Y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân

Cysgodion Clarach

Lleoliad: Clarach, ger Aberystwyth
Exposure: 0.008 sec (1/125)
Aperture: f/8
Focal Length: 18 mm
ISO Speed: 200

Er taw Mam, Cynan a fi ydy’r cysgodion roeddwn ni’n meddwl fod y llun yma yn ddelwedd wych o ddatguddiad Duw trwy ei greadigaeth. Dydy ni ddim yn gweld Duw yn uniongyrchol trwy ein synhwyrau, (gweld, clywed ayyb…) ond eto ‘dy ni’n gweld ei gysgod a’i ôl dros bopeth. Yn Dad, yn Fab ac yn Ysbryd Glan.

Holl dyrfa’r nef a gân
Mewn diolch yn gytûn
I’r Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân –
Eu mawl sydd un:
O henffych, Iôr di-lyth;
Clodforaf gyda hwy
Dduw Abraham a’m Duw innau byth
Heb dewi mwy.

Robert Williams (1804-55)

2 comments to Y Tad a’r Mab a’r Ysbryd Glân

  • Jean Calvin

    Delwedd dda iawn, diddorol hefyd gan fod llawer o ddiwinydion yn son am yr Ysbryd Glan fel yr elfen fenywaidd o fewn y Drindod.

  • David John

    Gweld y peth yn edrych fel y Nod Cyfrin yn hunan.

Leave a Reply

 

 

 

You can use these HTML tags

<a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>