Dydd Sul yn Philadelphia

Un o’r agweddau mwyaf cyffrous o’r daith i Rhys a fi yw’r cyfle i fynychu eglwysi amrywiol a gwahanol. Mae’r dewis o fynegiant a diwinyddiaeth yn anhygoel, felly gobeithio y cawn gyfle i brofi sawl math o eglwys. Yn Philadelphia yr oedden ni ar ein Sul cyntaf yn America. Dyma ddinas Tony Campolo a Shane Claibourne, dau arweinydd rydyn ni’n eu hedmygu’n fawr iawn. Mae Campolo a Claibourne yn ladmeryddion effeithiol dros Gristnogaeth sy’n byw dysgeidiaeth Iesu ac yn gweld gweithredu cymdeithasol fel rhan hanfodol o’u ffydd ac mae hyn yn greiddiol i’n gweledigaeth ninnau. ‘It’s Friday, but Sunday’s Coming’ yw pregeth enwocaf Campolo, ac yn wir, ein gobaith yn Philly ar ôl profi’r cheesesteak oedd dod o hyd i eglwysi sy’n byw’n ymarferol gobaith y trydydd dydd yn eu cymuned.

Freedom Church

FC-Horizontal-WhiteYr eglwys gyntaf i ni ymweld â hi oedd Freedom Church, Chestnut St, Philadelphia. Roedd ganddynt un gwasanaeth am 9:30yb ac un arall a 11yb mewn awditoriwm theatr ar stryd siopa brysur. I fod yn onest, y prif reswm y penderfynom ni fynychu oedd oherwydd ei fod mor agos i’n gwesty, ond roedd y wefan yn edrych yn addawol. Dewisom fynychu’r gwasanaeth cyntaf, a dyma rai geiriau am brif elfennau’r gwasanaeth:

Y croeso: Theatr neu sinema yw’r adeilad o ddydd i ddydd ond fod yr eglwys yn defnyddio’r adeilad ar fore Sul. Roedd pobl i’n croesawu ar ôl dod i mewn trwy’r drws a gwahoddwyd Rhys i ddigwyddiad cymdeithasol yr wythnos wedyn (sori – twristiaid ŷm ni!). Roedd bwrdd gyda merched cyfeillgar yn cynnig mwy o wybodaeth a chynnig o goffi mewn cornel arall, ac roedd bwrdd arall i ymholi am waith plant yn ystod y gwasanaeth. O ystyried mai rhyw 100-130 oedd yn y gwasanaeth 9:30yb, roedd y set-up yn broffesiynol iawn. Yn ystod yr addoliad anogwyd pobl i estyn heddwch i’r bobl o’u cwmpas a chyflwyno eu hunain, ond aeth y gymdeithas ddim lawer pellach na hynny.

Yr addoliad: Band cyfoes, dau gitâr, dryms a phedwar canwr yn cael ei arwain gan un o’r merched oedd yn canu. Caneuon Hillsongs felly roeddem yn gwybod y caneuon. Addoliad da iawn yn deisyf presenoldeb Duw.

Y cyhoeddiadau: Weithiau cewch y teimlad mewn eglwysi fel hyn fod popeth yn reit oeraidd, ond nid felly yma. Roedd ymdeimlad cryf o deulu yma. Anogwyd pawb yn gryf i ddod i’r digwyddiad cymdeithasol ar brynhawn y Sul canlynol i chwarae bowlio deg a gwelwyd hwn fel cyfle i bobl ddod i adnabod eu gilydd yn well. Syniad gwych i fod yn eglwys tu allan o’r eglwys.

Y bregeth: Un o arweinwyr yr eglwys oedd yn pregethu ond nid eu gweinidog hŷn. Y testun oedd Genesis 16 sef hanes Sarai ac Abram a morwyn Sarai, Hagar. Stori gymhleth am Sarai yn caniatáu i Abram feichiogi Hagar ond llwyddodd y pregethwr i graffu ar y testun ac roedd y pwyntiau dysgu yn dda iawn; roedd yn bregeth ddeallus hefyd gan iddo ddefnyddio Freud i ddadansoddi seicoleg Sarai! Er fod gan Sarai bopeth materol, obsesiynau am y ffaith nad oedd ganddi blentyn; gadawodd i’w amgylchiadau ei diffinio yn hytrach na Duw – ceisiodd dod o hyd i atebion ei hunan yn hytrach nag ymddiried yn Nuw. Roedd amgylchiadau bywyd Hagar yn erchyll wedi ei chywilyddio gan Sarai a’i thrin fel mwd gan Abram, ond galwodd Duw hi wrth ei henw ac adferodd ei hurddas. Roedd perthynas glos rhwng y pregethwr a’r gynulleidfa, ac roedd rhai o’r Americaniaid Affricanaidd benywaidd yn gweiddi pethau fel ‘Say it again!’ a ‘Goooood’ oedd yn gryn destun difyrrwch i ni.

Argraffiadau: Dyma eglwys sy’n amlwg yn deulu. Cyfuniad o addoliad a phregeth oedd yn help i ddyfnhau perthynas pobl â Iesu. Dwi ddim yn meddwl y gallwn addoli mewn awditoriwm bob wythnos – rhaid fy mod i’n mynd yn fwy traddodiadol yn fy henaint!

Circle of Hope

cropped-CoH-Logo-transparent-filled-letterDaethom o hyd i eglwys Circle of Hope ar y we ac o’u disgrifiad ac o ddarllen rhai o flogs yr arweinwyr roeddem yn gwybod y byddwn yn gartrefol iawn yn eu mysg. Roedd rhaid dal bws i fynd i ochr ogleddol y ddinas, ochr llawer dlotach = ardal Americanwyr Affricanaidd.

Y croeso: Roedd dwy ferch tu allan i adeilad lle roeddent yn cyfarfod (adeilad sefydliad Beiblaidd, ac roeddynt yn cynnal y gwasanaeth mewn ystafell agored ar y llawr gwaelod. Ar ôl cerdded i mewn a gweld nad oedd llawer o bobl wedi cyrraedd eto, daeth merch hyfryd o’r enw Jeanine i siarad â ni a’n holi am ein hanes. Rhannodd ei bod hi wedi aros yn Philly oherwydd yr eglwys, bod y pwyslais ar ddilyn Iesu yn apelio iddi a’i fod yn eglwys sy’n hygyrch i bobl o’r tu allan na fyddai’n mynd i eglwys fel arall. Roedden nhw’n cwrdd am 5yp ac eto am 7yp mewn pedwar lle ar draws y ddinas. Tua 25 oedd yn y gwasanaeth a fynychon ni. Roedd y bobl eraill i weld i adnabod ei gilydd yn dda.

Yr addoliad: Roedd yr addoliad yn eclectig gyda band â naws gwerinol. Doeddwn i ddim yn gwybod unrhyw un o’r caneuon ond roedden nhw’n hawdd iawn i’w canu ac roedd pwyslais cryf ar wahodd yr Ysbryd Glân a Christ i fyw ynom. Roedd un o’r caneuon yn iaith Zulu – gwych! Thema y gwasanaeth oedd ‘gwynt’ a gwahoddwyd ni i wneud ffans bach allan o bapur er mwyn cynyddu’r gwynt fel rhan o’r addoliad. Er fod Rhys wedi mwynhau’r addoliad roedd yn bryderus beth fyddai argraffiadau rhywun newydd i Gristnogaeth achos gallai ymddangos fel arddull eitha ‘happy-clappy’ hipiaidd ac rwy’n deall ei bwynt.

Y cyhoeddiadau: Bachgen ifanc oedd yn gwneud y cyhoeddiadau ond roedd gweledigaeth yr eglwys yn hydreiddio’r holl bethau a siaradodd yn goeth amdanynt. Roedd pwyslais amlwg ar i’r eglwys ymgnawdoli Crist a byw eu ffydd yn eu cymuned drwy fod yn rhan o grŵp trafod/astudio/gweddi i ddatblygu eu pererindod ysbrydol. Mae ganddyn nhw ‘Compassionate Teams’ – pwysleisiodd mai’r peth cyntaf y dylai pobl wybod amdanynt fel eglwys yw eu bod yn pobl compassionate. Anogodd pobl i ymwneud â un o’r grwpiau compassionate, sef grŵp sy’n canolbwyntio ar weithred o gyfiawnder cymdeithasol, e.e. trawsffurfio tir anial yn y ddinas i fod yn ardd gymunedol, ymgyrchu am heddwch, ymgyrchu yn erbyn trais yn erbyn Americaniaid Affricanaidd.

Y bregeth: Dyn o’r enw Joshua Grace oedd yn pregethu sef un o brif arweinwyr yr eglwys. Roedd ganddo datŵs ar hyd ei freichiau ac roedd yn dipyn o gês. Dywedodd wrthyf ar ôl y gwasanaeth ei fod yn hyfforddi yn un o seminaries Cristnogol Americaniaid brodorol felly roedd yn ymwybodol o effaith ddinistriol trefedigaethu Cristnogol. Roedd Joshua eto yn pwysleisio fod ffydd yn daith ac mai nod yr eglwys oedd dyfnhau eu hadnabyddiaeth o Iesu mewn cymuned gyda’i gilydd a thrwy’r grwpiau bach yn ystod yr wythnos.

Ei destun oedd Iesu yn tawelu’r storm. Dyma rai pethau a safodd allan i fi: pan rydyn ni wedi gwneud rhywbeth yn iawn/dda peidiwch disgwyl i Iesu ddod i ddweud ‘da iawn ti’; Iesu yw’r cwmpawd sy’n dod atom ni yng nghanol y storm. Mae’r syniad o ‘solidarity’ yn ganolog i’r daith ysbrydol – ni’n cefnogi’r bobl wan, cefnogi ein gilydd yn ein pererindodau, ac wrth gwrs dangosodd Iesu y solidarity eithaf i ni (trwy farw drosom). Rydyn ni fel eglwys yn euog o feddwl y dylen ni fod yn llwyddo. Anghywir…drychwch ar y disgyblion – roedden nhw’n mynd i gael eu dienyddio am ddilyn Iesu. Mae’r eglwys wastad wedi colli ei ffordd o feddwl fod rhaid ennill/llwyddo’n gymdeithasol ac wedi cael ei hun i mewn i sefyllfaoedd anodd/compromising. Dywedodd fod cyd-deithio gyda Duw yn dechrau gyda pum munud bob dydd yn agored i’w bresenoldeb Ef, gofyn iddo ein harwain. Dychmygwch pe bai pob Cristion yn gwneud hynna am 15 munud y dydd gymaint mwy y gallem ymgnawdoli Iesu yn y byd.

Hoffodd Rhys yn enwedig pwynt Joshua am y ffys sy’n cael ei wneud gan Gristnogion am yr angen i ddarllen y Beibl bob dydd os yn Gristion go-iawn – mae’r rhan fwyaf o Gristnogion trwy hanes ac mewn sawl gwlad heddiw wedi bod yn anllythrennog – beth oedden nhw’n ei wneud?! Dyfnhau perthynas a Iesu sy’n bwysig, er fod darllen y Beibl wrth gwrs yn ffordd dda o wneud hynny! Ar ôl y bregeth roedd cyfle i ymateb a chynnig gair o brofiad ac roedd nifer yn barod i wneud.

Y weddi: Gorffennwyd mewn cyfnod o weddi gan un o arweinwyr y Compassionate Teams dros o sefyllfa o drais systematig gan yr heddlu tuag at bobl du eu croen. Bydd Circle of Hope yn cynnal gwylnos tu allan i swyddfa heddlu newydd Philly i gofio am y bachgen a laddwyd yn Ferguson flwyddyn yn ôl.

Argraffiadau: Eglwys anffurfiol iawn yn debyg i Torri Syched nos Sul yng Nghaersalem. Roedd eu gweledigaeth am fod yn eglwys ble bynnag y bônt yn treiddio drwy bopeth. Hoffais yn enwedig eu pwyslais o fod yn rhan o un o’r timoedd ‘compassionate’ a bod gwneud gwaith cymdeithasol yn rhan greiddiol o’u pererindod ysbrydol. Yn aml yng Nghymru, bydd Cristnogion yn gwneud gwaith o’r fath fel rhywbeth ar wahân i’r capel, fel ‘add-on’ yn hytrach na fel rhan greiddiol o’u datblygiad ysbrydol.

Hamilton – Adolygiad

Menna sydd wedi sgwennu adolygiad o’r sioe aetho ni i weld ar Broadway nos Iau.

hamilton_FBSut bu i fewnfudwr o Indiau’r Gorllewin, mab llwyn a pherth ddod yn un o sylfaenwyr cenedl newydd Unol Daleithiau America? Dyma’r cwestiwn cyntaf a ofynnir yn sioe gerdd epig newydd Broadway – Hamilton. Mewn gwlad sy’n rhoi bri ar ryddid yr unigolyn i ‘wneud rhywbeth ohono’i hun’, bydd llawer o bobl yn uniaethu â stori’r underdog Alexander Hamilton. Yn fwy na hynny, mae cyffro mawr yn y wasg oherwydd y synnwyr fod y sioe gerdd hip-hop yma’n torri tir newydd wrth adrodd stori sylfaeni Unol Daleithiau America. Americanwyr-Affricanaidd sy’n chwarae rhannau George Washington, Thomas Jefferson ac Aaron Burr a gwych yw gweld y cymeriadau hynny’n saethu odlau llwythog fel Jay-Z – geiriau sy’n cyfleu negeseuon cryf am bwysigrwydd cyfraniad mewnfudwyr i’r UDA (pwnc llosg yn primaries y Gweriniaethwyr yr wythnos hon). Gyda Joe Biden yn y gynulleidfa y noson flaenorol i ni a J-Lo y penwythnos ar ôl ni, dyma’r ‘hottest ticket in town’.

O’r funud gyntaf, mae’r rapiwr-gyfansoddwr Miranda a’r cast cyfan yn swyno wrth iddynt blethu rapio ffraeth â harmonïau hardd ac mae cân gyntaf Hamilton ‘I am not throwin’ away my shot’ yn darlunio cymeriad penderfynol, cegog, heb-ddim-i’w-golli heblaw marw. I Hamilton, ‘My shot’ yw’r cyfle â wêl i Daleithiau America ennill rhyddid oddi wrth Brydain ar ddiwedd y 1700au; mae’n uchel ei gloch wrth ddenu cefnogaeth i’r chwyldro sydd i ddod, yn barod i ddadlau achos ei genedl, ac mae’r un angerdd yn parhau wrth iddo ef ac eraill geisio sefydlu dyfodol llewyrchus i’r wlad newydd drwy’r cyfansoddiad. Yn wir, roedd y dadleuon dros annibyniaeth gan yr Americanwyr a’r gwrth-ddadleuon gan y Prydeinwyr a glywir yn y sioe gerdd mor gyfarwydd i ni fel y gallech yn hawdd newid cyfenw Hamilton i Salmond a llwyfannu’r sioe yng Nghaeredin.

Yn draddodiadol nid yw Alexander Hamilton wedi derbyn yr un sylw â thadau eraill y genedl, ond mae sioe gerdd y rapiwr Lin-Manuel Miranda yn sicr am newid hynny. Daeth Miranda ar draws stori sylfaenydd trysorlys yr UDA wrth ddarllen llyfr Ron Chernow am Hamilton, a sylweddoli mai stori yn genre hip-hop yw stori Hamilton. Rhyw chwe mlynedd yn ôl, cafodd wahoddiad i berfformio yn y Tŷ Gwyn yn dilyn llwyddiant ei sioe gerdd In the Heights am dyfu i fyny yn Efrog Newydd, ond yn hytrach na pherfformio un o’i ganeuon arobryn, penderfynodd rapio am fywyd Hamilton; y gân honno yw cân/rap agoriadol y sioe sydd bellach wedi dod o hyd i le yn Theatr Richard Rogers ar Broadway Efrog Newydd.

Y stori

Y fframwaith storiol drwy’r sioe yw’r elyniaeth rhwng Aaron Burr ac Alexander Hamilton. Ar ddechrau’r sioe pan gyfarfu’r ddau yn ddynion ifanc, tlawd, mae Hamilton yn ceisio denu Burr i gefnogi’r chwyldro ond cyngor Burr iddo yw i gega llai ac i beidio ochri gyda unrhyw achos yn ormodol – safbwynt sy’n wrthun i Hamilton. Cythruddir Burr drwy gydol y sioe wrth weld Hamilton yn dringo’r ysgol wleidyddol a chymdeithasol, a chanfod eu hun ar ddeheulaw George Washington ei hun oherwydd ei gynllunio strategol a’i allu i ysbrydoli’r milwyr, ac er bod Burr eisiau bod yn ‘The Room where it Happens’ Hamilton sydd yno bob amser, nid Burr.

hamilton-21

Wrth gwrs, mae yna stori garu, sgandal, trasiedi teuluol a sylwadau craff am wleidyddiaeth. Mae’r dair chwaer o deulu cefnog Schuyler fel Destiny’s Child y sioe, ond maen nhw’n ferched deallus ac yn chwenychu llwyddiant i werthoedd y chwyldro. Wedi’r chwyldro yn yr hanner cyntaf, mae’r ail hanner yn canolbwyntio ar ffurfio’r wladwriaeth newydd a daw Thomas Jefferson i’r llwyfan, yn ffresh a fflamboyant gydag Affro, yn ôl o Ffrainc ac wedi osgoi brwydro’r chwyldro, ac yn gofyn ‘What’d I Miss’? (Nid stori anghyfarwydd yng Nghymru ôlddatganoledig). Un o’r golygfeydd mwyaf cofiadwy yw’r frwydr rap rhwng Hamilton a Jefferson wrth ddadlau am y cyfansoddiad, gyda’r ddau yn gollwng ambell i fom ar ei gilydd; Jefferson yn cyhuddo Hamilton o fod yn gi bach i Washington a Hamilton yn beirniadu Jefferson am waltsio nôl adref nawr bod y gwaith caled o ennill y chwyldro wedi ei gwblhau.

Y Frenhiniaeth

7.207206Heb os, uchafbwynt digrifwch y sioe oedd caneuon cymeriad chwerthinllyd y Brenin Siôr (wedi ei actio gan Jonathan Groff sef Kristov yn Frozen i chi Frozen-garwyr) a’i wep swta wrth ymddwyn fel spoilt-brat ac yn rhybuddio’r Americanwyr y bydden nhw’n rhedeg nôl ato unwaith y bydden nhw’n cael eu hunain mewn trwbwl fel gwlad annibynnol. Rhyfeddai fod George Washington yn pasio’r baton i rywun arall (‘who knew that you could do that’) ac roedd arddull y gân yn wrthbwynt i arddull hip-hop gweddill y sioe. Roedd y ffaith fod y cymeriad a’r gân yn denu cymaint o chwerthin gan y gynulleidfa yn dangos mor amherthnasol yw’r syniad o gael teulu brenhinol i weriniaeth fel yr UDA – y pwyntiau comedi yn y gân yw’r fath o ddadleuon y byddai gweriniaethwyr fel fi yn eu defnyddio. Yn ôl y sioe yma, rhywbeth sy’n perthyn i fyd ddoe ac yn wrthun i gynnydd a rhyddid yw’r syniad o deulu brenhinol.

Annibyniaeth i’r UDA – i Gymru a’r Alban?

Mae’r sioe yn gampwaith gwirioneddol; er fod y rhan gyntaf yn hir, mae’r geiriau celfydd yn atsain yn fy mhen o hyd. Ac i fi, fel cenedlaetholwraig sy’n pledio achos annibyniaeth i Gymru a’r Alban, roedd yr angerdd a’r dadleuon dros annibyniaeth i’r taleithiau Americanaidd oddi wrth Brydain yn taro tant. Atgoffodd fi o araith Adam Price ym Mhrifysgol Havard rai blynyddoedd yn ôl a gwnaeth i mi ryfeddu o’r newydd sut gallai arweinwyr America gysoni eu geiriau yn erbyn refferendwm yr Alban â hanfod eu cenedl?

Beth achosodd Hamilton i deimlo mor gryf, fel mae ei ‘shot’ yn y byd oedd bod yn rhan o godi cenedl? Roedd synnwyr cryf o anghyfiawnder, o annhegwch ariannol ac o fynnu penrhyddid. Roedd synnwyr hefyd o eisiau bod greu cymdeithas lle roedd gan bawb y cyfle cyfartal i gael eu troed ar yr ysgol, yn rhydd o sefydliadau ffug fel y frenhiniaeth, ac roedd y plethiad o uchelgais bersonol ac uchelgais dros gymdeithas yn bwysig iawn. Rhaid cofio bod canoedd o Gymry yn fewnfudwyr yn America ac yn barod i frwydro am y gwerthoedd yma a’r rhyddid i ffurfio eu cenedl newydd, rhywbeth na fu modd iddynt wneud yn eu gwlad brodorol(?). Hefyd, ar ôl y chwyldro roedd ffurfio rhywbeth parhaol, cyfansoddiad a fyddai’n deg i bawb; clywais Miranda yn rhywle yn sôn am y chwyldroadau tebyg sydd wedi bod yn ddiweddar, e.e. Yr Aifft ac ati a’u methiant i sylfaeni rhywbeth concrit fydd yn parhau – dyna a wêl Miranda yng nghamp Hamilton, Washington a’r sylfaenwyr eraill.

O fod yng nghwmni pobl ag uchelgais mor fawr, rhyfedd oedd camu o’r theatr i fwrlwm di-chwaeth Times Square a’r consumerism annynol a dienaid, a meddwl, ai dros y ‘rhyddid’ yma yr ymladdodd Hamilton?! Gyda gymaint o drafod am fewnfudo a safle parhaus israddol Americaniaid du, da oedd gweld Americaniaid Affricanaidd yn meddiannu cymeriadau hanes ffurfio’r UDA dros eu hunain. Rhaid cofio serch hynny nad oedd gan Americaniaid brodorol le yng nghynlluniau Hamilton et al, a bod cynlluniau gan Washington i’w cymhathu i fod fel yr ‘Americanwyr newydd’.

Efallai fod hyn yn rhywbeth i’w gofio cyn i fi awgrymu cyfieithu’r sioe gerdd i’r Gymraeg. Yn sicr mae yna gig yn y sioe yma sy’n fwy buddiol i ddisgyblion ysgol feddwl drostynt na pherfformio ‘Grease’ yn y Gymraeg, dim ond ein bod ni’n dysgu hefyd fod y Gymraeg yn hollol greiddiol i unrhyw Gymru rydd sifig!!

Crwydro Efrog Newydd

Pan rydym ni fel arfer yn dweud Efrog Newydd rydym ni mewn gwirionedd yn golygu Manhattan sef dim ond un o’r pum borough ag ydyw Efrog Newydd go-iawn. Y pedwar arall yw Brooklyn, Queens, Bronx a Staten Island. Maen nhw’n dweud fod rhaid i chi ymweld ag o leiaf un o’r boroughs erill i brofi Efrog Newydd “go-iawn” ond oherwydd ein bod ni dim yn ond Efrog Newydd am dridiau dim ond crwydro Manhattan wnaethon ni – a dim ond crafu’r wyneb wnaetho ni yn y fan honno.

rhysllwyd-7871

Ar y diwrnod cyntaf fe wnaetho ni gerdded ar hyd yr High Line ar y Lower West Side. Beth oedd hwn oedd hen drac rheilffordd uchel oedd wedi ei droi mewn i barc cyhoeddus cul a hir. Roedd cerdded ar ei hyd yn rhoi golygfeydd gwych o’r ddinas i chi ac yn rhoi munud i chi ddal eich anadl yn y ddinas brysur. Wrth gwrs, dyma syniad gwych beth i wneud gyda’r fly-over yng Nghaernarfon ar ôl i’r lôn osgoi gael ei chodi!

rhysllwyd-7875

Ddiwrnod arall fe aethom ni ar y cwch heibio i’r Statue of Libery ac i Ellis Island. Ellis Island oedd canolfan immigration yr Unol Daleithiau am ddegawdau – y cyfnod lle roedd miloedd o Gymry yn mudo i America.

rhysllwyd-7929

Roedd modd chwilio trwy’r archifau am eich cyn-dadau. Roedd Menna’n gwybod fod hen hen ewythr iddi wedi symud i’r Amerig troed yr Ugeinfed Ganrif – toedden ni ddim yn gwybod ei enw, dim ond ei gyfenw sef Jones! Felly roedd mynd i fod fel chwilio am nodwydd mewn tas wair. Roedd Jones+Brithdir yn dangos dim. Jones+Dolgellau yn dangos dim. Jones+Bala yn dangos dros chwe mil o enwau. Jones+Dolgelley dim ond yn dangos llond dwrn ac er mawr syndod dyna lle roedd y record i Edward Jonathan Jones, Brynbas, Dolgelley. O’r holl Joneses’ o’r ardal fe oedd yr unig un oedd wedi nodi ar y ffurflen o ba fferm roedd e’n dod ac heblaw am hynny bydde ni ddim wedi gallu ein ffeindio gan fod dim record o’i enw cyntaf gyda ni! Mae mynd i America heddiw dal i deimlo fel big deal, dychmygwch sut brofiad roedd hi i werin Meirionnydd symud yma dros ganrif yn ôl?

rhysllwyd-7905

Yn hytrach na mynd i ben yr Empire State Building neu’r World One Tower newydd yn y World Trade Centre fe aethom ni fyny’r Rockefeller gan ei fod yn llai prysur ac hefyd er mwyn gweld y ddau dŵr arall enwcoach. Roedd y golygfeydd o’r top yn anhygoel.

rhysllwyd-7955

Ar ein phrynhawn olaf y bwriad oedd mynd am bicnic i Central Park, ond wrth i ni gerdded mewn i’r parc dyma’r glaw yn dechrau. Roedd hi wedi bod yn wythnos glos iawn. Dros 30 selsiws hyd yn oed gyda’r nos ac roedd y gwres yn drymaidd iawn. Roedd hi’n anorfod fod storm mynd i dorri cyn i ni adael y ddinas.

rhysllwyd-7984

Er fod gyda ni gotiau glaw ac wedi trio cuddio dan rhai o’r coed roedden ni’n wylb at ein croen – yn ffodus roedd y camera a’r ffôn yn iawn ond rhywsut fe wlychodd yr iPad ac mae wedi marw!

rhysllwyd-7992

Bwyta yn Efrog Newydd

rhysllwyd-7818Yn ddigon naturiol mae bwyta yn rhan bwysig o bob gwyliau a phob taith tramor. Nepell o’n gwesty yn Efrog Newydd roedd Koreatown a dyna lle aethom ni i gael ein pryd cyntaf. Dwi ddim yn cofio’n union beth wnaetho ni archebu, ond fe gafodd Menna bryd noodlaidd a ches i bryd reis ond fe gyrhaeddodd lot mwy o fwyd ar y bwrdd na wnaetho ni archebu gan gynnwys dau shrimp enfawr! Roedd y bwyd yn wirioneddol fendigedig yn Five Sense ar 9 W 32nd St.

rhysllwyd-7821

rhysllwyd-7860Y diwrnod canlynol dyma fynd am dro i hen adran meatpacking y ddinas a dod ar draws hen warws oedd yn llawn caffis bach yn cynnig pob math o bethau gwahanol. Enw’r lle oedd Gansevoort Market – getho ni pizza hyfryd yna ond roedd pob math o fwydydd eraill ar gael hefyd. Dyma brofi te oer am y tro cyntaf hefyd!

rhysllwyd-7865

Yn hwyrach yn y dydd dyma alw heibio Deli enwog Katz yn aral Lower East Side a mynd am y frechdan Pastrami – un i rannu – digon i lenwi twll. Roedd hwn yn wirioneddol wych ac yn brofiad rhyfedd cael tocyn ar y ffordd mewn oedd yn cael ei farcio fyny ac yna ar y ffordd allan rhoi y tocyn mewn i ddyn diogelwch oedd yn rhoi y bill i ni.

rhysllwyd-7878

Y diwrnod canlynol crwydro gyda’r nos i gyfeiriad Chinatown – am rhyw reswm roedd gen i ddisgwyliadau uchel am fwyd tsieiniaidd yma. Roedd degau o lefydd, pob un yn edrych o’r tu allan yr un peth felly dyma ddewis un ar hap (oedd yn digwydd bod wedi restru yn Lonely Planet). Roedd y pryd yn iawn, ond a bod yn hollol onest ddim llawer gwell os o gwbwl na Foo’s nol yng Nghaernarfon fach. Pe tae ni wedi gwneud mwy o ymchwil ymlaen llaw efallai y bydde ni wedi dod ar draws rhywle fyddai wedi rhoi profiad gwahanol i ni. Doedd dim cymhariaeth rhwng y pryd digon arferol hwn a’r pryd anhygoel yn Koreatown ddeuddydd ynghynt.

Yr unig le arall gwerth ei nodi oedd Essen Slow Fast Food ar Madison Avenue nepell o’n gwesty. Dyma lle gaetho ni frecwast dau fore. Roedd e’n le Buffet oedd yn cynnig pob dim dan hael a phob dim wedi ei baratoi yn fresh y bore hwnnw – o’r Bagels i’r uwd ac o’r pastries i’r ffrwythau.

Ar y cyfan roedde ni yn gweld y bwyd ychydig yn ddrud, yn arbennig gan fod rhai wedi dweud fod bwyta allan yn America yn rhatach o lawer na Chymru. Ond efallai mae ein problem oedd ein bod ni wedi cyfyngu ein ymweliad a New York gyda Manhattan a bod yna brimiwm ar bopeth yno.

Ymlaen i fwyta yn Philadelphia nesaf!

Teithio yn America

rhysllwyd-7892Un traddodiad ymneilltuol Cymreig does gen i ddim bwriad brwydro yn ei erbyn yw’r arfer o roi mis cyfan o wyliau i’r Gweinidog ym mis Awst bob blwyddyn. Fel rheol mae’r mis yna’n diflannu’n sydyn gyda’r ddefod flynyddol o fynd i’r Eisteddfod (am wythnos gyfan fel Cymro diwylliannol da), ymweld a theulu a mynychu o leiaf un – weithiau dau – gynhadledd Gristnogol sy’ mor gysylltiedig gyda gwaith yr eglwys nes eu bod mewn gwirionedd ddim wir yn wyliau o gwbl. Eleni dyma fradychu’r ddefod flynyddol a dianc i’r Unol Daleithiau am bum wythnos. Hwre!

Efrog Newydd, Philadlephia, Washington, ardaloedd gwledig Virginia, North Carolina, hedfan lawr i New Orleans a theithio’r arfordir lawr i Florida cyn hedfan i fyny i Chicago i ddod a’r daith i ben.

Dwi wastad wedi bod eisiau teithio i America, a hynny am sawl rheswm. Yn gynta’ jest yr ysfa i brofi beth sy’ mor gyfarwydd, yn rhy gyfarwydd i ni, ar y sgrin ac yn ein diwylliant poblogaidd. Y sŵn, y lliwiau, yr enwau.

Yn ail, mae gen i rhywfaint o ddiddordeb yng nghysylltiad y Cymry ac America – rhywfaint yn yr ystyr mod i wedi gwylio ffilm Gruff Rhys ond ddim cweit digon o ddiddordeb i ddarllen llyfrau Jerry Hunter (eto)! Ond mae gwir ddiddordeb gen i yn y tensiwn syniadol yn niwylliant Cristnogol/gwleidyddol y wlad. Ein plant ni ydy Cristnogion America ar y cyfan – ni’r Cymry oedd yn rhannol gyfrifol am fynd a Christnogaeth ymneilltuol allan yna, ac mae ein gwerthoedd ymneilltuol yn y bôn yn dod o’r run man – ond yna mae’r parxis wedi datblygu’n wahanol dros y ddau ganrif diwethaf. Dwi ddim wir yn disgwyl cael ateb i hyn, ond bydd y daith yn gyfle i gnoi cil a meddwl mwy dros y peth.

Yn drydydd, ac y rheswm pwysicaf yw’r awydd i dreulio amser da gyda Menna i ffwrdd o brysurdeb ein bywydau arferol o anarferol yng Nghymru. Amser i Dduw siarad gyda ni i ffwrdd o’r hyn sy’n gyffredin a dychwelyd i Gymru wedi ein llenwi eto gyda’i Ysbryd anghyffredin.

Mwy o flogio dros yr wythnosau nesa gobeithio.

R. Geraint Gruffydd (1928-2015) – atgofion personol

r-g-gruffydd-e1427370781445Roedd hi’n drist iawn clywed am farwolaeth R. Geraint Gruffydd wythnos yma. Ces i’r fraint anghyffredin o’m magu yn yr un Eglwys ag yr oedd e’n aelod, yr Eglwys Efengylaidd yn Aberystwyth. Am rai blynyddoedd ces i’r fraint o’i alw e, gyda Bobi Jones, yn athrawon Ysgol Sul. Rwy’n medru dwyn i gof y gwersi yn mynd trwy lyfr yr Actau gyda Geraint a Bobi’n dod a’r cyfan yn fyw drwy eu dealltwriaeth a’u dehongliad o gyd-destun a chefndir diwylliannol a gwleidyddol cyffrous cyfnod yr Eglwys fore.

Daeth i’m cof wythnos yma hefyd mae Geraint oedd y cyntaf i fy holi a oedd fy mryd ar y Weinidogaeth Gristnogol. Yr ateb pendant ar y pryd, a minnau ddim hŷn na dwy ar bymtheg os nad iau, oedd na! Rwy’n ei gofio’n dod i siarad â mi rai wythnosau wedyn a holi, ‘os ddim y Weinidogaeth beth am fod yn Aelod Seneddol?’ Roedd y sgyrsiau hyn yn ddadlennol yn yr ystyr eu bod yn dangos fod Geraint yn cyfri gwerth arbennig i’r ddwy rôl yn ei Gymru ef, ond fod yr arweiniad ysbrydol yn cael y flaenoriaeth. Wrth gwrs erbyn heddiw mi rydw i’n Weinidog, er i mi anghofio tan wythnos yma mae Geraint a’m holodd yn gyntaf ynglŷn â’r llwybr posib hwnnw.

Cof arall sydd gen i ynglŷn â Geraint oedd ei gyngor a’i ddoethineb wrth i mi ddechrau fy ngwaith ymchwil ar Genedlaetholdeb Cristnogol R. Tudur Jones. Wrth drafod y testun, y syniadau a’r bobl gyda Geraint roedd hi’n amlwg mae nid trafod hanes yr oedd Geraint ond trafod digwyddiadau roedd wedi byw trwyddynt a phobl roedd wedi eu hadnabod yn dda. Dau gyfaill pennaf ei Dad, Moses Gruffydd, oedd Saunders a J.E. Daniel – dau genedlaetholwr a dau uniongredwr diwinyddol yn eu lliwiau gwahanol. Wrth golli Geraint rwy’n amau ein bod ni wedi colli ein cyswllt uniongyrchol olaf allai wir roi cyfri am haen ysbrydol syniadaeth wleidyddol Saunders a J.E. Daniel.

A dyna gyffwrdd ar yr hyn a ddaethai a gwefr i mi fel Cristion a chenedlaetholwr ifanc – yn Geraint, fel Bobi, roedd gen i athrawon Ysgol Sul oedd nid yn unig yn Gristnogion uniongred ond hefyd yn genedlaetholwr cadarn. Pan oeddwn yn fy arddegau hwyr ychydig oedd gan y Cristnogion efengylaidd roeddwn yn eu hadnabod i’w ddweud am genedlaetholdeb ac ychydig oedd gan y cenedlaetholwr roeddwn yn eu hadnabod i’w ddweud am Gristnogaeth efengylaidd (ac eithrio fy rhieni, ynddyn nhw ces i fy magu yn sŵn llawen y ddau!). Felly roedd dod i ddarllen a chlywed syniadau Geraint a Bobi yn chwa o awyr iach i Gristion o genedlaetholwr ifanc. Nid oedd rhaid i mi ddewis rhwng fy Nghristnogaeth a fy nghenedlaetholdeb fel roedd rhai Cristnogion ‘efengylaidd’ eraill yn ceisio fy mherswadio ar y pryd.

Yn olaf, mi fydd gostyngeiddrwydd Geraint yn aros yn y cof. Gostyngeiddrwydd oedd yn deillio o’i ffydd Gristnogol. Rwy’n cofio clywed rhywun yn dweud na fyddai gobaith gan Geraint gael yr yrfa lwyddiannus a gafodd heddiw gan na fyddai’n medru “gwerthu ei hun” mewn cyfweliadau. Ar adegau roedd ei ostyngeiddrwydd yn rhwystredig, rwy’n cofio y tro es i i’w holi ynglŷn â gwaith R. Tudur Jones – dros y ffôn ac ar ôl i mi gyrraedd roedd yn mynnu na fyddai dim o werth gyda fe rannu o gwbl – cyn mynd ymlaen i rannu perlau dwfn amhrisiadwy o wybodaeth am fywyd, dylanwadau a syniadau R. Tudur Jones. Mae yna wybodaeth am J.E. Daniel a dylanwad Daniel ar R. Tudur Jones yn fy ngwaith ymchwil nad yw wedi ei gyhoeddi na’i ddatgelu yn unrhyw le arall heblaw am y sgwrs ces i gyda Geraint y diwrnod hwnnw.

Mae fy nghydymdeimlad a’m gweddïau gyda Luned, ei Weddw, a’r teulu cyfan. Er i ni golli cawr, nid ydym yn galaru fel y rhai heb obaith oherwydd ‘Os ydym yn credu i Iesu farw ac atgyfodi, felly hefyd bydd Duw, gydag ef, yn dod â’r rhai a hunodd drwy Iesu.’ (1 Thes. 4:14)

Berlin – Tachwedd 2014

Nol ym mis Tachwedd es i a Menna i Ferlin am benwythnos hir. Roedd hi’n oer IAWN, fe wnes i brynnu a gwisgo long johns am y tro cynta erioed! Ond dyma rai o’r uchafbwyntiau gyda lluniau.

Y diwrnod cyntaf aetho ni ar daith gerdded amgen o gwmpas y ddinas yn ein cyflwyno ni i hanes a chelf tanddaearol y ddinas. Difyr iawn, er roedd yn daith oedd bron yn bedair awr, felly yn reit flinedig erbyn y diwedd. Dyma flas o’r daith:

rhysllwyd-7591

rhysllwyd-7596

rhysllwyd-7600

rhysllwyd-7609

rhysllwyd-7613

Roedd bwyd Berlin yn dda iawn ac yn rhad iawn! Roedd llawer o’u ‘street food’ nhw yn fwyd o safon nid jest junk food.

Bwyd…

rhysllwyd-7615

Bwyd o’r farchnad …

rhysllwyd-7635

Mwy o fwyd …

rhysllwyd-7647

rhysllwyd-7699

Lot pulled pork hyfryd yn bobman …

rhysllwyd-7711

Un o uchafbwyntiau’r trip oedd mynd i Holy Haimat ar y noson olaf. Hyd yn oed ar ôl bod yna doedde ni ddim cweit yn siŵr beth yn union oedd e. Roedd e fel rhyw fath o gyfuniad o wyl gerddoriaeth a ffair Nadolig gyda theimlad tanddaearol mewn hen warehouses enfawr. Roedd mwy o fwyd stryd gwych yna, cerddoriaeth fyw a sawl bar. Gall y lluniau adrodd y stori.

rhysllwyd-7688

rhysllwyd-7695

rhysllwyd-7696

rhysllwyd-7713

rhysllwyd-7729

rhysllwyd-7722

Roedd y trip i Ferlin yn arbennig, a byddwn i’n argymell mynd yna yn y gaeaf er gwaetha’r angen am long johns!

Dyma gariad, pwy a’i traetha?

Dyma gariad, pwy a’i traetha?
Anchwiliadwy ydyw ef;
Dyma gariad, i’w ddyfnderoedd
Byth ni threiddia nef y nef;
Dyma gariad gwyd fy enaid
Uwch holl bethau gwael y llawr,
Dyma gariad wna im ganu
Yn y bythol wynfyd mawr.

Ymlochesaf yn ei glwyfau,
Ymgysgodaf dan ei groes,
Ymddigrifaf yn ei gariad,
Cariad mwy na hwn nid oes;
cariad lletach yw na’r moroedd,
Uwch na’r nefoedd hefyd yw:
Ymddiriedaf yn dragwyddol
Yn anfeidrol gariad Duw.
Mary Owen 1796-1875

Y math anghywir o drais? Ymateb i eitem Radio Cymru

Yn ôl y disgwyl fe wnaeth fy mhwt ar Cymru Fyw heddiw ennyn peth ymateb ar Taro’r Post, Radio Cymru amser cinio heddiw. Yn anffodus oherwydd mod i mewn cyfarfod yn Bala nid oedd modd i mi gymryd rhan yn y drafodaeth er mwyn amddiffyn fy hun. Mae’n werth i mi nodi mae sgwennu yr erthygl wnes i ar y pwnc penodol hwn ar ôl cael gwahoddiad i wneud gan y BBC – mae’n bwysig i bobl wybod y cyd-destun yna, roedd yn ddarn comisiwn.

Mae’n rhaid i mi ymateb i ddau gyhuddiad wnaeth Rod Richards yn fy erbyn, dau gyhuddiad annheg fel y galla i ddangos gobeithio.

Roedd Rod Richards yn awgrymu mod i’n naïf a ddim yn sylwi pa mor ddifrifol oedd trais yr Islamic State. Roedd yr erthygl ar Cymru Fyw yn ei gwneud hi’n ddigon clir mod i’n ymwybodol o erchylltra trais yr Islamic State, dyma ddywedais i:

“Rydw i, fel pawb arall mae’n siŵr, wedi cael fy nhristáu wrth ddarllen y newyddion dros yr wythnos diwethaf ynglŷn â’r dair merch ddisglair o Lundain sydd wedi teithio i Syria er mwyn ymuno â rhengoedd milwyr yr Islamic State.

Mae’r adroddiadau a glywn ynglŷn â’r trais a ddefnyddir gan filwyr yr Islamic State yn erbyn lleiafrifoedd ethnig a chrefyddol yn frawychus. Fel arweinydd Cristnogol rydw i wedi darllen gyda thristwch dwfn am y modd y maen nhw wedi difa cymunedau Cristnogol cyfan a fu yno ers mileniwm a mwy mewn cwta ychydig fisoedd.”

Roedd Rod Richard hefyd yn awgrymu mod i’n dweud fod y Fyddin Brydeinig a’r Islamic State gynddrwg a’i gilydd a mod i ddim yn gwerthfawrogi fod un yn fyddin gyfansoddiadol a’r llall yn fudiad terfysg. Eto dydy hyn ddim yn deg gan i mi ddweud yn yr erthygl:

“Byddai rhywun, wrth gwrs, yn gobeithio fod golygiadau y fyddin Brydeinig yn dra wahanol i filwyr yr Islamic State …”

Methodd y drafodaeth ar Radio Cymru a thrafod beth roeddwn i wir yn trio ei ddweud sef holi a yw’n diwylliant milwriaethus ni yn rhannol gyfrifol fod rhai pobl ifanc yn ymuno a mudiadau eithafol gwleidyddol. Ond dylwn wedi gwybod y byddwn yn agor fy hun i gael fy ngham ddeall o fynegi barn ar bwnc sensitif a chymhleth fel hwn. Dwi’n sori os ydw i wedi brifo unrhyw un – ceisio ffyrdd o leihau’r brifo a’r trais oedd yr amcan gwreiddiol.

Ar nodyn mwy ysgafn, ‘ro ni’n ei weld yn ddoniol fod Rod Richards wedi beirniadu Cymraeg yr erthygl, ond o leiaf nawr rydym ni’n gwybod am bwy roedd Alun Cairns yn siarad wythnos diwethaf pan roedd yn siarad am elitiaeth ymysg y Cymry Cymraeg 😉

Cofio a diolch am Huw Edwards

Huw yn mwynhau mewn tê parti yn Capel llynedd

Huw yn mwynhau mewn tê parti yn Capel llynedd

Roedd Huw Edwards yn lawer o bethau i lawer o bobol. Yn Ŵr, yn Dad, yn Daid, yn Frawd ac Ewythr. Yn Gynghorydd, yn Gadeirydd yn Faer yn ladmerydd dros y dre a’i phobl. I fi, roedd yn aelod, yn ffrind ac ers i mi symud i Rhes Hafod yn gymydog hefyd. Roeddwn i’n tynnu ei goes fod gwerth ei dŷ wedi mynd fyny nawr fod Gweinidog yn byw ar y stryd! Roedd Huw yr holl bethau hyn a mwy, ond yn dawel yn ei galon cyn pob dim arall roedd yn adnabod ac yn dilyn Iesu.

Dau atgof sy’n aros yn y cof gen i o Huw, dau sy’n dweud llawer am wrthrych ei obaith. Y cyntaf oedd yn fuan ar ôl i mi ddechrau fel Gweinidog yng Nghaersalem. Stori sy’n dangos cymaint o heyrn yn y tân oedd gan Huw mewn gwirionedd. Cymaint o heyrn nes ei fod weithiau yn anghofio pa harn oedd i’w roi ym mha dân. Roeddem ni yn yr oedfa fore dydd Sul a jest wrth mod i’n cychwyn gweddïo dyma fi’n gweld llaw yn cael ei godi yng nghornel fy llygad. “Pwynt o wybodaeth Mr Gweinidog”. Union fel tase fe yn siambr y cyngor yn gofyn cwestiwn i Mr Cadeirydd. Eisiau gofyn fy marn oedd e, yng nghanol oedfa, ynglŷn a’r weddi ar ddechrau cyfarfodydd y cyngor. Ac roedd hynny’n nodweddiadol o Huw – eisiau gweddïo yn y cyngor ac eisiau codi pwyntiau o wybodaeth yn y capel. Dau fyd yn dod yn un.

Yr ail atgof sydd gen i oedd yn ein oedfa Garolau ddwy flynedd yn ôl. Fe drodd Huw fyny yn y nos gyda Tomos ac Elin er ein bod ni wedi cael ein oedfa i’r plant yn y bore. Roedd Huw yn flin fod dim darpariaeth gyda ni i’r plant. Yng nghanol un garol dyma Huw yn dod fyny ata i a gofyn os cai e ddweud gair. A dwi’n cofio meddwl – could go either way! Ond hollol off the cuff, dyma Huw yn rhannu stori hyfryd gyda’r plant oedd dim byd i wneud a’r Nadolig ond a oedd yn stori yn y diwedd oedd yn siarad am Iesu Grist a’i aberth ar y Groes. Stori am Huw sy’n ein atgoffa ei fod yn barod, fel mae 1 Pedr yn y Beibl yn dweud, “I roi ateb am y gobaith sydd ynoch.”

Ei ffydd syml yn Iesu Grist oedd yr allwedd i ddeall ei brysurdeb a’i wasanaeth dros eraill reit tan y diwedd. Dyma, oedd i gyfri am y gobaith oedd ynddo.