Pleidlais dros AROS yn bleidlais sy’n gwrthod tywyllwch ac ofn

Cjcx5MJWgAMhQdO
Ar hyn o bryd dwi’n teimlo ein bod ni’n mynd trwy gyfnod anodd a thywyll fel gwlad. Ers rhai blynyddoedd bellach mae rhai pobl wedi trio rhoi y bai am rai o broblemau’r wlad ar bobl eraill. Dydy hyn yn ddim byd newydd – dyma wnaeth Hitler yn yr Almaen – ceisio rhoi’r bai am broblemau’r wlad honno ar yr Iddewon, ar y Sipsiwn ac yn y blaen.

Wrth i rywun golli rhywbeth sy’n annwyl iddyn nhw, neu bod y byd yn newid yn gynt nag y maen nhw’n gallu dal i fyny gyda fe, yr ymateb dynol yw beio yr “arall”. Y naratif sydd wedi datblygu yn y wlad yma dros y blynyddoedd diwethaf yw fod modd deillio holl broblemau y wlad yma i nhw… y bobl o dramor sydd wedi symud yma.

Dyma’r naratif, dyma’r stori sydd wedi dod i ddominyddu’r drafodaeth yn arwain i fyny at y Refferedwm i adael neu aros yn Ewrop ddydd Iau. Mae wedi creu teimlad o densiwn, o ofn, o garfanu. Ac mae pobol – o bob ochr i’r ddadl – yn ofn y dyfodol. A dydy pobl sy’n byw mewn ofn ddim wastad yn gwneud y penderfyniadau mwyaf synhwyrol a mwyaf doeth.

Fe ddaeth y cyfan i’w ben llanw trist ddydd Iau wrth i’r aelod seneddol Jo Cox gael ei llofruddio. Mae’n debyg fod y troseddwr yn dioddef o salwch meddwl ond mae rhaid gofyn cwestiynau ynglŷn a beth wnaeth yrru’r dyn sâl yma i gyflawni y weithred ofnadwy yma. Nid Mwslim oedd y dyn yma, nid rhywun oedd wedi symud yma o Syria – ond dyn gwyn, oedd wedi ei eni a’i fagu ym Lloegr. Dyn sâl ie, ond dyn sâl oedd wedi llyncu’r naratif fod rhaid gwneud rhywbeth eithafol er mwyn rhoi Prydain yn gyntaf.

Mae rhai gwleidyddion, a rhai papurau newydd wedi creu hinsawdd yn ein gwlad lle roedd rhywbeth trasig fel yna yn bownd o ddigwydd. Mae yna dywyllwch, mae yna ofn o’n cwmpas ni heddiw.

Os dreuliwch chi ychydig amser yn darllen Genesis fe welwch chi fod Jacob wedi byw trwy gyfnod tebyg. Cyfnod lle roedd pobl, brodyr hyd yn oed, yn codi yn erbyn eu gilydd. Cyfnod lle roedd merched yn cael eu cam-drin. Pobl yn mynnu cyfiawnder, a hynny’n mynd rhy bell a’r cyfiawnder yn troi’n ddial. Arweinwyr yn twyllo eu gilydd. Yn twyllo eu teuluoedd a’u pobl eu hunain hyd yn oed.

Mae hanes yn mynd yn ei flaen ond mae natur dyn a’i allu cynhenid i wneud smonach o bethau heb newid rhyw lawer.

Yng nghanol yr hanes rhyfeddol yma mae Jacob yn dod wyneb yn wyneb gyda Duw. Mae sôn ei fod e wedi bod yn reslo gyda Duw. Pwy sydd heb fod yn reslo gyda Duw yn wyneb y pethau anodd yma sy’n dod ar ein traws ni? Pwy na fuodd yn reslo gyda Duw ar ôl clywed y newyddion trasig am lofruddiaeth Jo Cox?

Wedyn dro arall mae Jacob yn cyfarfod Duw mewn breuddwyd. Ac mae Duw yn siarad gyda Jacob ac yn dweud:

“Dw i eisiau i ti wybod y bydda i gyda ti.
Bydda i’n dy amddiffyn di ble bynnag ei di….
Wna i ddim dy adael di.
Bydda i’n gwneud beth dw i wedi ei addo i ti.”
Gen. 28:15

Mi oedd Jacob wedi bod trwy lot, mi oedd cenhedlaeth Jacob wedi bod trwy lot. Rydym ni heddiw, ar lefel bersonol, ar lefel deuluol falle, yn sicr ar lefel cenedlaethol yn mynd trwy bethau mawr ar hyn o bryd. Mae’r tir oddi tanom ni yn ysgwyd. Falle ein bod ni’n ofn. Falle ein bod ni’n teimlo fod y tywyllwch yn ennill.

Ar adegau o greisis personol, neu greisis cenedlaethol mae’n bwysig ein bod ni fel Cristnogion yn cofio fod Iesu wedi ennill y dydd. Adnod wnaeth fy nharo i nos Iau ar ôl clywed am y newyddion trist am lofruddiaeth Jo Cox yr aelod seneddol oedd Ioan 1:5 –

“Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch,
ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef.”

Y goleuni mae’r adnod yma yn siarad amdano yw Iesu Grist ei hun. Ac mae’n bwysig i ni gofio, pan mae’n ymddangos fel bod y tywyllwch yn ennill fod Iesu yn barod wedi concro y tywyllwch.

Sut y gall Gristnogion fod yn bobl y goleuni dros y dyddiau nesaf? Dwi’n barod wedi sôn am y modd mae negyddiaeth ac ofn wedi dod i ddominyddu’r drafodaeth o amgylch y Refferendwm. Mae’n bwysig, ar adegau o bwysigrwydd cenedlaethol, fod pobl Iesu Grist yn dod a goleuni mewn i sefyllfaoedd anodd.

Dwi yn ddisgynnydd i fewnfudwyr, pobl symudodd yma o wlad arall. Roedd fy nheulu yn Gristnogion, yn Brotestaniaid oedd yn byw yn Ffrainc yn ystod cyfnod lle roedden nhw’n cael eu herlid am beth roedden nhw’n credu. Fe gafodd miloedd ohonyn nhw eu lladd yn 1572 yn ystod yr hyn sy’n cael ei gofio fel y St. Bartholomew’s Day Massacre. Er mwyn gwarchod eu deulu fe wnaeth fy hen hen hen hen hen hen hen hen hen hen (h.y. x10) daid ddianc gyda’i deulu i Lundain – jest fel mae pobol eisiau ffoi yma o Syria heddiw. Ar ôl cyrraedd Llundain fe ffeindiodd fy nheulu groeso a cartref yma.

Ganrifoedd wedyn dyma fi, disgynnydd y mewnfudwyr wedi ffeindio fy hun yn Weinidog mewn capeli Cymraeg yn Sir Gaernarfon!

Fy her i wrth i ni feddwl am y refferendwm ddydd Iau yw hyn: sut groeso fyddai fy nheulu yn ffoi o wlad dramor yn cael yn y wlad yma heddiw? Ydyn ni’n wlad sydd jest yn gofalu am ein buddiannau ein hunain? Mae rhywun yn clywed ymadroddion fel: “Charity starts at home” ac “Put Britain First” Ond wedyn mae arweiniad y Beibl yn dweud pethau fel: “Paid cam-drin mewnfudwyr. Cofiwch mai mewnfudwyr oeddech chi eich hunain yn yr Aifft.” Exodus 22:21. Ac “Dylech chi drin pobl eraill fel byddech chi’n hoffi iddyn nhw’ch trin chi.” Luc 6:31

Pan mae’r byd yn ysgwyd, a tywyllwch i weld yn ennill y dydd. Mae rhaid i ni gadw ein llygaid ar fuddugoliaeth Iesu. Un o fy hoff ganeuon i yw Sunday Bloody Sunday gan U2. Can sy’n adrodd hanes trist cyflafan Bloody Sunday yn Derry yn 1972 gan gafodd 14 o bobl heb arfau eu lladd gan y fyddin Brydeinig. Mae cytgan olaf y gân yn dweud:

The real battle just begun
To claim the victory Jesus won

Pan mae casineb a tywyllwch ar gynnydd, yn Derry ar Bloody Sunday, yn nyddiau Abraham, ar strydoedd Swydd Efrog pan lofruddwyd Jo Cox, yn nyddiau Jacob, yn y refferendwm wrth i rai feio’r gwanaf, yn nyddiau Herod, yn ein dyddiau ni. Fel pobol Iesu – fe ddywedwn ni gyda un llais:

“Y mae’r goleuni yn llewyrchu yn y tywyllwch,
ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef.”

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *