Author Archives: rhysllwyd

Y ras arweinyddol a lle Plaid Cymru ar y sbectrwm dde-chwith

Un peth sydd wedi codi unwaith eto yn ystod etholiad arweinyddol Plaid Cymru yw’r cwestiwn am le’r Blaid ar y sbectrwm dde-chwith. Gyda Leanne yn glir ar y chwith, Adam efallai yn fwy tua’r canol erbyn hyn (er y byddai yn gwadu hynny!) â Rhun yn gwrthod cael ei diffinio yn ôl y sbectrwm dde-chwith draddodiadol.

Am sawl rheswm – personol a phroffesiynol – dwi ddim am ddweud yn gyhoeddus dros bwy fydda i’n pleidleisio – mae fy ffrindiau agos yn gwybod.

Fodd bynnag, dwi eisiau dweud rhywbeth am y ras a’r sgwrs o fewn y Blaid ar hyn o bryd. Felly pa beth well na rhannu rhywfaint am y sgwrs a fu rhwng R. Tudur Jones a Gwynfor un o’r troeon diwethaf i’r Blaid fod ar groesffordd – yn benodol gyda’r cwestiwn a oedd hi’n blaid ‘chwith’ neu’r blaid ‘trydedd ffordd’. Mae’r naratif, yn arbennig dylanwad Cristnogaeth ac arweinwyr Cristnogol ym Mhlaid Cymru wedi newid, ond eto mae’n rhoi blas i chi o wreiddiau rhai pwysleisiadau sydd dal i weld yn ideoleg a thraddodiad Plaid Cymru.

Rhai paragraffau allan o un o benodau fy PhD yw gweddill y blog yma…

Yn 1974, bu Tudur Jones yn ddylanwadol wrth i Blaid Cymru geisio penderfynu lle y safai ar y sbectrwm dde-chwith. Roedd Tudur Jones, fel Gwynfor, yn credu na ddylai Plaid Cymru ildio i rethreg yr oes, hynny yw datgan a oedd Plaid Cymru yn blaid “sosialaidd” ai peidio. Dywedodd Rhys Evans i Gwynfor ‘dan ddylanwad R. Tudur Jones… barhau i ddadlau mai’r ateb i Blaid Cymru oedd aros yn blaid ‘radical’ – plaid fyddai’n cyplysu cenedlaetholdeb a Christnogaeth…’. Gyda Gwynfor yn wynebu misoedd olaf ei lywyddiaeth hir roedd Tudur Jones, un o’i brif gynghorwyr, yn ddi-ildio ar y mater.

“I mi mae’r hen bwyslais ar gydweithrediad, ar gryfhau cyfrifoldeb bro ac ardal, ar geisio creu cymdeithas aml ganolog, gyda’r Wladwriaeth yn cymryd ei lle fel ffurf gymdeithasol ymhlith llawer o ffurfiau cymdeithasol eraill, a’r cwbwl trwy ei gilydd a chyda’i gilydd yn galluogi pobl i fyw’n rhydd a ffyniannus – i mi, mae’r athrawiaeth hon yn dal yn berthnasol. Ac mae hi hefyd yn athrawiaeth sydd, yn fy nhyb i, yn gorwedd yn esmwythach ar gydwybod y Cristion na’r un arall.”

Mae’r weledigaeth hon gan Tudur Jones yn adleisio dylanwad syniadaeth traddodiad yr Annibynwyr, sef y pwyslais ar osod cyfrifoldeb a hunanreolaeth i lawer o unedau bychain a lleol yn hytrach nac un uned fawr ganolog. Hefyd, gellir cyferbynnu’r weledigaeth hon gyda’r math o sosialaeth a oedd yn ei hamlygu ei hun ar y pryd yng ngweledigaeth yr adain chwith Brydeinig a Chymreig a hyrwyddai’r galw am genedlaetholi diwydiannau a’r angen am reoli’r economi’n ganolog. Hynny yw, math o sosialaeth a gynrychiolai werthoedd a oedd yn groes i bwyslais yr Annibynwyr ar sofraniaeth leol, ac yn fwyaf arwyddocaol roedd yn weledigaeth a filwriai yn erbyn y syniad o Gymru fel cenedl hunanreolus. Gwelwyd mwy o rinwedd mewn rheoli’r economi’n ganolog, ar lefel Prydain Fawr, gan bleidwyr sosialaeth. Mae hyn yn awgrymu rheswm posibl am ddrwgdybiaeth Tudur Jones o sosialaeth a’i wrthwynebiad i’r label ‘sosialaidd’ gael ei roi ar syniadaeth a pholisïau’r Blaid.

Gyda Phlaid Cymru yn ei chynhadledd yn 1981 yn ethol Dafydd Wigley fel ei llywydd newydd cyntaf ers 1945 yn ogystal â derbyn y cynnig i’r Blaid fabwysiadu’r safbwynt ‘sosialaidd-gymdeithasol,’ dyma weld dylanwad Gwynfor, ac felly Tudur Jones, i raddau helaeth iawn, yn dirwyn i ben. Erbyn 1981 gwelwyd gan rai bod gweledigaeth a dylanwad Tudur Jones a’r Anghydffurfwyr yn fwyfwy amherthnasol gan iddynt lynu at weledigaeth a welsant fel un Gristnogol a hynny mewn Cymru oedd yn brysur yn cael ei secwlareiddio.

Yn 1981 cyhoeddwyd adroddiad Comisiwn Ymchwil i ddyfodol syniadaethol Plaid Cymru. Argymhellwyd y dylai’r Blaid ‘ymlynu wrth fath o sosialaeth ddatganoledig wedi ei seilio ar y gymuned.’ Yn ôl Richard Wyn Jones roedd hwn yn ddatblygiad arwyddocaol oherwydd ei fod yn ‘bwrw heibio ymdrech trigain mlynedd gan brif feddylwyr y Blaid i hepgor labeli chwith/dde wrth geisio ffordd amgenach o leoli ei hathroniaeth wleidyddol.’ Dangoswyd bod Tudur Jones yn un o’r meddylwyr hynny a oedd erbyn 1981 yn perthyn i orffennol y Blaid, o leiaf yn syniadaethol. Fodd bynnag, dadleuodd Richard Wyn Jones fod y pylu a welwyd ar ddylanwad Ymneilltuaeth Tudur Jones wedi peri i Blaid Cymru golli ei hunig droedle diogel ac ‘wrth i Anghydffurfiaeth ymddatod… aeth y troedle’n un cynyddol ansicr. Ond pa dir neu droedle cymharol sicr oedd ar gael i sefyll arno wedyn? Dyna ddeilema canolog Plaid Cymru… gyda sawl opsiwn amgen – sosialaeth? Ewrop? – yn profi’r un mor ansad.’

Please follow and like us:

Faint o amser mae’n cymryd i ti sgwennu pregeth?

Bydd pobl yn gofyn i fi’n aml ‘faint o amser mae’n cymryd i ti sgwennu pregeth?’. Nid oes ateb syml. Fel arfer dwi’n cymryd un diwrnod gwaith i baratoi ar gyfer y Sul. Weithiau nid yw hynny’n bosib ac mae rhaid paratoi neges mewn awr neu ddwy bnawn dydd Sadwrn. Ond weithiau os nad oes gormod o alwadau eraill yr wythnos honno mae modd cymryd mwy ‘na diwrnod i baratoi (anaml iawn iawn mae hyn yn digwydd!). Felly i ateb y cwestiwn ‘faint o amser mae’n cymryd i ti sgwennu pregeth?’ mae’n cymryd faint bynnag o amser ac sydd gen i! Os oes gen i ddiwrnod i baratoi yna gwych. Ond os mai dim ond dwy awr sydd gen i yna rhaid gwneud y mwyaf o’r ddwy awr yna!

Dwi’n ffodus mai dim ond un bregeth newydd sy’n rhaid i mi baratoi bob wythnos, a dwi’n ffodus hefyd mod i’n cael wyth Sul rhydd y flwyddyn. Ond mae dal angen i mi baratoi 44 pregeth newydd bob blwyddyn. Mae hynny’n 352 o bregethau ers cychwyn fel Gweinidog. Dwi’n paratoi tua 1,500 o eiriau o nodiadau i bob pregeth felly cyfanswm o dros hanner miliwn o eiriau o nodiadau erbyn hyn – digon ar gyfer pump PhD! Dychmygwch faint o ddeunydd a nodiadau sydd gan Weinidogion sydd wedi bod yn pregethu ers dros hanner can mlynedd yn eu stydis!

Ond o ddifri, mae paratoi neges ffres newydd bob wythnos yn her, mae’n anodd ar adegau. Ond mae dwy egwyddor yn bwysig i fi. Y cyntaf yw gadael i’r Ysbryd Glân arwain. Roedd yna gyfnod lle roeddwn i’n mynd yn syth at lyfrau, esboniadau Beiblaidd a podcasts gan bregethwyr eraill – bron cyn mynd at y testun Beiblaidd ei hun. Roedd y pregethau hynny yn ddiflas a mwy fel darlithoedd na phregethau mewn gwirionedd. Bellach dwi jest yn treulio amser gyda’r testun Beiblaidd ei hun a gadael i’r Ysbryd Glân wneud i bethau neidio allan o’r testun. Dim ond wedyn dwi’n troi at esboniadau Beiblaidd. Gan nad ydw i yn deall yr ieithoedd gwreiddiol nac a rhyw lawer o wybodaeth am gyd-destun llawer o’r Beibl mae yn bwysig darllen beth sydd gan yr arbenigwyr i ddweud. Rhan fwyaf o’r amser mae’r esboniadau Beiblaidd yn ategu’r hyn oedd wedi sefyll allan i mi. Ond weithiau, rhaid cyfaddef, fod rhaid i mi ail-ystyried rhai pethau ac ail-sgwennu peth o’r nodiadau oherwydd mod i wedi cam-ddeall y testun.

Yr ail ddisgyblaeth wrth baratoi pregeth yw cofio mae rôl y pregethwr yw dod a Gair Duw yn fyw i bobl heddiw. Nid rôl pregeth yw jest esbonio’r testun Beiblaidd yn sych a strêt. Os ydych chi am wneud hynny ma’ ‘na man i’ch praidd aros adre yn darllen esboniadau Beiblaidd. Rhaid i bregeth gyd-destunoli y testun. Gweld beth sydd gan y testun i ddweud wrth bobl heddiw. Dyna pam dwi’n hoffi’r hen ddelwedd ynglŷn â’r pregethwr fel rhywun sy’n dal y Beibl mewn un llaw a’r papur newydd yn ei law arall. Os na fydd y pregethwr yn gwybod beth sy’n mynd ymlaen yn y byd, mewn cymdeithas ac ym mywydau ei braidd sut all bregethu’r Beibl i’r bobl yna yn effeithiol?

Ond fy ngwir broblem i yw diffyg amser i wneud unrhyw beth o’r hyn dwi wedi nodi uchod yn iawn. Neu efallai fod diffyg disgyblaeth yn fwy o broblem ‘na diffyg amser. Dwi’n ffeindio amser i wneud pethau llai pwysig a llai dyrchafol wedi’r cyfan … fel sgwennu’r blog yma!

Felly tymor yma dwi’n gobeithio bod yn fwy disgybledig wrth neilltuo un diwrnod penodol bob wythnos i weddïo, darllen y Beibl a pharatoi fy mhregethau. I warchod y diwrnod hwnnw bydd rhaid i mi fod yn fwy disgybledig i gael pob dim arall wedi ei wneud ar y diwrnodau eraill ac mi fydd rhaid i mi fod yn ddigon cadarn i ddweud “na” pan fydd pobl yn gofyn i mi wneud pethau eraill ar y diwrnod neu ofyn am gael cyfarfod ac ati.

Rhan fwyaf o wythnosau dydd Iau fydd y diwrnod hwnnw. Felly, helpwch fi! Os gallwch chi aros tan ddydd Gwener cyn fy e-bostio neu ofyn am gyfarfod, neu ofyn i mi wneud yr hwn a’r llall, bydd hynny yn help mawr.

Ar wythnos arferol dyma sut fydd fy mhatrwm gwaith yn gweithio tymor yma gobeithio:
Dydd Llun – diwrnod off/gofalu am Cadog
Dydd Mawrth – bugeilio / cyfarfodydd / manion gweinyddol
Dydd Mercher – gweithio i Gyhoeddiadau’r Gair
Dydd Iau – gweddi / astudio’r Beibl / paratoi at ddydd Sul
Dydd Gwener – bugeilio / cyfarfodydd / manion gweinyddol
Dydd Sadwrn – gorffen paratoi at y Sul (bore) / rhydd (pnawn)
Dydd Sul – oedfaon (bore, pnawn a nos … fel arfer)

Yn amlwg bydd rhaid ffeirio diwrnodau o gwmpas weithiau – ond dwi am drio cadw at y patrwm gwaith yma.

Please follow and like us:

Ymaelodi â’r ymylon – ydy Cristnogion yn cael eu herlid yng Nghymru heddiw?

Mae’n debyg fod llawer o Gristnogion Cymraeg Cymru heddiw wedi eu magu yn y Gymru Anghydffurfiol – ein cyfraniad Cymreig ni at Christendom. Yr hyn oedd yn arferol i’r rhan fwyaf o Gymry Cymraeg hyd y genhedlaeth ddiwethaf oedd mynd i’r Capel. Roedd pawb yn “Gristion” ac roedd anffyddwyr yn bobl brin, roedden nhw ychydig yn od ac yn sefyll allan. Ond heddiw rydym ni’n byw mewn Cymru dra wahanol, rydym ni’n genedl secwlar. Y bobl sy’n sefyll allan, y bobl od bellach yw’r bobl sy’n arddel ffydd yn Iesu Grist. Gyda’r realiti yna’n gefnlen mae’n hawdd i ni fel Cristnogion feddwl ein bod ni’n mentro i dir dieithr newydd.

Ystyr Christendom yw “Gwledydd Cred”. Mae’n gysyniad sy’n mynd yn ôl i’r bedwaredd ganrif pan drodd Cystennin Fawr, yr Ymerawdwr Rhufeinig, at y ffydd Gristnogol. Yn sgil hyn daeth Cristnogaeth yn grefydd swyddogol yr Ymerodraeth, tiriogaeth oedd yn cynnwys y rhan fwyaf o Ewrop heddiw. Cyn y cyfnod yma roedd y ffydd Gristnogol yn ffydd oedd yn tyfu a lledu’n gyflym er gwaetha’r ffaith fod Cystennin yn erlid ac yn lladd Cristnogion. Mae’r rhan fwyaf o haneswyr yn tybio fod Cystennin, ar un llaw, wedi troi at y ffydd Gristnogol am resymau gwleidyddol. Ar y naill law, cred eraill ei fod wedi gweld nad oedd erlid Cristnogion yn bolisi llwyddiannus wrth geisio rhwystro lledaeniad a dylanwad y ffydd, felly gwell oedd eu hamsugno i mewn i’r Ymerodraeth – ‘if you can’t beat them, join them’.

Bu’r newid yma o fod yn ffydd “pobl yr ymylon” i fod yn ffydd y “sefydliad” yn newid cwbwl arwyddocaol sydd wedi taro cysgod dros hanes yr Eglwys Gristnogol dros y canrifoedd hyd ein dydd ni heddiw.

Dadleua llawer fod penderfyniad Cystennin wedi bod o fudd i’r ffydd Gristnogol gan fod ei dderbyniad swyddogol gan yr Ymerodraeth wedi hwyluso ei lledaeniad. Ond, mae eraill yn dadlau fod y datblygiad yn un negyddol, yn arbennig yn yr hir dymor, gan ei bod wedi mynd â’r Eglwys yn bell o’i gwreiddiau fel ffydd radical pobl yr ymylon.

Heddiw, mae llawer o ddiwinyddion ac arweinwyr Eglwysig yn ceisio ailddarganfod sut mae bod yn wir Eglwys Crist mewn cyd-destun ôl-Christnedomaidd wrth edrych sut eglwys oedd yn bodoli yn y byd cyn-Christenomaidd. Un ymateb i’r newid hwn yw ceisio dal gafael yn yr ychydig sy’n weddill o’r byd Christendomaidd sy’n prysur ddiflannu. Clywir am Gristnogion yn honni eu bod yn cael eu herlid oherwydd nad ydynt yn cael yr un safle o ffafriaeth mewn cymdeithas fel ag yr oeddent genhedlaeth yn ôl. Caiff yr awgrym fod Cristnogion yn cael eu herlid yn y wlad yma ei leisio’n llawer rhy aml ac mae’n haeriad sy’n bychanu Cristnogion a wynebant wir erledigaeth mewn rhannau eraill o’r byd.

Nid drwy strancio a gwrthod gollwng gafael yn Christendom y mae dygymod â’r newid – ond yn hytrach drwy ailddarganfod calon Cristnogaeth, sef ffydd radical pobl yr ymylon.

Wrth edrych ar lyfr yr Actau gwelwn sut y mae Eglwys Iesu Grist yn trefnu ei hun, yn byw ac yn tyfu mewn hinsawdd ysbrydol a diwylliannol sy’n ddigon tebyg i’n hoes ni heddiw. Cyfnod lle nad oedd llawer yn gwybod am Iesu, cyfnod lle’r oedd y mwyafrif yn dwyfoli arian, enwogion ac yn gaeth i ofergoelion. Gwelir ffydd bendant a diwyro yn efengyl Iesu Grist, gwelir dibyniaeth ar waith yr Ysbryd Glân a hefyd gwelir Cristnogion yn byw allan eu ffydd. Wrth ailddarganfod y symlrwydd a welir yn yr Eglwys Fore yn yr Actau y darganfyddwn ni sut mae byw fel Cristnogion yn y Gymru ôl-Christnedomaidd sy’n agor o’n blaenau.

Nid oes yn rhaid i ni ofni wrth gamu i mewn i’r anghyfarwydd, ond yn hytrach rhaid i ni weld y cyfan fel her gyffrous, gan fynd ymlaen yn hyderus oherwydd fod Iesu wedi addo adeiladu ei Eglwys.

Efallai y bydd trafod y cwestiynau isod o gymorth wrth geisio adnabod y gwahaniaeth rhwng cael ein herlid fel Cristnogion a dygymod â byw fel Cristion mewn oes lle mae’r ffydd Gristnogol ar y cyrion eto.

1. Mae fy rhyddid fel Cristion yn cael ei beryglu oherwydd:
a.) Fy mod i’n cael fy rhwystro rhag mynd i le o addoliad o fy newis i.
b.) Bod eraill yn cael dewis mynd i le o addoliad o’u dewis nhw.

2. Mae fy rhyddid fel Cristion yn cael ei beryglu oherwydd:
a.) Nad ydw i’n cael priodi’r un a garaf er bod fy Eglwys yn fodlon bendithio’r briodas.
b.) Bod y wladwriaeth yn gwrthod gorfodi fy nghred bersonol i ynglŷn â phwy ddylai gael priodi pwy ar y boblogaeth yn gyffredinol.

3. Mae fy rhyddid fel Cristion yn cael ei beryglu oherwydd:
a.) Nad oes hawl gen i weddïo’n bersonol.
b.) Nad oes hawl gen i orfodi eraill i ymuno â’m gweddïau cyhoeddus.

4. Mae fy rhyddid fel Cristion yn cael ei beryglu oherwydd:
a.) Nad yw fy nghymuned ffydd i yn cael adeiladu tŷ addoli yn fy nghymuned.
b.) Fod crefyddau eraill yn cael hawl i adeiladu tai addoli yn fy nghymuned.

Y tebygrwydd yw eich bod chi wedi ateb ‘A’ i’r rhan fwyaf o’r cwestiynau, sy’n dangos nad ydym ni fel Cristnogion Cymraeg yn cael ein herlid mewn gwirionedd. Yn hytrach, problem llawer o Gristnogion yw dygymod â’r sefyllfa newydd lle nad yw’r ffydd Gristnogol yn cael y safle breintiedig fel yr oedd hi yn y gymdeithas.

Dylem weld hyn fel her i ni ddychwelyd at Gristnogaeth radical Feiblaidd yn hytrach na’i weld fel bygythiad.

Please follow and like us:

Y gweddill ffyddlon?

Roedd yna gyfnod pan oeddwn i’n iau lle roeddwn i’n meddwl o ddifri mae dim ond tua phum cant o Gristnogion “go-iawn” oedd ar ôl yng Nghymru. Roeddwn i’n credu fod holl eglwysi Cymru, ac eithrio llond dwrn o rai annibynnol efengylaidd, yn euog o apostasy ac felly nad oedden nhw yn eglwysi “go-iawn” nac yn cynnwys gwir bobl Dduw.

Roeddwn i’n ifanc ac wedi byw fy mywyd Cristnogol o fewn bybl.

Bybl o fewn bybyl mewn gwirionedd.

Yn y byd Cristnogol y ces i fy magu roedd rhywun ifanc fel fi yn clywed polemic parhaus yn erbyn “yr enwadau”, “eglwysi traddodiadol” ac i raddau llai “eglwysi charismatic”. Rhywsut, ac rwy’n derbyn ei fod yn anfwriadol, roedd mynychu gwersylloedd penodol a chynadleddau penodol wedi meithrin yndda i ryw ymdeimlad dwfn mod i’n perthyn i remnant arbennig etholedig Duw yng Nghymru. Ni, y pum cant oedd yn weddill, oedd ar dasg fawr o ennill Cymru nol i Grist.

Roeddwn i’n gynnyrch math o Gristnogaeth oedd yn cael ei diffinio am beth oedd hi yn ei herbyn yn gymaint â beth oedd hi o’i blaid.

Nid dyma beth roedd pobl yn credu na’i bregethu o’r pulpud ond dyna oedd yr argraff ces i’n berson ifanc beth bynnag. Gwers fod y sgyrsiau dros baned (neu’r bravado a’r banter) a’r diwylliant sy’n cael ei feithrin yn cael llawn gymaint o argraff ar bobl ifanc a beth sy’n cael ei bregethu o’r pulpud. Mae meithrin meddwl Crist yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach, na phregethu’r athrawiaethau “cywir” am Grist.

Ches i erioed argyfwng ysbrydol a dwi byth yn cofio cyfnod lle nad oeddwn i’n credu mewn Duw, ac yn benodol yn credu yn Nuw yn Iesu Grist. Ond rwy’n cofio ym mlynyddoedd olaf ysgol uwchradd dechrau cwestiynu byd olwg y bybl Cristnogol yma y ces i fy magu ynddo. Tybed oedd gennym ni fonopoli ar y gwirionedd? Oes yna rywbeth y gallwn ni ddysgu gan draddodiadau Cristnogol gwahanol? Neu a’i dyma’n wir yw’r ffurf “bur” o Gristnogaeth? Oes yna fywyd dal i fodoli yn y cannoedd o “eglwysi enwadol” sydd trwy’r wlad? Ac yna beth am yr eglwysi rhyfedd yna lle mae pobl yn codi eu breichiau wrth ganu emynau? Ydyn nhw’n Gristnogion go-iawn neu dim ond yn bobl sydd wedi cael rhyw brofiad seicolegol rhyfedd? Wedyn beth am bobl sydd ddim yn credu dim byd? Gallwn ni dal gyd-weithio gyda nhw er daioni mewn cymdeithas?

Bellach dwi dal i ystyried fy hun yn rhan o’r traddodiad efengylaidd, dwi wedi ffeindio fy hun yn arwain “eglwys enwadol” sydd, ym meddwl llawer, yn un o’r eglwysi rhyfedd yna lle mae (rhai) pobl yn codi dwylo wrth addoli! Byddai’r Rhys ifanc yn gweld cant a mil o feiau yn yr eglwys rwy’ nawr yn cyfri’n gartref i mi. Dwi’n gwybod yn iawn am wendidau’r eglwysi enwadol a pheryglon rhai tueddiadau carismataidd – o wynebu rhai o’r peryglon bob dydd yn fy ngweinidogaeth fedra i ddeall o le daeth y polemic. Ond, dwi wedi dod i weld nad oes gan un mynegiant o’n ffydd fonopoli ar y label “efengylaidd” heb sôn am fonopoli o’r label pwysicach “Cristion”.

Un peth sy’n drist i mi yw hyn, ffeindies i gartref ysbrydol newydd mewn cornel ychydig bach yn wahanol o’r eglwys. Mae’n drist meddwl fod rhai o’r pum cant wedi gweld nad oedden nhw’n ffitio mewn yno ac wedi penderfynu gadael yr eglwys yn llwyr. Dwi’n sori am y niwed wnes i i bobl, heb sôn am y niwed a wnes i i waith Teyrnas Iesu yng Nghymru, pan oeddwn i’n credu’n goeglyd iawn mai dim ond fi a’r 499 arall oedd yn gadwedig go-iawn.

Please follow and like us:

Saunders, Ewrop a’r Refferendwm

Cyhoeddwyd yr erthygl yma yn wreiddiol yn rhifyn Mai/Mehefin 2016 o Cristion. Cliciwch yma i danysgrifio.

Wrth i mi ysgrifennu’r geiriau yma mae sôn bod UKIP yn debygol o ennill ambell sedd yn Etholiadau Cymru a bod canran nid ansylweddol o Gymry yn bwriadu pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd fis Mehefin. Ag adleisio geiriau Saunders Lewis yn y Llenor yn 1927: ‘Ofn sydd arnaf wybod pa mor anewropeaidd y gall hyd yn oed arweinwyr meddwl Cymru heddiw fod.’

I Saunders nid oedd ‘Cymru’n bod namyn fel rhan o Ewrop’. Mae tuedd ynom i ddiffinio pwy ydym ni mewn perthynas ag eraill. Yn anffodus fel Cymry y duedd yw diffinio ein hunain mewn cyferbyniad â ‘nhw’ y “Saeson”. Y syniad goleuedig am Ewrop yw ei fod yn ein rhyddhau i ddiffinio ein hunain fel ein bod yn rhan o rywbeth yn hytrach nag yn bobol sydd ddim yn rhywbeth. Llawer gwell yw dweud ein bod ni’n Gymry yn Ewrop nag ein bod ni’n Gymry nid yn Saeson.

Mae’r syniad o undod organig drwy Ewrop yn eithriadol o bwysig i’n hunaniaeth ni fel Cymry sy’n arddel ffydd yng Nghrist. Cyn twf gwladwriaethau modern, yr hyn oedd yn diffinio Ewrop ac yn pennu ei ffiniau oedd terfynau Gwledydd Cred (Christendom). Yn 1964 dywedodd D. Myrddin Lloyd yn ei ysgrif ‘Cymru a Ewrop’ yn Efrydiau Athronyddol mai llwyddiant Islam a barodd i derfynau Gwledydd Cred syrthio’n daclus gyda ffiniau daearyddol cyfandir Ewrop yn y diwedd. Mae’n eironig braidd fod polemig gwrth-Foslemaidd yn ganolog bellach i naratif y rhai sydd eisiau chwalu’r freuddwyd Ewropeaidd.

Er i ni ymfalchïo yn ein treftadaeth Gristnogol Gymraeg, boed yn ei wedd Geltaidd Gatholig neu Brotestannaidd Anghydffurfiol, ni allwn wadu nad ydym yn perthyn i draddodiad mwy sy’n sylfaenol Ewropeaidd. Er y byddai Saunders Lewis, efallai, yn dadlau mai dim ond y Catholigion all hawlio’r fantell Ewropeaidd, gallaf dystio nad oedd llawer o bellter rhwng pulpud Protestannaidd fy mhlentyndod a drws Eglwys Wittenberg neu ddinas Genefa. Fel Cristnogion Cymraeg rydym yn ymwybodol iawn ein bod ni’n rhan o deulu Ewrop.

Efallai nad ydym wedi rhoi sylw teg i’r Pêr Ganiedydd fel un o’n Hewropeaid enwocaf. Yn ei waith Pantheologia, Neu Hanes Holl Grefyddau’r Byd mae Pantycelyn yn hiraethu am weld ei gyd-Gymry yn dod yn fwyfwy ymwybodol eu bod yn rhan o rywbeth mwy. Dywedodd D. Myrddin Lloyd amdano:

“Gwelai berygl crefyddol mawr yn yr agwedd meddwl hon, sef temtasiwn i weld ein ffurfiau crefyddol ni fel rhan o drefn natur, ac fe’n rhybuddia hefyd mai dinasyddion gwael a wnawn heb y weledigaeth ehangach o Ewrop a’r byd . . . ofnai’n fawr yr hunan-fodlonrwydd a darddai o wrthod cymryd o ddifri y byd y tu allan i Brydain, a chwilio am y norm yn unig o’i mewn.”

Yn ôl D. Myrddin Lloyd ‘proffwyd mawr Ewropeaeth fodern’ oedd neb llai nag Emrys ap Iwan: ‘Y mae’n werth, meddai, i Gymro fynd i Ffrainc pe na bai’n unig er mwyn ei gael ei hun mewn gwlad lle nad yw “I say” y Sais ddim yn hollol gyfystyr â “Fel hyn y dywed yr Arglwydd”’. Y mae gennym fel Cristnogion yng Nghymru draddodiad cryf felly o weld ein hunain fel cenedl ie, ond cenedl sy’n perthyn i deulu ehangach o genhedloedd na dim ond y genedl drws nesaf.

O ddychwelyd at yr arch-Ewropead ei hun, Saunders Lewis, gallwn fel Cristnogion werthfawrogi’r grymoedd ideolegol sydd ar waith yn y naratif cyfoes ynglŷn â chenhedloedd a sofraniaeth. Yn un o ddogfennau sylfaen Plaid Cymru yn 1926, Egwyddorion Cenedlaetholdeb, esboniodd Saunders mai cenedlaetholdeb oedd y broblem! Fel y mae sawl Cristion, o Saunders i R. Tudur Jones i Rowan Williams, wedi ceisio dangos, y mae sawl math o genedlaetholdeb ar gael yn archfarchnad yr ideolegau. Ceir y math sinistr mewnblyg sy’n dangos ei hun, ar y gorau, yng ngwleidyddiaeth rad a thrahaus Nigel Farage, ac ar y gwaethaf, ym mhenllanw hyll y Drydedd Reich. Ond y mae yna genedlaetholdeb arall hefyd, y math o genedlaetholdeb sy’n ddigon hunan-hyderus i fod yn gwbl gyfforddus wrth ei weld ei hun yn rhan o deulu’r cenhedloedd, yn rhan o Ewrop.

Ond tybed oes angen i ni wahaniaethu rhwng hen wareiddiad Ewrop a’r Undeb Ewropeaidd fel sefydliad modern? Ydy hi’n bosib talu gwrogaeth i’r naill a gobeithio am ddiwedd y llall? Tybed beth fyddai gan Saunders, y rhyddewyllysiwr gwrth-wladwriaethol, i’w ddweud am y lefiathan biwrocrataidd ag ydyw’r Undeb Ewropeaidd? Fe wyddom mai ei ddelfryd economaidd ef, pa mor naïf bynnag ydoedd, oedd gweld Cymru’n troi cefn ar ei diwydiannau a chanolbwyntio ar amaethu. Ag ystyried mai’r Undeb Ewropeaidd, i raddau helaeth, sy’n dal y Gymru amaethyddol rhag syrthio i ddinistr llwyr, efallai fod hynny’n awgrymu sut y byddai’n pleidleisio? Ond wedyn, wn i ddim a fyddai ystyriaethau mor faterol ac ymarferol â hynny yn llywio ei farn!

I orffen ar nodyn ysgafn, efallai y cawn ddymuno’n dda i’r Cymry hynny fydd yn dilyn galwad Emrys ap Iwan i fynd i Ffrainc i brofi Ewrop yr haf yma. Yn benodol profi Pencampwriaeth Bêl-droed Ewrop gyda Chymru wedi llwyddo i gyrraedd y gystadleuaeth am y tro cyntaf ers 1976. Fel mae’n digwydd, mae Cymru’n chwarae yn erbyn Lloegr yn y gystadleuaeth wythnos yn unig cyn y Refferendwm ar Ewrop – eironi dramatig y byddai Saunders y dramodydd mae’n siŵr yn falch ohono.

Please follow and like us:

Newid yn bosib – cofio 1992

Mam, fi, Elain a Cynan yn 1990. Cymru wedi cymryd sawl cam ymlaen a sawl cam yn ôl ers hynny!

Mam, fi, Elain a Cynan yn 1990. Cymru wedi cymryd sawl cam ymlaen a sawl cam yn ôl ers hynny!

Un o’r atgofion gwleidyddol cyntaf sydd gen i oedd Cynog Dafis yn ennill Ceredigion i Blaid Cymru am y tro cyntaf yn 1992. Roeddwn i’n chwe mlwydd oed. Dwi’n cofio’r poster yn iawn – papur gwyrdd, a llun o Cynog mewn grayscale arno.

Y tro hwnnw daeth Plaid Cymru o fod yn bedwerydd yn 1987 i ennill yn 1992. Swing o 15%, a chodi nifer y pleidleisiau dderbyniodd y Blaid o dros wyth mil.

O’r foment yna ymlaen a thrwy’r rhan fwyaf o fy mhlentyndod roeddwn yn credu fod newid gwleidyddol yn bosib. Llafur yn rhoi crasfa i’r Ceidwadwyr yn 1997 a Phlaid Cymru yn cynyddu eu mwyafrif yn eu seddi nhw. Ennill Refferendwm Datganoli yr un flwyddyn. Ac yna chwyldro 1999 pan heriwyd hegemoni Llafur yng Nghymru am y tro cyntaf ers degawdau wrth i Blaid Cymru ennill seddi fel Rhondda ac Islwyn.

Ond, a bod yn onest, ers troad y mileniwm mae’r cyffro a’r teimlad fod newid yn bosib oedd i’w brofi trwy’r 90au wedi pylu rhywfaint. Ond mae edrych yn ôl ar fy atgof gwleidyddol cyntaf o 1992, yn chwe mlwydd oed, yn fy atgoffa fod newid yn bosib, a fod newid yn llesol i bob gwlad ddemocrataidd.

Please follow and like us:

Llyfr y Dechreuadau – Rhan 6

Dros y misoedd nesaf yng Nghaersalem bydda i’n pregethu trwy Lyfr Genesis yn y Beibl. Dwi’n gobeithio (os bydd amser yn caniatau) sgwennu blog i fynd gyda pob pregeth. Dyma’r drydedd rhan. Dyma oedd dyma oedd y rhan gyntaf, (Y Cread)dyma oedd yr ail ran (Y Cwymp), dyma oedd y drydedd rhan (Noa), dyma oedd y pedwerydd rhan (Tŵr Babel) a dyma oedd y pumed rhan (Abraham – Rhan 1).

Tro diwethaf fe wnaethom ni ddechrau edrych ar hanes Abraham. Fe welsom fod Duw wedi rhoi pwrpas a galwad ar fywyd Abraham, a bod yr un Duw yn rhoi pwrpas a galwad ar fywyd pob un o’i blant heddiw.

Ymrwymiad Duw i Abram

Er fod Abram wedi credu yn yr Arglwydd a fod ganddo fe berthynas gyda Duw – mae’r bywyd wedyn o ddilyn yr Arglwydd yn fwy o broses, fel mae hanes Abraham yn dangos. Mae Duw wedi addo i Abram fod yna genedl fawr mynd i ddod allan ohono. Ond mae e a Sara yn edrych ar y sefyllfa, gweld eu hunain yn hen iawn ac felly yn annhebygol a allu cael plant ac yn penderfynu cymryd pethau mewn i’w dwylo eu hunain.

Mae’r cyfan yn mynd yn flêr iawn oherwydd fod Abram yn cysgu gyda Hagar, morwyn Sara ei wraig ac yn cael mab – Ishmael. Roedd Abram a Sara yn meddwl fod hwn yn gynllun da er mwyn cael etifedd er mwyn cyflawni galwad Duw iddyn nhw dyfu’n genedl fawr. Ond nid dyma oedd cynllun Duw.

Ydym ni weithiau yn cymryd pethau mewn i’n dwylo ein hunain yn lle disgwyl wrth Dduw?

Dwi am i ni oedi dros hyn am funud a holi os ydym ni weithiau yn syrthio i’r run trap ac Abraham a Sara. Ydy ni’n meddwl ein bod ni’n gwybod yn well ‘na Duw? Neu o leiaf, ydym ni’n llawn bwriadau da yn mynd a’n pen mewn i sefyllfa neu benderfyniad mawr mewn bywyd yn lle aros a disgwyl wrth yr Arglwydd? Dwi’n cofio darllen am Ruth Graham (gwraig Billy Graham), ddywedodd unwaith:

“I’m glad God doesn’t answer every prayer or I would have married the wrong man several times!”

Mae angen i ni ddysgu oedi yn ein bywyd a’n penderfyniadau personol i wahaniaethu rhwng ein syniadau a’n cynlluniau ni a beth yw cynllun gwell Duw i ni.

Arwydd o’r ymrwymiad

Mae’n amlwg fod Abram a Sara yn stryglo i drystio cynllun Duw. Mae’n nhw’n credu yn Nuw, mae ganddyn nhw berthynas efo Duw, ond byddwch chi’n gwybod fod hi ddim wastad yn hawdd trystio cynllun Duw. Dwi’n berson sy’n mynd i boeni am bethau, dwi’n reddfol eisiau trwsio pethau, pobol, perthnasau – felly dwi’n gallu cyd-ymdeimlo gyda Abram a Sara. Dwi angen cofio weithiau fod angen i fi adael fynd er mwyn i Dduw symud.

Ac felly mae Duw yn gwneud ymrwymiad gyda Abraham. Genesis 17:

1Pan oedd Abram yn 99 mlwydd oed, dyma’r ARGLWYDD yn ymddangos iddo, ac yn dweud, “Fi ydy’r Duw sy’n rheoli popeth. Dw i am i ti fyw mewn perthynas â mi, a gwneud beth dw i eisiau. 2Bydda i’n gwneud ymrwymiad rhyngon ni’n dau, ac yn rhoi llawer iawn o ddisgynyddion i ti.”
3Dyma Abram yn mynd ar ei wyneb ar lawr. Ac meddai Duw wrtho, 4“Dyma’r ymrwymiad dw i’n ei wneud i ti: byddi’n dad i lawer iawn o bobloedd gwahanol.

Ac fel arwydd o’r ymrwymiad yna mae Duw yn rhoi enw newydd iddo fe. Mae ei enw’n newid i Abram i Abraham! (Why reinvent the wheel?) Ac mae hynny yn bwysig – mae’n dangos fod dod i berthynas efo Duw yn rhoi hunaniaeth newydd i ni. Falle fod cymdeithas eisiau rhoi label negyddol arnoch chi.

Past it.
Wedi methu’r arholiad yna.
Ddim wedi cael y dyrchafiad yna.
Yn well na’r person yna, ond ddim cystal a’r person nesa.
Damaged goods.

Dyna’r math o labeli o hunaniaeth falle mae cymdeithas yn rhoi i bobl. A dydy’r eglwys, yn draddodiadol, ddim wedi bod llawer gwell. Mae gyda ni’r hen syniad Cymreig fod eich hunaniaeth a’ch gobaith chi wedi ei glymu yn beth chi’n gwneud yn hytrach ‘na beth mae Duw wedi gwneud drosoch chi. Byw bywyd da yn y gobaith, yn y diwedd fydd e’n ddigon da. Ond does dim sicrwydd mewn hunaniaeth felly, dim ond rhyw ‘hope for the best a hold tight’.

Ond wedyn ar y pegwn arall mae’r eglwys wedi dysgu’n gywir fod pobol yn bechaduriaid – ond wedyn yn cadw pobol yn y fan yna – ‘pechadur wyt ti a pechadur fyddi di’. Holl bwynt sylwi ein bod ni’n bechaduriaid yw derbyn maddeuant er mwyn cyfnewid yr hunaniaeth o fod yn bechadur am hunaniaeth newydd o fod yn blentyn i Dduw.

Fe wnaeth Duw ymrwymiad gyda Abraham ac fe gafodd enw a hunaniaeth newydd. Mae yr un Duw wedi gwneud ymrwymiad gyda pob un ohono ni trwy Iesu. Heddiw mae eisiau i ni dderbyn yr enw a’r hunaniaeth newydd hwnnw. Does dim rhaid i ni weithio am yr hunaniaeth hwnnw – mae Duw yn ei roi fel rhodd.

Does dim rhaid i ni fynd yn styc yn y gêr cyntaf a meddwl amdanon ni ein hunan fel pechadur am byth. Mae modd derbyn maddeuant pechodau a dod yn rhydd o’n hen hunaniaeth a derbyn yr hunaniaeth newydd o fod yn blentyn i Dduw sydd wedi derbyn bywyd newydd trwy Ras.

Ydym ni, fel Abraham, yn barod i ildio a camu mewn i’r hunaniaeth newydd mae Duw wedi ennill i ni?

Please follow and like us:

Llyfr y Dechreuadau – Rhan 5

Dros y misoedd nesaf yng Nghaersalem bydda i’n pregethu trwy Lyfr Genesis yn y Beibl. Dwi’n gobeithio (os bydd amser yn caniatau) sgwennu blog i fynd gyda pob pregeth. Dyma’r drydedd rhan. Dyma oedd dyma oedd y rhan gyntaf, (Y Cread)dyma oedd yr ail ran (Y Cwymp), dyma oedd y drydedd rhan (Noa) a dyma oedd y pedwerydd rhan (Tŵr Babel).

Trwy Abram mae Duw yn parhau gyda’i gynllun mawr i achub y byd a sicrhau yn y diwedd fod ei newyddion da nid yn newyddion da i un bobl yn unig i’r holl genhedloedd – ac yn newyddion da i ni.

Mae yna sawl pennod yn Genesis yn sôn am hanes Abraham. Y rhannau dwi am i ni feddwl drostyn nhw heddiw yw Genesis 12:1-3 a 15:1-6. Y darn lle mae Duw yn dangos y cynllun sydd ganddo i’r byd trwy Abraham ac yna’r darn lle mae Duw yn dangos/herio Abraham i gredu a trystio yn Nuw a’i gynllun.

1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i’n ei ddangos i ti. 2Bydda i’n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi’n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill. 3Bydda i’n bendithio’r rhai sy’n dy fendithio di ac yn melltithio unrhyw un sy’n dy fychanu di. A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”

Yn y tair adnod yma mae gyda ni grynhoad o gynllun Duw yn y byd, cynllun Duw i Abraham yn y byd, a cynllun Duw i’r eglwys heddiw (ni!) yn y byd. Dyma yw y newyddion da – fod Duw yn dod i fendithio’r cenhedloedd.

Dyma sut mae Paul yn esbonio yr efengyl i’r Galatiaid 3:7-8:

7 Felly, y rhai sy’n credu sy’n blant go iawn i Abraham! 8 Ac roedd yr ysgrifau sanctaidd wedi dweud ymlaen llaw fod Duw’n mynd i ddod â phobl sydd ddim yn Iddewon i berthynas iawn ag e’i hun, drwy iddyn nhw gredu ynddo. Rhannodd Duw y newyddion da hwnnw gydag Abraham ymhell bell yn ôl: “Bydd gwledydd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”

Pwy mae Duw yn dewis i ddod a’r newyddion da?

Dwi’n credu’n gryf fod synnwyr digrifwch gan Dduw. Mae’n dangos hynny wrth ddewis a galw Abraham a Sarai. Gyda’r greadigaeth mewn llanast – pwy mae Duw yn ei ddewis i ddod a bendith i’r cenhedloedd? Par oedrannus di-blant sydd, yn ôl y byd, a’u dyddiau gorau tu ôl iddyn nhw.

“What can God do next? Something only God could have thought of. God sees and elderly, childless couple in the land of Babel itself and decides to make them the launch pad of his whole mission of cosmic redemption. One can almost hear the sharp intake of breath among the angels when the astonishing plan was revealed.” [Chris Wright]

Felly cyn mynd ymlaen – beth yw arwyddocâd a’r application i ni fod Duw wedi dewis Abraham a Sarai?

Does dim rhaid bod yn ddyn gwyn ifanc, gyda gradd dda, gyda 2.4 o blant, i gael eich galw a chael eich defnyddio gan Dduw i ddod a bendith i’r byd. Mae syniad Duw ynglŷn a phwy sy’n qualified i fod yn rhan o’i gynllun yn wahanol i syniad y byd. I ddweud y gwir dydy qualifications ddim yn dod mewn i’r darlun o gwbwl. Beth sy’n allweddol yw galwad.

Oherwydd fel mae’r ystrydeb yn dweud: “God doesn’t call the qualified! He qualifies the called!”

Ac os ydych chi’n adnabod Iesu – mae Duw wedi eich galw chi.

Dydy Duw ddim jest wedi eich achub chi rhag eich pechodau – mae e wedi eich achub chi i rhywbeth mwy. I chwarae eich rhan yn ei gynllun mawr i ddod a bendith i’r byd. Am llawer rhy hir mae’r eglwys yn y gorllewin, yng Nghymru, wedi llyncu’r celwydd mae dim ond dynion ifanc sy’n hoffi darllen am y Piwritaniaid sy’n derbyn galwad.

Mae yr alwad mae Duw yn rhoi i Abraham a Sarai – yn alwad i holl blant Abraham sy’n cynnwys pawb sy’n adnabod Iesu.

Felly beth oedd galwad Duw i Abraham?

1Dyma’r ARGLWYDD yn dweud wrth Abram, “Dw i am i ti adael dy wlad, dy bobl a dy deulu, a mynd i ble dw i’n ei ddangos i ti.

I ddechrau, mae’n amlwg fod elfen o drystio ac hefyd aberth yn rhan o ddilyn galwad Duw. Mae’n beth mawr i adael eich gwlad, pobl a teulu – gadael y pethau sy’n aml yn rhoi diogelwch a sicrwydd i ni. I rai Cristnogion mae’r alwad yma yn llythrennol. Mae llawer o wledydd sydd a Eglwys Iesu Grist yn tyfu gyflymaf fel Corea a China wedi derbyn y newyddion da i ddechrau achos fod yna Gymry wedi dilyn galwad Duw a gadael eu gwlad, pobl a’u teulu.

Mae’r egwyddor yn berthnasol i bawb dwi’n meddwl – sef fod angen i ni fod yn agored i Dduw alw ni allan o’n comfort zone, ein galw i fyw bywyd aberthol er mwyn i bobl eraill, trwyddo ni, brofi bendith Duw.

2Bydda i’n dy wneud di yn genedl fawr, ac yn dy fendithio di, a byddi’n enwog. Dw i eisiau i ti fod yn fendith i eraill.

Mae’n mynd mlaen i ddweud wrth Abraham allan ohono fe y bydd yna genedl fawr enwog. Mae’n hawdd cam-ddehongli hyn, ac mae llawer o bobl wedi. Y math o bobl oedd yn disgwyl i Iesu ddod ar geffyl nid ebol asyn hefyd yn dehongli cenedl fawr ac enwog fel mawr ac enwog mewn termau cyfoeth materol a grym milwrol.

Ond mae mawr ac enwog yn nhermau Duw yn wahanol i mawr ac enwog yn nhermau y byd. Y ffordd fod yn fawr ac enwog yn Nheyrnas Dduw yw nid i lordio hi dros bobl ac nid gwneud enw i chi eich hun – ond drwy wneud yn union beth mae ail hanner yr adnod yn dweud:
“…bod yn fendith i eraill.”

Ac yn ein dydd ni, y genedl mae Duw yn sôn amdano fan hyn yw yr eglwys, yn ôl Paul yn y Testament Newydd gwir blant Abraham heddiw yw pawb o bob cenedl sydd yn cydnabod Iesu yn Arglwydd.

3Bydda i’n bendithio’r rhai sy’n dy fendithio di ac yn melltithio unrhyw un sy’n dy fychanu di. A bydd pobloedd y byd i gyd yn cael eu bendithio trwot ti.”

Yr alwad mae Duw yn rhoi i Abraham felly yw y bydd yr holl fyd yn cael eu bendithio trwy Abraham. Trwy yr Hen Destament mae Duw yn delifro y fendith yma trwy un pobol ac un cenedl sef y Hebreaid/Iddewon. Ond doedd e byth yn fwriad gan Dduw i’r newyddion da a’r fendith yma berthyn yn unig i un pobol mewn un lle.

Er fod y fendith yn dod trwy un genedl, roedd yn fendith i’r holl fyd a pob cenedl.

Felly os mai ni, pobl o bob cenedl sy’n adnabod Iesu, yw plant Abraham heddiw mae’r alwad yma i Abraham yn alwad i ni.

Ni yw gobaith y byd.
Ni sy’n dweud posib, pan mae’r byd yn dweud amhosib.
Ni sy’n derbyn pobl, pan mae cymdeithas yn gwrthod pobol.
Ni sy’n maddau, pan mae’r byd yn dweud anfaddeuol.
Ni sy’n gweld y gorau ym mhobol pan mae cymdeithas yn gweld y gwaethaf ym mhobol.

Beth oedd yr allwedd i Abraham ddilyn yr alwad yma?

Roedd yr alwad yma roddodd Duw i Abraham yn tall order ag ystyried ei sefyllfa fe a Sara. Sut gallai cwpwl oedrannus heb blant eni cenedl fawr? Mae’r ateb yn weddol syml – trwy ffydd!

A dyma’r ARGLWYDD yn mynd ag Abram allan, a dweud wrtho, “Edrych i fyny i’r awyr. Cyfra faint o sêr sydd yna, os fedri di! Fel yna fydd dy ddisgynyddion di — yn gwbl amhosib i’w cyfri.” Credodd Abram yr ARGLWYDD, a chafodd ei dderbyn i berthynas iawn gydag e. [Genesis 15:5-6]

Er mwyn derbyn, prosesu a dilyn galwad Duw roedd rhaid i Abraham a Sara gredu a trystio Duw. Roedd y dystiolaeth fydol yn awgrymu’r gwrthwyneb – roedd yr ods yn eu herbyn – felly yr unig ffordd ymlaen oedd trwy ffydd a trystio yn Nuw.

Ac rydym ni’n byw mewn byd pesimistiaid a’r pesimistiaeth yna wedi llithro mewn i’r eglwys – yn arbennig i eglwysi Cymraeg. Ond, gaw ni freuddwydio efo Abraham a Sara? Gaw ni gredu a trystio yn Nuw fel Abraham a Sara? A chredu nid yn unig fod Duw yn dymuno bendith i ni – ond fod Duw yn dymuno defnyddio ni i ddod a bendith i’r byd?

Please follow and like us:

Llyfr y Dechreuadau – Rhan 4

Dros y misoedd nesaf yng Nghaersalem bydda i’n pregethu trwy Lyfr Genesis yn y Beibl. Dwi’n gobeithio (os bydd amser yn caniatau) sgwennu blog i fynd gyda pob pregeth. Dyma’r drydedd rhan. Dyma oedd dyma oedd y rhan gyntaf, (Y Cread)dyma oedd yr ail ran (Y Cwymp) a dyma oedd y drydedd rhan (Noa).

Tŵr Babel

Heddiw rydym ni’n troi ein sylw at ran rhyfedd o lyfr Genesis. Rhan y gallen ni’n hawdd neidio drosto – ond rhan dwi’n meddwl sy’n arbennig o berthnasol i ni. Ni’n bobl mewn tre fach, ar gyrion gwlad fach, sydd ar gyrion ynys fach, sydd ar gyrion Ewrop. Rydym ni’n siarad hen hen iaith sydd bellach yn iaith leiafrifol yn ein gwlad ein hunain. Yng ngeiriau TH Parry Williams:

Beth yw’r ots gennyf i am Gymru? Damwain a hap
Yw fy mod yn ei libart yn byw. Nid yw hon ar fap
Yn ddim byd ond cilcyn o ddaear mewn cilfach gefn,
Ac yn dipyn o boendod i’r rhai sy’n credu mewn trefn.

Pam ein bod ni’n trafferthu gyda’r Gymraeg, heb sôn am fynnu addoli a cenhadu yn Gymraeg? Mae neges Genesis 11 yn arbennig o berthnasol i ni fel eglwys Gymraeg sy’n teimlo galwad i addoli Duw trwy’r iaith leiafrifol yma ac yn teimlo galwad i rannu’r newyddion da gyda’n cyd-Gymry trwy’r iaith Gymraeg.

Beth sy’n digwydd yn Genesis 11?

Mae Duw, ar ddechrau Genesis yn rhoi pwrpas anhygoel i ddyn. Sef i fod yn bartner gyda fe yn y greadigaeth yma mae Duw wedi ei greu. Mae Duw yn dweud wrth Adda ac Efa yn Genesis 1:28

A dyma Duw yn eu bendithio nhw, a dweud wrthyn nhw, “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi; a bod yn feistr sy’n gofalu am y pysgod sydd yn y môr, yr adar sy’n hedfan yn yr awyr, a’r holl greaduriaid sy’n byw ar y ddaear.”

Cymharwch hynny, gyda’r adroddiad rydym ni’n cael yn Genesis 11:4

“Dewch,” medden nhw, “gadewch i ni adeiladu dinas fawr i ni’n hunain, gyda thŵr uchel yn estyn i fyny i’r nefoedd. Byddwn ni’n enwog, a fydd dim rhaid i ni gael ein gwasgaru drwy’r byd i gyd.”

Mae dyn yn cael cynnig y byd, ond mae’n well ganddo adeiladu tŷ bach twt yn ei ardd gefn. Mae’n cael cynnig yr holl amrywiaeth a’r prydferthwch sydd gan greadigaeth Duw i’w gynnig. Ond mae’n well ganddo aros mewn un lle, yn siarad un iaith a gwneud enw iddo fe ei hun. Ac yn aml, mae pobl sy’n ceisio gwneud enw iddyn nhw eu hunain, mewn gwirionedd yn gwneud ffŵl ohonyn nhw eu hunain!

Ymateb Duw?

Roedd Duw yn tristau wrth weld hyn yn digwydd. I ddechrau mae’n siŵr fod Duw yn drist oherwydd diffyg ufudd-dod dyn yn llenwi’r ddaear. Ond hefyd yn drist fod dynoliaeth ddim yn byw i’r potensial roedd Duw wedi ein creu i ddechrau. Ac felly mae Duw yn camu mewn ac yn ymyrryd. Genesis 11:5-8

A dyma’r ARGLWYDD yn dod i lawr i edrych ar y ddinas a’r tŵr roedd y bobl yn eu hadeiladu. Ac meddai, “Maen nhw wedi dechrau gwneud hyn am eu bod nhw’n un bobl sy’n siarad yr un iaith. Does dim byd yn eu rhwystro nhw rhag gwneud beth bynnag maen nhw eisiau. Dewch, gadewch i ni fynd i lawr a chymysgu eu hiaith nhw, fel na fyddan nhw’n deall ei gilydd yn siarad.” Felly dyma’r ARGLWYDD yn eu gwasgaru nhw drwy’r byd i gyd, a dyma nhw’n stopio adeiladu’r ddinas.

Melltith neu fendith?

Mae llawer o lyfrau ac esboniadau yn gweld Genesis 11 fel melltith. Ond dwi’n meddwl fod llawer yn dod i’r casgliad hwnnw gan fod y rhan fwyaf o lyfrau ac esboniadau wedi eu sgwennu gan ddynion gwyn sy’n siarad Saesneg a Saesneg yn unig. I bawb arall ohonom ni sy’n byw yn y byd go-iawn lle mae pobl yn siarad sawl iaith rydym ni efallai yn gallu gwerthfawrogi bendith Genesis 11, yn hytrach na’i weld fel melltith. Dymuniad Duw oedd i ddynoliaeth ddatblygu’n wahanol wledydd a gwahanol ddiwylliannau a gwahanol ieithoedd.

Dymuniad Duw oedd gweld undod mewn amrywiaeth.

Nid undod mewn unffurfiaeth fel a welwyd yn Babel. Nid undod mewn unffurfiaeth fel a welwyd yn yr Ymerodraeth Rufeinig, fel a welwyd yn yr Ymerodraeth Brydeinig a fel sy’n cael ei orfodi gan fateroliaeth heddiw. Dymuniad Duw oedd undod mewn amrywiaeth.

A dwi’n meddwl fod hi’n arbennig o bwysig i ni Gristnogion Cymraeg glywed y neges yma.

Oherwydd fe glywch chi rai Cristnogion yn ein barnu am rannu’r eglwys, am fynnu addoli yn Gymraeg – mae rhai yn dweud y dylem ni uno gyda’n gilydd mewn eglwysi Saesneg. Fe glywch chi bobl yn ein barnu am genhadu yn Gymraeg pan fo pawb yn gallu deall Saesneg. Bydd rhai pobl yn cael anhawster deall yr alwad mae pobl fel John Robinson wedi ei gael i ddysgu Cymraeg er mwyn rhannu am Iesu gyda pobl sy’n siarad Saesneg beth bynnag.

Yr hyn sydd tu ôl yr agwedd yma yw methiant i ddeall cynllun hyfryd Duw i ni, ac i’r greadigaeth. Undod mewn amrywiaeth.

Beth mae hyn yn ei olygu i ni heddiw?

Dwi’n cofio cymryd rhan mewn ffilm i John Robinson a’i fyfyrwyr. Y cwestiwn oedden nhw’n gofyn i fi oedd: pam fod yr iaith Gymraeg yn bwysig i ti? Ac fe wawriodd arna i mae y prif reswm roedd y Gymraeg yn bwysig i mi oedd oherwydd mae dyna oedd yr iaith roeddwn i’n siarad gyda Duw trwyddo. Byddai hi yr un mor rhyfedd i fi ddechrau siarad gyda Duw yn Saesneg ag y byddai hi i fi siarad efo Menna yn Saesneg.

Mae yna rywbeth arbennig am famiaith rhywun. A’n galwad ni fel eglwys yw rhannu am Iesu ym mamiaith y bobl o’n cwmpas ni.

Yng ngoleuni hanes Tŵr Babel rydym ni’n gweld fod holl ieithoedd y byd yn rodd gan Dduw i ni eu meithrin a’u gwarchod – dyma oedd dymuniad Duw yn Genesis.

Datguddiad

Mae yna gylch anhygoel i’r Beibl – ac mae’r thema yma sydd yn Genesis am yr ieithoedd a’r cenhedloedd yn atsain yn ôl yn Datguddiad 7:9-10

Edrychais eto ac roedd tyrfa enfawr o bobl o’m blaen i — tyrfa mor aruthrol fawr, doedd dim gobaith i neb hyd yn oed ddechrau eu cyfri! Roedden nhw yn dod o bob cenedl, llwyth, hil ac iaith, ac yn sefyll o flaen yr orsedd ac o flaen yr Oen. Roedden nhw’n gwisgo mentyll gwynion, ac roedd canghennau palmwydd yn eu dwylo. Roedden nhw’n gweiddi’n uchel:
“Ein Duw sydd wedi’n hachub ni! —
yr Un sy’n eistedd ar yr orsedd,
a’r Oen!”

Mae’n amlwg felly mae nid melltith oedd Babel, ond bendith. Dyma oedd trefn Duw i’r byd – ac mae’n ddiddorol fod yr undod mewn amrywiaeth yma yn parhau i dragwyddoldeb. Wna i ddim ymddiheuro wrth obeithio a gweddïo y bydd y Gymraeg yn un o’r ieithoedd hynny fydd yn addoli Iesu pan fydd en dod yn ôl.

Mae yna ddyfyniad gwych gan y diwinydd JE Daniel sy’n dweud fel hyn.

A chredwn yn y Pentecost tragwyddol y bydd Bernard yno yn canu ei ‘Jesu, dulcis memoria’, a Luther ei ‘Ein feste Burg ist unser Gott’, a Watts ei ‘When I survey the wondrous Cross’, a Phantycelyn ei ‘Iesu, Iesu, rwyt Ti’n ddigon’, heb i Bernard anghofio ei Ladin, na Luther ei Almaeneg, na Watts ei Saesneg, na Phantycelyn ei Gymraeg, a heb i hynny rwystro mewn unrhyw fodd gynghanedd berffaith eu cyd-ddeall a’u cydganu.

Dwi’n ymwybodol fod perygl i neges fel yma gael ei gamddehongli fel rhyw alwad ‘I’r gad!’ yn nhraddodiad gorau Dafydd Iwan. Ond beth sydd yma yw galwad i ni garu cynllun a threfn Duw. Galwad i ni drysori undod mewn amrywiaeth. Ac i ni rannu am newyddion da am Iesu yn ein iaith, ac ym mhob iaith.

Please follow and like us:

Llyfr y Dechreuadau – Rhan 3

Dros y misoedd nesaf yng Nghaersalem bydda i’n pregethu trwy Lyfr Genesis yn y Beibl. Dwi’n gobeithio (os bydd amser yn caniatau) sgwennu blog i fynd gyda pob pregeth. Dyma’r drydedd rhan. Dyma oedd dyma oedd y rhan gyntaf, a dyma oedd yr ail ran.

Er i Adda ac Efe adael Duw i lawr mewn ffordd ddramatig, y peth cyntaf mae Duw yn ei wneud yw eu helpu i ddelio gyda’r cywilydd. Oherwydd fod Duw yn Dduw cariad sydd ar ein hochor ni. Fel ddywedodd rhywun unwaith: “He hasn’t come to rub it in, but to rub it out.”

Hanes Noa

Rydym ni’n ail-ymuno a hanes Genesis drwy edrych ar fywyd a cyfnod Noa heddiw. Mae hyn yn golygu ein bod ni wedi brasgamu dros hanes difyr a phwysig Cain ac Abel a hanes Enoch. Edrychwch ar yr hanesion yna yn eich amser eich hun.

O ddrwg i waeth…?

Tro diwethaf roedden ni’n delio gyda’r cwestiwn ynglŷn a drygioni, tywyllwch a phechod yn dod mewn i’r byd. A dyna yw’r darlun a’r cyd-destun yn y cefndir trwy’r penodau yma sy’n mynd a ni at a thrwy hanes Noa. Mae’r byd perffaith greodd Duw yn mynd yn fwy a mwy troëdig oherwydd ein pechod ni. Mae’r byd sy’n cael ei bortreadu erbyn Genesis 6 yn bleak iawn. Mae i’w weld gliriaf yn agwedd Duw ei hun rydym ni’n ei ddarllen yn Genesis 6:5-6

Roedd yr ARGLWYDD yn gweld bod y ddynoliaeth bellach yn ofnadwy o ddrwg. Doedden nhw’n meddwl am ddim byd ond gwneud drwg drwy’r amser.  Roedd yr ARGLWYDD yn sori ei fod e wedi creu’r ddynoliaeth. Roedd wedi ei frifo a’i ddigio.

Mae yna rhyw vulnrability yma i gymeriad Duw. Nid gwendid ac ofn o’r rheidrwydd, ond vulnrability sy’n dod allan o gariad ac yn y diwedd yn gwneud Duw yn empathetig. I fi mae hyn yn bwysig – galla i gael perthynas gyda Duw sy’n gallu dangos empathi. Ond byddai’n anodd datblygu perthynas gyda Duw pell oer.

Fodd bynnag – er y cefndir tywyll – mae yna wastad obaith ac mae’n ymddangos fod yna wastad rhai ym mhob cenhedlaeth sy’n adnabod a ceisio addoli Duw. Ydy mae’n dywyll ac mae’r byd wedi syrthio ond mae goleuni a daioni Duw dal i dorri trwodd. Mae rhai adnodau yn sefyll allan fel yr adnod am Enoch: “Roedd gan Enoch berthynas agos gyda Duw…” (Genesis 5:22) Ac yna yr adnod am ein cyfaill heddiw Noa: “Ond roedd Noa wedi plesio’r ARGLWYDD.” (Genesis 6:8)

Y Dilyw

Wrth feddwl am Noa yr hyn sy’n dod i’n meddwl ni’n syth yw hanes y Dilyw ac Arch Noa. Mae’n ddiddorol nodi mae nid dim ond llyfrau hanes y traddodiad Iddewig sy’n adrodd am ddilyw mawr. Mae sôn am lifogydd enfawr yn rhan o draddodiad diwylliannau eraill y cyfnod hefyd – sydd yn gwneud yr adroddiad sydd yma yn y Beibl yn fwy credadwy.

A oedd e’n ddilyw gwir fyd eang? Neu yn ddilyw o’r byd oedd yn rhan o’r stori yma, ardal Mesopotamia? Fe gewch chi Gristnogion sy’n hapus i gredu’r ddau safbwynt. I fi beth sy’n bwysig yw’r stori fawr mae’r hanes yn ein dysgu am ymwneud Duw a’r byd ac a dynoliaeth. Y creu – y cwymp – ond hefyd yr adferiad.

Cyfiawnder Duw

Mae’r hanes yma yn ein gorfodi i ofyn cwestiynau anodd am gymeriad Duw a chyfiawnder Duw. Ni’n derbyn a deall fod pechod wedi gwneud llanast o’r byd. Ond oedd wir angen dilyw? Oedd Duw yn defnyddio gordd i agor cneuen?

Yr unig beth ddyweda i oedd bod maint y dilyw yn rhoi syniad i ni o ddifrifoldeb pechod. Yn yr un ffordd, ganrifoedd wedyn roedd cost yr aberth ar y Groes yn rhoi syniad i ni o gariad Duw atom ni. Dydy Duw cyfiawn a Duw cariad ddim yn gwneud dim yn half mesures.

Cyfamod Duw

Er y dilyw – mae Duw wrth gwrs yn gwneud cyfamod neu ymrwymiad gyda Noa, yr anifeiliaid a’r ddaear. Dwi’n meddwl fod hi’n bwysig bod ni’n cofio hynny. Ie, ni yw coron y greadigaeth a gyda ni mae perthynas ar lefel ysbrydol a Duw. Ond mae Duw’n gwneud ymrwymiad gyda’r ddaear hefyd – a dylai hynny gael ei adlewyrchu yn y ffordd rydym ni’n trin a byw fel dinasyddion yn y byd yma.

Enfys

Mae Duw yn gwneud ymrwymiad i beidio anfon dilyw arall. Ac fel arwydd o hynny mae’r enfys. Mae symbol yr enfys yn golygu rhywbeth i mi yn bersonol. Fel y bydd rhai ohonoch chi yn gwybod dwi’n ffansio fy hun yn dipyn o ffotograffydd. Dwi’n cofio bod allan rhywbryd, dwi ddim yn cofio lle yn union, ac roedd hi jest ar ôl i storm basio heibio.

Daeth yr haul allan trwy’r cymylau a dyna lle roedd yr enfys mwyaf llachar a chlir erioed i mi ei gweld. Yn naturiol dyna estyn am y camera. Ond fedrwn i ddim am fy myw gymryd llun oedd yn dangos yr enfys er ei bod hi’n glir o’m mlaen i. Trio pob math o wahanol osodiadau ar y camera, rhoi gwahanol filters ar y lens ond dim yn gweithio.

Yna dwi’n cofio yn glir Duw yn dweud wrth i yn y fan a’r lle – bron y byddwn i’n dweud mod i wedi clywed ei lais yn glywedol. Dywedodd Duw mae nid trwy lens y camera oeddwn i’n gallu gweld yr enfys, ond dim ond trwy lens neu lygaid ffydd. Ac roedd hwnnw yn wers bwysig i fi y diwrnod yna.

Ond mae’n wers bwysig i ni yn gyffredinol sy’n codi o’r hanes yma. Falle fod gyda ni gwestiynau? Falle fod ni ddim yn deall popeth? Dychmygwch sut oedd Noa yn teimlo – ond fe wnaeth e ymddiried yn Nuw heb wybod yn glir falle beth fyddai ar ddiwedd y daith.

#epicfail

Dwi am orffen heddiw drwy droi at un o droeon trwstan mwyaf y Beibl. Gadewch i ni ddarllen yr hanes (Genesis 6:20-21):

Roedd Noa yn ffermwr. Fe oedd y cyntaf un i blannu gwinllan. Yfodd Noa beth o’r gwin, a meddwi. Tynnodd ei ddillad a gorwedd yn noeth yn ei babell.

Nawr cofiwch mae Noa oedd yr hufen. Yr unig ddyn oedd yn plesio’r Arglwydd. Noa oedd yn gyfrifol am ail boblogi a gofal ar ôl creadigaeth Duw. Hwn, Noa, oedd gobaith mawr y ganrif! A beth yw’r peth cyntaf mae e’n gwneud? Plannu gwinllan, cynhyrchu gwin, yfed y cyfan a deffro’n noeth.

Os mae hwn, Noa, oedd y best of the crop – pa obaith sydd i ddynoliaeth a pa obaith sydd i’r byd?

Wel, o linach Noa, yn y diwedd y daeth Iesu. Ac os ydy Duw yn gwneud cyfamod a Noa ac yn defnyddio joskin/hambon digon blêr fel Noa yna fe all e dy ddefnyddio di. Rydym ni’n canu’r emyn plant yn aml:

“Nid mega arwyr, mega ddewr yw pobl Duw…
Yn wir, mae’n rhyfeddol:
Maen nhw ‘run fath â ti a fi!”

Fyddw chi’n falch o glywed nad ydw i wedi profi yr un tro trwstan yn union a Noa. Ond dwi wedi cael ac yn parhau i gerdded mewn i lanast, llanast pechod yn fy mywyd. Ond y newyddion da yw fod gras Duw yn ddigon i ddelio a llanast ddoe, heddiw a fory.

Fel dywedodd Ann Griffiths:

er gwaethaf dilyw pechod
a llygredd o bob rhyw,
dihangol byth heb soddi,
am fod yr arch yn Dduw.

Please follow and like us: