Ydy’r BBC yn euog o bolareiddio’r ddadl dros yr LCO?

Dwi’n meddwl mai bai y BBC, yn enwedig ochr Saesneg BBC Cymru, ydy hi fod gymaint o bolareiddio wedi digwydd ac yn debygol o ddigwydd yn y ddadl dros yr LCO iaith dros y misoedd nesaf. Mae’r BBC yn anhygoel o wael am fynd a’r ôl pobl sydd ar eithaf dadleuon. Rai wythnosau yn ôl pan gododd yr helynt am ddod a gorfodaeth ar ddisgyblion ysgol i fynychu gwasanaethau i ben fe gysylltodd ymchwilydd i un o raglenni’r BBC gyda mi. Roedd hi’n amlwg fod yr ymchwilydd yn chwilio am Gristion efengylaidd stereotypical fydda’n fodlon datgan “och a gwae” am y datblygiadau yn yr ysgolion. Wedi i mi esbonio fy marn ar y pwnc, wnes i osod allan yn y blogiad yma, fe gollodd yr ymchwilydd ddiddordeb ynof fi oherwydd nad oeddwn ni’n ffitio’r hyn roedden nhw’n chwilio amdano. Roedd hyn yn newyddiaduriaeth wael ofnadwy oherwydd maen amlwg fod ymchwilwyr y rhaglen wedi penderfynu ar y trywydd cyn clywed gan y bobl ac felly yn ffeindio pobl i ffitio eu trywydd gwneuthuredig nhw. Mae hyn yn taro dyn yn ddychrynllyd o debyg i’r plot yn y ffilm James Bond, ‘Tomorrow Never Dies’, lle mae’r barwn cyfryngol Elliot Carver yn ‘creu’ y newyddion er mwyn i’w rwydwaith ef, y Carver Media Group, gael yr ecsgliwsif ar y stori.

Ar un llawn rwy’n deall pam fod y BBC (a’r Western Mail i raddau) yn gwneud hyn. Mae gweld a chlywed dadl sydd wedi ei bolareiddio yn cael ei weithio allan yn adloniant pur! Mae gweld Bethan Jenkins a Don Touhig yn dadlau am yr iaith yn gwneud teledu gwell na gweld Carwyn Jones a Dafydd Elis Thomas yn trafod yr un pwnc. Mae hyn wrth gwrs yn codi cwestiwn dyfnach sef: beth yw rôl rhaglenni fel Dragons Eye, Taro’r Post, CF99 a’r Politics Show? Adloniant neu hwyluso y broses ddemocrataidd? Yn ein oes apathetig ni mi fyddai llawer yn dadlau fod yn rhaid i raglenni o’r fath wneud mwy a mwy o ddefnydd o ystumiau difyrrus a chomedi er mwyn poblogeiddio a hwyluso’r broses ddemocrataidd, ac maen siŵr fod sens yn hyn. Ond ni ddylai yr elfen ‘adloniant’ ddod o flaen ac yn sicr ni ddylai amharu ar y broses ddemocrataidd. Dwi o’r farn bendant fod y BBC ar lwybr peryglus fan hyn os ydyn nhw am barhau i roi llwyfan i leisiau polereiddiedig wrth i’r ddadl am yr LCO iaith fod ar yr agenda dros y flwyddyn nesaf.

Does dim lle i safbwyntiau hen ffasiwn imperialaidd fel rhai Don Touhig, Paul Murphy, Roger Helmer ac, mewn ffordd, Rhys Williams bellach. Rhowch y peth mewn i gyd-destun gwahanol; beth pe tae Rhys Williams wedi dweud ei fod yn casáu Moslemiaid a beth petai Don Touhig neu David Rosser o’r CBI yn cael cyfle i lambastio hawliau’r anabl ar donfeddi’r BBC fel y mae wedi bod yn lambastio hawliau siaradwyr Cymraeg yr wythnos yma? Mae cyfrifoldeb gan y BBC i symud y ddisgwrs tu hwnt i’r polareiddio y mae unigolion deinasoraidd fel Don Touhig yn ei greu. Y stori bwysicaf wythnos yma oedd fod yna gonsensws (bregus maen siŵr, ond consensws fodd bynnag) ymysg yr holl bleidiau yn y Bae o blaid yr LCO. Ond byddai sôn am hynny ddim yn ddigon o entertainment maen siŵr… dwi’n mynd i wylio Noson Lawen.

6 thoughts on “Ydy’r BBC yn euog o bolareiddio’r ddadl dros yr LCO?

  1. Alwyn ap Huw

    Yr wyf wedi cael yr un profiad o ran y BBC. Yn cael galwad gan ymchwilwyr y Post Cyntaf a Tharo’r Post yn gofyn am gyfraniad “Cristionogol” ar gyfer pwnc arbennig, ac o egluro barn sydd yn fwy resymol na’r hyn y maent yn disgwyl yn cael y diolch ond dim diolch fel ymateb.

    Er enghraifft pan adroddwyd bod yr hysbysebion there is no God i’w arddangos ar fysus Cymru cefais alwad gan ymchwilydd Taro’r Post.

    YM Ydach ch’n credu bod angen condemnio’r hysbysebion
    FI Na! Rhydd i bob un ei farn ac i bob barn ei llafar
    YM Ond maen siŵr eich bod chi yn gwrthwynebu’r hysbysebion
    FI Dim yn arbennig – mae unrhyw beth sydd yn codi trafodaeth am fodolaeth Duw yn beth da yn fy nhyb i
    YM Ydach chi’n credu bydd y rhai sydd yn gyfrifol am yr hysbysebion yn mynd i’r Uffern
    FI “Gwaith Duw yw barnu nid fy ngwaith i
    YM ” O! Iawn hwyl

    - Dim gwahoddiad i gyfrannu i’r rhaglen!

    Byddai’n ddifyr gwybod sawl alwad a wnaed gan yr ymchwilydd cyn cael yr “ymateb gan Gristion”, roedd Taro’r Post yn chwilio amdani.

    Difyrrach byth bydda wybod pam bod fy enw i ar eu rhestr o Gristionogion anoddefgar i’w ffonio yn y lle cyntaf!!

  2. rhysllwyd Post author

    Wsti beth, ddaru nhw ffonio fi mewn perthynas a’r stori wyt ti’n son amdano hefyd ac ar ôl i mi ddeud fy marn – sef barn nid anhebyg i ti – wnaetho nhw byth fy ffonio nol.

  3. Sam

    Cytuno llwyr hefo ti Rhys. Mae’r tuedd i greu ‘sensation’, dadlau chwerw, enwedig hefo’r iaith Gymraeg. Nid oes gan yr rhaglenni yma unrhyw ddiddordeb mewn trafodaeth call, aeddfed, rhesymegol. Hefyd pam ddaru Barn gweld hi peth doeth i cyhoeddi erthygl Rhys Williams hefo’r teitl ‘Dwi yn casáu Cymry Cymraeg’. Sut ymateb fysa os fyddai wedi dweud ‘Dwi yn casáu Saeson, Pwyliaid neu Mwslimiaid’?

  4. Bostoniwr

    Cofiwn – Cymro Cymraeg _yw_ Rhys Williams, felly mae ganddo fwy o ‘hawl’ i ddweud pethau fel hyn na rhywun nad yw’n perthyn i’r grwp ethno-ieithyddol yma. Tasai un o Dwrci neu Pacistan yn dweud “Rwy’n casau Moslemiaid” er mwyn codi trafodaeth rwy’n siwr na fyddai neb yn codi’r na’r naill ael na’r llall. Yr un peth â phetasai un o Coventry yn dweud “I hate the bloody English”. Dydy ef ddim o reidrwydd yn golygu dim ac yn sicr ddim yn gyfystyr â hiliaeth – mae llawer gormod o ddefnydd o’r gair yna y dyddiau hyn.

  5. Ifan

    Ond i chwarae ‘Devil’s Advocate’ am eiliad, oni fyddai rhaglen drafodaeth radio yn ddiflas pe bai pawb yn cytuno gyda’i gilydd? Mae na gyfrifoldeb arnyn nhw i gyflwyno dwy ochor y ddadl fel bod yr unigolyn yn cael penderfynu ble mae nhw’n sefyll. Fyddai’n llawer mwy peryglu pe bai nhw jesd yn cyflwyno un barn, a dim ond cael gwesteion sy’n cytuno gyda’r farn hwnnw.

  6. Sam

    Dwi yn cytuno fod pawb hawl i farn, mae hi’n wlad rhydd. Ond hefo rhyddid mae dod cyfrifoldeb. Beth ddaru Rhys Williams dweud yn ddim yn dadl gall hefo tystiolaeth cryf i cefnogi ei safbwynt. Gwbl oedd yr erthygl oedd ‘Casau Cymry Cymraeg’, dim un neu ddau ond pawb, 600,000 o bobol. Chasineb a gwenwyn pur a dim byd arall. Pam? Rhyw complecs am ei blentyndod hefo’i dad hwyrach? Darllenwch blog Y PRYSGODYN am fwy. Wrth feddwl yn bellach, dwi’n falch fod o wedi dod allan hefo’r sylwadau, mae’n dangos i pobol Cymru, Sir Gaerfyrddin a Dinefwr faint o penbach ydi o.

Leave a Reply

Your email address will not be published. Required fields are marked *

You may use these HTML tags and attributes: <a href="" title=""> <abbr title=""> <acronym title=""> <b> <blockquote cite=""> <cite> <code> <del datetime=""> <em> <i> <q cite=""> <strike> <strong>