Y gweddill ffyddlon?

Roedd yna gyfnod pan oeddwn i’n iau lle roeddwn i’n meddwl o ddifri mae dim ond tua phum cant o Gristnogion “go-iawn” oedd ar ôl yng Nghymru. Roeddwn i’n credu fod holl eglwysi Cymru, ac eithrio llond dwrn o rai annibynnol efengylaidd, yn euog o apostasy ac felly nad oedden nhw yn eglwysi “go-iawn” nac yn cynnwys gwir bobl Dduw.

Roeddwn i’n ifanc ac wedi byw fy mywyd Cristnogol o fewn bybl.

Bybl o fewn bybyl mewn gwirionedd.

Yn y byd Cristnogol y ces i fy magu roedd rhywun ifanc fel fi yn clywed polemic parhaus yn erbyn “yr enwadau”, “eglwysi traddodiadol” ac i raddau llai “eglwysi charismatic”. Rhywsut, ac rwy’n derbyn ei fod yn anfwriadol, roedd mynychu gwersylloedd penodol a chynadleddau penodol wedi meithrin yndda i ryw ymdeimlad dwfn mod i’n perthyn i remnant arbennig etholedig Duw yng Nghymru. Ni, y pum cant oedd yn weddill, oedd ar dasg fawr o ennill Cymru nol i Grist.

Roeddwn i’n gynnyrch math o Gristnogaeth oedd yn cael ei diffinio am beth oedd hi yn ei herbyn yn gymaint â beth oedd hi o’i blaid.

Nid dyma beth roedd pobl yn credu na’i bregethu o’r pulpud ond dyna oedd yr argraff ces i’n berson ifanc beth bynnag. Gwers fod y sgyrsiau dros baned (neu’r bravado a’r banter) a’r diwylliant sy’n cael ei feithrin yn cael llawn gymaint o argraff ar bobl ifanc a beth sy’n cael ei bregethu o’r pulpud. Mae meithrin meddwl Crist yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, na phregethu’r athrawiaethau “cywir” am Grist.

Ches i erioed argyfwng ysbrydol a dwi byth yn cofio cyfnod lle nad oeddwn i’n credu mewn Duw, ac yn benodol yn credu yn Nuw yn Iesu Grist. Ond rwy’n cofio ym mlynyddoedd olaf ysgol uwchradd dechrau cwestiynu byd olwg y bybl Cristnogol yma y ces i fy magu ynddo. Tybed oedd gennym ni fonopoli ar y gwirionedd? Oes yna rywbeth y gallwn ni ddysgu gan draddodiadau Cristnogol gwahanol? Neu a’i dyma’n wir yw’r ffurf “bur” o Gristnogaeth? Oes yna fywyd dal i fodoli yn y cannoedd o “eglwysi enwadol” sydd trwy’r wlad? Ac yna beth am yr eglwysi rhyfedd yna lle mae pobl yn codi eu breichiau wrth ganu emynau? Ydyn nhw’n Gristnogion go-iawn neu dim ond yn bobl sydd wedi cael rhyw brofiad seicolegol rhyfedd? Wedyn beth am bobl sydd ddim yn credu dim byd? Gallwn ni dal gyd-weithio gyda nhw er daioni mewn cymdeithas?

Bellach dwi dal i ystyried fy hun yn rhan o’r traddodiad efengylaidd, dwi wedi ffeindio fy hun yn arwain “eglwys enwadol” sydd, ym meddwl llawer, yn un o’r eglwysi rhyfedd yna lle mae (rhai) pobl yn codi dwylo wrth addoli! Byddai’r Rhys ifanc yn gweld cant a mil o feiau yn yr eglwys rwy’ nawr yn cyfri’n gartref i mi. Dwi’n gwybod yn iawn am wendidau’r eglwysi enwadol a pheryglon rhai tueddiadau carismataidd – o wynebu rhai o’r peryglon bob dydd yn fy ngweinidogaeth fedra i ddeall o le daeth y polemic. Ond, dwi wedi dod i weld nad oes gan un mynegiant o’n ffydd fonopoli ar y label “efengylaidd” heb sôn am fonopoli o’r label pwysicach “Cristion”.

Un peth sy’n drist i mi yw hyn, ffeindies i gartref ysbrydol newydd mewn cornel ychydig bach yn wahanol o’r eglwys. Mae’n drist meddwl fod rhai o’r pum cant wedi gweld nad oedden nhw’n ffitio mewn yno ac wedi penderfynu gadael yr eglwys yn llwyr. Dwi’n sori am y niwed wnes i i bobl, heb sôn am y niwed a wnes i i waith Teyrnas Iesu yng Nghymru, pan oeddwn i’n credu’n goeglyd iawn mai dim ond fi a’r 499 arall oedd yn gadwedig go-iawn.

2 thoughts on “Y gweddill ffyddlon?

  1. Carwyn Graves

    Gogoniant pethau yw bod Duw yn gweithio er lles ei deyrnas ef trwy y rhwygiadau hyn – ac nid yn unig erddyn nhw!

  2. HC

    Erthygl sy’n ysgogi – mae’n wir i ddweud ein bod, tra yn ifanc, yn eithaf caeth i’r credoau mae gennym brofiad ohonynt. Mae rhai yn gyffyrddus yn addoli o fewn y cylch yna am weddill ein bywyd, mae rhai yn ei wrthod am draddodiad/dehongliad arall, ac eraill yn colli neu anghofio ffydd.
    Wrthy heneiddio, mae pawb yn cael cip ar draddodiadau eraill – gwenidogion fwy na neb, o bosib, ac ni fuasai’n syndod i neb petai gwenidog unrhyw eglwys yn profi cymaint (os nad mwy) o amheuon am arddull a chyfeiriad addoli ei eglwys. Credaf ei fod yn wir i ddweud fod rhai eglwysi yn rhoi pwyslais ar adnabod Duw drwy brofiad personol, ond cryfheir ffydd eraill drwy weld Duw o fewn eu gweithredoedd eu hunain, neu’n amlach drwy weithredoedd eraill. Felly y byddai’n dehongli pregethau o wahanol gyfeiriadau, dwi’n meddwl.
    Mae etholiad Trump wedi gwneud i fi feddwl am dy daith, ychydig yn ol, i’r Unol Daleithiau. Mae’n sicr fod nifer helaeth o Gristnogoion didwyll a defosiynol yno wedi pleidleisio iddo, yn wir ei hyrwyddo. Mae’n orffwyll o safbwynt anghydffurfwyr Cymreig, ond eto o dan yr un label. Pam tybed fod Bedyddwyr y Cofis yn dra gwahnol i Fedyddwyr y De ? (Dwi’n gobeithio eu bod !)

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *