Dwi’n ffotograffydd anghonfensiynol ond yn llawn dychymyg. Heb dderbyn unrhyw hyfforddiant ond wrth fy modd yn arbrofi. Dwi ar gael i dynnu lluniau yn ardal Caernarfon, Bangor a’r Gogledd-Orllewin ar gyfer:
- Cylchgronau a Phapurau Newydd
- Deunydd hyrwyddo cwmni, artist, actor, cerddor ayyb…
- Cofnodi digwyddiadau, cynadleddau ayyb…
- Lluniau o ddigwyddiadau teuluol fel priodasau (ewch draw i fy ngwefan www.lluniaupriodas.com)
Cysylltwch i drafod argaeledd a phrisiau. Bydd y rhan fwyaf o’r prosiectau oddeutu £20 yr awr + costau.
Offer rwy’n defnyddio
- Canon EOS 7D
- Canon EOS 40D
- Canon 17-40mm f/4.0 L
- Canon 40mm f/2.8 STM
- Canon 50mm f/1.4 USM
- Canon 70-200mm f/2.8 L
- Canon Speedlite 580E
Portffolio (cliciwch arnynt i’w gweld yn fwy)
















































