Tag Archives: adolygiad

Adolygiad: Hunan-anghofiant Brychan Llyr

hunan-anghofiant brychan llyrMae fy ffrindiau a fy nheulu yn gwybod fod gen i ychydig bach o obsesiwn gyda Jess. Mae’n rhyfedd a dweud y gwir gan mod i rhy ifanc i’w cofio yn eu hanterth gan mai dim ond 10 oeddwn i pan wnaethon nhw chwalu yn 1995. Des i ar draws Jess yn gyntaf pan wnaethon nhw ail-ffurfio i chwarae yng ngŵyl y Faenol yn 2000 a byth ers hynny dwi wedi fy nghyfareddu. Ers hynny dwi wedi bod yn ddigon ffodus i’w gweld yn fyw cwpwl o weithie gan gynnwys yng Nghlwb Rygbi Llanulltid Fawr yn Eisteddfod 2012. Roedden nhw’n anhygoel yn y gig yn Llanulltid Fawr, yn wirioneddol arbennig, noson fythgofiadwy.

P’nawma wnes i brynu hunan-anghofiant Brychan Llyr, dechrau ei ddarllen a’i orffen mewn diwrnod! Dydw i ddim fel rheol yn gallu darllen am gyfnodau hir, felly mae hyn yn gamp! Mae’r teitl clyfar yn deillio o dro trist ac anodd yn hanes Brychan, sef ei frwydr ag alcoholiaeth a dyna’r hanes a geir reit ar ddechrau’r llyfr. Roeddwn i’n gwybod ei fod wedi bod yn sâl yn y blynyddoedd diwethaf, yn sâl iawn, ond wyddwn i ddim ei fod wedi bod ar beiriant cynnal bywyd am 28 diwrnod. Doedd dim syniad gen i ein bod ni mor agos a hynny i golli trysor cenedlaethol, ond yn fwyaf pwysig cymeriad mor hoffus. Mae’n wych gweld fod Brychan wedi gwella o’r cyflwr bellach, mae wedi goroesi.

Mae Brychan yn cynnig testun llyfr difyr gan fod ganddo gymaint o ddiddordebau gwahanol nad sydd fel arfer yn gor-gyffwrdd. Mae’n dod o deulu amaethyddol, yn fab i Brifardd, yn canu i Jess, wedi cael gyrfa lwyddiannus fel artist unigol yn yr Eidal ac yn rasio ceffylau. Unigryw. Brychan Llyr Jess oedd yn ennyn fy niddordeb i, ac un o ychydig wendidau’r llyfr o’m rhan i yw fod dim mwy o hanes y band. Does dim o hanes y recordio, dim trafod gan Brychan pa record gan Jess oedd e’n fwyaf balch ohono ayyb… byddai manylion felly wedi bod yn ddifyr i ffans fel fi.

Un peth dwi’n ei hoffi’n fawr am y llyfr yw ei fod wedi ei sgwennu mewn tafodiaith. Nid Brychan Llyr heb ei acen. Mae un rhan yn dechrau fel hyn: “Part mowr iawn o’r ffordd dwi’n meddwl ‘nôl ….” Mae’r llyfr yn llawn troeon trwstan doniol hefyd; megis ei antur unwaith mewn i ystafell wely un o’i chwiorydd a treial ‘mlan teits a dychryn am ei fywyd ar ôl gweld blew ei goesau’n torri trwy’r teits. Yna’r tro cafodd ei arestio am gael hashish yn ei feddiant… yn nhŷ’r cyffredin o bobman!

Er i mi brynu’r llyfr fel fanboy Jess mae’n siŵr mae rhannau gorau’r llyfr yw’r rhannau mwy personol. Mae’r hanes ar y dechrau am ei salwch diweddar yn ddirdynnol. Yr hanes am gyfarfod Sian ei wraig mor annwyl ac yna sôn am eu gofal at ei gilydd yn gyntaf trwy ei chancr hi ac yna ei salwch ef gyda’r ddiod. Mae yr holl ddweud am ei Dad, Dic yr Hendre, yn arbennig iawn hefyd gyda’r ffaith syfrdanol fod Brychan wedi’i eni yn yr un ystafell yn nhŷ fferm yr Hendre a bu ei Dad farw.

Hunan-anghofiant i gofio amdano. Nawr, ma ishe Jess sortio’i hunen allan a rhyddhau’r Best of yna!

Pridd gan y Theatr Genedlaethol – drama hunangofiannol?

Pridd-230x300Nos Sadwrn es i weld Pridd gan y Theatr Genedlaethol ym Mangor. Dydw i ddim yn mynd i weld llawer o ddramâu – er dwi’n mwynhau pob un dwi’n mynd i weld felly dylwn drio mynd i weld mwy. Gan nad ydw i wir yn foi dramâu nid adolygiad yw hwn, jest argraffiadau. Cynhyrchiad da, actio gwych ac ar y cyfan sgript ddifyr hefyd. Ond rhaid i mi gyfaddef mae fy ymateb cyntaf oedd bod y ddrama yma gan Aled Jones Williams ychydig bach yn hunangofiannol o bosib? Ac o’i gweld hi felly fod yna ddiffyg cynildeb o ganlyniad?

Fel Gweinidog dwi’n gweithio mewn maes lled debyg i hen faes Aled pan oedd yn Offeiriad. Dwi’n ymwybodol o’r pwysau weithiau i “actio’r rhan” ac i “ddiddanu” eich praidd pan nad ydych meddwl heb sôn am eich calon yn y man iawn y diwrnod hwnnw. I ryw bwynt mae modd gweld yr Offeiriadaeth/Weinidogaeth yn cael ei chyffelybu a rôl a chenadwri y Clown. Dyma sy’n fy arwain i dybio fod yr elfen hunangofiannol yn y sgript yn mynd yn ddyfnach na jest problem y Clown a’r ddiod.

Un o olygfeydd mwyaf pwerus a clyfar y ddrama i mi oedd hwnnw pan roedd y Clown yn ceisio cael ychydig bach a audience participation. Pawb, gan fy nghynnwys i, yn edrych i ffwrdd yn anesmwyth yn gobeithio na fyddai’r Clown yn fy newis i. Ac yna’r Clown yn dweud rhywbeth i’r perwyl (sori dydy’r sgript ddim efo fi rŵan) “jest dod yma i gael eich diddanu ddaru chi ‘neud, doedde chi ddim yn disgwyl nac isho cael eich aflonyddu.” Dyna yn sicr i chi sut byddai Aled wedi teimlo lawer tro wrth geisio arwain Eglwys – wynebu cynulleidfaoedd oedd jest eisiau derbyn heb wir gymryd rhan eu hunain.

Drama dda – ewch i’w gweld hi.