadau craff am wleidyddiaeth. Mae’r dair chwaer o deulu cefnog Schuyler fel Destiny’s Child y sioe, ond maen nhw’n ferched deallus ac yn chwenychu llwyddiant i werthoedd y chwyldro. Wedi’r chwyldro yn yr hanner cyntaf, mae’r ail hanner yn canolbwyntio ar ffurfio’r wladwriaeth newydd a daw Thomas Jefferson i’r llwyfan, yn ffresh a fflamboyant gydag Affro, yn ôl o Ffrainc ac wedi osgoi brwydro’r chwyldro, ac yn gofyn ‘What’d I Miss’? (Nid stori anghyfarwydd yng Nghymru ôlddatganoledig). Un o’r golygfeydd mwyaf cofiadwy yw’r frwydr rap rhwng Hamilton a Jefferson wrth ddadlau am y cyfansoddiad, gyda’r ddau yn gollwng ambell i fom ar ei gilydd; Jefferson yn cyhuddo Hamilton o fod yn gi bach i Washington a Hamilton yn beirniadu Jefferson am waltsio nôl adref nawr bod y gwaith caled o ennill y chwyldro wedi ei gwblhau.

Y Frenhiniaeth

7.207206Heb os, uchafbwynt digrifwch y sioe oedd caneuon cymeriad chwerthinllyd y Brenin Siôr (wedi ei actio gan Jonathan Groff sef Kristov yn Frozen i chi Frozen-garwyr) a’i wep swta wrth ymddwyn fel spoilt-brat ac yn rhybuddio’r Americanwyr y bydden nhw’n rhedeg nôl ato unwaith y bydden nhw’n cael eu hunain mewn trwbwl fel gwlad annibynnol. Rhyfeddai fod George Washington yn pasio’r baton i rywun arall (‘who knew that you could do that’) ac roedd arddull y gân yn wrthbwynt i arddull hip-hop gweddill y sioe. Roedd y ffaith fod y cymeriad a’r gân yn denu cymaint o chwerthin gan y gynulleidfa yn dangos mor amherthnasol yw’r syniad o gael teulu brenhinol i weriniaeth fel yr UDA – y pwyntiau comedi yn y gân yw’r fath o ddadleuon y byddai gweriniaethwyr fel fi yn eu defnyddio. Yn ôl y sioe yma, rhywbeth sy’n perthyn i fyd ddoe ac yn wrthun i gynnydd a rhyddid yw’r syniad o deulu brenhinol.

Annibyniaeth i’r UDA – i Gymru a’r Alban?

Mae’r sioe yn gampwaith gwirioneddol; er fod y rhan gyntaf yn hir, mae’r geiriau celfydd yn atsain yn fy mhen o hyd. Ac i fi, fel cenedlaetholwraig sy’n pledio achos annibyniaeth i Gymru a’r Alban, roedd yr angerdd a’r dadleuon dros annibyniaeth i’r taleithiau Americanaidd oddi wrth Brydain yn taro tant. Atgoffodd fi o araith Adam Price ym Mhrifysgol Havard rai blynyddoedd yn ôl a gwnaeth i mi ryfeddu o’r newydd sut gallai arweinwyr America gysoni eu geiriau yn erbyn refferendwm yr Alban â hanfod eu cenedl?

Beth achosodd Hamilton i deimlo mor gryf, fel mae ei ‘shot’ yn y byd oedd bod yn rhan o godi cenedl? Roedd synnwyr cryf o anghyfiawnder, o annhegwch ariannol ac o fynnu penrhyddid. Roedd synnwyr hefyd o eisiau bod greu cymdeithas lle roedd gan bawb y cyfle cyfartal i gael eu troed ar yr ysgol, yn rhydd o sefydliadau ffug fel y frenhiniaeth, ac roedd y plethiad o uchelgais bersonol ac uchelgais dros gymdeithas yn bwysig iawn. Rhaid cofio bod canoedd o Gymry yn fewnfudwyr yn America ac yn barod i frwydro am y gwerthoedd yma a’r rhyddid i ffurfio eu cenedl newydd, rhywbeth na fu modd iddynt wneud yn eu gwlad brodorol(?). Hefyd, ar ôl y chwyldro roedd ffurfio rhywbeth parhaol, cyfansoddiad a fyddai’n deg i bawb; clywais Miranda yn rhywle yn sôn am y chwyldroadau tebyg sydd wedi bod yn ddiweddar, e.e. Yr Aifft ac ati a’u methiant i sylfaeni rhywbeth concrit fydd yn parhau – dyna a wêl Miranda yng nghamp Hamilton, Washington a’r sylfaenwyr eraill.

O fod yng nghwmni pobl ag uchelgais mor fawr, rhyfedd oedd camu o’r theatr i fwrlwm di-chwaeth Times Square a’r consumerism annynol a dienaid, a meddwl, ai dros y ‘rhyddid’ yma yr ymladdodd Hamilton?! Gyda gymaint o drafod am fewnfudo a safle parhaus israddol Americaniaid du, da oedd gweld Americaniaid Affricanaidd yn meddiannu cymeriadau hanes ffurfio’r UDA dros eu hunain. Rhaid cofio serch hynny nad oedd gan Americaniaid brodorol le yng nghynlluniau Hamilton et al, a bod cynlluniau gan Washington i’w cymhathu i fod fel yr ‘Americanwyr newydd’.

Efallai fod hyn yn rhywbeth i’w gofio cyn i fi awgrymu cyfieithu’r sioe gerdd i’r Gymraeg. Yn sicr mae yna gig yn y sioe yma sy’n fwy buddiol i ddisgyblion ysgol feddwl drostynt na pherfformio ‘Grease’ yn y Gymraeg, dim ond ein bod ni’n dysgu hefyd fod y Gymraeg yn hollol greiddiol i unrhyw Gymru rydd sifig!!

One thought on “Hamilton – Adolygiad

  1. Llinos Non

    Diolch Rhys a Menna! Wrth fy modd yn darllen y blog y daith a gwerthfawrogi’r lluniau’n fawr iawn. Daliwch ati i fwynhau eich gwyliau!
    Cofion, Llinos a Lleucu xx

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *